Sir Gaernarfon (etholaeth): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 14 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 3: Llinell 3:
Un aelod a etholwyd gan etholwyr Sir Gaernarfon, heblaw am gyfnod Cromwell yn y 1650au, pan etholwyd dau aelod dros yr etholaeth.
Un aelod a etholwyd gan etholwyr Sir Gaernarfon, heblaw am gyfnod Cromwell yn y 1650au, pan etholwyd dau aelod dros yr etholaeth.


===Aelodau seneddol 1542–1885===
Mae'r etholaeth hon yn nodedig, efallai, am y ffaith mai ychydig iawn o ddynion o'r tu allan i'r sir sydd wedi cynrychioli'r etholaeth. Serch hynny, [[Thomas Bulkeley]] o Ddinas oedd yr unig un heblaw am nifer o deulu Glynllifon i ddod o Uwchgwyrfai.
 
Y cyntaf o'r "dynion diarth" i fod yn AS dros y sir oedd Henry Lawrence, Sais a ddaliai swydd Arglwydd Lywydd y Cyngor, sef llywydd y Cyngor Cyfrin, dan Cromwell. Camodd i fewn i'r sedd wedi i [[John Glynn (Y Sarsiant)|Syr John Glynn]] gael ei ethol dros Sir Gaernarfon a Sir y Fflint yn yr un etholiad (gan ddewis eistedd dros Sir y Fflint), ac wedyn cael ei ddyrchafu i'r hyn a gyfatebodd i Dŷ'r Arglwyddi dan Cromwell, sef y Tŷ Arall ym 1656. Roedd gan Lawrence ddewis o gael ei benodi yn aelod dros Swydd Huntingdon neu Sir Gaernarfon ac fe ddewisodd ein sir ni.<ref>Erthglau Wikipedia ar Henry Lawrence, [https://en.wikipedia.org/wiki/Henry_Lawrence_(President_of_the_Council)]  a John Glynn [https://en.wikipedia.org/wiki/John_Glynne_(judge)], cyrchwyd y ddwy 7.5.2020</ref> Nid yw'r rheswm yn hysbys, ond efallai bod anhawster i gael hyd i aelod o statws a dylanwad digonol ymysg bonheddwyr Sir Gaernarfon, gan fod cymaint ohonynt yn elyniaethus i Cromwell ac wedi cefnogi'r brenin Siarl I.
 
Ni chafodd yr un "dyn diarth" heb gysylltiadau o ran deulu neu dir ei ethol hyd nes i William Rathbone, banciwr a cyn-AS o Lerpwl ennill y sedd ym 1880. Roedd hyd yn oed ei ragflaenydd, Watkin Williams, cyfreithiwr o Sir Ddinbych, wedi priodi merch Plas-yn-Llysfaen, ac y pryd hynny, roedd Llysfaen yn perthyn i Sir Gaernarfon, fel ynys o fewn ffiniau Sir Ddinbych.<ref>Erthygl Wikipedia ar Watkin Williams [https://en.wikipedia.org/wiki/Watkin_Williams_(Liberal_politician)] cyrchwyd 7.5.2020</ref>
 
Mae'n wir i ddeud fod Robert Jones, y Llafurwr cyntaf (a'r gwerinwr cyntaf) i ddal y sedd, yn dod o Flaenau Ffestiniog, ond ei ysgogydd o oedd [[R. Silyn Roberts]].<ref>Erthygl Wikipedia ar Robert Jones[https://en.wikipedia.org/wiki/Robert_Jones_(Labour_politician)] cyrchwyd 7.5.2020</ref> Gŵr o Aberystwyth oedd Goronwy Owen, ond mi daflodd ei hun i fewn i fywyd Sir Gaernarfon, gan ddod yn gynghorydd sir ac yn henadur.<ref>Erthygl Wikipedia ar Goronwy Owen [https://en.wikipedia.org/wiki/Goronwy_Owen_(politician)] cyrchwyd 7.5.2020</ref>
 
===Aelodau Seneddol 1542–1885 a 1918-1950===
{| class="wikitable"
{| class="wikitable"
|-
|-
Llinell 68: Llinell 76:
|1653 (Senedd Barebones)|| ''Neb wedi ei ethol''
|1653 (Senedd Barebones)|| ''Neb wedi ei ethol''
|-
|-
|1654 (dau aelod)|| [[Syr John Glynn]] + Thomas Madryn
|1654 (dau aelod)|| [[John Glynn (Y Sarsiant)|Syr John Glynn]] + Thomas Madryn
|-
|-
|1656 (dau aelod)|| [[Sir John Glynn]], ''wedyn'' Henry Lawrence (Llywydd y Cyngor); +  Syr Robert Williams
|1656 (dau aelod)|| [[John Glynn (Y Sarsiant)|Syr John Glynn]] , ''wedyn'' Henry Lawrence (Llywydd y Cyngor); +  Syr Robert Williams
|-
|-
|1659|| [[Sir William Glynn]]
|1659|| [[Syr William Glynn]]
|-
|-
|1660|| [[Syr John Glynn]]
|1660|| [[John Glynn (Y Sarsiant)|Syr John Glynn]]
 
