Melin Forgan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
| Llinell 5: | Llinell 5: | ||
Mae '''Melin Forgan''' ar waelod ceunant [[Afon Llifon]] sy'n dod i lawr o gyfeiriad [[Maes Tryfan]], rhai cannoedd o lathenni'n nes at y gwastatir na melin [[Ffatri Tryfan]]. Melin ŷd a grawn oedd Melin Forgan. Roedd cafn neu ffrwd felin yn cario dŵr o'r ceunant at yr olwyn. Hen enw ar y felin oedd Melin Cae'r Ffridd, gan ei bod yn perthyn i ystad fechan Cae'r Ffridd, ac yn eiddo i deulu Williams, mân fyddigion ym mhlwyf Llandwrog. Ceir gweithredoedd yn dyddio'n ôl i o leiaf 1783 ymysg papurau Tŷ'n y Gongl yn Archifdy Prifysgol Bangor lle ceir sôn am yr hen enw. Mae Melin Forgan yn enw sy'n dyddio, mae'n debyg, o'r 19g. yn unig fel enw "swyddogol" ar y felin, ac mor ddiweddar â 1837, ceir sôn o hyd am Felin Cae'r Ffridd. Dichon mai Morgan Williams, Cae'r Ffridd Uchaf, a fu fawr ym 1781, oedd y Morgan a roddodd ei enw ar y felin ar lafar gwlad, a'r enw hwnnw mewn amser yn ennill ei blwyf.<ref>Archifdy Prifysgol Bangor, llsgrau. Tŷ'nygongl 413, 465, 517, 575</ref> Ni fyddai rhywun wedi disgwyl y byddai dyn a ddisgrifiai ei hun fel gŵr bonheddig ac a oedd yn berchen ar ddau neu dri o ffermydd (Cae'r Ffridd Uchaf ac Isaf a Bryn Golau, yn ogystal â melin grawn), yn gweithio'r felin ei hun, ond mae cyfeiriadau diweddarach yn tueddu awgrymu fod William Williams, mab y perchennog cyntaf a glywir amdano, sef Morgan Williams, yn felinydd a weithiai ei felin ei hun, yn ogystal â mab hwnnw, taid y bardd [[Fferyllfardd]]. | Mae '''Melin Forgan''' ar waelod ceunant [[Afon Llifon]] sy'n dod i lawr o gyfeiriad [[Maes Tryfan]], rhai cannoedd o lathenni'n nes at y gwastatir na melin [[Ffatri Tryfan]]. Melin ŷd a grawn oedd Melin Forgan. Roedd cafn neu ffrwd felin yn cario dŵr o'r ceunant at yr olwyn. Hen enw ar y felin oedd Melin Cae'r Ffridd, gan ei bod yn perthyn i ystad fechan Cae'r Ffridd, ac yn eiddo i deulu Williams, mân fyddigion ym mhlwyf Llandwrog. Ceir gweithredoedd yn dyddio'n ôl i o leiaf 1783 ymysg papurau Tŷ'n y Gongl yn Archifdy Prifysgol Bangor lle ceir sôn am yr hen enw. Mae Melin Forgan yn enw sy'n dyddio, mae'n debyg, o'r 19g. yn unig fel enw "swyddogol" ar y felin, ac mor ddiweddar â 1837, ceir sôn o hyd am Felin Cae'r Ffridd. Dichon mai Morgan Williams, Cae'r Ffridd Uchaf, a fu fawr ym 1781, oedd y Morgan a roddodd ei enw ar y felin ar lafar gwlad, a'r enw hwnnw mewn amser yn ennill ei blwyf.<ref>Archifdy Prifysgol Bangor, llsgrau. Tŷ'nygongl 413, 465, 517, 575</ref> Ni fyddai rhywun wedi disgwyl y byddai dyn a ddisgrifiai ei hun fel gŵr bonheddig ac a oedd yn berchen ar ddau neu dri o ffermydd (Cae'r Ffridd Uchaf ac Isaf a Bryn Golau, yn ogystal â melin grawn), yn gweithio'r felin ei hun, ond mae cyfeiriadau diweddarach yn tueddu awgrymu fod William Williams, mab y perchennog cyntaf a glywir amdano, sef Morgan Williams, yn felinydd a weithiai ei felin ei hun, yn ogystal â mab hwnnw, taid y bardd [[Fferyllfardd]]. | ||
