Moduron Seren Arian: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5: Llinell 5:
Er i 'gartref' y cwmni fod yn Rhosgadfan, agorwyd depo ehangach tua diwedd y 20g ar Ystad Cibyn, yng Nghaernarfon. Mae'r cwmni'n dal mewn bodolaeth ond gyda pherchnogion newydd, ac nid ydynt bellach yn rhedeg bysiau gwasanaeth.

Cwmni Alpine sydd bellach yn gwerthu gwyliau yn darparu'r cerbydau ar gyfer teithiau Seren Arian
Cwmni Alpine http:www.alpine-travel.co.uk sydd bellach yn gwerthu gwyliau yn darparu'r cerbydau ar gyfer teithiau Seren Arian

{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 13:09, 20 Ionawr 2018

Roedd Seren Arian yn un o gwmnïau bysiau lleol cynharaf, ac yn ystod ail hanner y 20g, fe elwid bysiau'r cwmni'n "fysys Nedw" ar ôl y perchennog. Y brif daith wasanaeth oedd o Gaernarfon trwy Rostryfan i Rosgadfan a'r Fron.

Lifrai olaf y cerbydau oedd glas gweddol dywyll ar hyd yr ochr, gyda glas goleuach ar y to a'r paneli isaf, a lliw hufen oddi amgylch y ffenestri. Cyn hynny, roedd cynllun tebyg, ond mewn lliw bisged, lliw caramel a hufen. Wrth i fusnes coetsys ddatblygu, gyda busnes lewyrchus o ran mynd â phobl ar wyliau, roedd y bysys mwyaf cyfforddus yn cael eu paentio mewn dau fath o wyrdd.[1]

Er i 'gartref' y cwmni fod yn Rhosgadfan, agorwyd depo ehangach tua diwedd y 20g ar Ystad Cibyn, yng Nghaernarfon. Mae'r cwmni'n dal mewn bodolaeth ond gyda pherchnogion newydd, ac nid ydynt bellach yn rhedeg bysiau gwasanaeth.

Cwmni Alpine http:www.alpine-travel.co.uk sydd bellach yn gwerthu gwyliau yn darparu'r cerbydau ar gyfer teithiau Seren Arian

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth bersonol