Pont Cwellyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae '''Pont Cwellyn''' bresennol yn bont ar ffurf sarn gyda thri bwa dros hyd o 77 llath, ger ffermydd Cwellyn a Phlanwydd. Bu hen bont ar y safle cyn 1778.<ref>Archifdy Gwynedd XPlansB/153</ref> Mae'n sefyll ar yr hen ffin rhwng plwyfi [[Llanwnda]], Beddgelert a [[Betws Garmon]] lle mae afonydd Bron-y-fedw ac [[Afon Gwyrfai]] yn llifo i mewn i ben uchaf [[Llyn Cwellyn]], ar y briffordd o Gaernarfon i Feddgelert (yr A4085 bresennol). Cafodd ei thrwsio a'i gwella ym 1829-30 gan y contractwyr Lewis Williams a John Parry, seiri maen. Roedd y gwaith yn cynnwys sythu darn o'r ffordd fel y byddai'r ddwy afon yn llifo o dan y bont. Ar fapiau Ordnans, fe roddir yr enw Pont Glan-yr-afon neu Bont Cwellyn Rhif 2 i'r bont dros Afon Bron-y-fedw a Phont Cwellyn Rhif 1 i'r darn o'r bont sy'n croesi'r Afon Cwellyn neu Wyrfai. | Mae '''Pont Cwellyn''', fel y mae hi'n bresennol, yn bont ar ffurf sarn gyda thri bwa dros hyd o 77 llath, ger ffermydd Cwellyn a Phlanwydd. Bu hen bont ar y safle cyn 1778.<ref>Archifdy Gwynedd XPlansB/153</ref> Mae'n sefyll ar yr hen ffin rhwng plwyfi [[Llanwnda]], Beddgelert a [[Betws Garmon]] lle mae afonydd Bron-y-fedw ac [[Afon Gwyrfai]] yn llifo i mewn i ben uchaf [[Llyn Cwellyn]], ar y briffordd o Gaernarfon i Feddgelert (yr A4085 bresennol). Cafodd ei thrwsio a'i gwella ym 1829-30 gan y contractwyr Lewis Williams a John Parry, seiri maen. Roedd y gwaith yn cynnwys sythu darn o'r ffordd fel y byddai'r ddwy afon yn llifo o dan y bont. Ar fapiau Ordnans, fe roddir yr enw Pont Glan-yr-afon neu Bont Cwellyn Rhif 2 i'r bont dros Afon Bron-y-fedw a Phont Cwellyn Rhif 1 i'r darn o'r bont sy'n croesi'r Afon Cwellyn neu Wyrfai. O'r holl adeiladwaith, dim ond un talcen i Bont Gwyrfai 1 sydd yn [[Uwchgwyrfai]].<ref>Map Ordnans 6" i'r filltir, arolwg 1888</ref> | ||
Roedd y bont oedd yno'n wreiddiol ond yn croesi Afon Cwellyn, gan adael yr afon arall (mae'n debyg) i beri | Roedd y bont oedd yno'n wreiddiol ond yn croesi Afon Cwellyn, gan adael yr afon arall (mae'n debyg) i beri llifogydd ar adegau o storm. Mae'n amlwg fod pont yno cyn 1778<ref>Archifdy Caernarfon XPlansB/153</ref> ac mae bond wedi ei lofnodi gan Henry Parry, Moel-y-don, Ynys Môn, saer melinau; Griffith Williams, Llanllechid, saer maen; a John Hughes, Drws-y-coed, Beddgelert, saer maen, yn nodi eu bod wedi codi pont newydd y flwyddyn honno ar gost o £200 yn lle'r hen bont a oedd yn "annigonol, anghyfleus a heb fod mewn cyflwr da".<ref>Archifdy CaernarfonXPlansB/150, 173</ref> Fe ymddengys iddi gael ei chodi, neu ei hail-godi, tua 1800 (a barnu oddi wrth arddull y cynlluniau a'r ysgrifen ar y dogfennau sydd ar gael). Yr adeiladydd y pryd hynny oedd Lewis Ellis a'i bartneriaid a gwnaed y dyluniad gan John Hughes, saer melinau. Y gost y pryd hynny, mae'n ymddangos, oedd £251.12.0c.<ref>Archifdy CaernarfonXPlansB/76</ref> | ||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Golygiad diweddaraf yn ôl 16:53, 12 Ionawr 2022
Mae Pont Cwellyn, fel y mae hi'n bresennol, yn bont ar ffurf sarn gyda thri bwa dros hyd o 77 llath, ger ffermydd Cwellyn a Phlanwydd. Bu hen bont ar y safle cyn 1778.[1] Mae'n sefyll ar yr hen ffin rhwng plwyfi Llanwnda, Beddgelert a Betws Garmon lle mae afonydd Bron-y-fedw ac Afon Gwyrfai yn llifo i mewn i ben uchaf Llyn Cwellyn, ar y briffordd o Gaernarfon i Feddgelert (yr A4085 bresennol). Cafodd ei thrwsio a'i gwella ym 1829-30 gan y contractwyr Lewis Williams a John Parry, seiri maen. Roedd y gwaith yn cynnwys sythu darn o'r ffordd fel y byddai'r ddwy afon yn llifo o dan y bont. Ar fapiau Ordnans, fe roddir yr enw Pont Glan-yr-afon neu Bont Cwellyn Rhif 2 i'r bont dros Afon Bron-y-fedw a Phont Cwellyn Rhif 1 i'r darn o'r bont sy'n croesi'r Afon Cwellyn neu Wyrfai. O'r holl adeiladwaith, dim ond un talcen i Bont Gwyrfai 1 sydd yn Uwchgwyrfai.[2]
Roedd y bont oedd yno'n wreiddiol ond yn croesi Afon Cwellyn, gan adael yr afon arall (mae'n debyg) i beri llifogydd ar adegau o storm. Mae'n amlwg fod pont yno cyn 1778[3] ac mae bond wedi ei lofnodi gan Henry Parry, Moel-y-don, Ynys Môn, saer melinau; Griffith Williams, Llanllechid, saer maen; a John Hughes, Drws-y-coed, Beddgelert, saer maen, yn nodi eu bod wedi codi pont newydd y flwyddyn honno ar gost o £200 yn lle'r hen bont a oedd yn "annigonol, anghyfleus a heb fod mewn cyflwr da".[4] Fe ymddengys iddi gael ei chodi, neu ei hail-godi, tua 1800 (a barnu oddi wrth arddull y cynlluniau a'r ysgrifen ar y dogfennau sydd ar gael). Yr adeiladydd y pryd hynny oedd Lewis Ellis a'i bartneriaid a gwnaed y dyluniad gan John Hughes, saer melinau. Y gost y pryd hynny, mae'n ymddangos, oedd £251.12.0c.[5]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma