Braich y Cwm

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Braich y Cwm yn grib, neu esgair, fawr a serth sy'n dod i lawr yn isel o fynydd canol Yr Eifl (y Garn Ganol), gyda dau gwm dwfn bob ochr iddi. Mae dwy ochr y Fraich yn hynod serth gyda llwybr cul a pheryglus ar hyd y grib. Wrth edrych arni o bentref Trefor mae Braich y Cwm yn debyg i drwyn bwaog ar ochr y mynydd. I'r gorllewin o'r Fraich (sef ochr y môr) ceir Craig y Cwm, sydd oddeutu can troedfedd o uchder, ac yn y pant o dan y Graig ceir gweddillion ffermdy Nant y Cwm ac yn is i lawr, bron lle mae'r Fraich yn ymuno â'r caeau mwy gwastad, mae ffermdy Cwm, lle bu melin ddŵr fechan i falu blawd ar un adeg. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd aeth awyren fomio yn erbyn Braich y Cwm mewn niwl a lladdwyd y criw oedd arni.

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau