Llwyn-y-gwalch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 13 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Llwyn-y-gwalch''' yn ffermdy ym mhlwyf [[Llandwrog]]. Fe saif ar ochr hen lôn geffyl (sydd bellach yn llwybr cyhoeddus) a ddefnyddid i gludo llechi o [[Chwarel Cilgwyn|Fynydd Cilgwyn]] i lawr at y cychod yn [[Y Foryd]]; a hynny ger y fan lle croesai'r hen ffordd y ffordd dyrpeg rhwng y [[Dolydd]] a'r [[Y Groeslon|Groeslon]]. Roedd yn brif fferm ystâd fechan ac iddi felin, sef [[Melin Llwyn-y-gwalch]].<ref>W. Gilbert Williams, ''Yr Herald Cymraeg'', 1938.</ref>
Saif '''Llwyn-y-gwalch''' ym mhlwyf [[Llandwrog]], ger [[Afon Llifon]]. Dyma un o gartrefi mân foneddigion [[Uwchgwyrfai]] oedd yn ddisgynyddion o'r un cyff â [[Teulu Glynllifon|theulu Glynllifon]], sef hil [[Cilmin Droed-ddu]]. Yn ôl yr hen achau, disgynnodd y teulu trwy Madog ab Ednowain, brawd sylfaenydd llinach Glynllifon, sef [[Ystrwyth ab Ednowain]]. Mab Madog oedd Morgan ap Madog, ac fe'i dilynwyd gan Gruffydd, Heilyn, Iorwerth Goch, Einion, Ednyfed a Hywel Ddu o genhedlaeth i genhedlaeth. Mab Hywel Ddu oedd Llywelyn ap Hywel Ddu, a gadawodd hwnnw ei eiddo i'w unig blentyn, Nest ferch Llywelyn. Priododd honno Ifan ap Llywelyn o Drefeilir, Ynys Môn, a chawsant nifer o blant. Gadawyd y brif ystad i'w mab hynaf, Rhys ab Ifan o Drefeilir; eiddo arall, Prysiorwerth Ucha, i'r ail fab, Maurice; a gadawyd Prysiorweth Isaf i Syr William, oedd yn offeiriad. Cafodd fab arall, Siencyn, eiddo o'r enw Carregonnen; a mab arall, Robert, Henblas. Y mab ieuengaf ond un, John, etifeddodd Bodwrdin. Roedd yr eiddo yma i gyd yn Sir Fôn, ac arwyddocaol efallai oedd y ffaith mai'r mab ieuengaf, Gruffydd, etifeddodd yr eiddo oedd gynt yn eiddo i'w fam, sef Llwyn-y-gwalch - ac efallai y gellid casglu o hyn nad oedd yr eiddo mor fawr a phwysig â holl diroedd eraill Ystad Trefeilir. Methodd Gruffydd â sefydlu llinach newydd yn Llwyn-y-gwalch oherwydd iddo farw'n ddi-blant. Dichon i Gruffydd farw yn ail hanner y 16g., gan adael Llwyn-y-gwalch i'w frawd hynaf, sef Rhys ab Ifan o Drefeilir. Priododd mab Rhys, John ap Rhys â Jonet, ferch [[Robert ap Meredydd]] o [[Glynllifon]], gan greu undod rhwng dwy gangen o gyff Cilmin.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), tt.1, 67,229</ref>


