Teulu Cwellyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 37 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Teulu Cwellyn''' wedi mabwysiadu eu cyfenw oddi wrth eu cartref, sef plasty bach [[Cwellyn]] - un o'r ychydig deuluoedd yn Uwchgwyrfai i wneud hyn (ar wahân i [[Glynniaid Glynllifon|teulu Glynllifon]]). Arferid sillafu'r cyfenw yn ''Quellyn''.
Mae '''Teulu Cwellyn''' wedi mabwysiadu eu cyfenw oddi wrth eu cartref, sef plasty bach [[Cwellyn]] - un o'r ychydig deuluoedd yn Uwchgwyrfai i wneud hyn (ar wahân i [[Glynniaid Glynllifon|deulu'r Glynniaid, Glynllifon]]). Arferid sillafu'r cyfenw yn ''Quellyn''. Roeddent yn berchen ar [[Ystad Cwellyn|ystad]] fechan yng nghyffiniau [[Llyn Cwellyn]].
 
'''Achres gynnar'''
 
Roedd y teulu'n ddisgynyddion honedig [[Cilmin Droed-ddu]], fel [[Teulu Glynllifon]], trwy Gruffydd ap Tudur Goch ap Grono ab Einion ab Ifan ab Iorwerth Goch ab Ystrwyth ab Ednowain. Roedd Gruffydd yn frawd hŷn Hwlcyn Llwyd, sylfaenydd tras Glynllifon. Bu i or-or-ŵyr Gruffydd, William Williams o Gwellyn briodi â Jane, cyd-aeres William Peak o Gaernarfon, tua 1610-20.
 
'''Morgan Quellyn'''
 
Eu mab hwy, Morgan Williams, a fabwysiadodd y cyfenw Quellyn; fe briododd ag Elen Griffith Wynn, Glan'rafon Bach, rywbryd cyn 1647. Mewn llythyr a anfonodd Elen at ei gefnder, Maurice Williams, Hafodgaregog, ym 1647 dywedir fod William Quellyn wedi benthyg arian trwy forgeisio ei dir yn Nanmor, sef Hafod Gau a Choed Mab Ednyfed, gan Maurice Williams; erbyn 1665 nid oedd yr arian wedi ei dalu'n ôl - tybed ai dyma arwydd fod y teulu eisoes â phroblemau ariannol.<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llsgau Hafod a Garegog 225,330.</ref>
 
[[Delwedd:IMG 0245.JPG|bawd|350px|de|Cofeb y teulu yn Eglwys Llanwnda]]
[[Delwedd:IMG 0246.JPG|bawd|350px|de|Cofeb yn Eglwys Llanwnda]]
 
'''Ellis Quellyn'''
 
Mab Morgan oedd Ellis Quellyn (bu farw 1719) a briododd â Grace, merch Hugh Wynn, [[Pengwern]], [[Llanwnda]] a'i wraig, Margaret, merch William Parry, Pont y Gof, Nantclwyd. Cafodd y rhain nifer o blant, sef Hugh (tua 1666-1749), William (''William I''), a Margaret. Sonnir am y ddau frawd isod; o ran Margaret, gwyddom ei bod wedi priodi ddwywaith, yn gyntaf â Richard Parry, Pyllaubudron, ac yn ail, â Humphrey Humphreys, gŵr o Fangor. Cafodd ferch, Margaret Parry, efo Richard Parry.<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ewyllysiau Bangor, B/1719/63</ref>
 
Er bod Ellis Quellyn yn ei alw ei hun yn fonheddwr ("''Gent.''"),<ref>e.e. mewn gweithred o 1675, (Archifdy Gwynedd, XM/34/24)</ref> dim ond rhyw £15 oedd ei werth o yn ôl rhestr o'i holl eiddo wedi iddo farw ym 1719. Mae'n ddiddorol nodi hefyd ei fod wedi symud o Gwellyn, gan fyw yn fferm Cwm Bychan ar lethrau [[Mynyddfor]] ym mhlwyf Llanwnda y pen arall i Lyn Cwellyn. Nid oedd ganddo ond dwy fuwch, dau lo a chaseg yno - er rhaid cofio ei fod yn bur hen yn marw. Mae'n bur debyg fod Hugh ei fab wedi symud i mewn i fferm fwy llewyrchus Cwellyn.
 
