Plas Nantlle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
Dichon fod Plas Nantlle'n sefyll ar safle [[Llys Baladeulyn]], a oedd yn llys uchelwyr yn amser Llywelyn Fawr, ac a feddiannwyd gan y brenin Iorwerth I ym 1284. Tŷ neuadd pren fyddai adeilad o'r cyfnod hwnnw'n ôl pob tebyg, a buan y byddai'n mynd yn adfail wedi i'r teulu wreiddiol farw neu gael eu symud oddi yno. Yr oedd y tir oedd yn gysylltiedig â Llys Baladeulyn yn debygol o fod wedi ymestyn ar draws ardal eang o [[Dyffryn Nantlle|Ddyffryn Nantlle]], yn cynnwys y llethrau lle datblygwyd [[Chwarel Pen-yr-orsedd]] ymhen rhai canrifoedd. Tua 1356 neu'n fuan wedyn, fe roddwyd chwe "carucate", neu oddeutu 720 erw o dir, yn wobr i un o ddisgynyddion [[Ystrwyth ab Ednowain]], sef [[Tudur ap Goronwy]], am ei wasanaeth yn ymladd yn erbyn Ffrainc ym myddin Lloegr, lle arweiniodd, meddid, 12000 o filwyr Cymreig - er bod y nifer hwnnw, mae'n debyg, yn or-ddweud sylweddol. ar ei ystâd newydd fe gododd dŷ newydd yn ol pob sôn,sef Plas Nantlle. | Dichon fod Plas Nantlle'n sefyll ar safle [[Llys Baladeulyn]], a oedd yn llys uchelwyr yn amser Llywelyn Fawr, ac a feddiannwyd gan y brenin Iorwerth I ym 1284. Tŷ neuadd pren fyddai adeilad o'r cyfnod hwnnw'n ôl pob tebyg, a buan y byddai'n mynd yn adfail wedi i'r teulu wreiddiol farw neu gael eu symud oddi yno. Yr oedd y tir oedd yn gysylltiedig â Llys Baladeulyn yn debygol o fod wedi ymestyn ar draws ardal eang o [[Dyffryn Nantlle|Ddyffryn Nantlle]], yn cynnwys y llethrau lle datblygwyd [[Chwarel Pen-yr-orsedd]] ymhen rhai canrifoedd. Tua 1356 neu'n fuan wedyn, fe roddwyd chwe "carucate", neu oddeutu 720 erw o dir, yn wobr i un o ddisgynyddion [[Ystrwyth ab Ednowain]], sef [[Tudur ap Goronwy]], am ei wasanaeth yn ymladd yn erbyn Ffrainc ym myddin Lloegr, lle arweiniodd, meddid, 12000 o filwyr Cymreig - er bod y nifer hwnnw, mae'n debyg, yn or-ddweud sylweddol. ar ei ystâd newydd fe gododd dŷ newydd yn ol pob sôn,sef Plas Nantlle. | ||
Roedd Tudur ap Goronwy wedi priodi Morfudd ferch Hywel a oedd, fel yntau, yn ddisgynnydd i [[Cilmyn Droed-ddu|Gilmyn Droed Ddu]], ac felly roedd tiroedd Nantlle a thiroedd [[Glynllifon]] wedi'u huno. Parhaodd yn un eiddo tan 1509 pan rannwyd yr ystâd rhwng dau etifedd Robert ap Maredudd o Lynllifon a chafodd Rhisiart ap Robert Nantlle a thiroedd lle codwyd [[Plas Newydd]] sydd bellach o fewn [[Wal Glynllifon]]. Yr oedd y ty erbyn hyn yn gant a hanner oed, ac yr oedd symudiad gan y dosbarth bonheddig yn ystod yr 16g. i godi tai newydd modern nad oeddynt yn amddiffynfeydd i raddau nac yn dilyn hen batrwm agored y tŷ neuadd. Wedi i William ab Rhisiart, ei fab etifeddu'r eiddo, aeth ati i godi tŷ newydd yn unol â ffasiwn yr oes yn lle'r hen blas. Mae archwiliadau cylchoedd tyfu'r coed sydd yn nho'r