Meillionydd, Y Fron: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Ychydig o hanes merched y teulu
Llinell 1: Llinell 1:
Saif '''Meillionydd''' ym mhentref [[Y Fron]], ychydig is na’r hen [[Ysgol Bron-y-foel|ysgol]] sydd bellach yn ganolfan gymdeithasol a thŷ Plas Colley, ar y lôn sydd yn arwain at ben uchaf [[Chwarel Pen-yr-orsedd]].  
Saif '''Meillionydd''' ym mhentref [[Y Fron]], ychydig is na’r hen [[Ysgol Bron-y-foel|ysgol]] sydd bellach yn ganolfan gymdeithasol a thŷ Plas Colley, ar y lôn sydd yn arwain at ben uchaf [[Chwarel Pen-yr-orsedd]].  


Meillionydd oedd un o dai mwyaf sylweddol y pentref pan y’i codwyd rywbryd tua 1850, ac yn breswylfod digon addas ar gyfer William Ellis Williams oedd yn byw yno gyda’i deulu ym 1861. Roedd o’n asiant [[Chwarel Cilgwyn]]. Adeg y Cyfrifiad ym 1861, roedd o’n 49 oed, a’i wraig Catherine ddwy flynedd yn iau nag ef. Roedd ganddynt chwech o blant, tri mab a thair merch, a’r hynaf yn 20 oed ac yn gweithio fel chwarelwr. Ymhen deng mlynedd, a’r teulu dal i fyw yno, roedd y tad wedi’i ddyrchafu’n rheolwr y chwarel, a’r mab hynaf, Robert, a’r ail fab, Henry, ill dau wedi cael hen swydd eu tad fel asiantwyr y chwarel - ac yr un oedd y sefyllfa ym Meillionydd ym 1871 hefyd. Erbyn 1881, William (mab arall William Ellis Williams), a fu am gyfnod yn Awstralia, oedd yn byw yno, gyda’i wraig Elisabeth a chwech o blant. Roedd y William hwn yn asiant chwarel hefyd, a’r teulu’n ddigon cefnog i gadw morwyn ifanc, Jane Hughes. Ym 1891, roedd y teulu’n dal yno a William wedi ei ddyrchafu’n rheolwr y chwarel - ond nid oedd y teulu’n cadw morwyn bellach. Ym 1901, tri o blant y teulu oedd yn cael eu rhestr gan y cyfrifiad fel y rhai a oedd yno ar noson y cyfrif: Kate, 32 oed ac yn ysgolfeistres; Jeannette, a William H. Williams, ill dau’n 15 oed. Dichon fod eu mam i ffwrdd ar y pryd, gan ei bod hi, sef Elisabeth Williams (yn weddw erbyn hynny) yno ym 1911, ac yn cael ei disgrifio fel ffarmwraig. Dim ond un o’i phlant oedd yn dal adref, sef William Henry, ac yntau’n ddi-briod ac yn gweithio mewn chwarel fel pwyswr llechi - sef swydd gymharol gyfrifol. Ymddengys felly fod Meillionydd wedi bod yn gartref i un teulu o’r cychwyn hyd 1911 o leiaf.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llandwrog, 1861-1911</ref>
Meillionydd oedd un o dai mwyaf sylweddol y pentref pan y’i codwyd rywbryd tua 1850, ac yn breswylfod digon addas ar gyfer William Ellis Williams (1812-1874) oedd yn byw yno gyda’i deulu ym 1861. Roedd o’n asiant [[Chwarel Cilgwyn]]. Adeg y Cyfrifiad ym 1861, roedd o’n 49 oed, a’i wraig Catherine (1813 - 1891). Roedd ganddynt chwech o blant, tri mab a thair merch, a’r hynaf yn 20 oed ac yn gweithio fel chwarelwr. Ymhen deng mlynedd, a’r teulu dal i fyw yno, roedd y tad wedi’i ddyrchafu’n rheolwr y chwarel, a’r mab hynaf, Robert, a’r ail fab, Henry, ill dau wedi cael hen swydd eu tad fel asiantwyr y chwarel - ac yr un oedd y sefyllfa ym Meillionydd ym 1871 hefyd. Erbyn 1881, William (mab arall William Ellis Williams), a fu am gyfnod yn Awstralia, oedd yn byw yno, gyda’i wraig Elisabeth a chwech o blant. Roedd y William hwn yn asiant chwarel hefyd, a’r teulu’n ddigon cefnog i gadw morwyn ifanc, Jane Hughes. Ym 1891, roedd y teulu’n dal yno a William wedi ei ddyrchafu’n rheolwr y chwarel - ond nid oedd y teulu’n cadw morwyn bellach. Ym 1901, tri o blant y teulu oedd yn cael eu rhestr gan y cyfrifiad fel y rhai a oedd yno ar noson y cyfrif: Kate, 32 oed ac yn ysgolfeistres; Jeannette, a William H. Williams, ill dau’n 15 oed. Dichon fod eu mam i ffwrdd ar y pryd, gan ei bod hi, sef Elisabeth Williams (yn weddw erbyn hynny) yno ym 1911, ac yn cael ei disgrifio fel ffarmwraig. Dim ond un o’i phlant oedd yn dal adref, sef William Henry, ac yntau’n ddi-briod ac yn gweithio mewn chwarel fel pwyswr llechi - sef swydd gymharol gyfrifol. Ymddengys felly fod Meillionydd wedi bod yn gartref i un teulu o’r cychwyn hyd 1911 o leiaf.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llandwrog, 1861-1911</ref>
 
