Melin Faesog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 11: Llinell 11:
<br />Bedd Cynon yn Rheon Ryd.
<br />Bedd Cynon yn Rheon Ryd.


Bu'r felin, wedi iddi beidio â malu, fynd o dipyn i beth yn ddim gwell na murddun, ond yn 1983, fe'i hadferwyd  yn amgueddfa a chyrchfan i dwristiaid. Mae'r sawl oedd yn gyfrifol am y gwaith, Sophia Pari-Jones, wedi gwneud llawer o ymchwil i'r felin ac yn adrodd y stori mewn dau lyfr.<ref>Sophia Pari-Jones, ''Melin Faesog'' cyfieithiwyd a chrynhowyd gan Mair Eluned Pritchard a chyhoeddwyd gan Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai, 2007, a llyfr Saesneg ''Echoes from a Water Wheel'' (hunan-gyhoeddedig, 2011)</ref>.
Aeth y felin, wedi iddi beidio â malu, o dipyn i beth yn ddim gwell na murddun, ond yn 1983, fe'i hadferwyd  yn amgueddfa a chyrchfan i dwristiaid. Mae'r sawl oedd yn gyfrifol am y gwaith, Sophia Pari-Jones, wedi gwneud llawer o ymchwil i'r felin ac wedi adrodd y stori mewn dau lyfr.<ref>Sophia Pari-Jones, ''Melin Faesog'' cyfieithiwyd a chrynhowyd gan Mair Eluned Pritchard a chyhoeddwyd gan Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai, 2007, a llyfr Saesneg ''Echoes from a Water Wheel'' (hunan-gyhoeddedig, 2011)</ref>.


Ceir y cofnod cyntaf o'r felin mor gynnar â 1682<ref>idem. t.10</ref> Mae'n debyg ei bod yn rhan o'r un pecyn o eiddo â fferm [[Bachwen]], gan y ddwy ym mherchnogaeth John Rowlands o Nant, Betws Garmon. Ym 1724, £6 y flwyddyn oedd rhent y felin. O 1741 hyd 1806, y melinydd oedd [[Robert Price, Melin Faesog]], un o sylfaenwyr ac adeiladwyr capel cyntaf [[Capel Uchaf (MC), Clynnog Fawr]]. Erbyn 1841, William Williams oedd y melinydd, ac ym 1865, Emanuel Evans oedd tenant y felin, ynghyd â 5 acer o dir. Owen Jones oedd y perchennog.<ref>Llyfr rhenti plwyf Clynnog Fawr, 1865</ref>
Ceir y cofnod cyntaf o'r felin mor gynnar â 1682<ref>idem. t.10</ref>. Mae'n debyg ei bod yn rhan o'r un pecyn o eiddo â fferm [[Bachwen]], gan fod y ddwy ym mherchnogaeth John Rowlands o Nant, Betws Garmon. Ym 1724, £6 y flwyddyn oedd rhent y felin. O 1741 hyd 1806, y melinydd oedd [[Robert Price, Melin Faesog]], un o sylfaenwyr ac adeiladwyr capel cyntaf [[Capel Uchaf (MC), Clynnog Fawr]]. Erbyn 1841, William Williams oedd y melinydd, ac ym 1865, Emanuel Evans oedd tenant y felin, ynghyd â 5 acer o dir. Owen Jones oedd y perchennog.<ref>Llyfr rhenti plwyf Clynnog Fawr, 1865</ref>





Fersiwn yn ôl 19:02, 17 Mawrth 2022

Y mae hanes hir i'r felin ŷd a adwaenir fel Melin Faesog (neu "Felin-faesog") sydd yn sefyll ar lan Afon Desach ger treflan Tai Lôn ym mhlwyf Clynnog Fawr. Heb fod ymhell llifa afonig Afon Rheon i Afon Desach. Dŵr o lyn a gronnid ar yr afonig honno fyddai'n troi olwyn y felin. Ceir rhai cyfeiriadau llenyddol at afon Rheon. Dyfynnir dau waith sy'n ei chynnwys gan Eben Fardd yn Cyff Beuno y tybir eu bod yn perthyn i'r nawfed a'r ddegfed ganrif:


Yn y ddêl Kadwaladr i Gynnadl Rhyd Rheon,
Kynon yn erbyn cychwyn ar Saeson,
Kymry a orfydd, kain fydd e dragon
Kaffant pawb ei deithi llawen fi Brython,
Kaintor cyrn elwch kathl heddwch a hinon.


Bedd Rhun mab Pŷd yn Ergyd
Afon, yn oerfel yng ngweryd,
Bedd Cynon yn Rheon Ryd.

Aeth y felin, wedi iddi beidio â malu, o dipyn i beth yn ddim gwell na murddun, ond yn 1983, fe'i hadferwyd yn amgueddfa a chyrchfan i dwristiaid. Mae'r sawl oedd yn gyfrifol am y gwaith, Sophia Pari-Jones, wedi gwneud llawer o ymchwil i'r felin ac wedi adrodd y stori mewn dau lyfr.[1].

Ceir y cofnod cyntaf o'r felin mor gynnar â 1682[2]. Mae'n debyg ei bod yn rhan o'r un pecyn o eiddo â fferm Bachwen, gan fod y ddwy ym mherchnogaeth John Rowlands o Nant, Betws Garmon. Ym 1724, £6 y flwyddyn oedd rhent y felin. O 1741 hyd 1806, y melinydd oedd Robert Price, Melin Faesog, un o sylfaenwyr ac adeiladwyr capel cyntaf Capel Uchaf (MC), Clynnog Fawr. Erbyn 1841, William Williams oedd y melinydd, ac ym 1865, Emanuel Evans oedd tenant y felin, ynghyd â 5 acer o dir. Owen Jones oedd y perchennog.[3]


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Sophia Pari-Jones, Melin Faesog cyfieithiwyd a chrynhowyd gan Mair Eluned Pritchard a chyhoeddwyd gan Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai, 2007, a llyfr Saesneg Echoes from a Water Wheel (hunan-gyhoeddedig, 2011)
  2. idem. t.10
  3. Llyfr rhenti plwyf Clynnog Fawr, 1865