Yr Eifl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
==Yr Eifl== | ==Yr Eifl== | ||
Yr Eifl yw'r tri mynydd gosgeiddig sy'n ffurfio ffin ddeheuol cwmwd Uwchgwyrfai â chwmwd Dinllaen. Maent hefyd yn ffin rhwng cantref Arfon a chantref Llŷn. Ystyr yr enw yw dwy afl (dau fwlch) sydd i'w gweld rhwng y mynyddoedd. Yr enw unigol yw 'gafl' a'r lluosog yw 'gaflau'. Ond yn achos yr Eifl, defnyddir 'geifl' sef y gair deuol - gair am DDAU neu DDWY yn unig. | Yr Eifl yw'r tri mynydd gosgeiddig sy'n ffurfio ffin ddeheuol cwmwd Uwchgwyrfai â chwmwd Dinllaen. Maent hefyd yn ffin rhwng cantref Arfon a chantref Llŷn. Ystyr yr enw yw dwy afl (dau fwlch) sydd i'w gweld rhwng y mynyddoedd. Yr enw unigol yw 'gafl' a'r lluosog yw 'gaflau'. Ond yn achos yr Eifl, defnyddir 'geifl' sef y gair deuol - gair am DDAU neu DDWY yn unig. | ||
==Garnfor== | ==Garnfor== | ||
'Garn' a 'môr' yw'r ddwy elfen geir yn yr enw hwn. Dywedwyd gan un llenor fod y mynydd hwn "â'i ben yn y cymylau a'i draed yn yr heli". Mae godre'r mynydd yn plymio'n glogwyn serth i'r môr fel Trwyn y Gorlech (ar fap) neu'r Fraich Las (ar lafar). Yr enw llafar ar Garnfor yw [[Mynydd Gwaith]], oherwydd mai ar lethrau gogleddol y mynydd mae [[Chwarel yr Eifl]], chwarel ithfaen fwya'r byd yn ei hanterth. Agorwyd y chwarel gyntaf yn y 1840au ar Graig y Farchas, yn sawdl y mynydd. Chwarel dwy bonc yn unig oedd hon. | 'Garn' a 'môr' yw'r ddwy elfen geir yn yr enw hwn. Dywedwyd gan un llenor fod y mynydd hwn "â'i ben yn y cymylau a'i draed yn yr heli". Mae godre'r mynydd yn plymio'n glogwyn serth i'r môr fel [[Trwyn y Gorlech]] (ar fap) neu'r Fraich Las (ar lafar). Yr enw llafar ar Garnfor yw [[Mynydd Gwaith]], oherwydd mai ar lethrau gogleddol y mynydd mae [[Chwarel yr Eifl]], chwarel ithfaen fwya'r byd yn ei hanterth. Agorwyd y chwarel gyntaf yn y 1840au ar Graig y Farchas, yn sawdl y mynydd. Chwarel dwy bonc yn unig oedd hon. | ||
==Garn Ganol== | ==Garn Ganol== | ||
Llinell 10: | Llinell 11: | ||
==Ceiri== | ==Ceiri== | ||
Mynydd | Mynydd Ceiri yw'r mwyaf dwyreiniol o dri chopa'r Eifl. Ei brif nodwedd yn ddi-os yw'r fryngaer nodedig, [[Tre'r Ceiri]], sydd ar ei gopa lled wastad. Mae'r fryngaer hon yn un o'r enghreifftiau gorau o fryngaer Geltaidd o'r Oes Haearn (tua 500CC i 300OC) yng ngwledydd Prydain ac mae muriau'r tai crynion a siâp-D (tua 150 ohonynt i gyd) sydd o fewn y gaer, yn ogystal â'r rhagfur uchel sy'n ei hamgylchynu, mewn cyflwr arbennig o dda. Ceir mwy o fanylion yn yr erthygl ar Dre'r Ceiri yn Cof y Cwmwd. | ||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Fersiwn yn ôl 09:25, 11 Ebrill 2022
Mynyddoedd Yr Eifl yw ffin ddeheuol Cwmwd Uwchgwyrfai. Mae enwau unigol a nodweddion arbennig i'r tri mynydd:
Yr Eifl
Yr Eifl yw'r tri mynydd gosgeiddig sy'n ffurfio ffin ddeheuol cwmwd Uwchgwyrfai â chwmwd Dinllaen. Maent hefyd yn ffin rhwng cantref Arfon a chantref Llŷn. Ystyr yr enw yw dwy afl (dau fwlch) sydd i'w gweld rhwng y mynyddoedd. Yr enw unigol yw 'gafl' a'r lluosog yw 'gaflau'. Ond yn achos yr Eifl, defnyddir 'geifl' sef y gair deuol - gair am DDAU neu DDWY yn unig.
Garnfor
'Garn' a 'môr' yw'r ddwy elfen geir yn yr enw hwn. Dywedwyd gan un llenor fod y mynydd hwn "â'i ben yn y cymylau a'i draed yn yr heli". Mae godre'r mynydd yn plymio'n glogwyn serth i'r môr fel Trwyn y Gorlech (ar fap) neu'r Fraich Las (ar lafar). Yr enw llafar ar Garnfor yw Mynydd Gwaith, oherwydd mai ar lethrau gogleddol y mynydd mae Chwarel yr Eifl, chwarel ithfaen fwya'r byd yn ei hanterth. Agorwyd y chwarel gyntaf yn y 1840au ar Graig y Farchas, yn sawdl y mynydd. Chwarel dwy bonc yn unig oedd hon.
Garn Ganol
Hwn yw'r uchaf o'r tri chopa, yn mesur uchder o 561 metr (1841 troedfedd). Enwau eraill arno yw Marchog a Mynydd Canol. Ar ei ochr ogleddol gwelir braich yn ymestyn o wyneb y mynydd - Braich y Cwm. Enw arall arni yw Trwyn Brân. Ond, meddir, pig sydd gan frân ac nid trwyn! Y dehongliad cywir yw mai cyfeiriad ydi hwn at Bendigeidfran, cawr Y Mabinogi, neu Brân fel y'i gelwid, a bod y Fraich yn edrych fel trwyn y cawr yn torri'r ewyn wrth gerdded am Harlech trwy Fôr Iwerddon. Saif yr Eifl ar gyrion bro'r Mabinogi (yn bennaf ym mhlwyfi Clynnog Fawr, Llandwrog a Llanllyfni), a 'rhywle' ym mhlygion y mynydd mae Ogof yr Ellyllon o ble y cipiwyd y memrwn pwysig gan Cilmin Droed-ddu. Gelwir y nant sy'n llifo o Graig y Cwm i Afon Tâl yn Nant Cilmin, a dywedir fod ôl troed Cilmin i'w weld ar wely'r nant nid nepell o furddun Nant-y-cwm. Ceir yr hanes yn y bennod 'Cipio Cyfoeth' yn llyfr 'Ellyll Hyll a Ballu' gan Mary Hughes, ac a gyhoeddwyd gan Wasg yr Utgorn (Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr) yn Hydref 2008 (tt.1-12).
Ceiri
Mynydd Ceiri yw'r mwyaf dwyreiniol o dri chopa'r Eifl. Ei brif nodwedd yn ddi-os yw'r fryngaer nodedig, Tre'r Ceiri, sydd ar ei gopa lled wastad. Mae'r fryngaer hon yn un o'r enghreifftiau gorau o fryngaer Geltaidd o'r Oes Haearn (tua 500CC i 300OC) yng ngwledydd Prydain ac mae muriau'r tai crynion a siâp-D (tua 150 ohonynt i gyd) sydd o fewn y gaer, yn ogystal â'r rhagfur uchel sy'n ei hamgylchynu, mewn cyflwr arbennig o dda. Ceir mwy o fanylion yn yr erthygl ar Dre'r Ceiri yn Cof y Cwmwd.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma