Eisteddfod Llanllyfni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ceir sôn am Eisteddfod Llanllyfni mor gynnar â 1878. Y flwyddyn honno ceir sôn am yr Eisteddfod hon – o bob man – yn ''Y Drych'' (papur Cymry Ameri...'
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Ceir sôn am Eisteddfod Llanllyfni mor gynnar â 1878. Y flwyddyn honno ceir sôn am yr Eisteddfod hon – o bob man – yn ''Y Drych'' (papur Cymry America) a hynny fel a ganlyn:
Ceir sôn am Eisteddfod Llanllyfni mor gynnar â 1878. Y flwyddyn honno ceir sôn am yr Eisteddfod hon – o bob man – yn ''Y Drych'' (papur Cymry America) a hynny fel a ganlyn:
  Bydd beirdd ieuainc Cymru yn debyg o eiddigeddu wrth Mr. R. A. Williams (Berw)-nai i'r Parch. W. O. Williams (Gwilym o Fôn) o'r ddinas hon [Wisconsin]  - oherwydd ei fuddugoliaethau diweddar. Enillodd 2 gini a thlws arian yn Eisteddfod Llanllyfni am y cywydd coffadwriaethol i'r ddiwedd ar Mrs Fanny Jones, Talsarn.<ref> ''Y Drych'' 20.6.78, t.5</ref>
  Bydd beirdd ieuainc Cymru yn debyg o eiddigeddu wrth Mr. R. A. Williams (Berw) - nai i'r Parch. W. O. Williams (Gwilym o Fôn) o'r ddinas hon [Wisconsin]  - oherwydd ei fuddugoliaethau diweddar. Enillodd 2 gini a thlws arian yn Eisteddfod Llanllyfni am y cywydd coffadwriaethol i'r ddiweddar Mrs Fanny Jones, Talsarn.<ref> ''Y Drych'' 20.6.78, t.5</ref>

Mae adroddiadau am yr eisteddfod hon yn y papurau lleol yn hynod brin, ac nid oes sicrwydd bod yr eisteddfod a gynhelid yn y 1870au wedi parhau i gael ei chynnal yn flynyddol.  Gwyddom fodd bynnag fod eisteddfod oedolion wedi ei chynnal yn 1900, gan fod gŵr o ardal Machynlleth wedi ennill cystadleuaeth lenyddol yn Eisteddfod Llanllyfni:
Mae adroddiadau am yr eisteddfod hon yn y papurau lleol yn hynod brin, ac nid oes sicrwydd bod yr eisteddfod a gynhelid yn y 1870au wedi parhau i gael ei chynnal yn flynyddol.  Gwyddom, fodd bynnag, fod eisteddfod oedolion wedi ei chynnal yn 1900, gan fod gŵr o ardal Machynlleth wedi ennill cystadleuaeth lenyddol yn Eisteddfod Llanllyfni:
  Deallwn mai Wnion, Machynlleth, a enillodd y wobr am “eiriau cyfaddas i gyfansoddi Canig arnynt”, yn Eisteddfod Llanllyfni, dydd Gwener diweddaf. Yr oedd nifer yr ymgeiswyr yn naw.<ref>''Y Negesydd'', 11.1.01. t.1</ref>

Yn fuan wedi hyn, fodd bynnag, roedd hi wedi troi’n eisteddfod ar gyfer plant y dyffryn. Ceir blas ar y trefniadau yn yr adroddiad hwn:
Yn fuan wedi hyn, fodd bynnag, roedd hi wedi troi’n eisteddfod ar gyfer plant y dyffryn. Ceir blas ar y trefniadau yn yr adroddiad hwn:
  BLAGUR LLYFNWY.—Dyddorol odiaeth yw rhaglen Eisteddfod y Plant, Llanllyfni, dan yr enw uchod. Swyddogion y Pwyllgor ydynt :-Llywydd, Mr David G. Davies; trysoryddes, Miss Jones, Hendre Villa; ysgrifenyddes, Miss Jane Ann Roberts, Ysgol y Cynghor, Nebo. Mae yr oll o'r testynau yn agored i Ddyffryn Nantlle, ac ni chaiff neb dros 18 oed ymgeisio yn yr Eisteddfod. Diau y try yn llwyddiant hollol.<ref>''Yr Herald Cymraeg'', 22.9.1908, t.5</ref>
  BLAGUR LLYFNWY.— Dyddorol odiaeth yw rhaglen Eisteddfod y Plant, Llanllyfni, dan yr enw uchod. Swyddogion y Pwyllgor ydynt :-Llywydd, Mr David G. Davies; trysoryddes, Miss Jones, Hendre Villa; ysgrifenyddes, Miss Jane Ann Roberts, Ysgol y Cynghor, Nebo. Mae yr oll o'r testynau yn agored i Ddyffryn Nantlle, ac ni chaiff neb dros 18 oed ymgeisio yn yr Eisteddfod. Diau y try yn llwyddiant hollol.<ref>''Yr Herald Cymraeg'', 22.9.1908, t.5</ref>