|-
|-
|1661|| Syr Richard Wynn
|1661|| Syr Richard Wynn
|-
|-
|1675|| Robert Bulkeley, (2il Is-iarll Bulkeley wedyn0
|1675|| Robert Bulkeley, (2il Is-iarll Bulkeley wedyn)
|-
|-
|1679|| Thomas Bulkeley  
|1679|| [[Thomas Bulkeley]]
|-
|-
|1689|| Syr William Williams
|1689|| Syr William Williams
Llinell 86: Llinell 95:
|1697|| Thomas Bulkeley  
|1697|| Thomas Bulkeley  
|-
|-
|1705|| [Syr John Wynn
|1705|| Syr John Wynn
|-
|-
|1713|| William Griffith  
|1713|| William Griffith  
Llinell 100: Llinell 109:
|1761|| [[Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough]]
|1761|| [[Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough]]
|-
|-
|1774|| [[Thomas Assheton Smith I]]
|1774|| [[Thomas Assheton Smith]]
|-
|-
|1780|| John Parry  
|1780|| John Parry  
Llinell 140: Llinell 149:
|1945|| Goronwy Roberts|| Llafur
|1945|| Goronwy Roberts|| Llafur
|-
|-
|1950|| ''Etholiad Cyffredinol: Diddymwyd yr etholaeth am yr ail dro''
|1950|| ''Etholiad Cyffredinol: Diddymwyd yr etholaeth am yr ail dro
|}
 
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Gwleidyddion]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 19:58, 16 Chwefror 2021

Am yr holl gyfnod o sefydlu'r drefn o siroedd Cymru'n anfon aelod seneddol i San Steffan ym 1542, hyd 1885, Sir Gaernarfon oedd yr etholaeth a gynhwysai Uwchgwyrfai yn ei gyfanrwydd. Sir Gaernarfon oedd enw'r etholaeth eto rhwng 1918 a 1950. Rhwng 1885 a 1918, Eifion, sef hanner y sir, oedd yr etholaeth. Yn etholaeth 1929,safodd ymgeisydd seneddol cyntaf Plaid Cymru yn yr etholaeth hon, gan ennill 609 pleidlais.

Un aelod a etholwyd gan etholwyr Sir Gaernarfon, heblaw am gyfnod Cromwell yn y 1650au, pan etholwyd dau aelod dros yr etholaeth.

Mae'r etholaeth hon yn nodedig, efallai, am y ffaith mai ychydig iawn o ddynion o'r tu allan i'r sir sydd wedi cynrychioli'r etholaeth. Serch hynny, Thomas Bulkeley o Ddinas oedd yr unig un heblaw am nifer o deulu Glynllifon i ddod o Uwchgwyrfai.

Y cyntaf o'r "dynion diarth" i fod yn AS dros y sir oedd Henry Lawrence, Sais a ddaliai swydd Arglwydd Lywydd y Cyngor, sef llywydd y Cyngor Cyfrin, dan Cromwell. Camodd i fewn i'r sedd wedi i Syr John Glynn gael ei ethol dros Sir Gaernarfon a Sir y Fflint yn yr un etholiad (gan ddewis eistedd dros Sir y Fflint), ac wedyn cael ei ddyrchafu i'r hyn a gyfatebodd i Dŷ'r Arglwyddi dan Cromwell, sef y Tŷ Arall ym 1656. Roedd gan Lawrence ddewis o gael ei benodi yn aelod dros Swydd Huntingdon neu Sir Gaernarfon ac fe ddewisodd ein sir ni.[1] Nid yw'r rheswm yn hysbys, ond efallai bod anhawster i gael hyd i aelod o statws a dylanwad digonol ymysg bonheddwyr Sir Gaernarfon, gan fod cymaint ohonynt yn elyniaethus i Cromwell ac wedi cefnogi'r brenin Siarl I.

