Ellen Glynn, Bryn Gwydion: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
B Symudodd Heulfryn y dudalen Ellen Glynn, Bryngwydion i Ellen Glynn, Bryn Gwydion
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Ellen Glynn''' (marw o gwmpas 1753) yn ferch Richard Glynne ab William Glynne o Fryn Gwydion, ger [[Pontlyfni]]. Er bod ganddi dri brawd, goroesodd Ellen y tri ohonynt, gan etifeddu ystad Bryn Gwydion, sef rhan o hen ystad [[Plas Newydd]]. Credir i Ellen Glynne werthu llawer o’i hystâd, sef [[Eithinog Wen]], er mwyn sefydlu elusendai ar gyfer merched bonheddig a oedd mewn sefyllfa anffodus, megis diffyg arian neu oedd ag angen edrych ar eu hôl. Y mai’r adeilad a elwir yn [[Tai Elen Glynn|''Tai Elen Glyn'']] yn sefyll hyd heddiw yn [[Llandwrog]].
Roedd '''Ellen Glynn''' (bu farw, mae'n debyg, ar ddechrau 1733) yn ferch Richard Glynne ab William Glynne o Fryn Gwydion, ger [[Pontlyfni]]. Er bod ganddi dri brawd, goroesodd Ellen y tri ohonynt, gan etifeddu ystad [[Bryn Gwydion]]
, sef rhan o hen ystad [[Plas Newydd]]. Roedd hi hefyd wedi etifeddu tiroedd Dol y Moch (ger ffestiniog) a thiroedd yng Nghricieth a Phenmorfa, rhan o ystâd Clenennau. Bu farw, mae'n debyg, yn ddibriod, ac iddi yn ei hewyllys ddyddiedig 31 Mawrth 1727, adael rhan helaeth o’i hystâd, sef rhannau o [[Eithinog Wen]] a thir Plas Newydd, er mwyn adeiladu elusendai ar gyfer deuddeg o ferched bonheddig a oedd mewn sefyllfa anffodus, megis diffyg arian neu oedd ag angen edrych ar eu hôl.<ref>J. Jones (Llanllyfni), ''Carn y Gewach'', yn ''Y Brython'', 16 Gorffennaf 1858, t.89</ref> Yn ei geiriau hi, roedd y preswylwyr i fod yn "merched bonheddig dibriod ac bregus ("decayed" yn y gwreiddiol) ac yn hŷn na 50 mlwydd oed" ac roedd blaeoriaeth i'w rhoi i ferched oedd yn perthyn i'w theulu.<ref>''A to Z of Westminster Abbey'', Gwefan Abaty San Steffan, [https://www.westminster-abbey.org/abbey-commemorations/commemorations/ellen-glynne], cyrchwyd 31.12.2020</ref>


Roedd Ellen Glynn yn ddisgynnydd i deulu Plas Newydd ac felly yn gyfnither o bell i deulu [[Teulu Glyn (Glynllifon)|Glynllifon]], ond ni ddylid ei chymysgu gyda Ellen Glynn, un o ferched [[John Glynn (yr olaf)]] a farwodd yn ddibriod ym 1711.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), tt. 30, 172-3, 266</ref>
Mae'n ymddangos iddi gael ei chladdu yn Abaty San Steffan, 25 Ionawr 1733, yn nhistfedd y Cadlywydd George Monck, er nad yw'r rheswm am hyn yn amlwg. Gadawodd weddill ei ystad i'r Foneddiges Gertrude Hotham, Catherine Jones a Margaret Lloyd.<ref>''A to Z of Westminster Abbey'', Gwefan Abaty San Steffan, [https://www.westminster-abbey.org/abbey-commemorations/commemorations/ellen-glynne], cyrchwyd 31.12.2020. Dalier sylw: mae llawer o'r ffeithgiau eraill amdani ar y wefan yn anghywir, gan fod yr awdur wedi ei chymysgu gyda Ellen Glynn, merch John Glynn, a fu farw ym 1711.</ref>
 
Y mai’r adeilad a elwir yn [[Tai Elen Glynn|''Tai Elen Glyn'']] yn sefyll hyd heddiw yn [[Llandwrog]], ond nid hwnnw yw'r elusendai gwreiddiol, er eu bod ar yr un safle.
 
