Moduron Seren Arian: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5: Llinell 5:
Er i 'gartref' y cwmni fod yn Rhosgadfan, agorwyd depo ehangach tua diwedd y 20g ar Ystad Cibyn, yng Nghaernarfon. Mae'r cwmni'n dal mewn bodolaeth ond gyda pherchnogion newydd, ac nid ydynt bellach yn rhedeg bysiau gwasanaeth.

Cwmni Alpine http: //www.alpine-travel.co.uk sydd bellach yn gwerthu gwyliau yn darparu'r cerbydau ar gyfer teithiau Seren Arian
Cwmni Alpine http://www.alpine-travel.co.uk sydd bellach yn gwerthu gwyliau yn darparu'r cerbydau ar gyfer teithiau Seren Arian

{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 13:10, 20 Ionawr 2018

Roedd Seren Arian yn un o gwmnïau bysiau lleol cynharaf, ac yn ystod ail hanner y 20g, fe elwid bysiau'r cwmni'n "fysys Nedw" ar ôl y perchennog. Y brif daith wasanaeth oedd o Gaernarfon trwy Rostryfan i Rosgadfan a'r Fron.

Lifrai olaf y cerbydau oedd glas gweddol dywyll ar hyd yr ochr, gyda glas goleuach ar y to a'r paneli isaf, a lliw hufen oddi amgylch y ffenestri. Cyn hynny, roedd cynllun tebyg, ond mewn lliw bisged, lliw caramel a hufen. Wrth i fusnes coetsys ddatblygu, gyda busnes lewyrchus o ran mynd â phobl ar wyliau, roedd y bysys mwyaf cyfforddus yn cael eu paentio mewn dau fath o wyrdd.[1]

Er i 'gartref' y cwmni fod yn Rhosgadfan, agorwyd depo ehangach tua diwedd y 20g ar Ystad Cibyn, yng Nghaernarfon. Mae'r cwmni'n dal mewn bodolaeth ond gyda pherchnogion newydd, ac nid ydynt bellach yn rhedeg bysiau gwasanaeth.

Cwmni Alpine http://www.alpine-travel.co.uk sydd bellach yn gwerthu gwyliau yn darparu'r cerbydau ar gyfer teithiau Seren Arian

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth bersonol