Pedwaredd Gainc y Mabinogi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Mae cysylltiadau amlwg iawn rhwng nifer o fannau yng nghwmwd Uwchgwyrfai a Phedwaredd Gainc y Mabinogi, sef chwedl Math fab Mathonwy. |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae cysylltiadau amlwg iawn rhwng nifer o fannau yng nghwmwd Uwchgwyrfai a Phedwaredd Gainc y Mabinogi, sef chwedl Math fab Mathonwy. Does ryfedd mewn gwirionedd i Alun Llywelyn-Williams yn ei glasur o gyfrol, ''Crwydro Arfon'' roi "Dyffryn Nantlle a Thraethau'r Mabinogi" yn is-deitl i'w bennod ar Uwchgwyrfai. | Mae cysylltiadau amlwg iawn rhwng nifer o fannau yng nghwmwd [[Uwchgwyrfai]] a '''Phedwaredd Gainc y Mabinogi''', sef chwedl [[Math fab Mathonwy]]. Does ryfedd mewn gwirionedd i Alun Llywelyn-Williams yn ei glasur o gyfrol, ''[[Crwydro Arfon]]'' roi "Dyffryn Nantlle a Thraethau'r Mabinogi" yn is-deitl i'w bennod ar Uwchgwyrfai. | ||
Mae Dyffryn Nantlle'n llawn o gyfaredd enwau a digwyddiadau o'r Bedwaredd Gainc. Dyma hen gynefin cymeriadau allweddol yn stori Math - duwiau Celtaidd yn ymgnawdoli gan adael eu henwau ar fryn a chaer a dôl. Rhoddodd arwr mawr y bedwaredd gainc, Lleu Llaw Gyffes, ei enw ei hun ar Ddyffryn Nantlle. Yno y daeth ar ffurf eryr clwyfedig i lochesu yn yr hen dderwen ar y ddôl ar ôl iddo gael ei drywanu yn Ardudwy gan waywffon wenwynig Gronw Pebr, arglwydd Penllyn, a hudwyd i anffyddlondeb gan Flodeuwedd, gwraig ddigydwybod Lleu. Ac yntau ar drengi, cafodd y dewin Gwydion (ei ewythr) hyd iddo a'i adfer i'w ffurf ddynol ac i'w lawn iechyd, er nad oedd ond croen ac asgwrn pan ddaeth i lawr o'r dderwen. Roedd Lleu (Lugh yn chwedloniaeth Iwerddon) yn dduw'r haul neu oleuni yr hen Geltiaid; "yr un disglair" yw ystyr ei enw. Dethlid gŵyl wedi ei chysegru iddo - y Lughnasad - ar y cyntaf o Awst, a chysylltir ei enw â nifer o drefi ledled Ewrop, megis Luguvalium (enw Lladin Caerliwelydd | Mae [[ Dyffryn Nantlle]]'n llawn o gyfaredd enwau a digwyddiadau o'r Bedwaredd Gainc. Dyma hen gynefin cymeriadau allweddol yn stori Math - duwiau Celtaidd yn ymgnawdoli gan adael eu henwau ar fryn a chaer a dôl. Rhoddodd arwr mawr y bedwaredd gainc, [[Lleu Llaw Gyffes]], ei enw ei hun ar Ddyffryn Nantlle. Yno y daeth ar ffurf eryr clwyfedig i lochesu yn yr hen dderwen ar y ddôl ar ôl iddo gael ei drywanu yn Ardudwy gan waywffon wenwynig Gronw Pebr, arglwydd Penllyn, a hudwyd i anffyddlondeb gan Flodeuwedd, gwraig ddigydwybod Lleu. Ac yntau ar drengi, cafodd y dewin Gwydion (ei ewythr) hyd iddo a'i adfer i'w ffurf ddynol ac i'w lawn iechyd, er nad oedd ond croen ac asgwrn pan ddaeth i lawr o'r dderwen. Roedd Lleu (Lugh yn chwedloniaeth Iwerddon) yn dduw'r haul neu oleuni yr hen Geltiaid; "yr un disglair" yw ystyr ei enw. Dethlid gŵyl wedi ei chysegru iddo - y Lughnasad - ar y cyntaf o Awst, a chysylltir ei enw â nifer o drefi ledled Ewrop, megis Luguvalium (enw Lladin Caerliwelydd) a Lugdunum (Lyon) yn Ffrainc. Un o'r dyffryn yma hefyd oedd y forwyn Goewin yr oedd y brenin Math yn cadw ei draed yn ei chôl, nes iddi gael ei threisio gan Gilfaethwy, brawd y dewin Gwydion. Roedd Goewin yn ferch i Pebin, a oedd yn berchen ar [[Dôl Bebin|Ddôl Pebin]] yn [[Tal-y-sarn|Nhal-y-sarn]] a'r gwartheg rhyfeddol a borai arni. Y ddôl hon a anfarwolwyd gan [[R. Williams Parry]] yn ei gerdd rymus "Y ddôl a aeth o'r golwg", lle mae'n disgrifio fel y "Daeth chwydfa'r [[Gloddfa Glai]]" i guddio'r "ddôl ddihalog" honno. Ond er gwaethaf creithiau'r diwydiant llechi, roedd yna ffermdy o'r enw Dôl Pebin ar y safle tan ganol yr ugeinfed ganrif. | ||
