Menai View: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
'''Menai View''' yw'r enw modern ar y casgliad o dai ar y briffordd rhwng trofa [[Dinas]] a throfa [[Glan-rhyd]], er mae tuedd i alw'r ardal hon yn Dinas hefyd. Yma yr oedd siop fwyd (Dinas Stores), adeilad newydd sydd bellach yn dŷ annedd, ond cynt yn siop "gweinwch chi" a gedwid gan Sais o'r enw Mr Robinson), a hefyd siop cigydd Dafydd Williams (er mai gwerthu o fan oedd Dafydd Williams yn bennaf).  
'''Menai View''' yw'r enw modern ar y casgliad o dai ar y briffordd rhwng trofa [[Dinas]] a throfa [[Glan-rhyd]], er bod tuedd i alw'r ardal hon yn Dinas hefyd. Yma yr oedd siop fwyd (Dinas Stores), adeilad gweddol newydd sydd bellach yn dŷ annedd. Cynt bu'n siop "gweinwch chi" (a gedwid gan Sais o'r enw Mr Robinson), a hefyd bu yno siop cigydd Dafydd Williams (er mai gwerthu o fan oedd Dafydd Williams yn bennaf).  


Gyferbyn â'r rhain oedd Garej Dinas, sefydliad sylweddol a wewerthai betrol a cheir newydd yn ogystal â thrwsio ceir; ar safle Garej Dinas heddiw mae Siop Dillad Awyr Agored Millets (Gelert gynt). Mae hefyd warws offer ar gyfer pobl ag anabledd, garej ceir ail law a modurdy Slaters sydd yn gwerthu ceir Vauxhall newydd.
Gyferbyn â'r rhain roedd Garej Dinas, sefydliad sylweddol a werthai betrol a cheir newydd yn ogystal â thrwsio ceir. Ar safle Garej Dinas heddiw mae Siop Dillad Awyr Agored Millets (Gelert gynt). Yno hefyd mae warws yn gwerthu offer ar gyfer pobl ag anabledd, garej ceir ail law a modurdy Slaters, sydd yn gwerthu ceir Vauxhall newydd.


Hefyd tan yn ddiweddar yr oedd [[Tafarn y Mount Pleasant]] yno a drowyd yn fwyty Bengali, Yr Arman, am rai blynyddoedd cyn i'r adeilad gael ei dymchwel.
Hefyd tan yn ddiweddar roedd [[Tafarn y Mount Pleasant]] yno a drowyd yn fwyty Bengali, Yr Arman, am rai blynyddoedd cyn i'r adeilad gael ei ddymchwel.


Ni arddelai neb enw Cymraeg ar y llecyn.
Ni arddelai neb enw Cymraeg ar y llecyn. Mae'n debyg fod yr enw wedi cychwyn fel enw ar y tŷ bach a siop cigydd ar gornel cyffordd lôn [[Rhos-isaf]], sydd (heblaw am y Mount Pleasant gynt) yr adeilad hynaf yr ochr honno i'r lôn, ar adeg cyn codi tai a modurdy dros y ffordd. Y pryd hynny, ceid golygfa dda o geg y Fenai oddi yno.


[[Categori:Pentrefi a threflannau]]
[[Categori:Pentrefi a threflannau]]
[[Categori:Siopau]]
[[Categori:Siopau]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 18:00, 11 Ionawr 2022

Menai View yw'r enw modern ar y casgliad o dai ar y briffordd rhwng trofa Dinas a throfa Glan-rhyd, er bod tuedd i alw'r ardal hon yn Dinas hefyd. Yma yr oedd siop fwyd (Dinas Stores), adeilad gweddol newydd sydd bellach yn dŷ annedd. Cynt bu'n siop "gweinwch chi" (a gedwid gan Sais o'r enw Mr Robinson), a hefyd bu yno siop cigydd Dafydd Williams (er mai gwerthu o fan oedd Dafydd Williams yn bennaf).

Gyferbyn â'r rhain roedd Garej Dinas, sefydliad sylweddol a werthai betrol a cheir newydd yn ogystal â thrwsio ceir. Ar safle Garej Dinas heddiw mae Siop Dillad Awyr Agored Millets (Gelert gynt). Yno hefyd mae warws yn gwerthu offer ar gyfer pobl ag anabledd, garej ceir ail law a modurdy Slaters, sydd yn gwerthu ceir Vauxhall newydd.

Hefyd tan yn ddiweddar roedd Tafarn y Mount Pleasant yno a drowyd yn fwyty Bengali, Yr Arman, am rai blynyddoedd cyn i'r adeilad gael ei ddymchwel.

Ni arddelai neb enw Cymraeg ar y llecyn. Mae'n debyg fod yr enw wedi cychwyn fel enw ar y tŷ bach a siop cigydd ar gornel cyffordd lôn Rhos-isaf, sydd (heblaw am y Mount Pleasant gynt) yr adeilad hynaf yr ochr honno i'r lôn, ar adeg cyn codi tai a modurdy dros y ffordd. Y pryd hynny, ceid golygfa dda o geg y Fenai oddi yno.