Eithinog (trefgordd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Eithinog''' oedd un o ddwy drefgordd plwyf Llanllyfni. Roedd ei ffiniau'n fras rhwng Afon Llyfni i'r gorllewin o'r eglwys hyd at ffiniau plwyfi...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 3: Llinell 3:
Cyn ffurfio plwyfi yn y 16g., Eithinog oedd y rhaniad gweinyddol yn y Canol Oesoedd, ac yno ceid [[Melin Eithinog]], melin yr arglwydd lleol - ac ar ôl 1284, melin tywysog Gogledd Cymru. I'r felin honno y gorfodid tenantiaid yr arglwydd dros ardal helaeth o [[Uwchgwyrfai]] i fynd â'u grawn i gael ei falu, yn ol [[Stent Uwchgwyrfai 1352]] a dogfennau eraill.
Cyn ffurfio plwyfi yn y 16g., Eithinog oedd y rhaniad gweinyddol yn y Canol Oesoedd, ac yno ceid [[Melin Eithinog]], melin yr arglwydd lleol - ac ar ôl 1284, melin tywysog Gogledd Cymru. I'r felin honno y gorfodid tenantiaid yr arglwydd dros ardal helaeth o [[Uwchgwyrfai]] i fynd â'u grawn i gael ei falu, yn ol [[Stent Uwchgwyrfai 1352]] a dogfennau eraill.


Mae Stent 1352, sef rhywbeth tebyg i Lyfr Domesday yn Lloegr, yn rhestru daliadau tir, tenantiaid a'r trethi a dyletswyddau a oedd arnynt. Lladin oedd y ddogfen wreiddiol, ac fe gyhoeddwyd ym 1838 dan deitl [[Record of Carnarvon]]. Isod, ceir cyfiethiad gweddol rydd o'r Lladin wreiddiol i'r Gymraeg:
Mae Stent 1352, sef rhywbeth tebyg i Lyfr Domesday yn Lloegr, yn rhestru daliadau tir, tenantiaid a'r trethi a dyletswyddau a oedd arnynt. Lladin oedd y ddogfen wreiddiol, ac fe gyhoeddwyd ym 1838 dan deitl [[Record of Caernarvon]]. Isod, ceir cyfiethiad gweddol rydd o'r Lladin wreiddiol i'r Gymraeg:

Fersiwn yn ôl 11:53, 17 Ionawr 2021

Eithinog oedd un o ddwy drefgordd plwyf Llanllyfni. Roedd ei ffiniau'n fras rhwng Afon Llyfni i'r gorllewin o'r eglwys hyd at ffiniau plwyfi Clynnog-fawr a Llandwrog. Hyd heddiw, ceir tair fferm yn rhannu'r enw Eithinog yn y darn hwnnw o blwyf Llanllyfni.

Cyn ffurfio plwyfi yn y 16g., Eithinog oedd y rhaniad gweinyddol yn y Canol Oesoedd, ac yno ceid Melin Eithinog, melin yr arglwydd lleol - ac ar ôl 1284, melin tywysog Gogledd Cymru. I'r felin honno y gorfodid tenantiaid yr arglwydd dros ardal helaeth o Uwchgwyrfai i fynd â'u grawn i gael ei falu, yn ol Stent Uwchgwyrfai 1352 a dogfennau eraill.

Mae Stent 1352, sef rhywbeth tebyg i Lyfr Domesday yn Lloegr, yn rhestru daliadau tir, tenantiaid a'r trethi a dyletswyddau a oedd arnynt. Lladin oedd y ddogfen wreiddiol, ac fe gyhoeddwyd ym 1838 dan deitl Record of Caernarvon. Isod, ceir cyfiethiad gweddol rydd o'r Lladin wreiddiol i'r Gymraeg: