Record of Caernarvon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Malan% (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 16 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
'''The Record of Caernarvon''' yw'r enw a roddwyd ar gyfrol o drawsysgrifiadau o ddogfennau sy'n dyddio o'r 14g a 15g ac sydd yn ymwneud â hen dywysogaeth Gwynedd dan ei rheolwyr Seisnig newydd wedi buddugoliaethau Iorwerth I, ac a gyhoeddwyd ym 1838 gan Syr Henry Ellis, Prif Lyfrgellydd yr Amgueddfa Brydeinig.<ref>''Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696.'' (Llundain, 1838)</ref> Efallai y rhan bwysicaf yw'r ''Extentae'', sef Stentau (neu gofrestrau rhenti a dyletswyddau ynghlwm wrth ddaliadaeth o dir), yn cynnwys ''Extenta comites de Caernarvon; facta per Johannem de Delves'' (Stent o Sir Gaernarfon a wnaed gan John de Delves); fe'i wnaed ym 1352. Mae tri neu bedwar o gopïau o'r Stentau hyn, gan gynnwys un ymysg archifau Baron Hill yn Archifdy Prifysgol Bangor. Fodd bynnag, mae cynnwys y gyfrol brintiedig wedi ei chopio oddi wrth llawysgrif yn y Llyfrgell Brydeinig, llsg. Harley 696.
'''The Record of Caernarvon''' yw'r enw a roddwyd ar gyfrol o drawsysgrifiadau o ddogfennau sy'n dyddio o'r 14g a 15g ac sydd yn ymwneud â hen dywysogaeth Gwynedd dan ei rheolwyr Seisnig newydd wedi buddugoliaethau Iorwerth I, ac a gyhoeddwyd ym 1838 gan Syr Henry Ellis, Prif Lyfrgellydd yr Amgueddfa Brydeinig.<ref>''Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696.'' (Llundain, 1838)</ref> Efallai mai'r rhan bwysicaf yw'r ''Extentae'', sef Stentau (neu gofrestrau rhenti a dyletswyddau ynghlwm wrth ddaliadaeth o dir), yn cynnwys ''Extenta comites de Caernarvon; facta per Johannem de Delves'' ([[Stent Uwchgwyrfai 1352|Stent o Sir Gaernarfon]] a wnaed gan John de Delves); fe'i gwnaed ym 1352. Mae tri neu bedwar o gopïau o'r Stentau hyn, gan gynnwys un ymysg archifau Baron Hill yn Archifdy Prifysgol Bangor. Fodd bynnag, mae cynnwys y gyfrol brintiedig wedi ei chopio o lawysgrif yn y Llyfrgell Brydeinig, llsg. Harley 696.


Mae'r cynnwys i gyd (ond am y rhagair ac ambell i ddogfen hwyr) wedi ei ysgrifennu mewn Lladin. Yr arfer ymysg clercod gweinyddol oedd talfyrru'r hyn yr oeddent yn ei ysgrifennu gymaint ag yr oedd modd, er mwyn arbed amser a deunydd drud ysgrifennu, ond y canlyniad yw fod angen deall yr holl arwyddion talfyrru yn ogystal â'r iaith. Heddiw byddai golygydd yn ymestyn y talfyriadau, ond mewn oes mwy academig (ymysg y deallusion) lle 'roedd pawb oedd â lefel weddol dda o addysg yn deall Lladin yn rhwydd.
Mae'r cynnwys i gyd (ond am y rhagair ac ambell i ddogfen hwyr) wedi ei ysgrifennu mewn Lladin. Yr arfer ymysg clercod gweinyddol oedd talfyrru'r hyn yr oeddent yn ei ysgrifennu gymaint ag yr oedd modd, er mwyn arbed amser a deunydd drud ysgrifennu, ond y canlyniad yw fod angen deall yr holl arwyddion talfyrru yn ogystal â'r iaith. Heddiw byddai golygydd yn ymestyn y talfyriadau, ond mewn oes fwy academig (ymysg y deallusion) lle 'roedd pawb oedd â lefel weddol dda o addysg yn deall Lladin yn rhwydd.


