Llyn y Gader: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Llyn y Gader''' i'r de o bentref Rhyd-ddu ac yn dechnegol mae'r cwbl ohono y tu allan i ffiniau Uwchgwyrfai ond dyma darddiad Afon Gwyrfa...'
 
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Llyn y Gader''' i'r de o bentref [[Rhyd-ddu]] ac yn dechnegol mae'r cwbl ohono y tu allan i ffiniau [[Uwchgwyrfai]] ond dyma darddiad [[Afon Gwyrfai]] neu fel y'i gelwir yn yr ardal, [[Afon Cwellyn]] neu [[Afon Llyn y Gader]]. Mae ffin plwyf [[Llanwnda]] ac felly ffin [[Uwchgwyrfai]] fodd bynnag yn rhedeg ar hyd ymyl y llyn am ryw hyd ger y man lle mae'r afon yn cychwyn ar ei daith o'r llyn.
Mae '''Llyn y Gader''' (neu '''Llyn y Gadair''' fel y'i gelwir hefyd) i'r de o bentref [[Rhyd-ddu]] ac, yn dechnegol, mae'r cwbl ohono y tu allan i ffiniau [[Uwchgwyrfai]] ond dyma darddiad [[Afon Gwyrfai]] neu, fel y'i gelwir yn yr ardal, [[Afon Cwellyn]] neu [[Afon Llyn y Gader]]. Fodd bynnag, mae ffin plwyf [[Llanwnda]], ac felly ffin [[Uwchgwyrfai]], yn rhedeg ar hyd ymyl y llyn am ryw hyd ger y fan lle mae'r afon yn cychwyn ar ei thaith o'r llyn. Craig fawr ar ffurf cadair sy'n codi o'r llyn ar ochr yr ogledd-orllewinol iddo a roddodd ei enw iddo ac fe'i hanfarwolwyd hefyd yn un o sonedau enwocaf y bardd o Rhyd-ddu, T.H. Parry-Williams, sy'n dechrau â'r llinellau:
 
  Ni wêl y teithiwr talog mono bron
    Wrth edrych dros ei fasddwr ar y wlad.
  Mae mwy o harddwch ym mynyddoedd hon
    Nag mewn rhyw ddarn o lyn, heb ddim ond bad
  Pysgotwr unig, sydd yn chwipio'r dŵr
    A rhwyfo plwc yn awr ac yn y man,
  Fel adyn ar gyfeiliorn, neu fel gŵr
    Ar ddyfroedd hunlle'n methu cyrraedd glan.<sup>[1]</sup>
 
== Cyfeiriadau ==
 
1. T.H. Parry-Williams, ''Detholiad o Gerddi'', (Gwasg Gomer, 1972), t.35.  
 


[[Categori:Llynnoedd]]
[[Categori:Llynnoedd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 14:59, 6 Ebrill 2022

Mae Llyn y Gader (neu Llyn y Gadair fel y'i gelwir hefyd) i'r de o bentref Rhyd-ddu ac, yn dechnegol, mae'r cwbl ohono y tu allan i ffiniau Uwchgwyrfai ond dyma darddiad Afon Gwyrfai neu, fel y'i gelwir yn yr ardal, Afon Cwellyn neu Afon Llyn y Gader. Fodd bynnag, mae ffin plwyf Llanwnda, ac felly ffin Uwchgwyrfai, yn rhedeg ar hyd ymyl y llyn am ryw hyd ger y fan lle mae'r afon yn cychwyn ar ei thaith o'r llyn. Craig fawr ar ffurf cadair sy'n codi o'r llyn ar ochr yr ogledd-orllewinol iddo a roddodd ei enw iddo ac fe'i hanfarwolwyd hefyd yn un o sonedau enwocaf y bardd o Rhyd-ddu, T.H. Parry-Williams, sy'n dechrau â'r llinellau:

 Ni wêl y teithiwr talog mono bron
   Wrth edrych dros ei fasddwr ar y wlad.
 Mae mwy o harddwch ym mynyddoedd hon
   Nag mewn rhyw ddarn o lyn, heb ddim ond bad
 Pysgotwr unig, sydd yn chwipio'r dŵr
   A rhwyfo plwc yn awr ac yn y man,
 Fel adyn ar gyfeiliorn, neu fel gŵr
   Ar ddyfroedd hunlle'n methu cyrraedd glan.[1] 

Cyfeiriadau

1. T.H. Parry-Williams, Detholiad o Gerddi, (Gwasg Gomer, 1972), t.35.