Bu dwy o ferched Ellis a Catherine Williams yn byw yn yr Aifft am nifer o flynyddoedd.Priododd un o’u merched – Catherine (Kate) Williams (1857-1921) ag Edward Davies Bryan yn 1891. Roedd brodyr Edward, John a Joseph, yn gwerthwyr dillad yng Nghaernarfon (Siop Brodyr Bryan - 12, Y Bont Bridd) ond roeddynt yn hanu o ardal Llanarmon-yn-Iâl, Sir Ddinbych. Yn 1888 mudodd Edward at ei frawd Joseph oedd wedi sefydlu siop yng Nghairo ac yno aeth Kate wedi ei phriodas gan ddychwelyd i Gymru ar gyfer genedigaeth eu hunig ferch Olwen yn 1895. Bu chwaer ieuengaf dibriod, Ellen Williams (1860-1928), yn byw gyda Kate ac Edward yn yr Aifft am rhan fywaf o’i hoes. Y chwaer hon a gadwai ‘Siop yr Aifft’ ar Stryd Llyn, Caernarfon </ref>.
 
Erbyn diwedd yr 1890au a dechrau’r ugienfed ganrif roedd y Brodyr Davies Bryan yr Aifft yn enwog ymysg y Cymry am eu croeso cynnes ac ymwelodd nifer o bobl amlwg y cyfnod â’r teulu gan gynnwys yr aelod senneddol Tom Ellis a'r bardd T. Gwynn Jones. Gyda llwyddiant y busnes yn yr Aifft adeilwyd tŷ mawr moethus ym mhorthladd Alexandria o’r enw ‘Hafod’ a fu'n noddfa i sawl milwr yn ystod y Rhyfel Byd Gyntaf. Ymwelydd cyson yno oedd y bardd a’r cerddor [[Robert Bryan]], brawd arall i Edward, arferai dreuliuo’r gaeafau yn yr Aifft oherywdd ei iechyd bregus. (Bu Robert Bryan yn dysgu yn ysgol Talysarn am gyfnod fer ond rhoddod y gorau i'w swydd oherywdd gwaeledd). 
 
Bu farw Kate yn yr Hafod, Alexandria yn 1921 a fe’i chladdwyd yn y mynwent Brotestanaidd Chatby yno ond mae cofeb iddi ar waelod y bedd teuluol ym Mynwent Eglwys Sant Thomas Groeslon (ochr ddeheuol y fynwent gyda obelisg a reiliau haearn) gyda chwpled o waith ei brawd yng nhyfraith Robert Bryan.
 
