Robat Arwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ganwyd '''Robat Arwyn''', y cyfansoddwr, ym mhentref Tal-y-sarn ym 1959. Bu'n ddisgybl yn Ysgol Tal-y-sarn ac Ysgol Dyffryn Nantlle cyn cyn id...'
 
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 16: Llinell 16:


Bydd yn teithio led led Cymru yn cynnal nosweithiau ''Y Gair Tu Ôl i'r Gân'', sy'n gyfuniad o sgwrs a chyngerdd. Yn ystod y nosweithiau bydd yn perfformio nifer o'i ganeuon adnabyddus, gan gynnwys ''Yfory'', ''Anfonaf Angel'' a ''Benedictus''.<ref>Seiliwyd yr erthygl hon ar Wefam Robat Arwyn, [http://www.robatarwyn.co.uk/index.htm]; Gwefan Curiad, [https://curiad.co.uk/cy/nodwedd/composer/robat-arwyn/]; Wicipedia, [https://cy.wikipedia.org/wiki/Robat_Arwyn]; a'r Wikipedia Saesneg, [https://en.wikipedia.org/wiki/Robat_Arwyn]; i gyd wedi'u cyrchu 24.01.2021</ref>
Bydd yn teithio led led Cymru yn cynnal nosweithiau ''Y Gair Tu Ôl i'r Gân'', sy'n gyfuniad o sgwrs a chyngerdd. Yn ystod y nosweithiau bydd yn perfformio nifer o'i ganeuon adnabyddus, gan gynnwys ''Yfory'', ''Anfonaf Angel'' a ''Benedictus''.<ref>Seiliwyd yr erthygl hon ar Wefam Robat Arwyn, [http://www.robatarwyn.co.uk/index.htm]; Gwefan Curiad, [https://curiad.co.uk/cy/nodwedd/composer/robat-arwyn/]; Wicipedia, [https://cy.wikipedia.org/wiki/Robat_Arwyn]; a'r Wikipedia Saesneg, [https://en.wikipedia.org/wiki/Robat_Arwyn]; i gyd wedi'u cyrchu 24.01.2021</ref>
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Cerddorion]]
[[Categori:Cantorion]]
[[Categori:Cyfansoddwyr]]
[[Categori:Pobl]]

Fersiwn yn ôl 13:26, 24 Ionawr 2021

Ganwyd Robat Arwyn, y cyfansoddwr, ym mhentref Tal-y-sarn ym 1959. Bu'n ddisgybl yn Ysgol Tal-y-sarn ac Ysgol Dyffryn Nantlle cyn cyn iddo raddio mewn Cerddoriaeth yng Nghaerdydd ym 1980 an ennill Diploma mewn Llyfrgellyddiaeth o Goleg Llyfrgellwyr Aberystwyth y flwyddyn ganlynol. Treiliodd ei holl yrfa fel llyfrgellydd yn Sir Ddinbych, gan ddiweddu ei yrfa fel pennaeth y gwasanaethau diwylliannol yno. Er gwaethaf ei bryusurdeb a'i lwyddiant yn ei ddewis broffesiwn, mae wedi cyfansoddi llawer iawn o gerddoriaeth yn bennaf ar gyfer corau ac unawdwyr. Ymysg ei gyfansoddiadau y mae rhai o ganeuon mwyaf poblogaidd Cymru, megis Benedictus ac Anfonaf Angel. Y mae wedi cydweithredu gyda nifer o feirdd, gan gynnwys Robin Llwyd ab Owain a Mererid Hopwood, gan osod eu geiriau i gerddoriaeth. Mae'n dal i fyw yn Rhuthun. Mae o'n briod gyda dau o blant.

Mae'n aelod o Gôr Rhuthun ers 1981, ac yn cyfeilio i'r côr a chyfansoddi ar ei gyfer ers 1987. Wedi marwolaeth Morfydd Vaughan Evans, sefydlydd ac arweinydd y côr, yn 2007, cymerodd Arwyn yr awenau.

