Alfred Henderson: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 14 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Gŵr o [[Nantlle]] oedd '''Alfred Henderson''' ac ymddengys iddo gymryd yn ifanc at chwarae'r corn, gan ddod yn aelod o [[Band Deulyn|Gyrn Arian Deulyn]] cyn iddo symud o'r ardal i weithio fel clerc ym Mhrescot ger Lerpwl ym 1914 - yn bur debyg fel gwaith rhyfel - ac fe ymunodd â band yno.<ref>''Cymru'', 22 Rhagfyr 1914, t.5</ref>
Gŵr o [[Nantlle]] oedd '''Alfred Henderson''' (1894-1979), offerynnwr ac arweinydd band. Fe ymddengys iddo gymryd yn ifanc at chwarae'r corn, gan ddod yn aelod o [[Band Deulyn|Gyrn Arian Deulyn]] cyn iddo symud o'r ardal i weithio fel clerc ym Mhrescot ger Lerpwl ym 1914 - yn bur debyg fel gwaith rhyfel - ac fe ymunodd â band yno.<ref>''Cymru'', 22 Rhagfyr 1914, t.5</ref>
 
Cafodd ei eni yn Sir Gaernarfon i Margaret (ganed 1869, Beddgelert) a William Henderson (ganed 1869, Llanrug), Cae Goronwy, plwyf [[Llandwrog]]. Chwarelwr oedd y tad, yn fab i John Henderson, tafarnwr a chasglwr tollau a aned yn yr Alban tua 1833 ond a oedd erbyn 1871 yn byw yng Nghaeathro, ac Anne, a hanai o Feddgelert. Erbyn 1881 roedd y teulu gyda'u saith plentyn wedi symud i gyffiniau [[Rhosgadfan]] a'r tad bellach yn labrwr mewn chwarel lechi. Bu farw tua 1898-9.<ref>Gwybodaeth o gyfrifiadau 1871-1891</ref>  Ail-briododd Margaret ym 1901 (ar ôl marwolaeth William) â Richard Williams, gŵr o Gastell-nedd, Sir Forgannwg, a thrigent yn 10 Rhes Nantlle. Diddorol yw nodi o Gyfrifiad 1911 fod pawb yn y tŷ yn uniaith Gymraeg.<ref>Cyfrifiadau 1901 a 1911, Llandwrog.</ref>


Dichon ei fod hefyd yn medru canu'n foddhaol gan fod y cofnod canlynol i'w weld yn yr ''Herald Cymraeg'':
Dichon ei fod hefyd yn medru canu'n foddhaol gan fod y cofnod canlynol i'w weld yn yr ''Herald Cymraeg'':


  ORIG GYDA CHEIRIOG.—Treuliwyd Cymdeithas Baladeulyn, nos Iau, i fwynhau Ceiriog a'i weithiau. Cafwyd papur arno gan Mr. [[Y Brodyr Francis|G.W. Francis]], a darllenodd lawer o'i weith iau, a chanodd gân o'i eiddo. Hefyd cafwyd caneuon ac adroddiad o weithiau y bardd gan Miss Maggie Powell, Mri Alfred Henderson a Llew Deulyn, ynghyd â chanu dau emyn o'i eiddo dan arweiniad Mr. W. T. Williams.<ref>''Herald Cymraeg'', 10 Mawrth 1914, t.,5</ref>
  ORIG GYDA CHEIRIOG.—Treuliwyd Cymdeithas Baladeulyn, nos Iau, i fwynhau Ceiriog a'i weithiau. Cafwyd papur arno gan Mr. [[Y Brodyr Francis|G.W. Francis]], a darllenodd lawer o'i weithiau, a chanodd gân o'i eiddo. Hefyd cafwyd caneuon ac adroddiad o weithiau y bardd gan Miss Maggie Powell, Mri Alfred Henderson a Llew Deulyn, ynghyd â chanu dau emyn o'i eiddo dan arweiniad Mr. W. T. Williams.<ref>''Herald Cymraeg'', 10 Mawrth 1914, t.,5</ref>
 
Yn nes ymlaen dychwelodd i ardal [[Dyffryn Nantlle]]. Erbyn 1939, roedd yn byw yn Eryri House, [[Tal-y-sarn]] ac yn gweithio fel dilledydd ac yn glerc i [[Ysgol Bro Lleu|Ysgol y Cyngor ym Mhen-y-groes]]. Erbyn hynny, roedd yn ŵr gweddw, ond ym 1941 fe briododd ag Alice Gwendolen Nicklin (1902-1973), cyn-wraig Joseph Nicklin (priododd y ddau hynny ym 1920 yn Aberystwyth). Roedd Alice yn byw yn 1 Rhes Victoria, [[Nantlle]] cyn priodi.<ref>Rhestr breswylwyr Gwyrfai, 1939</ref>
 
Ym 1947 fe arweiniodd fand a oedd yn gyfuniad o fandiau [[Band Moeltryfan|Moeltryfan]] a [[Seindorf Dyffryn Nantlle]] pan gystadlodd yn aflwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn.<ref>Erthygl ''Cof y Cwmwd'' ar [[Bandiau Cwmwd Uwchgwyrfai|fandiau Uwchgwyrfai]]. </ref>


