Morris Williams (Meurig Wyn): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Chwarelwr a bardd gwlad oedd '''Morris Williams''' (1838 -1876), a ddefnyddiodd y llysenw Meurig (neu Meirig) Wyn. Cafodd ei eni yng ngatws y Parciau, rhwng Caernarfon a'r Felinheli. Roedd ei dad, Richard Williams, yn hanu o Ynys Môn. Erbyn 1871 roedd yn byw yng Ngpoetmor, [[Tal-y-sarn]] ac yn gweithio fel chwarelwr. Roedd ei wraig, Jane, oedd yn flwyddyn yn iau nag yntau, yn hanu o blwyf [[Clynnog Fawr]], ac reodd ganddynt un plentyn, Jane, a aned ym 1859.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1871</ref>
Chwarelwr a bardd gwlad oedd '''Morris Williams''' (1835-1876), a ddefnyddiodd y llysenw Meurig (neu Meirig) Wyn. Cafodd ei eni yng ngatws y Parciau, rhwng Caernarfon a'r Felinheli. Roedd ei dad, Richard Williams, yn hanu o Ynys Môn. Erbyn 1871 roedd yn byw yng Ngoetmor, [[Tal-y-sarn]] ac yn gweithio fel chwarelwr. Roedd ei wraig, Jane, oedd yn flwyddyn yn iau nag yntau, yn hanu o blwyf [[Clynnog Fawr]], ac reodd ganddynt un plentyn, Jane, a aned ym 1859.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1871</ref> Collodd ei rieni erbyn iddo fod yn ddeg oed, gan symud at ewyrth iddo ym mhlwyf [[Llandwrog]]; am gyfnod bu'n byw yn [[Y Fron]] cyn symud i Dal-y-sarn.<ref>''Y Goleuad'', 25.3.1876, t.14, lle ceir byr-gofiant llawn amdano, yn pwysleisio ei dalent llenyddol ond hefyd ei ansicrwydd personol a'i rwystrodd rhag dod yn fwy amlwg.</ref>
 
Dywedodd ''Y Dydd'' amdano: "Yr oedd Meurig Wyn yn ysgrifenwr galluog mewn rhyddiaeth a. barddoniaeth. Ymddangosodd llawer o'i gyfansoddiadau llenyddol; a bu yn ohebydd i'r ''Herald Cymraeg'' am lawer o flynyddau. Ychwanegodd yr un adroddiad ei fod yn ŵr tra dymhongar ac yn gapelwr ffyddlon yn ei gapel, [[Capel Hyfrydle (MC), Tal-y-sarn]], ac yn weithgar iawn gyda'r ysgol Sul yno. Bu farw 17 Ionawr 1876, gan gael ei gladdu ym mynwent [[Llandwrog Uchaf]].<ref>''Y Dydd'', 28.1.1876, t.11</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 09:59, 21 Mai 2024

Chwarelwr a bardd gwlad oedd Morris Williams (1835-1876), a ddefnyddiodd y llysenw Meurig (neu Meirig) Wyn. Cafodd ei eni yng ngatws y Parciau, rhwng Caernarfon a'r Felinheli. Roedd ei dad, Richard Williams, yn hanu o Ynys Môn. Erbyn 1871 roedd yn byw yng Ngoetmor, Tal-y-sarn ac yn gweithio fel chwarelwr. Roedd ei wraig, Jane, oedd yn flwyddyn yn iau nag yntau, yn hanu o blwyf Clynnog Fawr, ac reodd ganddynt un plentyn, Jane, a aned ym 1859.[1] Collodd ei rieni erbyn iddo fod yn ddeg oed, gan symud at ewyrth iddo ym mhlwyf Llandwrog; am gyfnod bu'n byw yn Y Fron cyn symud i Dal-y-sarn.[2]

Dywedodd Y Dydd amdano: "Yr oedd Meurig Wyn yn ysgrifenwr galluog mewn rhyddiaeth a. barddoniaeth. Ymddangosodd llawer o'i gyfansoddiadau llenyddol; a bu yn ohebydd i'r Herald Cymraeg am lawer o flynyddau. Ychwanegodd yr un adroddiad ei fod yn ŵr tra dymhongar ac yn gapelwr ffyddlon yn ei gapel, Capel Hyfrydle (MC), Tal-y-sarn, ac yn weithgar iawn gyda'r ysgol Sul yno. Bu farw 17 Ionawr 1876, gan gael ei gladdu ym mynwent Llandwrog Uchaf.[3]

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1871
  2. Y Goleuad, 25.3.1876, t.14, lle ceir byr-gofiant llawn amdano, yn pwysleisio ei dalent llenyddol ond hefyd ei ansicrwydd personol a'i rwystrodd rhag dod yn fwy amlwg.
  3. Y Dydd, 28.1.1876, t.11