adeilad yn awgrymu dyddiad rhwng 1536 1 1556,<ref>J. Dilwyn Williams, ''Tŷ Mawr'', adroddiad gan Brosiect Ddendrochronoleg Gogledd-orllewin Cymru, 2012, t.3 [http://orapweb.rcahms.gov.uk/coflein//D/DCP2013_045_01.pdf]</ref> ac mae hyn yn dangos fod y tŷ wedi ei godi ynghanol y ganrif honno. | Roedd Tudur ap Goronwy wedi priodi Morfudd ferch Hywel a oedd, fel yntau, yn ddisgynnydd i [[Cilmyn Droed-ddu|Gilmyn Droed Ddu]], ac felly roedd tiroedd Nantlle a thiroedd [[Glynllifon]] wedi'u huno. Parhaodd yn un eiddo tan 1509 pan rannwyd yr ystâd rhwng dau etifedd Robert ap Maredudd o Lynllifon a chafodd Rhisiart ap Robert Nantlle a thiroedd lle codwyd [[Plas Newydd]] sydd bellach o fewn [[Wal Glynllifon]]. Yr oedd y ty erbyn hyn yn gant a hanner oed, ac yr oedd symudiad gan y dosbarth bonheddig yn ystod yr 16g. i godi tai newydd modern nad oeddynt yn amddiffynfeydd i raddau nac yn dilyn hen batrwm agored y tŷ neuadd. Wedi i William ab Rhisiart, ei fab etifeddu'r eiddo, aeth ati i godi tŷ newydd yn unol â ffasiwn yr oes yn lle'r hen blas. Mae archwiliadau cylchoedd tyfu'r coed sydd yn nho'r adeilad yn awgrymu dyddiad rhwng 1536 1 1556,<ref>J. Dilwyn Williams, ''Tŷ Mawr'', adroddiad gan Brosiect Ddendrochronoleg Gogledd-orllewin Cymru, 2012, t.3 [http://orapweb.rcahms.gov.uk/coflein//D/DCP2013_045_01.pdf]</ref> ac mae hyn yn dangos fod y tŷ wedi ei godi ynghanol y ganrif honno. Mae'r prif strwythur yn para hyd heddiw, er bod ychwanegiadau megis feranda yn rhai modern. Mae'r trefniadau y tu fewn wedi newid yn llwyr gyda pharedau newydd ac ym y blaen. Yr oedd yn dŷ deulawr o'r cychwyn, gyda grisiau cerrig yn codi wrth ochr aelwyd fawr yn y poen gogleddol. Mae tri phâr o gyplau gwreiddiol yn dal y to, sydd yn fodern.<ref>Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.184. Nid yw'r llyfr hwn yn cydnabod pwysigrwydd nac arwyddocâd y safle na'r adeilad yn hanes y cwmwd.</ref> | ||
Roedd plant y genhedlaeth nesaf wedi mabwysiadu'r cyfenw Glyn neu Glynn, gyda Thomas Glynn, ysw., yn etifeddu'r ystad a'r tŷ ar ôl ei dad. Bu i rai o'r teulu'n byw ym Mhlas Nantlle o leiaf hyd nes i Henry Glynn o Nantlle farw ym 1672.<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llandwrog, XPE/24/1</ref> Yr oedd aelodau eraill o'r teulu, ac efallai y gangen bwysicaf, wedi bod yn byw ym Mhlas Newydd, tŷ mwy cyfleus ger i briffordd o Bwllheli i Gaearnarfon, ers bron i ganrif a Mae J. Dilwyn Williams yn awgrymu mai yma 1672 yr ymadawodd y teulu'n derfynnol fel annedd iddynt eu hunai, gan fod tenant o grefftwr yno, sef John ap Huw Robert, teiliwr, yn marw yn Mhlas Nantlle dair blynedd yn ddiweddarach.