Record of Caernarvon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 23 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''The Record of | '''The Record of Caernarvon''' yw'r enw a roddwyd ar gyfrol o drawsysgrifiadau o ddogfennau sy'n dyddio'n bennaf o'r 14g a 15g ac sydd yn ymwneud â hen dywysogaeth Gwynedd dan ei rheolwyr Seisnig newydd wedi buddugoliaethau Iorwerth I. Fe'i cyhoeddwyd ym 1838 gan Syr Henry Ellis, Prif Lyfrgellydd yr Amgueddfa Brydeinig.<ref>''Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696.'' (Llundain, 1838)</ref> Efallai mai'r rhan bwysicaf yw'r ''Extentae'', sef Stentau (neu gofrestrau rhenti a dyletswyddau a oedd ynghlwm wrth ddaliadaeth o dir), yn cynnwys ''Extenta comites de Caernarvon; facta per Johannem de Delves'' ([[Stent Uwchgwyrfai 1352|Stent o Sir Gaernarfon]] a wnaed gan John de Delves); fe'i gwnaed ym 1352. Mae tri neu bedwar o gopïau o'r Stentau hyn, gan gynnwys un ymysg archifau Baron Hill yn Archifdy Prifysgol Bangor. Fodd bynnag, mae cynnwys y gyfrol brintiedig wedi ei chopïo o lawysgrif yn y Llyfrgell Brydeinig, llsg. Harley 696. | ||
Mae'r cynnwys i gyd (ond am y rhagair ac ambell i ddogfen | Mae'r cynnwys i gyd (ond am y rhagair ac ambell i ddogfen o Oes y Tuduriaid) wedi ei ysgrifennu mewn Lladin. Yr arfer ymysg clercod gweinyddol oedd talfyrru'r hyn yr oeddent yn ei ysgrifennu gymaint ag yr oedd modd, er mwyn arbed amser a deunydd drud ysgrifennu, ond y canlyniad yw fod angen deall yr holl arwyddion talfyrru yn ogystal â'r iaith. Heddiw byddai golygydd yn ymestyn y talfyriadau, ond mewn oes fwy academaidd (o ran y deallusion beth bynnag) lle 'roedd pawb oedd â lefel weddol dda o addysg yn deall Lladin yn rhwydd, ni ystyriwyd hynny mor bwysig â chyfleu'n union yr hynny oedd ar dudalen y llawysgrif. | ||
Cafodd cyfieithiad i'r Saesneg o Stent Ynys Môn 1352 ei gyhoeddi gan y diweddar Athro A.D. Carr<ref>A.D. Carr, "The Extent of Anglesey, 1352" ''(Trafodion Cymdeithas | Cafodd cyfieithiad i'r Saesneg o Stent Ynys Môn 1352 ei gyhoeddi gan y diweddar Athro A.D. Carr<ref>A.D. Carr, "The Extent of Anglesey, 1352" ''(Trafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr Môn''), (1971-2) tt.150-272</ref> ac mae rhagair a throednodiadau yn y cyfieithiad yn help i ddeall y ddogfen ar gyfer Sir Gaernarfon hefyd. Fodd bynnag, hyd y gwyddys, nid oes cyfieithiad wedi ei wneud o Stent Sir Gaernarfon. Cynhaliwyd prosiect gan '''Gof y Cwmwd''' felly i gyhoeddi cyfieithiadau o'r darnau sydd yn ymwneud ag [[Uwchgwyrfai]], gan roi'r cyfieithiadau mewn erthygl gyda'r pennawd [[Stent Uwchgwyrfai 1352]] a hefyd mewn erthyglau am y trefgorddau unigol (gan fod y Stent yn ymdrin â'r cwmwd drefgordd wrth drefgordd). | ||
Yn yr un gyfrol brintiedig mae copïau o ddogfennau eraill o'r un cyfnod sydd yn sôn am ardrethi a dyletswyddau ac mae rhai yn taflu mwy o olau ar y trefniadau yn Uwchgwyrfai. Mae '''Cof y Cwmwd''' yn cynnwys cyfieithiadau o'r darnau hyn hefyd. I weld y cyfieithiadau, cliciwch ar y dolennau hyn a fydd yn mynd achi at y didalen berthnasol, yn ôl yr hyn yr ydych am ei weld: [[Stent Uwchgwyrfai 1352]], [[Siarter Eglwys Clynnog Fawr]], [[Asesiad Deoniaeth Arfon o'r Degwm]] a [[Cyfrif Deon Eglwys Gadeiriol Bangor, 1398]]. | |||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