Ceir adroddiad gweddol fanwl am yr eisteddfod a gynhaliwyd ym 1910, sydd yn rhoi blas ar ddiwylliant crefyddol a pherfformiadol capeli cyn y Rhyfel Mawr:
Ceir adroddiad gweddol fanwl am yr eisteddfod a gynhaliwyd ym 1910, sydd yn rhoi blas ar ddiwylliant crefyddol a pherfformiadol capeli cyn y Rhyfel Mawr:
  EISTEDDFOD Y PLANT, LLANLLYFNI Nos Wener, yn Nghapel Salem, Llanllyfni, cynhaliwyd eisteddfod hynod o lwyddiannus o dan nawdd Teml y Plant, "Blagur Llyfnwy." Cymerwyd y gadair gan Dr Rowlands, Llanaelhaiarn, weiniwyd gan Mr W. Richard Williams, a chyfeiliwyd gan Miss Myfi Prichard.
  EISTEDDFOD Y PLANT, LLANLLYFNI Nos Wener, yn Nghapel Salem, Llanllyfni, cynhaliwyd eisteddfod hynod o lwyddiannus o dan nawdd Teml y Plant, "Blagur Llyfnwy." Cymerwyd y gadair gan Dr Rowlands, Llanaelhaiarn, arweiniwyd gan Mr W. Richard Williams, a chyfeiliwyd gan Miss Myfi Prichard. Roedd y cystadlaethau’n cynnwys: Ateb cwestiynau dirwestol;  Adrodd "Chwarae a themtasiwn”; Tie gweuedig; Doyleys; Unawd “Wyn Bach Iesu Grist”; Unawd: “Iesu o Nazareth”; Darlun; Adrodd, "Y Diafol a thi dy hun”; Deuawd i fechgyn;  Adrodd “Y Bardd yn annerch yr Oen Bach"; Canu penillion; Map o blwyf Llanllyfni; Unawd, "Dros y Garreg"; Areithio; Llaw-arwyddion; Unawd: "Y Gelynen Las".
Roedd y cystadlaethau’n cynnwys: Ateb cwestiynau dirwestol;  Adrodd "Chwarae a themtasiwn”; Tie gweuedig; Doyleys; Unawd “Wyn Bach Iesu Grist”; Unawd: “Iesu o Nazareth”; Darlun; Adrodd, "Y Diafol a thi dy hun”; Deuawd i fechgyn;  Adrodd “Y Bardd yn annerch yr Oen Bach"; Canu penillion; Map o blwyf Llanllyfni; Unawd, "Dros y Garreg"; Areithio; Llaw-arwyddion; Unawd: "Y Gelynen Las".
Testyn y Goron oedd "Blwydd-dal i'r Hen." Ymgeisiodd saith, a darllenodd [[Croesfryn]] feirniadaeth deg a manwl, a chyhoeddodd yr ymgeisydd yn dwyn y ffugenw "Ehedydd" yn fuddugol. Cyrchwyd ef i'r llwyfan gan Eryr Gwynedd a'r Bonwr John Owen, a chafwyd mai'r buddugol oedd Mr John Griffith; [[Treddafydd]], [[Pen-y-groes]]. Cafwyd hwyl gyda'r coroni o dan ofal Mr O. Llew Owain. Cyflwynwyd y wobr gan Miss J. Ann Roberts.  

Aeth yr Eisteddfod yn ei blaen gyda Deuawd, "Deilen ar yr Afon”; Unawd, "Morfa Rhuddlan”; y Prif Adroddiad; y Brif Unawd, "Concwest y Groes”; ac, i derfynu, Cystadleuaeth y Corau, a enillwyd gan Gôr Llanllyfni.<ref>''Yr Herald Cymreig'', 1.11.1910, t.6</ref> Dichon mai côr plant o Lanllyfni oedd y côr ac nid [[Côr Llanllyfni|y côr lleol i oedolion]].
Aeth yr Eisteddfod yn ei blaen gyda Deuawd, "Deilen ar yr Afon”; Unawd, "Morfa Rhuddlan”; y Prif adroddiad; y Prif Unawd, "Concwest y Groes”; ac, i derfynu, Cystadleuaeth y Corau, a enillwyd gan Gôr Llanllyfni.<ref>''Yr Herald Cymreig'', 1.11.1910, t.6</ref> Dichon mai côr plant o Lanllyfni oedd y côr ac nid [[Côr Llanllyfni|y côr lleol i oedolion]].