<ref>J. Dilwyn Williams, ''Tŷ Mawr'', adroddiad gan Brosiect Ddendrochronoleg Gogledd-orllewin Cymru, 2012, t.4 [http://orapweb.rcahms.gov.uk/coflein//D/DCP2013_045_01.pdf]</ref> | Roedd plant y genhedlaeth nesaf wedi mabwysiadu'r cyfenw Glyn neu Glynn, gyda Thomas Glynn, ysw., yn etifeddu'r ystad a'r tŷ ar ôl ei dad. Bu i rai o'r teulu'n byw ym Mhlas Nantlle o leiaf hyd nes i Henry Glynn o Nantlle farw ym 1672.<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llandwrog, XPE/24/1</ref> Yr oedd aelodau eraill o'r teulu, ac efallai y gangen bwysicaf, wedi bod yn byw ym Mhlas Newydd, tŷ mwy cyfleus ger i briffordd o Bwllheli i Gaearnarfon, ers bron i ganrif a Mae J. Dilwyn Williams yn awgrymu mai yma 1672 yr ymadawodd y teulu'n derfynnol fel annedd iddynt eu hunai, gan fod tenant o grefftwr yno, sef John ap Huw Robert, teiliwr, yn marw yn Mhlas Nantlle dair blynedd yn ddiweddarach.<ref>J. Dilwyn Williams, ''Tŷ Mawr'', adroddiad gan Brosiect Ddendrochronoleg Gogledd-orllewin Cymru, 2012, t.4 [http://orapweb.rcahms.gov.uk/coflein//D/DCP2013_045_01.pdf]</ref> | ||
Fersiwn yn ôl 12:23, 8 Ionawr 2021
Mae Plas Nantlle a elwir heddiw yn "Tŷ Mawr" hefyd wedi cael ei alw'n Blas yn Nantlle, Tŷ Mawr Nantlle neu hyd yn oed Nantlle yn ystod y saith ganrif ers iddo gael ei godi'n wreiddiol. Heddiw mae o'n un o'r plastai hynaf a mwyaf diddorol yn Uwchgwyrfai er nad yw'n gyfarwydd i lawer, gan ei fod yn parhau'n dŷ preifat ac yn gymharol ddi-nod o'r ffordd. Saif i'r chwith o'r ffordd B4418 wrth i honno droi i'r dde i gyfeiriad Drws-y-coed yng nghanol pentref Nantlle. Y Plas, yn wir, sydd wedi rhoi'r enw i'r pentref, gan mai terasau o dai ar dir oedd yn eiddo i'r Plas yw'r rhan fwyaf o dai'r pentref, na ddaeth i fodolaeth tan ail hanner y 19g.
Mae enw Nantlle ei hun yn debygol o fod yn hŷn na'r tŷ cyntaf ar y safle, fel disgrifiad o'r ardal, sef Nant = Dyffryn (fel yn enw Nant Gwytheyrn) ac wedyn Lleu, y ffigwr mytholegol - er mod rhai wedi ceisio ei ddehongli fel Nantllynnau, gan fod dau lyn yno.[1]
Dichon fod Plas Nantlle'n sefyll ar safle Llys Baladeulyn, a oedd yn llys uchelwyr yn amser Llywelyn Fawr, ac a feddiannwyd gan y brenin Iorwerth I ym 1284. Tŷ neuadd pren fyddai adeilad o'r cyfnod hwnnw'n ôl pob tebyg, a buan y byddai'n mynd yn adfail wedi i'r teulu wreiddiol farw neu gael eu symud oddi yno. Yr oedd y tir oedd yn gysylltiedig â Llys Baladeulyn yn debygol o fod wedi ymestyn ar draws ardal eang o Ddyffryn Nantlle, yn cynnwys y llethrau lle datblygwyd Chwarel Pen-yr-orsedd ymhen rhai canrifoedd. Tua 1356 neu'n fuan wedyn, fe roddwyd chwe "carucate", neu oddeutu 720 erw o dir, yn wobr i un o ddisgynyddion Ystrwyth ab Ednowain, sef Tudur ap Goronwy, am ei wasanaeth yn ymladd yn erbyn Ffrainc ym myddin Lloegr, lle arweiniodd, meddid, 12000 o filwyr Cymreig - er bod y nifer hwnnw, mae'n debyg, yn or-ddweud sylweddol. ar ei ystâd newydd fe gododd dŷ newydd yn ol pob sôn,sef Plas Nantlle.