Roedd Ellen Glynn yn ddisgynnydd i deulu Plas Newydd ac felly yn gyfnither o bell i deulu [[Teulu Glyn (Glynllifon)|Glynllifon]], ond ni ddylid ei chymysgu gyda Ellen Glynn, un o ferched [[John Glynn (yr olaf)]] a farwodd yn ddibriod ym 1711 - fel y dywedir uchod.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), tt. 30, 172-3, 266. Mae peth amwysedd, fodd bynnag, ynglŷn adyddiadau a chyfenwau teulu [[Elernion]] Bryn Gwydion, a bydd angen mwy o ymchwil i ddeall y berthynas rhyngddynt yn iawn.</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 20:24, 31 Rhagfyr 2020

Roedd Ellen Glynn (bu farw, mae'n debyg, ar ddechrau 1733) yn ferch Richard Glynne ab William Glynne o Fryn Gwydion, ger Pontlyfni. Er bod ganddi dri brawd, goroesodd Ellen y tri ohonynt, gan etifeddu ystad Bryn Gwydion , sef rhan o hen ystad Plas Newydd. Roedd hi hefyd wedi etifeddu tiroedd Dol y Moch (ger ffestiniog) a thiroedd yng Nghricieth a Phenmorfa, rhan o ystâd Clenennau. Bu farw, mae'n debyg, yn ddibriod, ac iddi yn ei hewyllys ddyddiedig 31 Mawrth 1727, adael rhan helaeth o’i hystâd, sef rhannau o Eithinog Wen a thir Plas Newydd, er mwyn adeiladu elusendai ar gyfer deuddeg o ferched bonheddig a oedd mewn sefyllfa anffodus, megis diffyg arian neu oedd ag angen edrych ar eu hôl.[1] Yn ei geiriau hi, roedd y preswylwyr i fod yn "merched bonheddig dibriod ac bregus ("decayed" yn y gwreiddiol) ac yn hŷn na 50 mlwydd oed" ac roedd blaeoriaeth i'w rhoi i ferched oedd yn perthyn i'w theulu.[2]

Mae'n ymddangos iddi gael ei chladdu yn Abaty San Steffan, 25 Ionawr 1733, yn nhistfedd y Cadlywydd George Monck, er nad yw'r rheswm am hyn yn amlwg. Gadawodd weddill ei ystad i'r Foneddiges Gertrude Hotham, Catherine Jones a Margaret Lloyd.[3]

Y mai’r adeilad a elwir yn Tai Elen Glyn yn sefyll hyd heddiw yn Llandwrog, ond nid hwnnw yw'r elusendai gwreiddiol, er eu bod ar yr un safle.

Roedd Ellen Glynn yn ddisgynnydd i deulu Plas Newydd ac felly yn gyfnither o bell i deulu Glynllifon, ond ni ddylid ei chymysgu gyda Ellen Glynn, un o ferched John Glynn (yr olaf) a farwodd yn ddibriod ym 1711 - fel y dywedir uchod.[4]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. J. Jones (Llanllyfni), Carn y Gewach, yn Y Brython, 16 Gorffennaf 1858, t.89
  2. A to Z of Westminster Abbey, Gwefan Abaty San Steffan, [1], cyrchwyd 31.12.2020
  3. A to Z of Westminster Abbey, Gwefan Abaty San Steffan, [2], cyrchwyd 31.12.2020. Dalier sylw: mae llawer o'r ffeithgiau eraill amdani ar y wefan yn anghywir, gan fod yr awdur wedi ei chymysgu gyda Ellen Glynn, merch John Glynn, a fu farw ym 1711.
  4. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt. 30, 172-3, 266. Mae peth amwysedd, fodd bynnag, ynglŷn adyddiadau a chyfenwau teulu Elernion Bryn Gwydion, a bydd angen mwy o ymchwil i ddeall y berthynas rhyngddynt yn iawn.