Ni chafodd yr un "dyn diarth" heb gysylltiadau o ran deulu neu dir ei ethol hyd nes i William Rathbone, banciwr a cyn-AS o Lerpwl ennill y sedd ym 1880. Roedd hyd yn oed ei ragflaenydd, Watkin Williams, cyfreithiwr o Sir Ddinbych, wedi priodi merch Plas-yn-Llysfaen, ac y pryd hynny, roedd Llysfaen yn perthyn i Sir Gaernarfon, fel ynys o fewn ffiniau Sir Ddinbych.[2]

Mae'n wir i ddeud fod Robert Jones, y Llafurwr cyntaf (a'r gwerinwr cyntaf) i ddal y sedd, yn dod o Flaenau Ffestiniog, ond ei ysgogydd o oedd R. Silyn Roberts.[3] Gŵr o Aberystwyth oedd Goronwy Owen, ond mi daflodd ei hun i fewn i fywyd Sir Gaernarfon, gan ddod yn gynghorydd sir ac yn henadur.[4]

Aelodau Seneddol 1542–1885 a 1918-1950

Blwyddyn ethol Aelod Plaid
1542 ?John "Wynn" ap Maredudd
1545 John Puleston
1547 John Puleston, marw 1552 ac etholwyd John Wynn ap Maredudd yn ei le
1553 (Mawrth) John Wynn ap Hugh
1553 (Hydref) Morris Wynn
1554 (Ebrill) Morris Wynn
1554 (Tachwedd) David Lloyd ap Thomas
1555 Sir Rhys Gruffydd
1558 William Wynn Williams
1558–1559 Robert Pugh
1563 (Ionawr) Morris Wynn
1571 John Wynn ap Hugh
1572 (Ebrill) John Gwynne marw 1574 ac etholwyd William Thomas yn ei le
1584 William Thomas marw 1586
1586 Syr John Wynn
1588 (Hydref) Hugh Gwyn Bodvel
1593 William Maurice
1597 (Hydref) William Griffith
1601 (Medi) William Jones
1604 Syr William Maurice
1614 Syr Richard Wynn
1621 John Griffith
1624 Thomas Glynn
1625 Thomas Glynn
1626 John Griffith
1628 John Griffith
1640 (Ebrill) Thomas Glynn
1640 (Tachwedd) John Griffith (Cefnamwlch) a gafodd ei ddatgymwyso o'r Senedd, 1642
1647 Syr Richard Wynn
1653 (Senedd Barebones) Neb wedi ei ethol
1654 (dau aelod) Syr John Glynn + Thomas Madryn
1656 (dau aelod) Syr John Glynn , wedyn Henry Lawrence (Llywydd y Cyngor); + Syr Robert Williams
1659 Syr William Glynn
1660 Syr John Glynn
1661 Syr Richard Wynn
1675 Robert Bulkeley, (2il Is-iarll Bulkeley wedyn)
1679 Thomas Bulkeley
1689 Syr William Williams
1697 Thomas Bulkeley
1705 Syr John Wynn
1713 William Griffith
1715 John Griffith
1740 Syr John Wynn
1741 William Bodvell
1754 Syr John Wynn
1761 Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough
1774 Thomas Assheton Smith
1780 John Parry
1790 Syr Robert Williams Whig
1826 Thomas John Wynn, 2il Arglwydd Newborough Amhleidiol
1830 Charles Griffith-Wynne Tori
1832 Thomas Assheton Smith II Tori
1834 Thomas Assheton Smith II Ceidwadwr
1837 John Ormsby-Gore, (Arglwydd 1af Harlech wedyn) Ceidwadwr
1841 Edward Douglas-Pennant, (Arglwydd 1af Penrhyn wedyn) Ceidwadwr
1866 George Douglas-Pennant, (2il Arglwydd Penrhyn wedyn) Ceidwadwr
1868 Syr Love Jones-Parry Rhyddfrydwr
1874 Yr Anrh. George Douglas-Pennant, (2il Baron Penrhyn wedyn) Ceidwadwr
1880 (Ebrill) Watkin Williams Rhyddfrydwr
1880 (Rhagfyr) William Rathbone Rhyddfrydwr
1885 Etholiad Cyffredinol: Diddymwyd yr etholaeth
1918 Etholiad Cyffredinol:Ailsefydlwyd yr etholaeth
1918 Charles Edward Breese Rhyddfrydwr Cynghreiriol
1922 Robert Jones Llafur
1923 Goronwy Owen Rhyddfrydwr
1945 Goronwy Roberts Llafur
1950 Etholiad Cyffredinol: Diddymwyd yr etholaeth am yr ail dro


Cyfeiriadau

  1. Erthglau Wikipedia ar Henry Lawrence, [1] a John Glynn [2], cyrchwyd y ddwy 7.5.2020
  2. Erthygl Wikipedia ar Watkin Williams [3] cyrchwyd 7.5.2020
  3. Erthygl Wikipedia ar Robert Jones[4] cyrchwyd 7.5.2020
  4. Erthygl Wikipedia ar Goronwy Owen [5] cyrchwyd 7.5.2020