Morris Williams (Meurig Wyn): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Chwarelwr a bardd gwlad oedd '''Morris Williams''' (1835-1876), a ddefnyddiodd y llysenw Meurig (neu Meirig) Wyn. Cafodd ei eni yng ngatws y Parciau, rhwng Caernarfon a'r Felinheli. Roedd ei dad, Richard Williams, yn hanu o Ynys Môn. Erbyn 1871 roedd yn byw yng Ngoetmor, [[Tal-y-sarn]] ac yn gweithio fel chwarelwr. Roedd ei wraig, Jane, oedd yn flwyddyn yn iau nag yntau, yn hanu o blwyf [[Clynnog Fawr]], ac reodd ganddynt un plentyn, Jane, a aned ym 1859.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1871</ref> Collodd ei rieni erbyn iddo fod yn ddeg oed, gan symud at ewyrth iddo ym mhlwyf [[Llandwrog]]; am gyfnod bu'n byw yn [[Y Fron]] cyn symud i Dal-y-sarn.<ref>''Y Goleuad'', 25.3.1876, t.14, lle ceir byr-gofiant llawn amdano, yn pwysleisio ei dalent llenyddol ond hefyd ei ansicrwydd personol a'i rwystrodd rhag dod yn fwy amlwg.</ref>
Chwarelwr a bardd gwlad oedd '''Morris Williams''' (1835-1876), a ddefnyddiodd y llysenw Meurig (neu Meirig) Wyn. Cafodd ei eni yng ngatws y Parciau, rhwng Caernarfon a'r Felinheli. Roedd ei dad, Richard Williams, yn hanu o Ynys Môn. Collodd ei rieni'n blentyn a symudodd i fyw at fodryb iddo yn ardal Bryn'rodyn, rhwng [[Dolydd]] a'r [[Y Groeslon|Groeslon]]. Dechreuodd farddoni'n ifanc gan gystadlu mewn mân eisteddfodau a chyfarfodydd llenyddol lleol, gan gael ei wobrwyo ar fwy nag un achlysur gan [[Eben Fardd]]. Am gyfnod bu'n byw yn [[Y Fron]] cyn symud i Dal-y-sarn.<ref>''Y Goleuad'', 25.3.1876, t.14, lle ceir byr-gofiant llawn amdano, yn pwysleisio ei dalent llenyddol ond hefyd ei ansicrwydd personol a'i rwystrodd rhag dod yn fwy amlwg.</ref> Erbyn 1871 roedd yn byw yng Ngoetmor, [[Tal-y-sarn]] ac yn gweithio fel chwarelwr. Roedd ei wraig, Jane, oedd yn flwyddyn yn iau nag yntau, yn hanu o blwyf [[Clynnog Fawr]], ac reodd ganddynt un plentyn, Jane, a aned ym 1859.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1871</ref> am gyfnod bu'n byw yn [[Y Fron]] cyn symud i Dal-y-sarn.<ref>''Y Goleuad'', 25.3.1876, t.14, lle ceir byr-gofiant llawn amdano, yn pwysleisio ei dalent llenyddol ond hefyd ei ansicrwydd personol a'i rwystrodd rhag dod yn fwy amlwg.</ref>
 
Roedd yn chwarelwr wrth ei alwedigaeth ac yn ystod ei oes fer dywedir iddo fanteisio ar bob cyfle i'w ddiwyllio ei hun ac ehangu ei wybodaeth, er na chafodd un rhyw addysg ffurfiol yn ôl ''Y Goleuad''<ref>''loc. cit.</ref>. Roedd yn grefyddwr selog ac yn athro Ysgol Sul. Ymddangosodd rhai darnau o'i waith mewn papurau newydd a chylchgronau yn ystod ei oes. Flynyddoedd lawer wedi ei farw cyhoeddwyd erthygl goffa amdano a detholiad o'i waith yn rhifyn Gorffennaf 1902 o ''Cymru''.<ref>Cybi, ''Beirdd Gwerin Eifionydd'', (Pwllheli, 1914), t.17.</ref>
 