Bu hefyd yn aelod o Trisgell rhwng 1982 ac 1995. Triawd a ffurfiodd gyda dau ffrind oedd yn canu wrth ei ochr yn rhengoedd y baswyr yng Nghôr Rhuthun, sef Arwyn Vaughan a Llion Wyn.

Cyhoeddodd Robat Arwyn 13 cyfrol o ganeuon, nifer o ddarnau corawl unigol a naw sioe gerdd, gan gynnwys Er Mwyn Yfory, Plas Du a Hwn yw fy Mrawd. Fo a Robin Llyd ab Owain oedd yn gyfrifol am opera roc Ceidwad y Gannwyll a berfformiwyd yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl, 1985.

Dros y blynyddoedd mae wedi cael ei gomisiynu gan yr Eisteddfod Genedlaethol, Urdd Gobaith Cymru, Radio Cymru a Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru, yn ogystal â Chôr Meibion Cymry Llundain, Bois y Castell, Côr Seiriol ac eraill. Mae Ysgol Dyffryn Nantlle wedi comisiynu sawl darn ganddo dros y blynyddoedd, yn cynnwys Cerdded hyd y Llethrau ym 1998 i ddathlu canmlwyddiant yr ysgol; ac Anfonaf Angel ym 2008, a berfformiwyd am y tro cyntaf mewn cyngerdd yr ysgol yn Galeri, Caernarfon, gyda Bryn Terfel (cyn-ddisgybl arall yr ysgol) fel unawdydd.

Atgof o'r Sêr oedd gwaith comisiwn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych 2001 ac fe'i ysgrifennwyd ar gyfer Bryn Terfel, Fflur Wyn a Chôr Rhuthun. Yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri 2005 perfformiwyd Er Hwylio'r Haul, gwaith comisiwn ar gyfer Bryn Terfel, Mari Wyn Williams a Chôr Ieuenctid yr Eisteddfod.

Cafodd Benedictus, ei gyfansoddiad mwyaf llwyddiannus yn rhyngwladol,(allan o Er hwylio’r haul) ei recordio’n wreiddiol gan Bryn Terfel a Rhys Meirion, cyn i The Priests o Iwerddon ei chynnwys ar eu halbwm glasurol gyntaf yn 2008. Cyrhaeddodd honno Rhif 1 yn Iwerddon a Norwy, y 10 Uchaf yn y Ffindir, Seland Newydd, Sbaen, y Deyrnas Unedig, Denmarc, Gwlad Belg a Sweden, yn ogystal â dal ei gafael ar y Rhif 1 yn Siart Clasurol y Billboard yn yr Unol Daleithiau am 23 wythnos.

Mae ei gomisiynau diweddar yn cynnwys Hanes creu popeth yn y byd!, geiriau gan Mererid Hopwood. Gwaith comisiwn gan Ŵyl Gerdd Gogledd Cymru ar gyfer Côr Rhuthun, Côr Cytgan Clwyd a Chôr Ysgol Pen Barras; Pan fo geiriau wedi gorffen ar gyfer John Ieuan Jones; a Lle mae llais yn cyffwrdd lleisiau, cân gomisiwn gan Gôr Cymry America. Ym 2014, cyfansoddodd Dy Hanner Di o'r Byd ar gyfer Côr Cofnod, y mae llawer o'r aelodau'n dod o Uwchgwyrfai, gyda geiriau gan y bardd o Ben-y-groes, Karen Owen.

Bydd yn teithio led led Cymru yn cynnal nosweithiau Y Gair Tu Ôl i'r Gân, sy'n gyfuniad o sgwrs a chyngerdd. Yn ystod y nosweithiau bydd yn perfformio nifer o'i ganeuon adnabyddus, gan gynnwys Yfory, Anfonaf Angel a Benedictus.[1]

Cyfeiriadau

  1. Seiliwyd yr erthygl hon ar Wefam Robat Arwyn, [1]; Gwefan Curiad, [2]; Wicipedia, [3]; a'r Wikipedia Saesneg, [4]; i gyd wedi'u cyrchu 24.01.2021