Y cyfeiriad cynharaf at "Felin Morgan" sydd wedi dod i law yw cyfeiriad Dr Thomas Parry at un Robert Morris oedd yn felinydd ym 1802, pan gystadlodd ar yr awdl mewn eisteddfod yn Llanddeiniolen. Nodir mai William Williams oedd y melinydd adeg llunio'r map degwm ym 1840. Yn ôl cyfrifiad 1841, gelwir y lle'n Rhaeadr Llifon, gyda William Williams, ei wraig ac wyth o blant yn byw yno, yn cynnwys [[Fferyllfardd|William Morgan]] (a dyfodd i fod yn feddyg ac yn fardd). Ym 1851, Richard Thomas oedd yn byw yno, ond Hugh Thomas oedd y melinydd. Ym 1861, roedd Daniel Eames yn ffermio yno ac roedd ef yn fasnachwr llwyddiannus a gyflogodd gariwr, sef Thomas Jones. Dywed traddodiad bod merched y Felin yn y cyfnod hwnnw yn gwisgo'n grand ac yn mynd i gapel [[Bryn'rodyn (MC)]] yn eu ''silks and satins''! | Y cyfeiriad cynharaf at "Felin Morgan" sydd wedi dod i law yw cyfeiriad Dr Thomas Parry at un Robert Morris oedd yn felinydd ym 1802, pan gystadlodd ar yr awdl mewn eisteddfod yn Llanddeiniolen. Nodir mai William Williams oedd y melinydd adeg llunio'r map degwm ym 1840, ac erbyn hyn, Melin Forgan yw'r enw a ddefnyddid. Yn ôl cyfrifiad 1841, gelwir y lle'n Rhaeadr Llifon, gyda William Williams, ei wraig ac wyth o blant yn byw yno, yn cynnwys [[Fferyllfardd|William Morgan]] (a dyfodd i fod yn feddyg ac yn fardd). Ym 1851, Richard Thomas oedd yn byw yno, ond Hugh Thomas oedd y melinydd. Ym 1861, roedd Daniel Eames yn ffermio yno ac roedd ef yn fasnachwr llwyddiannus a gyflogodd gariwr, sef Thomas Jones. Dywed traddodiad bod merched y Felin yn y cyfnod hwnnw yn gwisgo'n grand ac yn mynd i gapel [[Bryn'rodyn (MC)]] yn eu ''silks and satins''! | ||
Ym 1871, Owen Jones oedd y melinydd, yn gweithio i Daniel Eames ond, erbyn 1891, roedd y Felin yng ngofal ei weddw Frances a'i ddau fab, Owen a Richard. Erbyn 1899, ymddengys bod Frances wedi ail-briodi efo Thomas Jones, gweithiwr ym Melin Forgan. Bu farw Frances ym 1906 ac Owen ei mab fu yno hyd nes iddo symud i fyw i Benisarhos, [[Y Groeslon]] ym 1914. | Ym 1871, Owen Jones oedd y melinydd, yn gweithio i Daniel Eames ond, erbyn 1891, roedd y Felin yng ngofal ei weddw Frances a'i ddau fab, Owen a Richard. Erbyn 1899, ymddengys bod Frances wedi ail-briodi efo Thomas Jones, gweithiwr ym Melin Forgan. Bu farw Frances ym 1906 ac Owen ei mab fu yno hyd nes iddo symud i fyw i Benisarhos, [[Y Groeslon]] ym 1914. | ||
Fersiwn yn ôl 19:37, 20 Tachwedd 2025



