William Bifan, y Gadlys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 3: Llinell 3:
Ganwyd yn Ffermdy Gadlys, [[Llanwnda]] yn 1730. Bedyddiwyd yn William Evans, ac yn ôl y traddodiad Cymraeg y pryd hynny, fe ddilynodd y ffasiwn batronymig o ddefnyddio Bifan fel ail enw (William ab Ifan, wedi ei grynhoi i ‘Bifan’).

Roedd yn un o'r beirdd a alwyd ynghyd ar ddiwedd gaeaf 1783-4 gan [[Dafydd Ddu Eryri]] ym [[Betws Garmon|Metws Garmon]] er mwyn cychwyn cyfarfod beirdd Arfon lle byddai Dafydd Ddu'n dysgu rheolau barddoniaeth i'w "cywion".<ref>''Y Bywgraffaiadur Cymreig'' (Llundain, 1953), t.883</ref>
Roedd yn un o'r beirdd a alwyd ynghyd ar ddiwedd gaeaf 1783-4 gan [[Dafydd Ddu Eryri]] ym [[Betws Garmon|Metws Garmon]] er mwyn cychwyn cyfarfod beirdd Arfon lle byddai Dafydd Ddu'n dysgu rheolau barddoniaeth i'w "cywion".<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'' (Llundain, 1953), t.883</ref>
   
Roedd ganddo gysylltiad teuluaidd â fferm [[Bodaden]], Llanwnda. Mae’n nodedig am fod wedi canu cerddi am yr ardal y magwyd ynddi, a dilyn y hen ffordd o ganu am annedd-dai a hen gymeriadau ei fro. Dywedodd [[W. Gilbert Williams]] amdano, "Yn wyneb yr ychydig o’i brydyddiaeth sydd yn wybyddus i ni, rhigymwr pert, goganydd medrus a thuchanwr cyrhaeddgar fyddai’r disgrifiad cywiraf ohono."

Golygiad diweddaraf yn ôl 13:17, 13 Mehefin 2024

Hen gymeriad o gyffiniau Llanwnda oedd William Bifan y Gadlys.

Ganwyd yn Ffermdy Gadlys, Llanwnda yn 1730. Bedyddiwyd yn William Evans, ac yn ôl y traddodiad Cymraeg y pryd hynny, fe ddilynodd y ffasiwn batronymig o ddefnyddio Bifan fel ail enw (William ab Ifan, wedi ei grynhoi i ‘Bifan’).

Roedd yn un o'r beirdd a alwyd ynghyd ar ddiwedd gaeaf 1783-4 gan Dafydd Ddu Eryri ym Metws Garmon er mwyn cychwyn cyfarfod beirdd Arfon lle byddai Dafydd Ddu'n dysgu rheolau barddoniaeth i'w "cywion".[1]

Roedd ganddo gysylltiad teuluaidd â fferm Bodaden, Llanwnda. Mae’n nodedig am fod wedi canu cerddi am yr ardal y magwyd ynddi, a dilyn y hen ffordd o ganu am annedd-dai a hen gymeriadau ei fro. Dywedodd W. Gilbert Williams amdano, "Yn wyneb yr ychydig o’i brydyddiaeth sydd yn wybyddus i ni, rhigymwr pert, goganydd medrus a thuchanwr cyrhaeddgar fyddai’r disgrifiad cywiraf ohono."

Dywedir iddo fod yn caru merch a oedd ym Modaden, ac iddo fod wedi sleifio yno rhyw noson – ac er mwyn peidio â gwlychu ei sgidiau yn y gwlith, tynodd hwy i ffwrdd a chafodd ei ddal gan ddyn y tŷ yn droednoeth. Canodd y bennill isod amdano'n cael braw:

William Bifan Druan
Sydd wedi colli’i facsan
Yn chwilio amdano ers mwy nag awr
Yn nhalwrn mawr Bodadan.

Mae ambell i amheuaeth ynglŷn â’r defnydd o talwrn a parlwr ar adegau, ac ni wyddys neb yn sicr os mai ym mharlwr y tŷ y collodd ei sgidiau yntau yn y talwrn.

Roedd yn canu cerddi am ffermdai yr ardal hefyd. Canodd yr isod am fferm Caerodyn,

Mae llawer math o erfyn
I’w gael ar Werglodd Gudyn
Ond torrir heddyw, gwneir yn wir
Prydau ar dir Caerodyn.

Diolch i hen gymeriadau fel William Bifan, cawn ddarnau bychan o hanes y gwerin yng nghymunedau Uwchgwyrfai ers talwm.[2]

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig (Llundain, 1953), t.883
  2. W. Gilbert 'Williams, Hen Gymeriadau Llanwnda, Cymru 1902 (Cyf. 23).