Dywedodd ''Y Dydd'' amdano: "Yr oedd Meurig Wyn yn ysgrifenwr galluog mewn rhyddiaeth a. barddoniaeth. Ymddangosodd llawer o'i gyfansoddiadau llenyddol; a bu yn ohebydd i'r ''Herald Cymraeg'' am lawer o flynyddau. Ychwanegodd yr un adroddiad ei fod yn ŵr tra dymhongar ac yn gapelwr ffyddlon yn ei gapel, [[Capel Hyfrydle (MC), Tal-y-sarn]], ac yn weithgar iawn gyda'r ysgol Sul yno. Bu farw 17 Ionawr 1876, gan gael ei gladdu ym mynwent [[Llandwrog Uchaf]].<ref>''Y Dydd'', 28.1.1876, t.11</ref>
Dywedodd ''Y Dydd'' amdano: "Yr oedd Meurig Wyn yn ysgrifenwr galluog mewn rhyddiaeth a. barddoniaeth. Ymddangosodd llawer o'i gyfansoddiadau llenyddol; a bu yn ohebydd i'r ''Herald Cymraeg'' am lawer o flynyddau. Ychwanegodd yr un adroddiad ei fod yn ŵr tra dymhongar ac yn gapelwr ffyddlon yn ei gapel, [[Capel Hyfrydle (MC), Tal-y-sarn]], ac yn weithgar iawn gyda'r ysgol Sul yno. Bu farw 17 Ionawr 1876, gan gael ei gladdu ym mynwent [[Llandwrog Uchaf]].<ref>''Y Dydd'', 28.1.1876, t.11</ref>
Llinell 7: Llinell 10:
[[Categori:Beirdd]]
[[Categori:Beirdd]]
[[Categori:Chwarelwyr]]
[[Categori:Chwarelwyr]]
[[Categori:Pobl]]

Fersiwn yn ôl 10:10, 21 Mai 2024

Chwarelwr a bardd gwlad oedd Morris Williams (1835-1876), a ddefnyddiodd y llysenw Meurig (neu Meirig) Wyn. Cafodd ei eni yng ngatws y Parciau, rhwng Caernarfon a'r Felinheli. Roedd ei dad, Richard Williams, yn hanu o Ynys Môn. Collodd ei rieni'n blentyn a symudodd i fyw at fodryb iddo yn ardal Bryn'rodyn, rhwng Dolydd a'r Groeslon. Dechreuodd farddoni'n ifanc gan gystadlu mewn mân eisteddfodau a chyfarfodydd llenyddol lleol, gan gael ei wobrwyo ar fwy nag un achlysur gan Eben Fardd. Am gyfnod bu'n byw yn Y Fron cyn symud i Dal-y-sarn.[1] Erbyn 1871 roedd yn byw yng Ngoetmor, Tal-y-sarn ac yn gweithio fel chwarelwr. Roedd ei wraig, Jane, oedd yn flwyddyn yn iau nag yntau, yn hanu o blwyf Clynnog Fawr, ac reodd ganddynt un plentyn, Jane, a aned ym 1859.[2] am gyfnod bu'n byw yn Y Fron cyn symud i Dal-y-sarn.[3]

Roedd yn chwarelwr wrth ei alwedigaeth ac yn ystod ei oes fer dywedir iddo fanteisio ar bob cyfle i'w ddiwyllio ei hun ac ehangu ei wybodaeth, er na chafodd un rhyw addysg ffurfiol yn ôl Y Goleuad[4]. Roedd yn grefyddwr selog ac yn athro Ysgol Sul. Ymddangosodd rhai darnau o'i waith mewn papurau newydd a chylchgronau yn ystod ei oes. Flynyddoedd lawer wedi ei farw cyhoeddwyd erthygl goffa amdano a detholiad o'i waith yn rhifyn Gorffennaf 1902 o Cymru.[5]


Dywedodd Y Dydd amdano: "Yr oedd Meurig Wyn yn ysgrifenwr galluog mewn rhyddiaeth a. barddoniaeth. Ymddangosodd llawer o'i gyfansoddiadau llenyddol; a bu yn ohebydd i'r Herald Cymraeg am lawer o flynyddau. Ychwanegodd yr un adroddiad ei fod yn ŵr tra dymhongar ac yn gapelwr ffyddlon yn ei gapel, Capel Hyfrydle (MC), Tal-y-sarn, ac yn weithgar iawn gyda'r ysgol Sul yno. Bu farw 17 Ionawr 1876, gan gael ei gladdu ym mynwent Llandwrog Uchaf.[6]

Cyfeiriadau

  1. Y Goleuad, 25.3.1876, t.14, lle ceir byr-gofiant llawn amdano, yn pwysleisio ei dalent llenyddol ond hefyd ei ansicrwydd personol a'i rwystrodd rhag dod yn fwy amlwg.
  2. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1871
  3. Y Goleuad, 25.3.1876, t.14, lle ceir byr-gofiant llawn amdano, yn pwysleisio ei dalent llenyddol ond hefyd ei ansicrwydd personol a'i rwystrodd rhag dod yn fwy amlwg.
  4. loc. cit.
  5. Cybi, Beirdd Gwerin Eifionydd, (Pwllheli, 1914), t.17.
  6. Y Dydd, 28.1.1876, t.11