Yn ddiddorol iawn, ymddengys bod yr [[Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni|Eglwys]] wedi cynnal Eisteddfod ym 1913 dan enw “Eisteddfod Plant Llanllyfni”, gyda chystadlaethau am ddweud y catecism ac ati yn ogystal â chystadlaethau mwy cyffredinol, a’r rheithor oedd yn arwain y cyfarfodydd. Roedd ambell i enillydd wedi serennu yn Eisteddfod Salem, 1910, yn arbennig Annie Wood Griffith, ac felly nid oedd yn gyfyngedig i un enwad, mae’n ymddangos. Ond tybed ai eisteddfod a gynhaliwyd mewn ymateb i lwyddiant yr anghydffurfwyr a’u heisteddfod hwythau ydoedd?<ref>''Y Llan'', 12.12.1913, t.2</ref>   
Yn ddiddorol iawn, ymddengys bod yr [[Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni|Eglwys]] wedi cynnal Eisteddfod ym 1913 dan enw “Eisteddfod Plant Llanllyfni”, gyda chystadlaethau am ddweud y catecism ac ati, yn ogystal â chystadlaethau mwy cyffredinol, a’r rheithor oedd yn arwain y cyfarfodydd. Roedd ambell i enillydd wedi serennu yn Eisteddfod Salem, 1910, yn arbennig Annie Wood Griffith, ac felly nid oedd yn gyfyngedig i un enwad, mae’n ymddangos. Ond tybed ai eisteddfod a gynhaliwyd mewn ymateb i lwyddiant yr anghydffurfwyr a’u heisteddfod hwythau ydoedd?<ref>''Y Llan'', 12.12.1913, t.2</ref>   

Arferid cynnal yr eisteddfod yng [[Capel Salem (MC), Llanllyfni|Nghapel Methodistaidd Salem]] ar ôl y Rhyfel Mawr, ac fe fyddai'r cystadleuwyr yn sefyll ar lwyfan yn y sêt fawr, hyd nes Neuadd Goffa gael ei chodi ym 1927.
Arferid cynnal yr eisteddfod yng [[Capel Salem (MC), Llanllyfni|Nghapel Methodistaidd Salem]] ar ôl y Rhyfel Mawr, ac fe fyddai'r cystadleuwyr yn sefyll ar lwyfan yn y sêt fawr, hyd nes i'r Neuadd Goffa gael ei chodi ym 1927.

O'r 1930au ymlaen bu trigolion y pentref yn gyfrifol am drefnu'r eisteddfod. Y dyddiau hyn, mae aelodau amrywiol bwyllgorau'r pentref, megis y Capel, yr Eglwys, yr Urdd a Merched y Wawr yn dod at ei gilydd i drefnu’r achlysur.

Ar ôl gohirio'r eisteddfod yn ystod yr Ail Ryfel Byd, daeth yn Eisteddfod Gadeiriol. Yn fwy diweddar, mae enillydd y gadair yn  derbyn cadair fach; yn yr un modd bydd y person ifanc dan 25 oed sydd wedi cyflwyno'r gwaith llenyddol gorau dderbyn cadair fach hefyd. Arferid i’r cadeiriau bach hyn gael eu llunio gan athro celf a chrefft [[Ysgol Dyffryn Nantlle]]. Enillodd y bardd [[John Hywyn]] ei gadair gyntaf yn yr eisteddfod hon.  
Ar ôl gohirio'r eisteddfod yn ystod yr Ail Ryfel Byd, daeth yn Eisteddfod Gadeiriol. Yn fwy diweddar, mae enillydd y gadair yn  derbyn cadair fach; yr un modd bydd y person ifanc dan 25 oed sydd wedi cyflwyno'r gwaith llenyddol gorau hefyd yn derbyn cadair fechan. Arferid i’r cadeiriau bach hyn gael eu llunio gan athro celf a chrefft [[Ysgol Dyffryn Nantlle]]. Enillodd y bardd [[John Hywyn]] ei gadair gyntaf yn yr eisteddfod hon.  

Bydd cystadlu hefyd ar gyfer tlysau’r her unawd a'r her adroddiad. Rhoddwyd y tlysau yma i'r eisteddfod gan gwmni teledu Tŷ Gwyn a chwmni Ffilmiau'r Nant.<ref>Gwefan BBC Lleol [https://www.bbc.co.uk/cymru/gogledd-orllewin/bywyd_bro/eisteddfodau/pages/llanllyfni.shtml], cyrchwyd 2.12.2023</ref>
Bydd cystadlu hefyd am dlysau’r her unawd a'r her adroddiad. Rhoddwyd y tlysau hyn i'r eisteddfod gan gwmni teledu Tŷ Gwyn a chwmni Ffilmiau'r Nant.<ref>Gwefan BBC Lleol [https://www.bbc.co.uk/cymru/gogledd-orllewin/bywyd_bro/eisteddfodau/pages/llanllyfni.shtml], cyrchwyd 2.12.2023</ref>

Yn y blynyddoedd cynnar, cynhaliwyd yr eisteddfod tua mis Hydref neu Dachwedd, ond yn fwy diweddar, cynhelir yr eisteddfod tua diwedd Chwefror.
Yn y blynyddoedd cynnar, cynhaliwyd yr eisteddfod tua mis Hydref neu Dachwedd, ond yn fwy diweddar, cynhelir yr eisteddfod tua diwedd Chwefror.

Fersiwn yn ôl 17:10, 4 Rhagfyr 2023

Ceir sôn am Eisteddfod Llanllyfni mor gynnar â 1878. Y flwyddyn honno ceir sôn am yr Eisteddfod hon – o bob man – yn Y Drych (papur Cymry America) a hynny fel a ganlyn:

Bydd beirdd ieuainc Cymru yn debyg o eiddigeddu wrth Mr. R. A. Williams (Berw) - nai i'r Parch. W. O. Williams (Gwilym o Fôn) o'r ddinas hon [Wisconsin]  - oherwydd ei fuddugoliaethau diweddar. Enillodd 2 gini a thlws arian yn Eisteddfod Llanllyfni am y cywydd coffadwriaethol i'r ddiweddar Mrs Fanny Jones, Talsarn.[1]

Mae adroddiadau am yr eisteddfod hon yn y papurau lleol yn hynod brin, ac nid oes sicrwydd bod yr eisteddfod a gynhelid yn y 1870au wedi parhau i gael ei chynnal yn flynyddol. Gwyddom, fodd bynnag, fod eisteddfod oedolion wedi ei chynnal yn 1900, gan fod gŵr o ardal Machynlleth wedi ennill cystadleuaeth lenyddol yn Eisteddfod Llanllyfni:

Deallwn mai Wnion, Machynlleth, a enillodd y wobr am “eiriau cyfaddas i gyfansoddi Canig arnynt”, yn Eisteddfod Llanllyfni, dydd Gwener diweddaf. Yr oedd nifer yr ymgeiswyr yn naw.[2]

Yn fuan wedi hyn, fodd bynnag, roedd hi wedi troi’n eisteddfod ar gyfer plant y dyffryn. Ceir blas ar y trefniadau yn yr adroddiad hwn:

BLAGUR LLYFNWY.— Dyddorol odiaeth yw rhaglen Eisteddfod y Plant, Llanllyfni, dan yr enw uchod. Swyddogion y Pwyllgor ydynt :-Llywydd, Mr David G. Davies; trysoryddes, Miss Jones, Hendre Villa; ysgrifenyddes, Miss Jane Ann Roberts, Ysgol y Cynghor, Nebo. Mae yr oll o'r testynau yn agored i Ddyffryn Nantlle, ac ni chaiff neb dros 18 oed ymgeisio yn yr Eisteddfod. Diau y try yn llwyddiant hollol.[3]

Ceir adroddiad gweddol fanwl am yr eisteddfod a gynhaliwyd ym 1910, sydd yn rhoi blas ar ddiwylliant crefyddol a pherfformiadol capeli cyn y Rhyfel Mawr:

EISTEDDFOD Y PLANT, LLANLLYFNI Nos Wener, yn Nghapel Salem, Llanllyfni, cynhaliwyd eisteddfod hynod o lwyddiannus o dan nawdd Teml y Plant, "Blagur Llyfnwy." Cymerwyd y gadair gan Dr Rowlands, Llanaelhaiarn, arweiniwyd gan Mr W. Richard Williams, a chyfeiliwyd gan Miss Myfi Prichard. Roedd y cystadlaethau’n cynnwys: Ateb cwestiynau dirwestol;  Adrodd "Chwarae a themtasiwn”; Tie gweuedig; Doyleys; Unawd “Wyn Bach Iesu Grist”; Unawd: “Iesu o Nazareth”; Darlun; Adrodd, "Y Diafol a thi dy hun”; Deuawd i fechgyn;  Adrodd “Y Bardd yn annerch yr Oen Bach"; Canu penillion; Map o blwyf Llanllyfni; Unawd, "Dros y Garreg"; Areithio; Llaw-arwyddion; Unawd: "Y Gelynen Las".