Cafodd cyfieithiad i'r Saesneg o Stent Ynys Môn 1352 ei gyhoeddi gan y diweddar Athro A.D. Carr<ref>A.D. Carr, "The Extent of Anglesey, 1352" ''(Trafodion Cymdeithas Hynafiaeithwyr Môn''), (1971-2) tt.150-272</ref> ac mae rhagair a throednodiadau yn y cyfieithaid yn help i ddeall y ddogfen ar gyfer Sir Gaernarfon hefyd. Fodd bynnag, hyd y gwyddys, nid oes cyfiithiad wedi ei wneud o Stent Sir Gaernarfon. Mae'n brosiect gan '''Gof y Cwmwd''' felly i gyhoeddi cyfieithiadau o'r darnau sydd yn ymwneud ag [[Uwchgwyrfai]] o dipyn i beth, gan roi'r cyfieithiadau mewn erthygl gyda'r bennawd [[Stent Uwchgwyrfai 1352]] ac hefyd mewn erthyglau am y trefgorddi unigol (gan fod y Stent yn ymdrin â;r cwmwd trefgordd wrth drefgordd).
Cafodd cyfieithiad i'r Saesneg o Stent Ynys Môn 1352 ei gyhoeddi gan y diweddar Athro A.D. Carr<ref>A.D. Carr, "The Extent of Anglesey, 1352" ''(Trafodion Cymdeithas Hynafiaeithwyr Môn''), (1971-2) tt.150-272</ref> ac mae rhagair a throednodiadau yn y cyfieithiad yn help i ddeall y ddogfen ar gyfer Sir Gaernarfon hefyd. Fodd bynnag, hyd y gwyddys, nid oes cyfieithiad wedi ei wneud o Stent Sir Gaernarfon. Mae'n brosiect gan '''Gof y Cwmwd''' felly i gyhoeddi cyfieithiadau o'r darnau sydd yn ymwneud ag [[Uwchgwyrfai]] o dipyn i beth, gan roi'r cyfieithiadau mewn erthygl gyda'r pennawd [[Stent Uwchgwyrfai 1352]] a hefyd mewn erthyglau am y trefgorddau unigol (gan fod y Stent yn ymdrin â'r cwmwd drefgordd wrth drefgordd).  


===Cyfiethiad o destun Stent 1352===
Yn yr un gyfrol brintiedig mae copïau o ddogfennau eraill o'r un cyfnod sydd yn sôn am ardrethi a dyletswyddau ac mae rhai yn taflu mwy o olau ar y trefniadau yn Uwchgywrfai. Mae '''Cof y Cwmwd''' yn cynnwys cyfieithiadau o'r darnau hyn hefyd, yng nghorff erthyglau [[Y Degwm]], [[Llanwnda (trefgordd)]] ac [[Abaty Aberconwy]] ymysg eraill.
 
'''UWCHGWYRFAI'''
 
Stent o’r Cwmwd hwn a wnaed yng Nghaernarfon o flaen y dywededig ddirprwy [sef John de Delves, dirprwy Richard, Iarll Arundel, ustus yr arglwydd dywysog yng Ngogledd Cymru] ddydd Gwener, Gŵyl y Santes Margaret Forwyn yn y flwyddyn a ysgrifennwyd uchod [17 Gorffennaf 1352], ar lw, a thrwy holi, pob tenant o’r Cwmwd hwn, yn ddynion rhydd ac yn ddynion caeth fel ei gilydd; ac wedyn, wedi ei archwilio gan ddeuddeg dyn rhydd a chyfreithlon o’r Cwmwd hwn oedd ar eu llw, sef:
Llywelyn ap Ednyfed
Hywel ap Iorwerth
Cad’ ap Rhys
Tegwared Moel
Hywel ap Dafydd
Ieuan Teg
Madog ap Einion ap Philip
Tudur Goch
Dafydd ap Iorwerth Kenny
Ieuan Goch
Ednyfed ap Einion
Iorwerth ap Tegwared
 
'''ELERNION'''
 
Mae yn y drefgordd hon un wely o dir rhydd a elwir yn '''Gwely Hoedelew ap Llywarch'''. Ac etifeddion hwnnw yw Hywel ap Dafydd ap Keu’th, Madog Goch ap Einion, Adda Tew a Meredydd ei frawd, Hywel ap Llywelyn, Teg’ ap Hywel ac eraill. A maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 14s. 2¼c.
Cyfanswm blynyddol: 56s. 9c.
Ac mae ganddynt ddwy felin eu hunain yn y drefgordd hon. Ac mae ganddynt ddyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd  lle bo a.y.b. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw , gobrestyn  ac amobr  fel y bo’n ofynnol. Amcangyfrifir bod tair bufedd  o dir siêd  a ddaeth oddi wrth Ieuan ap Eweryth sydd yn aros yn nwylo’r arglwydd. Ac yr oedd arfer dod ag 1c i mewn ym mhob un o’r pedwar tymor adeg y stent diwethaf.
Cyfanswm blynyddol: 4c.
Ac y mae yn y drefgordd hon chwarter ran o fufedd o dir siêd a ddaeth oddi wrth Ieuan Du ap Cad’ sydd yn aros yn nwylo’r arglwydd. Ac yr oedd arfer dod â ½c i mewn ym mhob un o’r pedwar tymor adeg y stent diwethaf.
Cyfanswm blynyddol: 2c.
Ac am y cynnydd mewn rhent a gafwyd trwy ei ailosod gan yr arglwydd ceir rhwng taliadau adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel, 4c.
Cyfanswm blynyddol: 4c.
Ac y mae yn y drefgordd hon barsel o dir a elwir yn Ffridd-yr-aur a alwyd yn y rhôl gyfrifon Tyddyn Newat a Tudur Canwyn’ a’i wraig  sydd y tu fewn i diroedd yr arglwydd ac sydd yn nwylo’r arglwydd o ddiffyg tenant. Ac yr oedd arfer dod â 4s. 2c i mewn ym mhob un o’r pedwar tymor adeg y stent diwethaf.
Cyfanswm blynyddol: 16s.8c.
Ac am y cynnydd mewn rhent a gafwyd trwy ei ailosod gan yr arglwydd ceir rhwng taliadau adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel mewn cyfrannau cyfartal, 9s. 8c.
Cyfanswm blynyddol: 9s. 8c.
Ac mae’r tâl a’r cynnydd yn cael eu codi y trefgordd hon gan ringyll y cwmwd hwn pan fydd yr holl sir yn gwneud hynny. Ac yn yr un drefgordd mae un fufedd o dir caeth y mae Madog ?Fain, taeog yr arglwydd Dywysog, yn ei dal ar ei ben ei hun. A mae’n talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 5c.
Cyfanswm blynyddol: 20c.
Ac mae o’n gwneud yr holl daliadau a gwasanaethau y mae gweddill taeogion yr arglwydd Dywysog yn y cwmwd hwn yn eu gwneud fel y dywedir isod.
 
Cyfanswm y mae’r drefgordd hon yn ei dalu’n flynyddol: £4 5s. 7c.
 
 
'''DINLLE'''
 
Mae yn y drefgordd hon saith gwely o dir rhydd a elwir yn '''Gwely Wyrion Einion, Gwely Wyrion Morgeneu, Gwely Wyrion Rhawd, Gwely Wyrion Ystrwyth, Gwely Wisgiaid, Gwely Hebogothion''' a '''Gwely Bowynied'''.
 
Ac mae Llywelyn ap Ednyfed Gronw ap Tudur ac eraill yn etifeddion '''Gwely Wyrion Einion''' uchod. A maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 6s. 1c.
Cyfanswm blynyddol: 24s. 4c.
Ac mae ganddynt dair felin a elwir Melin Gafelog, Melin Meredydd a Melin Ednyfed. Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y sir a’r cwmwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol.
 
A Hywel ap Iorwerth, Eden ap Einion ac eraill yw etifeddion '''Wely Wyrion Morgeneu''' uchod. A maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 11s. 6½c.
Cyfanswm blynyddol: 42s. 4c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac mae gan denantiaid y gwely hwn eu melin eu hunain a elwir Melin Heilin ac mae’r rhain â dyletswydd mynychu melin arglwydd Eithinog. Y maent yn cadw rhag gwneud hyd nes a.y.b.
 
