Ellen Glynn, Bryn Gwydion: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
B Symudodd Heulfryn y dudalen Ellen Glynn, Bryngwydion i Ellen Glynn, Bryn Gwydion
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 18:43, 30 Rhagfyr 2020

Roedd Ellen Glynn (marw o gwmpas 1753) yn ferch Richard Glynne ab William Glynne o Fryn Gwydion, ger Pontlyfni. Er bod ganddi dri brawd, goroesodd Ellen y tri ohonynt, gan etifeddu ystad Bryn Gwydion, sef rhan o hen ystad Plas Newydd. Credir i Ellen Glynne werthu llawer o’i hystâd, sef Eithinog Wen, er mwyn sefydlu elusendai ar gyfer merched bonheddig a oedd mewn sefyllfa anffodus, megis diffyg arian neu oedd ag angen edrych ar eu hôl. Y mai’r adeilad a elwir yn Tai Elen Glyn yn sefyll hyd heddiw yn Llandwrog.

Roedd Ellen Glynn yn ddisgynnydd i deulu Plas Newydd ac felly yn gyfnither o bell i deulu Glynllifon, ond ni ddylid ei chymysgu gyda Ellen Glynn, un o ferched John Glynn (yr olaf) a farwodd yn ddibriod ym 1711.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt. 30, 172-3, 266