Ffordd Osgoi Pen-y-groes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Agorwyd '''Ffordd Osgoi Pen-y-groes''' yn 2001 gan wyro'r A487, y brif ffordd rhwng y gogledd-orllewin a Caerdydd a de Cymru'n gyffredinol fel nad oedd angen i deithwyr drafeilio trwy bentrefi [[Llanllyfni]], [[Pen-y-groes]] a'r [[Y Groeslon|Groeslon]] gyda'r strydoedd culion a phroblemau parcio ar ochr y lôn. Roedd hyn yn golygu adeiladu ffordd newydd sbon o'r drofa am [[Nasareth]] hyd at gylchfan newydd a wnaed ger [[Tafarn y Goat (Llanwnda)|Tafarn y Goat]] ym mhentref [[Llanwnda]]. Mae'n cydredeg am lawer o'r ffordd â [[Lôn Eifion], sef hen drac y rheilffordd o Gaernarfon hyd Afon-wen, er bod angen gwyro peth ar Lôn Eifion yma ac acw i ganatáu codi cylchfannau ac ati. Caewyd rhai lonydd yn ardal Nasareth a [[Pont y Crychddwr|Phont-y-crychddwr]], a'r lôn o [[Gwaith Llechi Inigo Jones|Waith Llechi Inigo Jones]] i dyddyn Grugan Ddu yn Y Groeslon.
Agorwyd '''Ffordd Osgoi Pen-y-groes''' yn 2001 gan wyro'r A487, y brif ffordd rhwng y gogledd-orllewin a Chaerdydd a de Cymru'n gyffredinol, fel nad oedd angen i deithwyr deithio mwyach trwy bentrefi [[Llanllyfni]], [[Pen-y-groes]] a'r [[Y Groeslon|Groeslon]] gyda'u strydoedd culion a phroblemau parcio ar ochr y lôn. Roedd hyn yn golygu adeiladu ffordd newydd sbon o'r drofa am [[Nasareth]] hyd at gylchfan newydd a wnaed ger [[Tafarn y Goat (Llanwnda)|Tafarn y Goat]] ym mhentref [[Llanwnda]]. Mae'n cydredeg am lawer o'r ffordd â [[Lôn Eifion]], sef hen drac y [[Rheilffordd Sir Gaernarfon|rheilffordd o Gaernarfon hyd Afon-wen]], er y bu angen gwyro peth ar Lôn Eifion yma ac acw i ganatáu codi cylchfannau ac ati. Caewyd rhai lonydd yn ardal Nasareth a [[Pont y Crychddwr|Phont-y-crychddwr]], a'r lôn o [[Gwaith Llechi Inigo Jones|Waith Llechi Inigo Jones]] i dyddyn Grugan Ddu yn Y Groeslon.


Ar yr un pryd, lledwyd y ffordd rhwng drofa Nasareth a phentref Pant-glas fel ei bod o'r un safon a'r ffordd osgoi newydd.
Yr un pryd, lledwyd y ffordd rhwng trofa Nasareth a phentref Pant-glas fel ei bod o'r un safon â'r ffordd osgoi newydd.


Yn 2002, bydd yn cysylltu'n uniongyrchol â phen gorllewinol [[Ffordd Osgoi Caernarfon]] wrth gylchfan y Goat, Llanwnda. Erbyn hynny bydd yr holl ffordd o Dŷ Golchi ger y Felinheli hyd at drofa Nasareth wedi ei hadeiladu ar dir nad oedd erioed o'r blaen yn rhan o ffordd, a phob cam o'r A487 rhwng Pont Menai a phentref [[Pant-glas]] wedi ei gwella'n sylweddol iawn.
Yn 2022, bydd yn cysylltu'n uniongyrchol â phen gorllewinol [[Ffordd Osgoi Caernarfon]] wrth gylchfan [[Tafarn y Goat, Llanwnda]]. Erbyn hynny bydd yr holl ffordd o Dŷ Golchi ger y Felinheli hyd at drofa Nasareth wedi ei hadeiladu ar dir nad oedd erioed o'r blaen yn rhan o ffordd, a phob cam o'r A487 rhwng Pont Menai a phentref [[Pant-glas]] wedi ei gwella'n sylweddol iawn.


[[Categori:Cludiant]]
[[Categori:Cludiant]]
[[Categori:Ffyrdd]]
[[Categori:Ffyrdd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:58, 6 Ionawr 2022

Agorwyd Ffordd Osgoi Pen-y-groes yn 2001 gan wyro'r A487, y brif ffordd rhwng y gogledd-orllewin a Chaerdydd a de Cymru'n gyffredinol, fel nad oedd angen i deithwyr deithio mwyach trwy bentrefi Llanllyfni, Pen-y-groes a'r Groeslon gyda'u strydoedd culion a phroblemau parcio ar ochr y lôn. Roedd hyn yn golygu adeiladu ffordd newydd sbon o'r drofa am Nasareth hyd at gylchfan newydd a wnaed ger Tafarn y Goat ym mhentref Llanwnda. Mae'n cydredeg am lawer o'r ffordd â Lôn Eifion, sef hen drac y rheilffordd o Gaernarfon hyd Afon-wen, er y bu angen gwyro peth ar Lôn Eifion yma ac acw i ganatáu codi cylchfannau ac ati. Caewyd rhai lonydd yn ardal Nasareth a Phont-y-crychddwr, a'r lôn o Waith Llechi Inigo Jones i dyddyn Grugan Ddu yn Y Groeslon.

Yr un pryd, lledwyd y ffordd rhwng trofa Nasareth a phentref Pant-glas fel ei bod o'r un safon â'r ffordd osgoi newydd.

Yn 2022, bydd yn cysylltu'n uniongyrchol â phen gorllewinol Ffordd Osgoi Caernarfon wrth gylchfan Tafarn y Goat, Llanwnda. Erbyn hynny bydd yr holl ffordd o Dŷ Golchi ger y Felinheli hyd at drofa Nasareth wedi ei hadeiladu ar dir nad oedd erioed o'r blaen yn rhan o ffordd, a phob cam o'r A487 rhwng Pont Menai a phentref Pant-glas wedi ei gwella'n sylweddol iawn.