Yn nes ymlaen dychwelodd i ardal [[Dyffryn Nantlle]], ac ym 1947 fe arweiniodd band a oedd yn gyfuniad o fandiau [[Band Moeltryfan|Moeltryfan]] a [[Seindorf Dyffryn Nantlle]] pan gystadlodd yn aflwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn.<ref>Erthygl ''Cof y Cwmwd'' ar [[Bandiau Uwchgwyrfai|fandiau Uwchgwyrfai]]. </ref>
Bu farw mor ddiweddar â 4 Mawrth 1979. Erbyn hynny, roedd yn byw yn 1 Rhes Victoria, tŷ ei wraig a oedd wedi marw rhyw 6 mlynedd ynghynt. Fe adawodd waddol go lew i'w etifeddion, sef dros £17000.<ref>Rhestr marwolaethau a phrofiannau'r Llywodraeth, 1979</ref>  


  {{eginyn}}
  {{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 11:26, 30 Ebrill 2022

Gŵr o Nantlle oedd Alfred Henderson (1894-1979), offerynnwr ac arweinydd band. Fe ymddengys iddo gymryd yn ifanc at chwarae'r corn, gan ddod yn aelod o Gyrn Arian Deulyn cyn iddo symud o'r ardal i weithio fel clerc ym Mhrescot ger Lerpwl ym 1914 - yn bur debyg fel gwaith rhyfel - ac fe ymunodd â band yno.[1]

Cafodd ei eni yn Sir Gaernarfon i Margaret (ganed 1869, Beddgelert) a William Henderson (ganed 1869, Llanrug), Cae Goronwy, plwyf Llandwrog. Chwarelwr oedd y tad, yn fab i John Henderson, tafarnwr a chasglwr tollau a aned yn yr Alban tua 1833 ond a oedd erbyn 1871 yn byw yng Nghaeathro, ac Anne, a hanai o Feddgelert. Erbyn 1881 roedd y teulu gyda'u saith plentyn wedi symud i gyffiniau Rhosgadfan a'r tad bellach yn labrwr mewn chwarel lechi. Bu farw tua 1898-9.[2] Ail-briododd Margaret ym 1901 (ar ôl marwolaeth William) â Richard Williams, gŵr o Gastell-nedd, Sir Forgannwg, a thrigent yn 10 Rhes Nantlle. Diddorol yw nodi o Gyfrifiad 1911 fod pawb yn y tŷ yn uniaith Gymraeg.[3]

Dichon ei fod hefyd yn medru canu'n foddhaol gan fod y cofnod canlynol i'w weld yn yr Herald Cymraeg:

ORIG GYDA CHEIRIOG.—Treuliwyd Cymdeithas Baladeulyn, nos Iau, i fwynhau Ceiriog a'i weithiau. Cafwyd papur arno gan Mr. G.W. Francis, a darllenodd lawer o'i weithiau, a chanodd gân o'i eiddo. Hefyd cafwyd caneuon ac adroddiad o weithiau y bardd gan Miss Maggie Powell, Mri Alfred Henderson a Llew Deulyn, ynghyd â chanu dau emyn o'i eiddo dan arweiniad Mr. W. T. Williams.[4]

Yn nes ymlaen dychwelodd i ardal Dyffryn Nantlle. Erbyn 1939, roedd yn byw yn Eryri House, Tal-y-sarn ac yn gweithio fel dilledydd ac yn glerc i Ysgol y Cyngor ym Mhen-y-groes. Erbyn hynny, roedd yn ŵr gweddw, ond ym 1941 fe briododd ag Alice Gwendolen Nicklin (1902-1973), cyn-wraig Joseph Nicklin (priododd y ddau hynny ym 1920 yn Aberystwyth). Roedd Alice yn byw yn 1 Rhes Victoria, Nantlle cyn priodi.[5]

Ym 1947 fe arweiniodd fand a oedd yn gyfuniad o fandiau Moeltryfan a Seindorf Dyffryn Nantlle pan gystadlodd yn aflwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn.[6]

Bu farw mor ddiweddar â 4 Mawrth 1979. Erbyn hynny, roedd yn byw yn 1 Rhes Victoria, tŷ ei wraig a oedd wedi marw rhyw 6 mlynedd ynghynt. Fe adawodd waddol go lew i'w etifeddion, sef dros £17000.[7]

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Cymru, 22 Rhagfyr 1914, t.5
  2. Gwybodaeth o gyfrifiadau 1871-1891
  3. Cyfrifiadau 1901 a 1911, Llandwrog.
  4. Herald Cymraeg, 10 Mawrth 1914, t.,5
  5. Rhestr breswylwyr Gwyrfai, 1939
  6. Erthygl Cof y Cwmwd ar fandiau Uwchgwyrfai.
  7. Rhestr marwolaethau a phrofiannau'r Llywodraeth, 1979