A Rhys Mynyth, Cad’ ap Rhys ac eraill yw etifeddion '''Wely Wyrion Rhawd''' uchod. A maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 3s. 7c.
Cyfanswm blynyddol: 14s. 4c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac mae rhai yn dweud bod ganddynt eu melin eu hunain a elwir Melin Madog, a rhai’n dweud fel arall. Y maent yn yr un modd yn cadw rhag gwneud hyd nes a.y.b.
 
A Tudur Goch ap Gronw, Ieuan ap Griffith Fychan ac eraill yw etifeddion '''Wely Wyrion Ystrwyth''' uchod. Ac maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 11s. 3½c.
Cyfanswm blynyddol: 45s. 2c.
Ac mae ar bawb o’r Gwely hwn ddyletswydd mynychu melin arglwydd Eithinog. Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac mae chwe bufedd o dir siêd yn ôl amcangyfrif a ddaeth oddi wrth Llywelyn ap Morgant sydd yn awr yn nwylo Tudur Goch trwy siartr ein harglwydd Tywysog presennol. A mae’n talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 14c. sy’n cynwysedig yn y taliad dywededig o 11s. 3½c. Ac am y tir sydd newydd gychwyn cael ei amaethu telir rhwng taliadau adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel, 12c.
Cyfanswm blynyddol: 12c.
 
A Heilin ap Ednyfed, Gronw ap Ednyfed, Gronw a Rhys meibion Iorwerth Crach ac eraill yw etifeddion y gwely uchod a elwir '''Gwely Wisgiaid'''. Ac maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 7s. 5¾c.
Cyfanswm blynyddol: 29s. 11c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac y mae rhai yn dweud fod y Gwely hwn yn rhydd o [fynychu] melin yr Arglwydd  ac eraill yn cadw rhag gwneud a.y.b. Ac y mae yn y dywededig Wely Wisgied dwy fufedd a hanner o dir siêd a ddaeth oddi wrth Heilin ap Cad’ sydd yn nwylo’r arglwydd. Ac arferid talu 3½c. bob tymor fel rhan o daliad uchod y Gwely. Ac am y tir sydd newydd gychwyn cael ei amaethu telir adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel, 5c.
Cyfanswm blynyddol: 5c. [sic]
A Tegwared Goch, Hywel ap Ieuan ac eraill yw etifeddion y gwely uchod a elwir '''Gwely Hebogothion'''. Ac maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 4s. 10¼c.
Cyfanswm blynyddol: 19s. 5c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac mae rhai yn dweud eu bod yn rhydd i fynychu unrhyw felin o gwbl yn ôl eu dewis a.y.b. a rhai yn dweud fel arall. Y maent yn yr un modd yn cadw rhag gwneud hyd nes a.y.b.
 
Ac yn y gwely uchod a elwir '''Gwely [Wyrion] Ystrwyth''' y mae parsel o tir siêd a ddaeth oddi wrth Gronw Henseil sydd yn cynnwys chwe firgat o dir yn ôl yr amcangyfrif ac sydd yn nwylo’r arglwydd wedi i’r tenant hwnnw eu gadael i orwedd yn fraenar ers dwy flynedd. Ac arferid talu 3½c. ym mhob un o’r pedwar tymor 7c. A gynhwysid yn y taliad uchod o 4s. 10¼c. Ac yn y gwely hwnnw y mae chwe firgat o tir siêd yn ôl yr amcangyfrif a ddaeth oddi wrth Ieuan Kenny ac sydd yn nwylo’r arglwydd am y rheswm uchod. Ac y mae yn y gwely hwnnw hanner bufedd o dir yn ôl yr amcangyfrif sydd yn tir siêd a ddaeth oddi wrth Meurig ap Philip ac sydd yn nwylo’r arglwydd. Ac y mae’r tiroedd uchod a.y.b.
 
A Ieuan ap Griffith ap Bleddyn, Ieuan ap Gwilym Du ac eraill yw etifeddion y gwely uchod a elwir '''Gwely Bodwyniod'''. Ac maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 2s. 10¼c.
Cyfanswm blynyddol: 11s. 5c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent â dyletswydd mynychu Melin Eithinog yr arglwydd gan nad oes ganddynt felin yn y Cwmwd dan sylw. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr a.y.b.
 