Mae sôn am Rowland Morgan, gwr bonheddig, yn byw yno ym mis Awst 1653.<ref>Archifdy Caernarfon, XQS/1653+54/39</ref> Y cofnod cyntaf am fodolaeth y felin, efallai, yw gweithred dyddiedig 1695, pan oedd y felin yn eiddo i John Rowland, gŵr bonheddig o Fangor, ac yn fab i Rowland Morgan, Llwyn-y-gwalch.<ref>LLGC, Cofnodion Ystâd Coed Coch a Throfarth, 1585; Cofnodion Ystâd Hafodgaregog a Threfan, 326.</ref>
Ers tair canrif a mwy, felly, mae Llwyn-y-gwalch wedi bod yn ffermdy yn hytrach na phrif gartref y perchnogion. Fe saif ar ochr hen lôn geffyl (sydd bellach yn llwybr cyhoeddus) a ddefnyddid i gludo llechi o [[Chwarel Cilgwyn|Fynydd Cilgwyn]] i lawr at y cychod yn [[Y Foryd]]; a hynny ger y fan lle croesai'r hen ffordd y ffordd dyrpeg rhwng y [[Dolydd]] a'r [[Y Groeslon|Groeslon]]. Roedd yn brif fferm ystâd fechan ac iddi felin, sef [[Melin Llwyn-y-gwalch]].<ref>W. Gilbert Williams, ''Yr Herald Cymraeg'', 1938.</ref>


Sonnir am y felin wedyn ym 1717 pan oedd Grace, aeres Llwyn-y-gwalch yn weddw a Morgan Jones, mab hi a'i gŵr John Rowlands o Faenol Bangor, yn berchen ar y felin yn Llwyn-gwalch. Erbyn 1739, roedd Griffith Morris yn gweithio iddynt fel melinydd. Bu'n eiddo i'r teulu am flynyddoedd nes marw Thomas Jones ym 1823.
Ceir sôn am Rowland Morgan, gŵr bonheddig, yn byw yno ym mis Awst 1653.<ref>Archifdy Caernarfon, XQS/1653+54/39</ref> Roedd ei fab, John Rowland, yn achosi cryn drafferth i'r ynad lleol, [[Edmund Glynn]] yn ystod y 1650au, a cheir sôn sawl gwaith ymysg papurau'r Llys Chwarter amdano'n aflonyddu'r hwn neu'r llall.  


Am gyfnod byr, tua 1813 hyd 1818 efallai, dyma oedd cartref plentyndod [[Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon]] a anwyd ym [[Bodgarad|Modgarad]], ond a symudodd gyda'i deulu i [[Tyddyn Tudur|Dyddyn Tudur]] ger [[Plas Glynllifon]] maes o law.<ref>Geraint Jones, ''Gŵr Hynod Uwchlaw'rffynnon'', (Llanrwts, 2008), t.8</ref>
Y cofnod cyntaf am fodolaeth y felin, efallai, yw gweithred dyddiedig 1695, pan oedd y felin yn eiddo i John Rowland, oedd erbyn hynny'n ŵr bonheddig yn byw ym Mryntirion, Bangor.<ref>LLGC, Cofnodion Ystâd Coed Coch a Throfarth, 1585; Cofnodion Ystâd Hafodgaregog a Threfan, 326.</ref>
 
Sonnir am y felin wedyn ym 1717 pan oedd Grace, aeres Llwyn-y-gwalch yn weddw a Morgan Jones, mab hi a'i gŵr John Rowlands o Faenol Bangor, yn berchen ar [[Melin Llwyn-y-gwalch|felin]] yn Llwyn-y-gwalch. Un o'r teulu. mae'n debyg oedd y John Rowland o Lwyn-y-gwalch oedd yn warden eglwys ym mhlwyf Llandwrog ym 1734.<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llandwrog</ref> Erbyn 1739, roedd Griffith Morris yn gweithio iddynt fel melinydd. Ym 1769, ceir sôn mewn dogfen setliad wedi priodas am Lwyn-y-gwalch ynghyd â'r felin berthynol ac hefyd Gallt-y-pill (fferm nid nepell i ffwrdd) ymysg eiddo Griffith Jones, sgweiar o Fryntirion, Bangor, disgynnydd i'r Grace uchod; mae'n bur amlwg mai wedi ei osod i denantiaid oedd Llwyn-y-gwalch. Ni fu Griffith Jones fyw am hir wedi iddo briodi, fodd bynnag, ac erbyn 1775 roedd yr eiddo yn pasio i ddwylo chwaer Griffith, Grace Jones arall - er bod ei wraig Margaret Jones yn dal yn fyw.<ref>Archifdy Caernarfon, XM543/3,4</ref>  Bu'n eiddo i'r teulu am flynyddoedd wedyn. Marwodd Thomas Jones ym 1823 ac fe etifeddodd Frank Jones Walker Jones, ei fab - eto o Fryntirion - yr eiddo. Priododd hwnnw Jane Turner, merch William Turner, Parciau, Caernarfon. Bargyfreithiwr, ynad heddwch a Dirprwy Raglaw Sir Gaernarfon oedd Walker Jones, oedd yn byw yng Nghaernarfon.
 
