Bwlch Siwncwl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Hebog (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Hebog (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Bwlch Siwncwl''' yw enw'r bwlch rhwng [[Mynydd Ceiri]] a Mynydd Carnguwch rhwng pentrefi [[Llanaelhaearn]] a Llithfaen. Mae'n un o'r bylchau sy'n arwain o [[Arfon]] i gantref Llŷn ac ni ddylid cymysgu rhyngddo â [[Bwlch yr Eifl]], sy'n nes i'r môr a rhwng copa canol [[Yr Eifl|yr Eifl]] ([[Garn Ganol]]) a'r copa agosaf i'r môr (sef [[ | '''Bwlch Siwncwl''' yw enw'r bwlch rhwng [[Mynydd Ceiri]] a Mynydd Carnguwch rhwng pentrefi [[Llanaelhaearn]] a Llithfaen. Mae'n un o'r bylchau sy'n arwain o [[Arfon]] i gantref Llŷn ac ni ddylid cymysgu rhyngddo â [[Bwlch yr Eifl]], sy'n nes i'r môr a rhwng copa canol [[Yr Eifl|yr Eifl]] ([[Garn Ganol]]) a'r copa agosaf i'r môr (sef [[Garnfor|Garn Fôr]] neu Mynydd y Gwaith). Yn draddodiadol roedd llwybr y pererinion o [[Clynnog-fawr|Glynnog]] i Enlli yn mynd dros Fwlch yr Eifl (fel y mae [[Llwybr Arfordir Cymru]] heddiw), ond mae'n bosib iawn bod llawer o'r pererinion hefyd yn mynd drwy Fwlch Siwncwl ar ôl ymweld ag [[Eglwys Sant Aelhaearn, Llanaelhaearn|Eglwys Aelhaearn]] a [[Ffynnon Aelhaearn]]. Yn un peth mae Bwlch Siwncwl yn llawer is a mwy hygyrch na Bwlch yr Eifl. Erbyn hyn mae ffordd y B4417 o Lanaelhaearn i Lithfaen ac ymlaen i gyfeiriad Nefyn ym mynd drwy Fwlch Siwncwl. Yn syth ar ôl mynd drwy ran uchaf, a chulaf y bwlch, lle mae llechweddau'r Ceiri a Charnguwch yn dod i lawr at y ffordd, gwelir ffordd fach i'r chwith oddi ar y B4417. Mae'n werth troi i mewn i'r fan honno ac aros am ychydig (mae mainc yno i eistedd arni hefyd) oherwydd ceir golygfa ysblennydd o wlad Llŷn yn ei chyfanrwydd bron o'r fan honno. | ||
Golygiad diweddaraf yn ôl 18:18, 6 Ionawr 2021
Bwlch Siwncwl yw enw'r bwlch rhwng Mynydd Ceiri a Mynydd Carnguwch rhwng pentrefi Llanaelhaearn a Llithfaen. Mae'n un o'r bylchau sy'n arwain o Arfon i gantref Llŷn ac ni ddylid cymysgu rhyngddo â Bwlch yr Eifl, sy'n nes i'r môr a rhwng copa canol yr Eifl (Garn Ganol) a'r copa agosaf i'r môr (sef Garn Fôr neu Mynydd y Gwaith). Yn draddodiadol roedd llwybr y pererinion o Glynnog i Enlli yn mynd dros Fwlch yr Eifl (fel y mae Llwybr Arfordir Cymru heddiw), ond mae'n bosib iawn bod llawer o'r pererinion hefyd yn mynd drwy Fwlch Siwncwl ar ôl ymweld ag Eglwys Aelhaearn a Ffynnon Aelhaearn. Yn un peth mae Bwlch Siwncwl yn llawer is a mwy hygyrch na Bwlch yr Eifl. Erbyn hyn mae ffordd y B4417 o Lanaelhaearn i Lithfaen ac ymlaen i gyfeiriad Nefyn ym mynd drwy Fwlch Siwncwl. Yn syth ar ôl mynd drwy ran uchaf, a chulaf y bwlch, lle mae llechweddau'r Ceiri a Charnguwch yn dod i lawr at y ffordd, gwelir ffordd fach i'r chwith oddi ar y B4417. Mae'n werth troi i mewn i'r fan honno ac aros am ychydig (mae mainc yno i eistedd arni hefyd) oherwydd ceir golygfa ysblennydd o wlad Llŷn yn ei chyfanrwydd bron o'r fan honno.