Ac yn y drefgordd hwn y mae naw rhan o wely a elwir '''Gwely Wyrion Iorwerth''' sydd â degfed rhan ohoni yn Isgwyrfai fel sydd yn cael ei ddangos dan drefgordd Treflan. A Griffith ap Madog, Ieuan ap Llywelyn ac eraill yw etifeddion ohono. Ac maent yn talu yn y Cwmwd hwn ym mhob un o’r tymhorau uchod 5s. 3½c.
Cyfanswm blynyddol: 21s. 2c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent â dyletswydd mynychu Melin Eithinog yr arglwydd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac o fewn y naw ran o ddeg o’r gwely hwn yn mae un fufedd o tir siêd a gafwyd oddi wrth Tegwared Goch Bastard sydd yn awr gan Tegwared Moel. Ac fe delir 2c. ym mhob un o’r pedwar tymor a oedd ers talwm i gyd yn gynwysedig yn nhaliadau’r gwely hwn. Ac am y tir hwn sydd newydd gychwyn cael ei amaethu fe delir adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel mewn dau daliad cyfartal, 4c.
Cyfanswm blynyddol: 2c.
Ac y mae yn y naw rhan o’r gwely hwn hanner bufedd o dir siêd o dir a ddaeth oddi wrth Griffith ap Cyfnerth sydd gan Tegwared uchod yn yr un ffordd. Ac fe delir 1c. ym mhob un o’r pedwar tymor a sydd yn gynwysedig yn nhaliadau’r gwely hwn. Ac am y tir hwn sydd newydd gychwyn cael ei amaethu fe delir adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel mewn dau daliad cyfartal, 2c.
Cyfanswm blynyddol: 2c.
Ac mae trydedd ran o wely a elwir yn '''Gwely Cynwrig ap Tregir''' yn y drefgordd hon. Ac etifeddion hwnnw yw Dafydd Fychan a Ieuan a Hywel ei frodyr ac eraill. Ac maent yn talu yn y Cwmwd hwn ym mhob un o’r tymhorau uchod 6c.
Cyfanswm blynyddol: 2s. 0½c.
a’r dimai hwnnw’n cael ei gynnwys yn nhaliadau’r gwely hwn gan nad oes modd ei rannu’n bedwar. Telir hwn a.y.b. Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd yn y Cwmwd hwn ac yng Nghwmwd Isgwyrfai. Ac maent â dyletswydd mynychu melin yr arglwydd isod yn y Cwmwd hwn.
 
Ac yn yr un drefgordd y mae pumed ran o wely a elwir yn '''Gwely Pyll ap Tregir'''. Ac etifeddion hwnnw yw Einion ap Tudur, Gwerfyl ferch Gwenllian ferch Hywel ac eraill. Ac maent yn talu yn y Cwmwd hwn ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 9c.
Cyfanswm blynyddol: 3s.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. A hefyd [â dyletswydd] i fynychu melin Arglwydd y Tywysog o fewn y Cwmwd hwn. Ac [maent yn talu] 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac y mae o fewn y dywededig bumed ran o’r Gwely hwnnw dair bufedd o dir siêd a ddaeth oddi wrth Tegwared ap Adda Goch. Ac mae’r rhain yn dal yn nwylo’r arglwydd. Ac arferid yn y gorffennol dalu 3½c. ym mhob un o’r pedwar tymor a oedd ers talwm i gyd yn gynwysedig yn nhaliadau’r gwely hwn. Ac am y tir hwn sydd newydd gychwyn cael ei amaethu fe delid 14c. yn y Cwmwd hwn adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel.
Cyfanswm blynyddol: 14c.
Ac yn yr un drefgordd y mae hanner gwely a elwir '''Gwely Ednowain ap Tregir'''. Ac etifeddion hwnnw yw Gronw ap Heilin, Ieuan Goch ac eraill. Ac maent yn talu ym mhob un o’r tymhorau uchod 5s.8½c.
Cyfanswm blynyddol: 22s.10c.
Ac y mae o fewn yr hanner o’r gwely hwnnw un fufedd o dir siêd yn ôl yr amcangyfrif o dir a ddaeth oddi wrth Gwyn ap Gronw ac sydd yn nwylo’r arglwydd. Ac yr oedd yn arfer talu ym mhob un o’r tymhorau hynny a.y.b. y tâl yr arferid ei gynnwys yn nhaliadau y gwely. Ac yn yr hanner o’r un gwely un fufedd arall yn ôl yr amcangyfrif o dir a ddaeth oddi wrth Heilin ap Ieuan a Tegwared ap Ieuan. Ac am y tir hwn sydd newydd gychwyn cael ei amaethu fe delir 2c.
Cyfanswm blynyddol: 2c.
Ac mae’r hanner hwnnw [yn golygu bod] dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. A hefyd  fynychu melin yr arglwydd o fewn y Cwmwd hwn. A thelir 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol.
 