Wrth symud i lawr o Ddyffryn Nantlle i gyfeiriad y môr mae lliaws o enwau wedyn sy'n gysylltiedig â'r Bedwaredd Gainc. Ceir fferm Bryn Gwydion ger | Wrth symud i lawr o Ddyffryn Nantlle i gyfeiriad y môr mae lliaws o enwau wedyn sy'n gysylltiedig â'r Bedwaredd Gainc. Ceir fferm [[Bryn Gwydion]] ger [[Afon Llyfni]]. Cyfeirir wedyn yn y chwedl at Faenor Bennardd (sef [[Pennarth]] ger [[Aberdesach]]) ac at Faenor Coed Alun ar gyrion Caernarfon. Rywle rhwng y maenorydd hyn yn ôl y stori y bu'r frwydr fawr rhwng gŵyr Gwynedd a gŵyr y De, ar ôl i Gwydion trwy dwyll ac ystryw ladrata moch Pryderi fab Pwyll, arglwydd Dyfed. Ymgiliodd byddin y de i gyfeiriad [[Nancall]] a bu gwrthdaro pellach yn Nolbenmaen, nes o'r diwedd i Gwydion ymladd yn bersonol yn erbyn Pryderi yn y Felen Ryd ger Maentwrog, a'i ladd. | ||
Ac fel yr awgryma teitl pennod Alun Llywelyn-Williams, mae'r traethau hefyd wedi'u britho â chysylltiadau â'r chwedl ryfeddol yma. Yma wrth gwrs y ceir Dinas Dinlleu, caer Lleu, sy'n enghraifft odidog o fryngaer Geltaidd, er bod rhannau helaeth ohoni wedi syrthio i'r môr bellach o ganlyniad i rym erydiad ar hyd yr arfordir hwn. Ychydig i'r gorllewin wedyn i gyfeiriad Clynnog Fawr roedd Caer Arianrhod y chwedl. Yno y trigai Arianrhod, chwaer Gwydion a Gilfaethwy, a wrthododd roi nag enw, arfau na gwraig i'w mab, Lleu, er i Gwydion drwy ei hud a lledrith lwyddo i'w chael i roi'r tri pheth iddo yn y diwedd - gan gynnwys y wraig Blodeuwedd, a oedd er ei holl harddwch heb unrhyw gydwybod. Ar drai mawr gellir gweld meini enfawr yn y môr oddi ar yr arfordir, ac maent wedi eu henwi fel Caer Arianrhod o hyd ar fap yr Arolwg Ordnans, er y credir mai ffenomen naturiol yn hytrach na gwaith dynol ydynt. Wrth fynd ymlaen wedyn at Aberdesach deuir at Faen Dylan, sydd eto â chysylltiad â'r chwedl, gan ei fod wedi'i enwi ar ôl Dylan Eil Don, un arall o blant Arianrhod, a oedd yn gallu nofio fel pysgodyn unwaith y daeth i gysylltiad â dŵr y môr. | Ac fel yr awgryma teitl pennod Alun Llywelyn-Williams, mae'r traethau hefyd wedi'u britho â chysylltiadau â'r chwedl ryfeddol yma. Yma wrth gwrs y ceir [[Dinas Dinlle|Dinas Dinlleu]], caer Lleu, sy'n enghraifft odidog o fryngaer Geltaidd, er bod rhannau helaeth ohoni wedi syrthio i'r môr bellach o ganlyniad i rym erydiad ar hyd yr arfordir hwn. Ychydig i'r gorllewin wedyn i gyfeiriad [[Clynnog Fawr]] roedd [[Caer Arianrhod]] y chwedl. Yno y trigai Arianrhod, chwaer Gwydion a Gilfaethwy, a wrthododd roi nag enw, arfau na gwraig i'w mab, Lleu, er i Gwydion drwy ei hud a lledrith lwyddo i'w chael i roi'r tri pheth iddo yn y diwedd - gan gynnwys y wraig Blodeuwedd, a oedd er ei holl harddwch heb unrhyw gydwybod. Ar drai mawr gellir gweld meini enfawr yn y môr oddi ar yr arfordir, ac maent wedi eu henwi fel Caer Arianrhod o hyd ar fap yr Arolwg Ordnans, er y credir mai ffenomen naturiol yn hytrach na gwaith dynol ydynt. Wrth fynd ymlaen wedyn at Aberdesach deuir at [[Maen Dylan|Faen Dylan]], sydd eto â chysylltiad â'r chwedl, gan ei fod wedi'i enwi ar ôl Dylan Eil Don, un arall o blant Arianrhod, a oedd yn gallu nofio fel pysgodyn unwaith y daeth i gysylltiad â dŵr y môr. | ||
== Cyfeiriadau == | == Cyfeiriadau == | ||
Alun Llywelyn-Williams, ''Crwydro Arfon'', (Llyfrau'r Dryw, 1959), tt.173-93. | Alun Llywelyn-Williams, ''Crwydro Arfon'', (Llyfrau'r Dryw, 1959), tt.173-93. | ||
Ifor Williams, ''Pedeir Keinc y Mabinogi'', (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1978) | |||
Ifor Williams, ''Pedeir Keinc y Mabinogi'', (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1978) | |||
''Y Mabinogion'', Diweddariad gan Dafydd a Rhiannon Ifans, (Gwasg Gomer, 1980). | ''Y Mabinogion'', Diweddariad gan Dafydd a Rhiannon Ifans, (Gwasg Gomer, 1980). | ||
[[Categori:Chwedloniaeth]] | |||
[[Categori:Llenyddiaeth gynnar]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 17:57, 6 Mai 2022
Mae cysylltiadau amlwg iawn rhwng nifer o fannau yng nghwmwd Uwchgwyrfai a Phedwaredd Gainc y Mabinogi, sef chwedl Math fab Mathonwy. Does ryfedd mewn gwirionedd i Alun Llywelyn-Williams yn ei glasur o gyfrol, Crwydro Arfon roi "Dyffryn Nantlle a Thraethau'r Mabinogi" yn is-deitl i'w bennod ar Uwchgwyrfai.
Mae Dyffryn Nantlle'n llawn o gyfaredd enwau a digwyddiadau o'r Bedwaredd Gainc. Dyma hen gynefin cymeriadau allweddol yn stori Math - duwiau Celtaidd yn ymgnawdoli gan adael eu henwau ar fryn a chaer a dôl. Rhoddodd arwr mawr y bedwaredd gainc, Lleu Llaw Gyffes, ei enw ei hun ar Ddyffryn Nantlle. Yno y daeth ar ffurf eryr clwyfedig i lochesu yn yr hen dderwen ar y ddôl ar ôl iddo gael ei drywanu yn Ardudwy gan waywffon wenwynig Gronw Pebr, arglwydd Penllyn, a hudwyd i anffyddlondeb gan Flodeuwedd, gwraig ddigydwybod Lleu. Ac yntau ar drengi, cafodd y dewin Gwydion (ei ewythr) hyd iddo a'i adfer i'w ffurf ddynol ac i'w lawn iechyd, er nad oedd ond croen ac asgwrn pan ddaeth i lawr o'r dderwen. Roedd Lleu (Lugh yn chwedloniaeth Iwerddon) yn dduw'r haul neu oleuni yr hen Geltiaid; "yr un disglair" yw ystyr ei enw. Dethlid gŵyl wedi ei chysegru iddo - y Lughnasad - ar y cyntaf o Awst, a chysylltir ei enw â nifer o drefi ledled Ewrop, megis Luguvalium (enw Lladin Caerliwelydd) a Lugdunum (Lyon) yn Ffrainc. Un o'r dyffryn yma hefyd oedd y forwyn Goewin yr oedd y brenin Math yn cadw ei draed yn ei chôl, nes iddi gael ei threisio gan Gilfaethwy, brawd y dewin Gwydion. Roedd Goewin yn ferch i Pebin, a oedd yn berchen ar Ddôl Pebin yn Nhal-y-sarn a'r gwartheg rhyfeddol a borai arni. Y ddôl hon a anfarwolwyd gan R. Williams Parry yn ei gerdd rymus "Y ddôl a aeth o'r golwg", lle mae'n disgrifio fel y "Daeth chwydfa'r Gloddfa Glai" i guddio'r "ddôl ddihalog" honno. Ond er gwaethaf creithiau'r diwydiant llechi, roedd yna ffermdy o'r enw Dôl Pebin ar y safle tan ganol yr ugeinfed ganrif.