{{cyfeiriadau}} | {{cyfeiriadau}} | ||
[[Categori: | [[Categori:Trethi a thollau]] | ||
[[Categori:Dogfennau ac adysgrifau gwreiddiol]] | [[Categori:Dogfennau ac adysgrifau gwreiddiol]] | ||
Golygiad diweddaraf yn ôl 20:20, 31 Hydref 2024
The Record of Caernarvon yw'r enw a roddwyd ar gyfrol o drawsysgrifiadau o ddogfennau sy'n dyddio'n bennaf o'r 14g a 15g ac sydd yn ymwneud â hen dywysogaeth Gwynedd dan ei rheolwyr Seisnig newydd wedi buddugoliaethau Iorwerth I. Fe'i cyhoeddwyd ym 1838 gan Syr Henry Ellis, Prif Lyfrgellydd yr Amgueddfa Brydeinig.[1] Efallai mai'r rhan bwysicaf yw'r Extentae, sef Stentau (neu gofrestrau rhenti a dyletswyddau a oedd ynghlwm wrth ddaliadaeth o dir), yn cynnwys Extenta comites de Caernarvon; facta per Johannem de Delves (Stent o Sir Gaernarfon a wnaed gan John de Delves); fe'i gwnaed ym 1352. Mae tri neu bedwar o gopïau o'r Stentau hyn, gan gynnwys un ymysg archifau Baron Hill yn Archifdy Prifysgol Bangor. Fodd bynnag, mae cynnwys y gyfrol brintiedig wedi ei chopïo o lawysgrif yn y Llyfrgell Brydeinig, llsg. Harley 696.
Mae'r cynnwys i gyd (ond am y rhagair ac ambell i ddogfen o Oes y Tuduriaid) wedi ei ysgrifennu mewn Lladin. Yr arfer ymysg clercod gweinyddol oedd talfyrru'r hyn yr oeddent yn ei ysgrifennu gymaint ag yr oedd modd, er mwyn arbed amser a deunydd drud ysgrifennu, ond y canlyniad yw fod angen deall yr holl arwyddion talfyrru yn ogystal â'r iaith. Heddiw byddai golygydd yn ymestyn y talfyriadau, ond mewn oes fwy academaidd (o ran y deallusion beth bynnag) lle 'roedd pawb oedd â lefel weddol dda o addysg yn deall Lladin yn rhwydd, ni ystyriwyd hynny mor bwysig â chyfleu'n union yr hynny oedd ar dudalen y llawysgrif.
Cafodd cyfieithiad i'r Saesneg o Stent Ynys Môn 1352 ei gyhoeddi gan y diweddar Athro A.D. Carr[2] ac mae rhagair a throednodiadau yn y cyfieithiad yn help i ddeall y ddogfen ar gyfer Sir Gaernarfon hefyd. Fodd bynnag, hyd y gwyddys, nid oes cyfieithiad wedi ei wneud o Stent Sir Gaernarfon. Cynhaliwyd prosiect gan Gof y Cwmwd felly i gyhoeddi cyfieithiadau o'r darnau sydd yn ymwneud ag Uwchgwyrfai, gan roi'r cyfieithiadau mewn erthygl gyda'r pennawd Stent Uwchgwyrfai 1352 a hefyd mewn erthyglau am y trefgorddau unigol (gan fod y Stent yn ymdrin â'r cwmwd drefgordd wrth drefgordd).
Yn yr un gyfrol brintiedig mae copïau o ddogfennau eraill o'r un cyfnod sydd yn sôn am ardrethi a dyletswyddau ac mae rhai yn taflu mwy o olau ar y trefniadau yn Uwchgwyrfai. Mae Cof y Cwmwd yn cynnwys cyfieithiadau o'r darnau hyn hefyd. I weld y cyfieithiadau, cliciwch ar y dolennau hyn a fydd yn mynd achi at y didalen berthnasol, yn ôl yr hyn yr ydych am ei weld: Stent Uwchgwyrfai 1352, Siarter Eglwys Clynnog Fawr, Asesiad Deoniaeth Arfon o'r Degwm a Cyfrif Deon Eglwys Gadeiriol Bangor, 1398.