Ac yn yr un drefgordd y mae trydedd ran  gwely a elwir '''Gwely Cyfnerth ap Tregir'''. Ac etifeddion hwnnw yw Einion Of, Iorwerth ap Einion ac eraill. Ac maent yn talu ym mhob un o’r tymhorau uchod yn y Cwmwd hwn 12c.
Cyfanswm blynyddol: 4s.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] arglwydd y Sir a’r Hwndrwd. A hefyd [â dyletswydd] i fynychu melin yr arglwydd o fewn y Cwmwd hwn. . Ac [maent yn talu] 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr a.y.b  A’r drefgordd gyfan hwn yn talu 4c. ar gyfer twnc yn ychwanegol at yr hyn a delir yn ôl y stent  adeg y Pasg a gŵyl Sant Mihangel mewn rhannau cyfartal.
Cyfanswm blynyddol: 4c.
Ac arferai pawb, boed yn rhydd neu’n gaeth yn y Cwmwd hwn, dalu 6s.8c. adeg gŵl yr Holl Seintiau at ddefnydd Maenor Caernarfon yr arglwydd.
Cyfanswm blynyddol: 6s.8c.
Wedyn, fe gyflwynodd amryw o denantiaid cymydau Isgwyrfai ac Uwchgwyrfai amryw o ddeisebau ynglŷn ag achosion difrifol i John de Delves y dirprwy Ustus ym mhresenoldeb yr Archwiliwr presennol parthed taliadau annheg gan y gwelyau uchod yn y Cymydau hyn. Daethpwyd i benderfyniad, o flaen yr arglwydd ddirprwy ac Archwiliwr Trysorlys yr arglwydd Dywysog yng Nghaernarfon fis Ionawr 1353, ym mhresenoldeb Llysoedd y Cymydau hyn a gyfarfu efo’i gilydd oherwydd yr achos hwn a thrwy eu dyfarniad, nad oes gofyn ar y rhan honno sydd gan Wely Cynwrig ap Tregir yn Ninlle yng Ngwmwd Uwchgwyrfai dalu taliadau bob blwyddyn yn y pedwar tymor arferol ond 2s. lle [nodir] yn y stent newydd hwn 2s.0½c. y flwyddyn ac nad oes gofyn ar y rhan honno o Wely Pyll ap Tregir dalu ar adeg y tymhorau bob blwyddyn ond 2s.6c. lle [nodir] 3s. yn yr un stent. Ac nad oes gofyn ar y rhan honno o Wely Ednowain ap Tregir dalu ar adeg y tymhorau bob blwyddyn ond 8s. lle [nodir] 22s.10c. yn yr un stent. Ac nad oes gofyn ar y rhan honno o Wely Cyfnerth ap Tregir dalu ond 2s.2c lle [nodir] 4s. yn yr un stent. Ac oherwydd hyn mae’r pedwar Gwely uchod sydd â gofynion yn ôl y stent newydd uchod i dalu 31s.10½c. sydd yn 17s.2½c. o daliad blynyddol yn ormod, nid oes ond 14s.8c. yn daladwy bob blwyddyn. A chan ei fod yn ddigon eglur ac yn cael ei ddatgan mai yng Nghwmwd Isgwyrfai y mae gofyn i’r gwelyau hynny a Gwely Wyrion Iorwerth yn nhrefgordd Treflan am dalu’r 17s.2½c. dywededig yn flynyddol i’r arglwydd. Gorchmynnir hyn trwy ganiatâd y dirprwy uchod a’r Archiliwr ac wedyn ni thelir i Ringyll y Cwmwd hwn y 17s.2½c. uchod am y cyfnod a fu, oedd yn ormod i’w dalu gan y gwelyau hynny; ond telir [y swm hwnnw] wedyn i Ringyll Isgwyrfai fel y datganwyd uchod.
 
