William Hughes (Glan Caeron): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ganwyd '''William Henry Hughes''' (1856-1926), a ddaeth yn fwy adnabyddus fel “Glan Caeron”, yn Llanrhychwyn. Ei rieni oedd Hugh Hughes (g.1830) o Lan...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Glan Caeron ym 1909.jpg|bawd|de|300px|Glan Caeron gyda choron Eisteddfod y Wladfa, 1909]]
Ganwyd '''William Henry Hughes''' (1856-1926), a ddaeth yn fwy adnabyddus fel “Glan Caeron”, yn Llanrhychwyn. Ei rieni oedd Hugh Hughes (g.1830) o Lanrhychwyn a Jane, a oedd wedi ei geni yn Nhreffynnon.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanrwst, 1861</ref>
Ganwyd '''William Henry Hughes''' (1856-1926), a ddaeth yn fwy adnabyddus fel “Glan Caeron”, yn Llanrhychwyn. Ei rieni oedd Hugh Hughes (g.1830) o Lanrhychwyn a Jane, a oedd wedi ei geni yn Nhreffynnon.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanrwst, 1861</ref>



Fersiwn yn ôl 13:37, 27 Hydref 2022

Glan Caeron gyda choron Eisteddfod y Wladfa, 1909

Ganwyd William Henry Hughes (1856-1926), a ddaeth yn fwy adnabyddus fel “Glan Caeron”, yn Llanrhychwyn. Ei rieni oedd Hugh Hughes (g.1830) o Lanrhychwyn a Jane, a oedd wedi ei geni yn Nhreffynnon.[1]

Erbyn 1871 yr oedd y teulu wedi symud i un o ddau dŷ Glasfryn, ger Bwlch-y-llyn. Cafodd y tad, brawd hynaf William (sef David) ac yntau waith fel chwarelwyr llechi.[2] Yn ystod ei gyfnod yng nghwarel Pen-yr-orsedd, ei bartner oedd John Roberts (Iolo Glan Twrog). Yn y chwarel ei lysenw oedd “Wil Llanrwst”[3] Bu farw ei fam Jane rhwng 1871 ac 1881, ac ailbriododd ei dad â dynes o’r enw Mary. Yn y man cafwyd tri phlentyn arall, Dorothy, Robert ac Edith. [4]

Mae’n debyg mai yn ystod ei gyfnod yn y chwarel y dechreuodd William Hughes farddoni o ddifrif ac yn y man fe fabwysiadwyd y ffugenw “Glan Caeron”. Dichon i’r enw ddeillio o enw ffermydd uwchben pentref Y Fron gyda’r enw Caeronwy - ac mae’n bosibl mai hen enw ar Afon Garth oedd Afon Caeron. Anfonodd sawl darn, megis penillion ar farwolaeth y bardd Trebor Mai, i’r wasg yn ystod y 1870au.[5], ac ym 1878 fe’i hurddwyd i urdd Bardd yn orsedd “Eisteddfod Fawr y Cymry” yn Llanrwst, er, sylwer, nad yr Eisteddfod Genedlaethol oedd honno, gan i’r Eisteddfod Genedlaethol yn 1878 gael ei chynnal ym Mhenbedw.[6]. Serch hynny, roedd hynny’n gydnabyddiaeth sylweddol i ddyn 22 oed.

Yr un flwyddyn ag Eisteddfod Llanrwst, ymddangosodd cerdd yn y “Genedl Gymreig” dan y teitl “Myfanwy”, yn gyflwynedig i Glan Caeron gan y bardd David Thomas (Llwydiarth Môn) oedd yn byw ym Mhen-y-groes ar y pryd.

Tra rhed afon Caeron ar ogwydd i'r eigion, 

Mi garaf yn ffyddlon y dirion fun deg; Dy gwmni a hoffwn, am ennyd ddymunwn,- Addefwn na chwynwn ychwaneg.[7]

Fe erys y cwestiwn pwy oedd Myfanwy - ai dywedai neu gariad oedd hi, ynteu’n wraig - ac a oedd yr enw’n enw go iawn? Ysywaeth, ni ddaeth eglurhad hyd yma. Efallai fod yna awgrym yn llinell olaf y dyfyniad fod yna ffrae wedi codi rhyngddynt, pwy a ŵyr. Ni chafwyd yr un Myfanwy a allai fod yn wrthrych i’w serch yng nghofnodion y Cyfrifiad. Boed hynny fel y bo, ond am ryw reswm neu’i gilydd, erbyn 1881 roedd o wedi penderfynu gadael Dyffryn Nantlle gan symud i’r Wladfa ym Mhatagonia. Erbyn hynny, roedd yn lodjer yn nhŷ Evan Parry, ffermwr a groser,[8] ac yn disgwyl am gychwyn ar ei daith yno. Cynhaliwyd cyfarfod ymadawol iddo yng Nghapel Cesarea ar 2 Mai 1881[9] Erbyn Tachwedd, roedd wedi cyrraedd y Wladfa, ar ôl teithio yno ar ei ben ei hun, gan fod adroddiad ar gael amdano’n annerch y gynulleidfa mewn cyngerdd er budd y Methodistiaid Calfinaidd yn nhref Trerawson yn yr Ariannin.[10]

O hynny ymlaen, chwaraeodd ran amlwg ym mywyd y drefedigaeth, a barnu oddi wrth y mynych adroddiadau amdano yn y wasg yno. Ymddengys iddo weithio fel mwynwr am gyfnod, ac fe gafodd waith gan bapur newydd y Wladfa, “Y Drafod”. Erbyn 1897 roedd yn ysgolfeistr yn Ysgol Maes Teg, un o ddeg ysgol Gymreig yn y Wladfa, lle dysgid y Gymraeg yn ogystal â Sbaeneg.[11] Parhâi i farddoni gydol yr amser a daeth gryn lwyddiant i’w ran fel un o brif feirdd y Wladfa. Enillodd gadair Eisteddfod y Wladfa bedair gwaith, ym 1883, 1892, 1893, a 1904. Fo hefyd enillodd y brif gystadleuaeth farddonol ym 1909 pan gyflwynwyd coron yn lle cadair.[12] Fe’i hetholwyd Glan Caeron yn Ddirprwy Archdderwydd Gorsedd y Wladfa.

Priododd ag Annie Jane Brunt (1870-1945) o Drefeglwys, Sir Drefaldwyn, ym 1890. Yr oedd rhai o deulu Brunt wedi ymfudo i’r Wladfa. Cafodd y pâr naw o blant i gyd.[13]

Ceir disgrifiad ohono ym 1919 yn llywio cinio Gŵyl Dewi a fynychwyd gan rai o bobl fwyaf amlwg yn Nhrelew, sydd yn tystio i’w ymarweddiad cyhoeddus: roedd o, meddai’r sylwebydd, “fel arfer yn ffrydlif o ffraethineb a’i arabedd yn ddihysbydd”.[14]

Ymgartrefodd yn y diwedd yn Nolavon, ac fe’i claddwyd yno ym mynwent Capel Carmel, ym 1926.[15]

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Llanrwst, 1861
  2. Cyfrifiad plwyf Llandwrog, 1871
  3. Gwefan Rootschat [1], cyrchwyd 25.10.2022
  4. op.cit. Nodyn gan ei or-ŵyr, Edouardo
  5. Y Genedl Gymreig, 30.8.1877, t.3
  6. Baner ac Amserau Cymru, 10.8.1878
  7. Y Genedl Gymreig, 5.12.1878, t.3
  8. Cyfrifiad plwyf Llandwrog, 1881
  9. Baner ac Amserau Cymru, 18.5.1881, t.7. Ysgrifennwyd yr adroddiad gan ei gyd-chwarelwr, Iolo Glan Twrog.
  10. Y Celt, 27.1.1882, t.5
  11. North Wales Express, 23.7.1897, t.5; Cymru’r Plant, Awst 1898, t.27
  12. Gwefan “Cadeiriau Cymru”, [2], cyrchwyd 27.10.2022
  13. Gwefan My Heritage [3], cyrchwyd 27.10.2022
  14. Y Drafod, 7.3.1919, t.5
  15. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ffacs 369/54; Wicipedia, erthygl ar Dolavon, [4], cyrchwyd 27.10.2022