</ref> 'O gamddwr i Gairo: Hanes y Brodyr Davies Bryan (1851- 1935)', Siân Wyn Jones, Llyfrau’r Bont, 2004.</ref>


Gor-ŵyr i William Ellis Williams oedd y Parch. Stanley H. Williams (1910-1992) a ymddeolodd i Lys Twrog, Y Fron, nid nepell o hen gartref y teulu. Roedd [[Thomas Elwyn Griffiths (Llenyn)]] yn gefnder iddo.<ref>Gwefan Roots Chat, ymholiad am Stanley Haydn Williams, [https://www.rootschat.com/forum/index.php?topic=309837.9], cyrchwyd 12.04.2022</ref>
Gor-ŵyr i William Ellis Williams oedd y Parch. Stanley H. Williams (1910-1992) a ymddeolodd i Lys Twrog, Y Fron, nid nepell o hen gartref y teulu. Roedd [[Thomas Elwyn Griffiths (Llenyn)]] yn gefnder iddo.<ref>Gwefan Roots Chat, ymholiad am Stanley Haydn Williams, [https://www.rootschat.com/forum/index.php?topic=309837.9], cyrchwyd 12.04.2022</ref>
Llinell 12: Llinell 20:


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==


[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith]]
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith]]
[[Categori:Gwestai]]
[[Categori:Gwestai]]

Fersiwn yn ôl 11:52, 13 Ebrill 2022

Saif Meillionydd ym mhentref Y Fron, ychydig is na’r hen ysgol sydd bellach yn ganolfan gymdeithasol a thŷ Plas Colley, ar y lôn sydd yn arwain at ben uchaf Chwarel Pen-yr-orsedd.

Meillionydd oedd un o dai mwyaf sylweddol y pentref pan y’i codwyd rywbryd tua 1850, ac yn breswylfod digon addas ar gyfer William Ellis Williams (1812-1874) oedd yn byw yno gyda’i deulu ym 1861. Roedd o’n asiant Chwarel Cilgwyn. Adeg y Cyfrifiad ym 1861, roedd o’n 49 oed, a’i wraig Catherine (1813 - 1891). Roedd ganddynt chwech o blant, tri mab a thair merch, a’r hynaf yn 20 oed ac yn gweithio fel chwarelwr. Ymhen deng mlynedd, a’r teulu dal i fyw yno, roedd y tad wedi’i ddyrchafu’n rheolwr y chwarel, a’r mab hynaf, Robert, a’r ail fab, Henry, ill dau wedi cael hen swydd eu tad fel asiantwyr y chwarel - ac yr un oedd y sefyllfa ym Meillionydd ym 1871 hefyd. Erbyn 1881, William (mab arall William Ellis Williams), a fu am gyfnod yn Awstralia, oedd yn byw yno, gyda’i wraig Elisabeth a chwech o blant. Roedd y William hwn yn asiant chwarel hefyd, a’r teulu’n ddigon cefnog i gadw morwyn ifanc, Jane Hughes. Ym 1891, roedd y teulu’n dal yno a William wedi ei ddyrchafu’n rheolwr y chwarel - ond nid oedd y teulu’n cadw morwyn bellach. Ym 1901, tri o blant y teulu oedd yn cael eu rhestr gan y cyfrifiad fel y rhai a oedd yno ar noson y cyfrif: Kate, 32 oed ac yn ysgolfeistres; Jeannette, a William H. Williams, ill dau’n 15 oed. Dichon fod eu mam i ffwrdd ar y pryd, gan ei bod hi, sef Elisabeth Williams (yn weddw erbyn hynny) yno ym 1911, ac yn cael ei disgrifio fel ffarmwraig. Dim ond un o’i phlant oedd yn dal adref, sef William Henry, ac yntau’n ddi-briod ac yn gweithio mewn chwarel fel pwyswr llechi - sef swydd gymharol gyfrifol. Ymddengys felly fod Meillionydd wedi bod yn gartref i un teulu o’r cychwyn hyd 1911 o leiaf.[1]