''Cyfanswm blynyddol: £11.19s.9c.''
''Cyfanswm tir siêd, twnc a chnhaliaeth y Faenor 10s.3c.''


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Hanes]]
[[Categori:Trethi a thollau]]
[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]]
[[Categori:Dogfennau ac adysgrifau gwreiddiol]]
[[Categori:Dogfennau ac adysgrifau gwreiddiol]]
[[Categori: Trethi a thollau]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:16, 4 Ionawr 2022

The Record of Caernarvon yw'r enw a roddwyd ar gyfrol o drawsysgrifiadau o ddogfennau sy'n dyddio o'r 14g a 15g ac sydd yn ymwneud â hen dywysogaeth Gwynedd dan ei rheolwyr Seisnig newydd wedi buddugoliaethau Iorwerth I, ac a gyhoeddwyd ym 1838 gan Syr Henry Ellis, Prif Lyfrgellydd yr Amgueddfa Brydeinig.[1] Efallai mai'r rhan bwysicaf yw'r Extentae, sef Stentau (neu gofrestrau rhenti a dyletswyddau ynghlwm wrth ddaliadaeth o dir), yn cynnwys Extenta comites de Caernarvon; facta per Johannem de Delves (Stent o Sir Gaernarfon a wnaed gan John de Delves); fe'i gwnaed ym 1352. Mae tri neu bedwar o gopïau o'r Stentau hyn, gan gynnwys un ymysg archifau Baron Hill yn Archifdy Prifysgol Bangor. Fodd bynnag, mae cynnwys y gyfrol brintiedig wedi ei chopio o lawysgrif yn y Llyfrgell Brydeinig, llsg. Harley 696.

Mae'r cynnwys i gyd (ond am y rhagair ac ambell i ddogfen hwyr) wedi ei ysgrifennu mewn Lladin. Yr arfer ymysg clercod gweinyddol oedd talfyrru'r hyn yr oeddent yn ei ysgrifennu gymaint ag yr oedd modd, er mwyn arbed amser a deunydd drud ysgrifennu, ond y canlyniad yw fod angen deall yr holl arwyddion talfyrru yn ogystal â'r iaith. Heddiw byddai golygydd yn ymestyn y talfyriadau, ond mewn oes fwy academig (ymysg y deallusion) lle 'roedd pawb oedd â lefel weddol dda o addysg yn deall Lladin yn rhwydd.

Cafodd cyfieithiad i'r Saesneg o Stent Ynys Môn 1352 ei gyhoeddi gan y diweddar Athro A.D. Carr[2] ac mae rhagair a throednodiadau yn y cyfieithiad yn help i ddeall y ddogfen ar gyfer Sir Gaernarfon hefyd. Fodd bynnag, hyd y gwyddys, nid oes cyfieithiad wedi ei wneud o Stent Sir Gaernarfon. Mae'n brosiect gan Gof y Cwmwd felly i gyhoeddi cyfieithiadau o'r darnau sydd yn ymwneud ag Uwchgwyrfai o dipyn i beth, gan roi'r cyfieithiadau mewn erthygl gyda'r pennawd Stent Uwchgwyrfai 1352 a hefyd mewn erthyglau am y trefgorddau unigol (gan fod y Stent yn ymdrin â'r cwmwd drefgordd wrth drefgordd).

Yn yr un gyfrol brintiedig mae copïau o ddogfennau eraill o'r un cyfnod sydd yn sôn am ardrethi a dyletswyddau ac mae rhai yn taflu mwy o olau ar y trefniadau yn Uwchgywrfai. Mae Cof y Cwmwd yn cynnwys cyfieithiadau o'r darnau hyn hefyd, yng nghorff erthyglau Y Degwm, Llanwnda (trefgordd) ac Abaty Aberconwy ymysg eraill.

Cyfeiriadau

  1. Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696. (Llundain, 1838)
  2. A.D. Carr, "The Extent of Anglesey, 1352" (Trafodion Cymdeithas Hynafiaeithwyr Môn), (1971-2) tt.150-272