Gadlys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Fferm ym mhlwyf Llanwnda yw]r '''Gadlys'''. Fe saif ar godiad tir rhwng Glan-rhyd a [[Rhos-isaf], (SH48055798). Ystyr yr enw, mae'n debyg, yw ''am...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Fferm ym mhlwyf [[Llanwnda]] yw]r '''Gadlys'''. Fe saif ar godiad tir rhwng [[Glan-rhyd]] a [[Rhos-isaf], (SH48055798). Ystyr yr enw, mae'n debyg, yw ''amddiffynfa llys''. Mae'r enw a'i leoliad, ar dir uwch tua thri-chwarter milltir o safle [[Hen Gastell]] yn awgrymu y gallai fod cysylltiad rhwng y ddau le yn y canol oesoedd, er nad oes tystiolaeth ddogfennol ar gael.
Fferm ym mhlwyf [[Llanwnda]] yw'r '''Gadlys'''. Fe saif ar godiad tir rhwng [[Glan-rhyd]] a [[Rhos-isaf], (SH48055798). Ystyr yr enw, mae'n debyg, yw ''amddiffynfa llys''. Mae'r enw a'i leoliad, ar dir uwch tua thri-chwarter milltir o safle [[Hen Gastell]], yn awgrymu y gallai fod cysylltiad wedi bod rhwng y ddau le yn y canol oesoedd, er nad oes tystiolaeth ddogfennol ar gael.


Mae adeiladau'r fferm wedi eu codi y tu fewn i glawdd amddiffynnol o ryw fath, tua 80 llath ar draws, gyda waliau tua 12 troedfedd o uchder ar y tu allan, er bod y tir y tu mewn wedi ei godi, o bosibl, fel nad yw ond llathen o dan uchder y wal neu glawdd.
Mae adeiladau'r fferm wedi eu codi y tu fewn i glawdd amddiffynnol o ryw fath, tua 80 llath ar draws, gyda waliau tua 12 troedfedd o uchder ar y tu allan, er bod y tir y tu mewn wedi ei godi, o bosibl, fel nad yw ond llathen o dan uchder pen y wal neu glawdd.


Dyma oedd
Dyma'r fan lle ganwyd [[William Bifan y Gadlys]], bardd gwlad a chymeriad, ym 1730.
 
==Ffynonellau==
* Williams, W. Gilbert ''Hen Gymeriadau Llanwnda'', Cymru, 1902 (Cyf. 23).
* Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, ''Caernarvonshire'', Cyf.2, (1960), t.225.

Fersiwn yn ôl 11:13, 11 Rhagfyr 2017

Fferm ym mhlwyf Llanwnda yw'r Gadlys. Fe saif ar godiad tir rhwng Glan-rhyd a [[Rhos-isaf], (SH48055798). Ystyr yr enw, mae'n debyg, yw amddiffynfa llys. Mae'r enw a'i leoliad, ar dir uwch tua thri-chwarter milltir o safle Hen Gastell, yn awgrymu y gallai fod cysylltiad wedi bod rhwng y ddau le yn y canol oesoedd, er nad oes tystiolaeth ddogfennol ar gael.

Mae adeiladau'r fferm wedi eu codi y tu fewn i glawdd amddiffynnol o ryw fath, tua 80 llath ar draws, gyda waliau tua 12 troedfedd o uchder ar y tu allan, er bod y tir y tu mewn wedi ei godi, o bosibl, fel nad yw ond llathen o dan uchder pen y wal neu glawdd.

Dyma'r fan lle ganwyd William Bifan y Gadlys, bardd gwlad a chymeriad, ym 1730.

Ffynonellau

  • Williams, W. Gilbert Hen Gymeriadau Llanwnda, Cymru, 1902 (Cyf. 23).
  • Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf.2, (1960), t.225.