Roedd Tudur ap Goronwy wedi priodi Morfudd ferch Hywel a oedd, fel yntau, yn ddisgynnydd i Gilmyn Droed Ddu, ac felly roedd tiroedd Nantlle a thiroedd Glynllifon wedi'u huno. Parhaodd yn un eiddo tan 1509 pan rannwyd yr ystâd rhwng dau etifedd Robert ap Maredudd o Lynllifon a chafodd Rhisiart ap Robert Nantlle a thiroedd lle codwyd Plas Newydd sydd bellach o fewn Wal Glynllifon. Yr oedd y ty erbyn hyn yn gant a hanner oed, ac yr oedd symudiad gan y dosbarth bonheddig yn ystod yr 16g. i godi tai newydd modern nad oeddynt yn amddiffynfeydd i raddau nac yn dilyn hen batrwm agored y tŷ neuadd. Wedi i William ab Rhisiart, ei fab etifeddu'r eiddo, aeth ati i godi tŷ newydd yn unol â ffasiwn yr oes yn lle'r hen blas. Mae archwiliadau cylchoedd tyfu'r coed sydd yn nho'r adeilad yn awgrymu dyddiad rhwng 1536 1 1556,[2] ac mae hyn yn dangos fod y tŷ wedi ei godi ynghanol y ganrif honno. Mae'r prif strwythur yn para hyd heddiw, er bod ychwanegiadau megis feranda yn rhai modern. Mae'r trefniadau y tu fewn wedi newid yn llwyr gyda pharedau newydd ac ym y blaen. Yr oedd yn dŷ deulawr o'r cychwyn, gyda grisiau cerrig yn codi wrth ochr aelwyd fawr yn y poen gogleddol. Mae tri phâr o gyplau gwreiddiol yn dal y to, sydd yn fodern.[3]
Roedd plant y genhedlaeth nesaf wedi mabwysiadu'r cyfenw Glyn neu Glynn, gyda Thomas Glynn, ysw., yn etifeddu'r ystad a'r tŷ ar ôl ei dad. Bu i rai o'r teulu'n byw ym Mhlas Nantlle o leiaf hyd nes i Henry Glynn o Nantlle farw ym 1672.[4] Yr oedd aelodau eraill o'r teulu, ac efallai y gangen bwysicaf, wedi bod yn byw ym Mhlas Newydd, tŷ mwy cyfleus ger i briffordd o Bwllheli i Gaearnarfon, ers bron i ganrif a Mae J. Dilwyn Williams yn awgrymu mai yma 1672 yr ymadawodd y teulu'n derfynnol fel annedd iddynt eu hunai, gan fod tenant o grefftwr yno, sef John ap Huw Robert, teiliwr, yn marw yn Mhlas Nantlle dair blynedd yn ddiweddarach.[5]
Cyfeiriadau
- ↑ Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd (Caernarfon, 2011), tt.205-7
- ↑ J. Dilwyn Williams, Tŷ Mawr, adroddiad gan Brosiect Ddendrochronoleg Gogledd-orllewin Cymru, 2012, t.3 [1]
- ↑ Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.184. Nid yw'r llyfr hwn yn cydnabod pwysigrwydd nac arwyddocâd y safle na'r adeilad yn hanes y cwmwd.
- ↑ Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llandwrog, XPE/24/1
- ↑ J. Dilwyn Williams, Tŷ Mawr, adroddiad gan Brosiect Ddendrochronoleg Gogledd-orllewin Cymru, 2012, t.4 [2]