Tua 1800 bu dyn o'r enw John Beywater yn cynnal ysgol ddyddiol mewn llofft yn Llwyn-y-gwalch, ac ymysg ei ddisgyblion oedd [[Hugh Jones (Gwyndaf Ieuanc)]].<ref>Hugh Jones, ''Gwyndaf Ieuanc'' (''Cymru'', Cyf.34 (1908)), tt.9-11.</ref>
 
Am gyfnod byr, tua 1813 hyd 1818 efallai, dyma oedd cartref plentyndod [[Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon]] a anwyd ym [[Bodgarad|Modgarad]], ond a symudodd gyda'i deulu i [[Tyddyn Tudur|Dyddyn Tudur]] ger [[Plas Glynllifon]] maes o law.<ref>Geraint Jones, ''Gŵr Hynod Uwchlaw'rffynnon'', (Llanrwst, 2008), t.8</ref>
 
Erbyn 1840 roedd y fferm, ynghyd â Gallt-y-pill a chae 2 erw o enw'r Parc ar [[Morfa Dinlle|Forfa Dinlle]], yn eiddo i Frank Jones Walker Jones, a Robert Davies oedd y tenant, yn ffermio 54 erw oedd yn gymysgedd o dir âr a thir pori. Dyma enwau'r caeau: Cae Richard Roberts, Wern y moch, Congl bach, Cae'r Sarn, Cae mawr y felin, Gors y felin, Cae ffordd, Werglodd felin, Pwll'rolwyn, Cae'r llyn, Cae y meirch, Cefn Gadlys, Llwyn, Cae'r tŷ, Cefn yr hoewal, Cae glas, Lloc a Rhos.<ref>Map a rhaniad degwm plwyf Llandwrog</ref> Roedd Robert Davies hefyd yn gweithio fel melinydd y felin oedd ar yr eiddo.<ref>Cyfrifiad plwyf Llandwrog 1841, 1851</ref>
 
Ym 1889, fe brynwyd Llwyn-y-gwalch gan [[Frederick George Wynn]], sgweiar [[Glynllifon]], am £2700. Yr oedd y fferm y pryd hynny'n 55 erw o ran arwynebedd.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/6673</ref>


