Rheilffordd Ffestiniog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 10: Llinell 10:
* J.I.C. Boyd, ''Narrow Gauge Rails in South Caernarvonshire'', (Oakwood, 1989), tt.1-2, 40-5.
* J.I.C. Boyd, ''Narrow Gauge Rails in South Caernarvonshire'', (Oakwood, 1989), tt.1-2, 40-5.


[[Categori:Cwmnïau Rheilffordd]]
[[Categori:Cwmnïau Rheilffyrdd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 19:28, 23 Tachwedd 2017

Roedd Rheilffordd Ffestiniog, fel Rheilffordd Ucheldir Cymru, yn cludo llechi at y cei ym Mhorthmadog. Yn achos Rh. Ffestiniog, roedd hi wedi gwneud hyn ers 1836. Mae Cwmni Rheilffordd Ffestiniog yn gwmni 'statudol' (h.y. wedi ei ffurfio yn sgîl deddf seneddol) ers 1832.

Pan ffurfiwyd Rheilffordd Ucheldir Cymru gyda'r bwriad o gludo llechi a darparu gwasanaeth i ymwelwyr ym 1922, roedd y gobeithion yn uchel ond buan y sylweddolwyd nad oedd y traffig yn ddigonol i greu elw ac erbyn 1934 roedd y cwmni yn cael trafferth i gynnal unrhyw lefel o wasanaeth o gwbl. Yn annisgwyl, cymerodd Cwmni Rheilffordd Ffestiniog brydles o'r lein ym mis Mehefin 1934, ond er ymdrechion y cwmni hwnnw, methiant fu'n fenter, a peidiodd y trenau arhedeg ar ol 1937. Rhoddwyd y brydles yn ôl yn ffurfiol ym 1942.

Aeth Cwmni Rheilffordd Ffestiniog i drafferthion hefyd gyda gostyngiad yn y gwaith o gludo llechi o'r chwareli ym Mlaenau Ffestiniog i'r borthladd, ac fe beidiodd ei wasanaethau ym 1946, er am resymau cyfreithiol nad oedd hi'n ymarferol ddileu'r cwmni. Ym 1951, prynwyd mwyafrif y cyfranddaliadau gan bobl a ymddiddorai mewn rheilffyrdd er mwyn achub y lein, ac mae'r cwmni'n dal mewn bodolaeth, ac yn ffynnu. Trafodwyd ail-agor Rheilffordd Ucheldir Cymru gan garfan arall yn ystod y 1960au, ond cyfyngedig fu eu cynnydd yn y gwaith, ac yn y 1990au, am resymau ymarferol aeth Cwmni Rheilffordd Ffestiniog ati i sicrhau rheolaeth ar gwmni Ucheldir Cymru, gyda golwg ar ei hail-agor. Dyma a wnaed, mewn sawl cam o 1997 ymlaen. Heddiw, felly, Cwmni Rheilffordd Ffestiniog unwaith eto yw'r corff sy'n rhedeg Rheilffordd Ucheldir Cymru - a elwir heddiw yn 'Rheilffordd Eryri', er mwyn ei gwahaniaethu oddi wrth lein fach arall ym Mhorthmadog.

Mae Rheilffordd Ucheldir Cymru ganiatáu cerbydau lletach ac uwch na'r hyn sy'n bosibl ar Reilffordd Ffestiniog, ond gwelir rhai o gerbydau ac injans gwreiddiol Rheilffordd Ffestiniog yn mentro'r holl ffordd i Gaernarfon.

Ffynonellau

  • J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Rails in South Caernarvonshire, (Oakwood, 1989), tt.1-2, 40-5.