John Huws (Bardd y Gwrych): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Geraint (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Fel yr awgryma enw barddol John (Siôn) Hughes, bardd talcen slip, neu fardd tîn clawdd, ydoedd. Yn Llanaelhaearn y trigai. Fe'i ganwyd ym 1808. Crydd y...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir 3 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Fel yr awgryma enw barddol John (Siôn) Hughes, bardd talcen slip, neu fardd tîn clawdd, ydoedd. Yn Llanaelhaearn y trigai. | Fel yr awgryma "Bardd y Gwyrch", enw barddol '''John (Siôn) Hughes''' (1808-1904), bardd talcen slip, neu fardd tîn clawdd, ydoedd. Yn [[Llanaelhaearn]] y trigai. | ||
Fe'i ganwyd ym 1808. Crydd ydoedd wrth ei alwedigaeth, ac yn dad i deulu o gryddion yn y fro. Un o'r rheini oedd ei fab, y cerddor a'r cyfansoddwr dawnus, William John Hughes, Siop Goch, Trefor (Manchester House wedi hynny) (1846-93). | Fe'i ganwyd ym 1808. Crydd ydoedd wrth ei alwedigaeth, ac yn dad i deulu o gryddion yn y fro. Un o'r rheini oedd ei fab, y cerddor a'r cyfansoddwr dawnus, [[William John Hughes]], Siop Goch, [[Trefor]] (Manchester House wedi hynny) (1846-93). | ||
Pan na fyddai esgidiau ganddo i'w gwneud neu eu trwsio, byddai'n ymroi i 'farddoni' h.y. rhigymu, gyda rhai o'i gerddi yn ddigon doniol a diniwed, ond eraill yn bur gas a mileinig. Dyma enghraifft, sef 'cwpled' o ran o'i ymgais mewn cyfarfod o Gymdeithas Lenyddol Capel | Pan na fyddai esgidiau ganddo i'w gwneud neu eu trwsio, byddai'n ymroi i 'farddoni' h.y. rhigymu, gyda rhai o'i gerddi yn ddigon doniol a diniwed, ond eraill yn bur gas a mileinig. Dyma enghraifft, sef 'cwpled' o ran o'i ymgais mewn cyfarfod o Gymdeithas Lenyddol [[Capel Babell (MC), Llanaelhaearn]]. | ||
''Milgi main bolwyn brith'' | ''Milgi main bolwyn brith'' | ||
''Hir ei gefn a main ei wrych.'' | |||
''Hir ei gefn a main ei wrych.'' | |||
Dyma fel y dywed y bardd Cybi amdano yn ei lyfr ''Beirdd Gwerin Eifionydd'' : | Dyma fel y dywed y bardd Cybi amdano yn ei lyfr ''Beirdd Gwerin Eifionydd'' : | ||
Llinell 15: | Llinell 14: | ||
Gwas ffarm yn dod ag esgidiau i Siôn i'w trwsio, gan ei siarsio i wneud y peth rhataf posib iddynt. Roedd yr esgidiau yn drybola o faw. Meddai'r crydd : | Gwas ffarm yn dod ag esgidiau i Siôn i'w trwsio, gan ei siarsio i wneud y peth rhataf posib iddynt. Roedd yr esgidiau yn drybola o faw. Meddai'r crydd : | ||
''Ym Mhenllechog mae hwsmon rhyfadd,'' | ''Ym Mhenllechog mae hwsmon rhyfadd,'' | ||
''Ac ar ei 'sgidia mae gwall ymgeladd...'' | |||
''Ac ar ei 'sgidia mae gwall ymgeladd...'' | |||
Yn ystod etholiadau byddai'n colli arno'i hun yn llwyr, ac yn ymroi i gyfansoddi penillion dilornus am ei elynion gwleidyddol (y Toriaid, wrth gwrs): | |||
''Pe cawn i wn dau faril'' | |||
''A bwledi mawr o swêj,'' | |||
''Mi saethwn Ellis Nanney'' | |||
''I lawr o ben y stêj!'' | |||
' | Bu farw Bardd y Gwrych ym 1904 yn 96 mlwydd oed ac fe'i claddwyd ym mynwent [[Eglwys Sant Aelhaearn, Llanaelhaearn]]. | ||
[[Categori:Pobl]] | |||
[[Categori:Crefftwyr]] | |||
[[Categori:Beirdd]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 13:43, 10 Chwefror 2020
Fel yr awgryma "Bardd y Gwyrch", enw barddol John (Siôn) Hughes (1808-1904), bardd talcen slip, neu fardd tîn clawdd, ydoedd. Yn Llanaelhaearn y trigai.
Fe'i ganwyd ym 1808. Crydd ydoedd wrth ei alwedigaeth, ac yn dad i deulu o gryddion yn y fro. Un o'r rheini oedd ei fab, y cerddor a'r cyfansoddwr dawnus, William John Hughes, Siop Goch, Trefor (Manchester House wedi hynny) (1846-93).
Pan na fyddai esgidiau ganddo i'w gwneud neu eu trwsio, byddai'n ymroi i 'farddoni' h.y. rhigymu, gyda rhai o'i gerddi yn ddigon doniol a diniwed, ond eraill yn bur gas a mileinig. Dyma enghraifft, sef 'cwpled' o ran o'i ymgais mewn cyfarfod o Gymdeithas Lenyddol Capel Babell (MC), Llanaelhaearn.
Milgi main bolwyn brith Hir ei gefn a main ei wrych.
Dyma fel y dywed y bardd Cybi amdano yn ei lyfr Beirdd Gwerin Eifionydd :
Os am weled Siôn yn ei ogoniant, [yna] mewn Cwrdd Cystadleuol neu ar y llwyfan gwleidyddol amdani. Mae ei ymfflamychiadau yn y naill a'r llall yn anfarwol, ac yn lleng ar dafod yr oror hyd y dydd hwn.
Gwas ffarm yn dod ag esgidiau i Siôn i'w trwsio, gan ei siarsio i wneud y peth rhataf posib iddynt. Roedd yr esgidiau yn drybola o faw. Meddai'r crydd :
Ym Mhenllechog mae hwsmon rhyfadd, Ac ar ei 'sgidia mae gwall ymgeladd...
Yn ystod etholiadau byddai'n colli arno'i hun yn llwyr, ac yn ymroi i gyfansoddi penillion dilornus am ei elynion gwleidyddol (y Toriaid, wrth gwrs):
Pe cawn i wn dau faril A bwledi mawr o swêj, Mi saethwn Ellis Nanney I lawr o ben y stêj!
Bu farw Bardd y Gwrych ym 1904 yn 96 mlwydd oed ac fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Sant Aelhaearn, Llanaelhaearn.