Morris Thomas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Morris Thomas''' (1874-1959) yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, llenor a hanesydd. Fe'i ganed ym 1874 yn Nhal-y-sarn yn fab i Robert...'
 
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Morris Thomas''' (1874-1959) yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, llenor a hanesydd.  
Roedd '''Morris Thomas''' (1874-1959) yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, llenor a hanesydd.  


Fe'i ganed ym 1874 yn Nhal-y-sarn yn fab i Robert Thomas, chwarelwr. Pan oedd Morris yn 12 oed roedd ei dad ymysg yr wyth o chwarelwyr a foddwyd pan dorrodd Llyn Nantlle, a bu'n rhaid iddo adael yr ysgol a dechrau gweithio fel chwarelwr ei hun. Sylwodd ei weinidog, William Williams, fod gallu arbennig yn y llanc ac fe'i hanogodd i fynd ymlaen â'i addysg. Yn dilyn cwrs yn Ysgol Ragbaratoawl Clynnog, aeth i Goleg y Bala ac yna i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle graddiodd mewn Saesneg ac Athroniaeth ym 1905. Daeth dan ddylanwad Diwygiad 1904-05 ac yn dilyn ei ordeinio ym 1908 bu'n weinidog mewn nifer o fannau, gan orffen yn Nolwyddelan.  
Fe'i ganed ym 1874 yn [Tal-y-sarn|Nhal-y-sarn]] yn fab i Robert Thomas, chwarelwr. Pan oedd Morris yn 12 oed roedd ei dad ymysg yr wyth o chwarelwyr a foddwyd pan dorrodd [[Llyn Nantlle Isaf]], a bu'n rhaid iddo adael yr ysgol a dechrau gweithio fel chwarelwr ei hun. Sylwodd ei weinidog, William Williams, fod gallu arbennig yn y llanc ac fe'i hanogodd i fynd ymlaen â'i addysg. Yn dilyn cwrs yn [[Ysgol Ragbaratoawl Clynnog]], aeth i Goleg y Bala ac yna i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle graddiodd mewn Saesneg ac Athroniaeth ym 1905. Daeth dan ddylanwad Diwygiad 1904-05 ac yn dilyn ei ordeinio ym 1908 bu'n weinidog mewn nifer o fannau, gan orffen yn Nolwyddelan.  


Ysgrifennodd gryn dipyn i gyhoeddiadau ei enwad. Yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni 1913 enillodd am gyfieithiad i'r Gymraeg o nofel enwog Robert Louis Stevenson, ''Treasure Island'' ac am "draethawd beirniadol ar weithiau ac athrylith Islwyn". Yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1925 daeth yn gyd-fuddugol yng nghystadleuaeth llunio nofel wreiddiol gyda'i gyfrol ''Toriad y Wawr'', sy'n ymdrin â hanes cynnar Methodistiaeth yn Llŷn yn y 18g. Fe'i cyhoeddwyd gan Hugh Evans a'i Feibion, Lerpwl ym 1928. Drachefn ym 1931, enillodd y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor am ei nofel ''Pen yr Yrfa'', a gyhoeddwyd yn swyddfa'r ''Goleuad'' yng Nghaernarfon y flwyddyn ddilynol. Byddai'n arfer ganddo hefyd gyfrannu stori fer i rifynnau'r Nadolig o'r ''Goleuad'' am nifer o flynyddoedd. Ar sail ei fedrusrwydd fel hanesydd gofynnwyd iddo ysgrifennu hanes Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd - gwaith a ddechreuwyd gan Y Parch. Henry Hughes, Bryncir. Ond cymaint oedd y dasg o geisio rhoi trefn ar nodiadau tameidiog a gwasgarog Henry Hughes fel y digalonodd Morris Thomas, gan ddefnyddio peth o'r deunydd yn hytrach yn y nofel ''Toriad y Wawr''.
Ysgrifennodd gryn dipyn i gyhoeddiadau ei enwad. Yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni 1913 enillodd am gyfieithiad i'r Gymraeg o nofel enwog Robert Louis Stevenson, ''Treasure Island'' ac am "draethawd beirniadol ar weithiau ac athrylith Islwyn". Yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1925 daeth yn gyd-fuddugol yng nghystadleuaeth llunio nofel wreiddiol gyda'i gyfrol ''Toriad y Wawr'', sy'n ymdrin â hanes cynnar Methodistiaeth yn Llŷn yn y 18g. Fe'i cyhoeddwyd gan Hugh Evans a'i Feibion, Lerpwl ym 1928. Drachefn ym 1931, enillodd y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor am ei nofel ''Pen yr Yrfa'', a gyhoeddwyd yn swyddfa'r ''Goleuad'' yng Nghaernarfon y flwyddyn ddilynol. Byddai'n arfer ganddo hefyd gyfrannu stori fer i rifynnau'r Nadolig o'r ''Goleuad'' am nifer o flynyddoedd. Ar sail ei fedrusrwydd fel hanesydd gofynnwyd iddo ysgrifennu hanes [[Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd]] - gwaith a ddechreuwyd gan Y Parch. Henry Hughes, Bryncir. Ond cymaint oedd y dasg o geisio rhoi trefn ar nodiadau tameidiog a gwasgarog Henry Hughes fel y digalonodd Morris Thomas, gan ddefnyddio peth o'r deunydd yn hytrach yn y nofel ''Toriad y Wawr''.