==Chwedl am yr enw==
==Chwedl am yr enw==

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:15, 4 Rhagfyr 2023

Saif Llwyn-y-gwalch ym mhlwyf Llandwrog, ger Afon Llifon. Dyma un o gartrefi mân foneddigion Uwchgwyrfai oedd yn ddisgynyddion o'r un cyff â theulu Glynllifon, sef hil Cilmin Droed-ddu. Yn ôl yr hen achau, disgynnodd y teulu trwy Madog ab Ednowain, brawd sylfaenydd llinach Glynllifon, sef Ystrwyth ab Ednowain. Mab Madog oedd Morgan ap Madog, ac fe'i dilynwyd gan Gruffydd, Heilyn, Iorwerth Goch, Einion, Ednyfed a Hywel Ddu o genhedlaeth i genhedlaeth. Mab Hywel Ddu oedd Llywelyn ap Hywel Ddu, a gadawodd hwnnw ei eiddo i'w unig blentyn, Nest ferch Llywelyn. Priododd honno Ifan ap Llywelyn o Drefeilir, Ynys Môn, a chawsant nifer o blant. Gadawyd y brif ystad i'w mab hynaf, Rhys ab Ifan o Drefeilir; eiddo arall, Prysiorwerth Ucha, i'r ail fab, Maurice; a gadawyd Prysiorweth Isaf i Syr William, oedd yn offeiriad. Cafodd fab arall, Siencyn, eiddo o'r enw Carregonnen; a mab arall, Robert, Henblas. Y mab ieuengaf ond un, John, etifeddodd Bodwrdin. Roedd yr eiddo yma i gyd yn Sir Fôn, ac arwyddocaol efallai oedd y ffaith mai'r mab ieuengaf, Gruffydd, etifeddodd yr eiddo oedd gynt yn eiddo i'w fam, sef Llwyn-y-gwalch - ac efallai y gellid casglu o hyn nad oedd yr eiddo mor fawr a phwysig â holl diroedd eraill Ystad Trefeilir. Methodd Gruffydd â sefydlu llinach newydd yn Llwyn-y-gwalch oherwydd iddo farw'n ddi-blant. Dichon i Gruffydd farw yn ail hanner y 16g., gan adael Llwyn-y-gwalch i'w frawd hynaf, sef Rhys ab Ifan o Drefeilir. Priododd mab Rhys, John ap Rhys â Jonet, ferch Robert ap Meredydd o Glynllifon, gan greu undod rhwng dwy gangen o gyff Cilmin.[1]

Ers tair canrif a mwy, felly, mae Llwyn-y-gwalch wedi bod yn ffermdy yn hytrach na phrif gartref y perchnogion. Fe saif ar ochr hen lôn geffyl (sydd bellach yn llwybr cyhoeddus) a ddefnyddid i gludo llechi o Fynydd Cilgwyn i lawr at y cychod yn Y Foryd; a hynny ger y fan lle croesai'r hen ffordd y ffordd dyrpeg rhwng y Dolydd a'r Groeslon. Roedd yn brif fferm ystâd fechan ac iddi felin, sef Melin Llwyn-y-gwalch.[2]

Ceir sôn am Rowland Morgan, gŵr bonheddig, yn byw yno ym mis Awst 1653.[3] Roedd ei fab, John Rowland, yn achosi cryn drafferth i'r ynad lleol, Edmund Glynn yn ystod y 1650au, a cheir sôn sawl gwaith ymysg papurau'r Llys Chwarter amdano'n aflonyddu'r hwn neu'r llall.

Y cofnod cyntaf am fodolaeth y felin, efallai, yw gweithred dyddiedig 1695, pan oedd y felin yn eiddo i John Rowland, oedd erbyn hynny'n ŵr bonheddig yn byw ym Mryntirion, Bangor.[4]

Sonnir am y felin wedyn ym 1717 pan oedd Grace, aeres Llwyn-y-gwalch yn weddw a Morgan Jones, mab hi a'i gŵr John Rowlands o Faenol Bangor, yn berchen ar felin yn Llwyn-y-gwalch. Un o'r teulu. mae'n debyg oedd y John Rowland o Lwyn-y-gwalch oedd yn warden eglwys ym mhlwyf Llandwrog ym 1734.[5] Erbyn 1739, roedd Griffith Morris yn gweithio iddynt fel melinydd. Ym 1769, ceir sôn mewn dogfen setliad wedi priodas am Lwyn-y-gwalch ynghyd â'r felin berthynol ac hefyd Gallt-y-pill (fferm nid nepell i ffwrdd) ymysg eiddo Griffith Jones, sgweiar o Fryntirion, Bangor, disgynnydd i'r Grace uchod; mae'n bur amlwg mai wedi ei osod i denantiaid oedd Llwyn-y-gwalch. Ni fu Griffith Jones fyw am hir wedi iddo briodi, fodd bynnag, ac erbyn 1775 roedd yr eiddo yn pasio i ddwylo chwaer Griffith, Grace Jones arall - er bod ei wraig Margaret Jones yn dal yn fyw.[6] Bu'n eiddo i'r teulu am flynyddoedd wedyn. Marwodd Thomas Jones ym 1823 ac fe etifeddodd Frank Jones Walker Jones, ei fab - eto o Fryntirion - yr eiddo. Priododd hwnnw Jane Turner, merch William Turner, Parciau, Caernarfon. Bargyfreithiwr, ynad heddwch a Dirprwy Raglaw Sir Gaernarfon oedd Walker Jones, oedd yn byw yng Nghaernarfon.

Tua 1800 bu dyn o'r enw John Beywater yn cynnal ysgol ddyddiol mewn llofft yn Llwyn-y-gwalch, ac ymysg ei ddisgyblion oedd Hugh Jones (Gwyndaf Ieuanc).[7]

Am gyfnod byr, tua 1813 hyd 1818 efallai, dyma oedd cartref plentyndod Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon a anwyd ym Modgarad, ond a symudodd gyda'i deulu i Dyddyn Tudur ger Plas Glynllifon maes o law.[8]

Erbyn 1840 roedd y fferm, ynghyd â Gallt-y-pill a chae 2 erw o enw'r Parc ar Forfa Dinlle, yn eiddo i Frank Jones Walker Jones, a Robert Davies oedd y tenant, yn ffermio 54 erw oedd yn gymysgedd o dir âr a thir pori. Dyma enwau'r caeau: Cae Richard Roberts, Wern y moch, Congl bach, Cae'r Sarn, Cae mawr y felin, Gors y felin, Cae ffordd, Werglodd felin, Pwll'rolwyn, Cae'r llyn, Cae y meirch, Cefn Gadlys, Llwyn, Cae'r tŷ, Cefn yr hoewal, Cae glas, Lloc a Rhos.[9] Roedd Robert Davies hefyd yn gweithio fel melinydd y felin oedd ar yr eiddo.[10]

Ym 1889, fe brynwyd Llwyn-y-gwalch gan Frederick George Wynn, sgweiar Glynllifon, am £2700. Yr oedd y fferm y pryd hynny'n 55 erw o ran arwynebedd.[11]

Chwedl am yr enw

Dywedir stori yn yr ardal i esbonio'r enw, sef bod tirfeddiannwr lleol a arferai fyw yn Grugan Wen farw ac am adael tir i'w chwe mab, gan ddyfarnu yn ei ewyllys fod ei fab Iago i gael cae, Dafydd i gael tyddyn, Siencyn i gael talar, Morgan i gael melin, ac Ifan i gael hafod gyda'r a'r gwalch (sef hogyn drygiog, ei fab arall, nad oedd yn ei gymeradwyo) i dderbyn llwyn. Mae tyddyn Cae Iago, fferm a thir Melin Forgan, fferm Hafod Ifan, fferm Tyddyn Dafydd a thir (a fu unwaith yn dyddyn ar wahân) Talar Siencyn i gyd yn ffinio ar dir Llwyn-y-gwalch heddiw. Mae Grugan Wen hefyd nid nepell o'r chwe daliad tir hyn.[12]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt.1, 67,229
  2. W. Gilbert Williams, Yr Herald Cymraeg, 1938.
  3. Archifdy Caernarfon, XQS/1653+54/39
  4. LLGC, Cofnodion Ystâd Coed Coch a Throfarth, 1585; Cofnodion Ystâd Hafodgaregog a Threfan, 326.
  5. Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llandwrog
  6. Archifdy Caernarfon, XM543/3,4
  7. Hugh Jones, Gwyndaf Ieuanc (Cymru, Cyf.34 (1908)), tt.9-11.
  8. Geraint Jones, Gŵr Hynod Uwchlaw'rffynnon, (Llanrwst, 2008), t.8
  9. Map a rhaniad degwm plwyf Llandwrog
  10. Cyfrifiad plwyf Llandwrog 1841, 1851
  11. Archifdy Caernarfon, XD2/6673
  12. Hanes y Groeslon, (2000), t.15.