Testyn y Goron oedd "Blwydd-dal i'r Hen." Ymgeisiodd saith, a darllenodd Croesfryn feirniadaeth deg a manwl, a chyhoeddodd yr ymgeisydd yn dwyn y ffugenw "Ehedydd" yn fuddugol. Cyrchwyd ef i'r llwyfan gan Eryr Gwynedd a'r Bonwr John Owen, a chafwyd mai'r buddugol oedd Mr John Griffith; Treddafydd, Pen-y-groes. Cafwyd hwyl gyda'r coroni o dan ofal Mr O. Llew Owain. Cyflwynwyd y wobr gan Miss J. Ann Roberts. Aeth yr Eisteddfod yn ei blaen gyda Deuawd, "Deilen ar yr Afon”; Unawd, "Morfa Rhuddlan”; y Prif Adroddiad; y Brif Unawd, "Concwest y Groes”; ac, i derfynu, Cystadleuaeth y Corau, a enillwyd gan Gôr Llanllyfni.[4] Dichon mai côr plant o Lanllyfni oedd y côr ac nid y côr lleol i oedolion.

Yn ddiddorol iawn, ymddengys bod yr Eglwys wedi cynnal Eisteddfod ym 1913 dan enw “Eisteddfod Plant Llanllyfni”, gyda chystadlaethau am ddweud y catecism ac ati, yn ogystal â chystadlaethau mwy cyffredinol, a’r rheithor oedd yn arwain y cyfarfodydd. Roedd ambell i enillydd wedi serennu yn Eisteddfod Salem, 1910, yn arbennig Annie Wood Griffith, ac felly nid oedd yn gyfyngedig i un enwad, mae’n ymddangos. Ond tybed ai eisteddfod a gynhaliwyd mewn ymateb i lwyddiant yr anghydffurfwyr a’u heisteddfod hwythau ydoedd?[5]

Arferid cynnal yr eisteddfod yng Nghapel Methodistaidd Salem ar ôl y Rhyfel Mawr, ac fe fyddai'r cystadleuwyr yn sefyll ar lwyfan yn y sêt fawr, hyd nes i'r Neuadd Goffa gael ei chodi ym 1927.

O'r 1930au ymlaen bu trigolion y pentref yn gyfrifol am drefnu'r eisteddfod. Y dyddiau hyn, mae aelodau amrywiol bwyllgorau'r pentref, megis y Capel, yr Eglwys, yr Urdd a Merched y Wawr yn dod at ei gilydd i drefnu’r achlysur.

Ar ôl gohirio'r eisteddfod yn ystod yr Ail Ryfel Byd, daeth yn Eisteddfod Gadeiriol. Yn fwy diweddar, mae enillydd y gadair yn derbyn cadair fach; yr un modd bydd y person ifanc dan 25 oed sydd wedi cyflwyno'r gwaith llenyddol gorau hefyd yn derbyn cadair fechan. Arferid i’r cadeiriau bach hyn gael eu llunio gan athro celf a chrefft Ysgol Dyffryn Nantlle. Enillodd y bardd John Hywyn ei gadair gyntaf yn yr eisteddfod hon.

Bydd cystadlu hefyd am dlysau’r her unawd a'r her adroddiad. Rhoddwyd y tlysau hyn i'r eisteddfod gan gwmni teledu Tŷ Gwyn a chwmni Ffilmiau'r Nant.[6]

Yn y blynyddoedd cynnar, cynhaliwyd yr eisteddfod tua mis Hydref neu Dachwedd, ond yn fwy diweddar, cynhelir yr eisteddfod tua diwedd Chwefror.

Cyfeiriadau

  1. Y Drych 20.6.78, t.5
  2. Y Negesydd, 11.1.01. t.1
  3. Yr Herald Cymraeg, 22.9.1908, t.5
  4. Yr Herald Cymreig, 1.11.1910, t.6
  5. Y Llan, 12.12.1913, t.2
  6. Gwefan BBC Lleol [1], cyrchwyd 2.12.2023