Ymddeolodd Morris Thomas o'i waith fel gweinidog ym 1945 ac aeth ef a'i briod i fyw i Dal-y-bont, Dyffryn Conwy. Bu farw yno ar 10 Awst 1959.<sup>[1]</sup>
Ymddeolodd Morris Thomas o'i waith fel gweinidog ym 1945 ac aeth ef a'i briod i fyw i Dal-y-bont, Dyffryn Conwy. Bu farw yno ar 10 Awst 1959.<ref>Gweler erthygl hwy yn ''Y Bywgraffiadur Cymreig 1951-1970'', (Llundain, 1997), t.209.</ref>


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==


1. Gweler erthygl hwy yn ''Y Bywgraffiadur Cymreig 1951-1970'', (Llundain, 1997), t.209.
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Gweinidogion]]
[[Categori:Llenorion]]
[[Categori:Awduron]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 19:53, 14 Ionawr 2023

Roedd Morris Thomas (1874-1959) yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, llenor a hanesydd.

Fe'i ganed ym 1874 yn [Tal-y-sarn|Nhal-y-sarn]] yn fab i Robert Thomas, chwarelwr. Pan oedd Morris yn 12 oed roedd ei dad ymysg yr wyth o chwarelwyr a foddwyd pan dorrodd Llyn Nantlle Isaf, a bu'n rhaid iddo adael yr ysgol a dechrau gweithio fel chwarelwr ei hun. Sylwodd ei weinidog, William Williams, fod gallu arbennig yn y llanc ac fe'i hanogodd i fynd ymlaen â'i addysg. Yn dilyn cwrs yn Ysgol Ragbaratoawl Clynnog, aeth i Goleg y Bala ac yna i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle graddiodd mewn Saesneg ac Athroniaeth ym 1905. Daeth dan ddylanwad Diwygiad 1904-05 ac yn dilyn ei ordeinio ym 1908 bu'n weinidog mewn nifer o fannau, gan orffen yn Nolwyddelan.

Ysgrifennodd gryn dipyn i gyhoeddiadau ei enwad. Yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni 1913 enillodd am gyfieithiad i'r Gymraeg o nofel enwog Robert Louis Stevenson, Treasure Island ac am "draethawd beirniadol ar weithiau ac athrylith Islwyn". Yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1925 daeth yn gyd-fuddugol yng nghystadleuaeth llunio nofel wreiddiol gyda'i gyfrol Toriad y Wawr, sy'n ymdrin â hanes cynnar Methodistiaeth yn Llŷn yn y 18g. Fe'i cyhoeddwyd gan Hugh Evans a'i Feibion, Lerpwl ym 1928. Drachefn ym 1931, enillodd y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor am ei nofel Pen yr Yrfa, a gyhoeddwyd yn swyddfa'r Goleuad yng Nghaernarfon y flwyddyn ddilynol. Byddai'n arfer ganddo hefyd gyfrannu stori fer i rifynnau'r Nadolig o'r Goleuad am nifer o flynyddoedd. Ar sail ei fedrusrwydd fel hanesydd gofynnwyd iddo ysgrifennu hanes Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd - gwaith a ddechreuwyd gan Y Parch. Henry Hughes, Bryncir. Ond cymaint oedd y dasg o geisio rhoi trefn ar nodiadau tameidiog a gwasgarog Henry Hughes fel y digalonodd Morris Thomas, gan ddefnyddio peth o'r deunydd yn hytrach yn y nofel Toriad y Wawr.

Ymddeolodd Morris Thomas o'i waith fel gweinidog ym 1945 ac aeth ef a'i briod i fyw i Dal-y-bont, Dyffryn Conwy. Bu farw yno ar 10 Awst 1959.[1]

Cyfeiriadau

  1. Gweler erthygl hwy yn Y Bywgraffiadur Cymreig 1951-1970, (Llundain, 1997), t.209.