Wrth symud i lawr o Ddyffryn Nantlle i gyfeiriad y môr mae lliaws o enwau wedyn sy'n gysylltiedig â'r Bedwaredd Gainc. Ceir fferm Bryn Gwydion ger Afon Llyfni. Cyfeirir wedyn yn y chwedl at Faenor Bennardd (sef Pennarth ger Aberdesach) ac at Faenor Coed Alun ar gyrion Caernarfon. Rywle rhwng y maenorydd hyn yn ôl y stori y bu'r frwydr fawr rhwng gŵyr Gwynedd a gŵyr y De, ar ôl i Gwydion trwy dwyll ac ystryw ladrata moch Pryderi fab Pwyll, arglwydd Dyfed. Ymgiliodd byddin y de i gyfeiriad Nancall a bu gwrthdaro pellach yn Nolbenmaen, nes o'r diwedd i Gwydion ymladd yn bersonol yn erbyn Pryderi yn y Felen Ryd ger Maentwrog, a'i ladd.
Ac fel yr awgryma teitl pennod Alun Llywelyn-Williams, mae'r traethau hefyd wedi'u britho â chysylltiadau â'r chwedl ryfeddol yma. Yma wrth gwrs y ceir Dinas Dinlleu, caer Lleu, sy'n enghraifft odidog o fryngaer Geltaidd, er bod rhannau helaeth ohoni wedi syrthio i'r môr bellach o ganlyniad i rym erydiad ar hyd yr arfordir hwn. Ychydig i'r gorllewin wedyn i gyfeiriad Clynnog Fawr roedd Caer Arianrhod y chwedl. Yno y trigai Arianrhod, chwaer Gwydion a Gilfaethwy, a wrthododd roi nag enw, arfau na gwraig i'w mab, Lleu, er i Gwydion drwy ei hud a lledrith lwyddo i'w chael i roi'r tri pheth iddo yn y diwedd - gan gynnwys y wraig Blodeuwedd, a oedd er ei holl harddwch heb unrhyw gydwybod. Ar drai mawr gellir gweld meini enfawr yn y môr oddi ar yr arfordir, ac maent wedi eu henwi fel Caer Arianrhod o hyd ar fap yr Arolwg Ordnans, er y credir mai ffenomen naturiol yn hytrach na gwaith dynol ydynt. Wrth fynd ymlaen wedyn at Aberdesach deuir at Faen Dylan, sydd eto â chysylltiad â'r chwedl, gan ei fod wedi'i enwi ar ôl Dylan Eil Don, un arall o blant Arianrhod, a oedd yn gallu nofio fel pysgodyn unwaith y daeth i gysylltiad â dŵr y môr.
Cyfeiriadau
Alun Llywelyn-Williams, Crwydro Arfon, (Llyfrau'r Dryw, 1959), tt.173-93.
Ifor Williams, Pedeir Keinc y Mabinogi, (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1978)
Y Mabinogion, Diweddariad gan Dafydd a Rhiannon Ifans, (Gwasg Gomer, 1980).