Mae Melin Forgan ar waelod ceunant Afon Llifon sy'n dod i lawr o gyfeiriad Maes Tryfan, rhai cannoedd o lathenni'n nes at y gwastatir na melin Ffatri Tryfan. Melin ŷd a grawn oedd Melin Forgan. Roedd cafn neu ffrwd felin yn cario dŵr o'r ceunant at yr olwyn. Hen enw ar y felin oedd Melin Cae'r Ffridd, gan ei bod yn perthyn i ystad fechan Cae'r Ffridd, ac yn eiddo i deulu Williams, mân fyddigion ym mhlwyf Llandwrog. Ceir gweithredoedd yn dyddio'n ôl i o leiaf 1783 ymysg papurau Tŷ'n y Gongl yn Archifdy Prifysgol Bangor lle ceir sôn am yr hen enw. Mae Melin Forgan yn enw sy'n dyddio, mae'n debyg, o'r 19g. yn unig fel enw "swyddogol" ar y felin, ac mor ddiweddar â 1837, ceir sôn o hyd am Felin Cae'r Ffridd. Dichon mai Morgan Williams, Cae'r Ffridd Uchaf, a fu fawr ym 1781, oedd y Morgan a roddodd ei enw ar y felin ar lafar gwlad, a'r enw hwnnw mewn amser yn ennill ei blwyf.[1] Ni fyddai rhywun wedi disgwyl y byddai dyn a ddisgrifiai ei hun fel gŵr bonheddig ac a oedd yn berchen ar ddau neu dri o ffermydd (Cae'r Ffridd Uchaf ac Isaf a Bryn Golau, yn ogystal â melin grawn), yn gweithio'r felin ei hun, ond mae cyfeiriadau diweddarach yn tueddu awgrymu fod William Williams, mab y perchennog cyntaf a glywir amdano, sef Morgan Williams, yn felinydd a weithiai ei felin ei hun, yn ogystal â mab hwnnw, taid y bardd Fferyllfardd.
Y cyfeiriad cynharaf at "Felin Morgan" sydd wedi dod i law yw cyfeiriad Dr Thomas Parry at un Robert Morris oedd yn felinydd ym 1802, pan gystadlodd ar yr awdl mewn eisteddfod yn Llanddeiniolen. Nodir mai William Williams oedd y melinydd adeg llunio'r map degwm ym 1840, ac erbyn hyn, Melin Forgan yw'r enw a ddefnyddid. Yn ôl cyfrifiad 1841, gelwir y lle'n Rhaeadr Llifon, gyda William Williams, ei wraig ac wyth o blant yn byw yno, yn cynnwys William Morgan (a dyfodd i fod yn feddyg ac yn fardd). Ym 1851, Richard Thomas oedd yn byw yno, ond Hugh Thomas oedd y melinydd. Ym 1861, roedd Daniel Eames yn ffermio yno ac roedd ef yn fasnachwr llwyddiannus a gyflogodd gariwr, sef Thomas Jones. Dywed traddodiad bod merched y Felin yn y cyfnod hwnnw yn gwisgo'n grand ac yn mynd i gapel Bryn'rodyn (MC) yn eu silks and satins!
Ym 1871, Owen Jones oedd y melinydd, yn gweithio i Daniel Eames ond, erbyn 1891, roedd y Felin yng ngofal ei weddw Frances a'i ddau fab, Owen a Richard. Erbyn 1899, ymddengys bod Frances wedi ail-briodi efo Thomas Jones, gweithiwr ym Melin Forgan. Bu farw Frances ym 1906 ac Owen ei mab fu yno hyd nes iddo symud i fyw i Benisarhos, Y Groeslon ym 1914.
O 1915, David E. Jones a'i deulu fu yn y Felin hyd nes ei farw ym 1923. Wedyn daeth Evan Roberts a Sarah ei wraig yno gan adael ym 1944, pan aeth Sais o'r enw Bazzard yno. Am ychydig iawn y bu ef yn malu ond bu'n marchnata a gwerthu gwair a gwellt am rai blynyddoedd, ac yn gwerthu llefrith o gwmpas yr ardal.
Mae'r Felin yn dal i sefyll ac olion yr olwyn ddŵr yno hefyd. Hefyd gellir gweld cwrs ffrwd y felin trwy'r ddôl gerllaw, er ei bod yn sych ers blynyddoedd. Roedd yno gae o'r enw Cae Mulod lle cedwid rhyw ddwsin o fulod ar gyfer cludo'r grawn a'r blawdiau.[2]