Bu dwy o ferched Ellis a Catherine Williams yn byw yn yr Aifft am nifer o flynyddoedd.Priododd un o’u merched – Catherine (Kate) Williams (1857-1921) ag Edward Davies Bryan yn 1891. Roedd brodyr Edward, John a Joseph, yn gwerthwyr dillad yng Nghaernarfon (Siop Brodyr Bryan - 12, Y Bont Bridd) ond roeddynt yn hanu o ardal Llanarmon-yn-Iâl, Sir Ddinbych. Yn 1888 mudodd Edward at ei frawd Joseph oedd wedi sefydlu siop yng Nghairo ac yno aeth Kate wedi ei phriodas gan ddychwelyd i Gymru ar gyfer genedigaeth eu hunig ferch Olwen yn 1895. Bu chwaer ieuengaf dibriod, Ellen Williams (1860-1928), yn byw gyda Kate ac Edward yn yr Aifft am rhan fywaf o’i hoes. Y chwaer hon a gadwai ‘Siop yr Aifft’ ar Stryd Llyn, Caernarfon </ref>.

Erbyn diwedd yr 1890au a dechrau’r ugienfed ganrif roedd y Brodyr Davies Bryan yr Aifft yn enwog ymysg y Cymry am eu croeso cynnes ac ymwelodd nifer o bobl amlwg y cyfnod â’r teulu gan gynnwys yr aelod senneddol Tom Ellis a'r bardd T. Gwynn Jones. Gyda llwyddiant y busnes yn yr Aifft adeilwyd tŷ mawr moethus ym mhorthladd Alexandria o’r enw ‘Hafod’ a fu'n noddfa i sawl milwr yn ystod y Rhyfel Byd Gyntaf. Ymwelydd cyson yno oedd y bardd a’r cerddor Robert Bryan, brawd arall i Edward, arferai dreuliuo’r gaeafau yn yr Aifft oherywdd ei iechyd bregus. (Bu Robert Bryan yn dysgu yn ysgol Talysarn am gyfnod fer ond rhoddod y gorau i'w swydd oherywdd gwaeledd).

Bu farw Kate yn yr Hafod, Alexandria yn 1921 a fe’i chladdwyd yn y mynwent Brotestanaidd Chatby yno ond mae cofeb iddi ar waelod y bedd teuluol ym Mynwent Eglwys Sant Thomas Groeslon (ochr ddeheuol y fynwent gyda obelisg a reiliau haearn) gyda chwpled o waith ei brawd yng nhyfraith Robert Bryan.

</ref> 'O gamddwr i Gairo: Hanes y Brodyr Davies Bryan (1851- 1935)', Siân Wyn Jones, Llyfrau’r Bont, 2004.</ref>

Gor-ŵyr i William Ellis Williams oedd y Parch. Stanley H. Williams (1910-1992) a ymddeolodd i Lys Twrog, Y Fron, nid nepell o hen gartref y teulu. Roedd Thomas Elwyn Griffiths (Llenyn) yn gefnder iddo.[2]

Wedi i deulu Williams adael yr eiddo, credir fod dyn a fasnachai fel cigydd, Thomas Roberts, oedd yn byw yno cyn symud yn ddiweddarach i gadw busnes ym Mryn Afon, Rhostryfan gyda'i fab-yng-nghyfraith, Thomas Orr.[3]

Erbyn hyn, mae adeiladau Meillionydd wedi’u troi’n fythynnod haf a osodir i ymwelwyr ers sawl blwyddyn ond yn y 1980au a 1990au, bu’n westy llwyddiannus ac yn gyrchfan i gymdeithasau ar gyfer pryd allan.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiadau plwyf Llandwrog, 1861-1911
  2. Gwefan Roots Chat, ymholiad am Stanley Haydn Williams, [1], cyrchwyd 12.04.2022
  3. W. Gilbert Williams, Moel Tryfan i'r Traeth, (Cyhoeddiadau Mei, 1983), tt.91-97.