Gwylwyr y Glannau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'bawd|de|300px|Cwt Gwylwyr y Glannau, Llandwrog Mae gan '''Gwylwyr...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Coastguard Rescue Service Station, Llandwrog - geograph.org.uk - 787866.jpg|bawd|de|300px|Cwt Gwylwyr y Glannau, Llandwrog]] | [[Delwedd:Coastguard Rescue Service Station, Llandwrog - geograph.org.uk - 787866.jpg|bawd|de|300px|Cwt Gwylwyr y Glannau, Llandwrog]] | ||
Mae gan '''Gwylwyr y Glannau''' ddwy safle ym mhlwyf [[Llandwrog]] sydd yn gwasanaethu holl arfordir | Mae gan '''Gwylwyr y Glannau''' hanes hir yn [[Uwchgwyrfai]], mae'n debyg, gan fod "Abermenai watch house" ymysg eiddo a restrir ar un o weithredoedd [[Ystad Glynllifon]] ym 1781.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/7265</ref> | ||
Erbyn hyn, mae gan Gwylwyr y Glannau ddwy safle ym mhlwyf [[Llandwrog]] sydd yn gwasanaethu holl arfordir Uwchgwyrfai (lle mae'r Gwylwyr y Glannau traddodiadol yn y cwestiwn), a thros rhan helaeth o orllewin ynys Prydain a Môr Iwerddon gyda hofrenyddion. Daw'r gweithgareddau o dan swyddfa ranbarthol Gwylwyr y Glannau yng Nghaergybi ( a elwir yn Ganolfan Gydgysylltu Achub Morwrol). | |||
Sefydlwyd y gwasanaeth yn wreiddiol ym Mhrydain ym 1822. I ddechrau, canolbwyntiwyd ar atal smyglwyr a sicrhau na fyddai pobl yn osgoi talu tollau, ond o'r 1850au ymlaen cryfhaodd y gwaith o achub bywydau. | Sefydlwyd y gwasanaeth yn wreiddiol ym Mhrydain ym 1822. I ddechrau, canolbwyntiwyd ar atal smyglwyr a sicrhau na fyddai pobl yn osgoi talu tollau, ond o'r 1850au ymlaen cryfhaodd y gwaith o achub bywydau. |
Fersiwn yn ôl 15:06, 20 Tachwedd 2022
Mae gan Gwylwyr y Glannau hanes hir yn Uwchgwyrfai, mae'n debyg, gan fod "Abermenai watch house" ymysg eiddo a restrir ar un o weithredoedd Ystad Glynllifon ym 1781.[1]
Erbyn hyn, mae gan Gwylwyr y Glannau ddwy safle ym mhlwyf Llandwrog sydd yn gwasanaethu holl arfordir Uwchgwyrfai (lle mae'r Gwylwyr y Glannau traddodiadol yn y cwestiwn), a thros rhan helaeth o orllewin ynys Prydain a Môr Iwerddon gyda hofrenyddion. Daw'r gweithgareddau o dan swyddfa ranbarthol Gwylwyr y Glannau yng Nghaergybi ( a elwir yn Ganolfan Gydgysylltu Achub Morwrol).
Sefydlwyd y gwasanaeth yn wreiddiol ym Mhrydain ym 1822. I ddechrau, canolbwyntiwyd ar atal smyglwyr a sicrhau na fyddai pobl yn osgoi talu tollau, ond o'r 1850au ymlaen cryfhaodd y gwaith o achub bywydau.
Credir mai yn ystod yr ail ryfel byd y sefydlwyd gorsaf bresennol Gwylwyr y Glannau yn Llandwrog, mewn cysylltiad â gweithgareddau ym Maes Awyr Caernarfon, neu "R.A.F. Llandwrog" fel y'i gelwid yr adeg honno. O'r adeg honno ymlaen, defnyddid cwt y gwylwyr y drws nesaf i'r dafarn yn y pentref, a hynny hyd heddiw. Gwirfoddolwyr yw'r holl aelodau o dîm Gwylwyr y Glannau Llandwrog.
Ers 2015, mae Gwasanaeth Achub Môr ac Awyr wedi ymsefydlu mewn adeilad mawr newydd ym Maes Awyr Caernarfon, pan gymerodd contractwyr, sef Cwmni Hofrenyddion Bristow, y gwaith drosodd o'r Llu Awyr yn y Fali. Gwasanaeth hollol broffesiynol yw hwn, yn hollol ar wahân i orsaf gwirfoddolwyr Llandwrog.[2]
{{eginyn}{}