'''Hugh Quellyn'''
 
Cafodd Hugh ei eni tua 1666, yn fab hynaf Ellis Quellyn. Priododd ag Ann Williams (1662-1730)<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families'', (Horncastle, 1914), t.209; Cofeb yn Eglwys Llanwnda </ref>, merch Rice Williams, ficer Llandwrog.
 
Dichon bod Hugh Quellyn yn arfer barddoni, ac mae darn o'i waith wedi goroesi sydd yn canmol safiad Syr Robert Owen o blaid y Frenhiniaeth yn ystod y 1690au.<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cofnodion Ystâd a Theulu Brogyntyn PQH1/2.</ref>
 
Erbyn y 1700au o leiaf, ystyriwyd ef yn gymwys i ddal mân swyddi ac ym 1706 bu'n un o ddau uwch-gwnstabl cwmwd Uwchgwyfai - er hyd at 1715, pan dderbyniodd ŵys i ymddangos o flaen yr ynadon, nid oedd ef na'i gyd-uwch-gwnstabl wedi talu £5 o arian yr oeddynt wedi ei gasglu fel arian cyhoeddus. Diddorol yw sylwi fod clerc y llys ond wedi dewis ei alw'n "Mr." yn hytrach na "Gent." oedd gam yn uwch yn yr hierarchiaeth o statws lleol.<ref>Archifdy Gwynedd, XQS/1715-16/70.</ref>
 
Plant Hugh, a'i wraig Ann, oedd William (1699-1725), Jane (marw 1703), Philip (1704-1782) a briododd â Mary Stodart o Ddeganwy, a Mary (1714-1789) a briododd â Rice Williams, rheithor Llandwrog.
 
Mae Hugh ac Ann ei wraig, ynghyd â'u mab Philip a'i ferch yntau, Catherine, yn cael eu coffáu ar gofebion ar waliau [[Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda]]; ac mae carreg fedd Ellis Quellyn ar lawr yr eglwys.<ref>Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’ Cyf II (Llundain, 1960), t.220</ref> Er bod Cwellyn mor bell o'r eglwys - tua chwech neu saith milltir - gan fod y tŷ ym mhlwyf Llanwnda, yn y fan honno y cleddid y teulu, er bod eglwysi [[Betws Garmon]] a Beddgelert yn nes o dipyn.
 
'''William Quellyn I, Ficer Caernarfon'''
 
Bu i William, mab hynaf Hugh ac Ann, fynychu Coleg Sant Ioan, Caergrawnt (ac mae hyn yn dangos cyfoeth cymharol y teulu). Ym Mai 1723, fe gafodd ei sefydlu fel ficer plwyf Llanbeblig (sef y plwyf lle saif tref Caernarfon), ond byr fu ei gyfnod yno gan iddo farw ymhen dwy flynedd.<ref>Aubrey Davies, "Llanbeblig Parish Church", (''Cylchgrawn Hanes Sir Gaernarfon'', Cyf.20, 1959), t.26.</ref>
 
'''William Quellyn II'''
 
Priododd William, ail fab Ellis Quellyn, â Jonet Williams, o Laniestyn yn Llŷn ym 1695.<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llaniestyn</ref> Cawsant ddwy ferch, sef Grace a aeth, mae'n debyg, i Lundain: cofnodir priodas James Williams, gŵr di-briod a Grace Quellyn, gwraig ddi-briod, y ddau o blwyf St Clement Danes, San Steffan, Llundain yn eglwys y plwyf yno, 2 Chwefror 1745.<ref>Cofrestr Plwyf St Clement Danes, 1745.</ref> Nodir fod gan William ddwy ferch, ond yn ei ewyllys (1719), enwir dim ond Grace gan Ellis Quellyn gan ei fod (meddai) wedi anghofio enw'r llall!<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ewyllysiau Bangor, B/1719/63.</ref>
 
'''Philip Quellyn'''
 
O blant y genhedlaeth hon, sef plant Ellis a Grace, hyd y gwyddys dim ond Philip oedd â phlentyn, sef merch, Catherine, a fu farw yn 7 mis oed ym 1746.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families'', (Horncastle, 1914), tt.229, 361.</ref>
 
Yn ystod ei oes, ac yntau'n teimlo fod ganddo safle yn y gymdeithas, bu iddo fabwysiadu'r teitl ''yswain'' ("''Esq.''"), sef rheng yn uwch na'i dad o ran statws cymdeithasol. Bu i Philip farw ym 1782, ond 20 mlynedd cyn hynny yr oedd wedi gwneud ei ewyllys ac mae'n amlwg ei fod wedi symud i dref Caernarfon erbyn 1761; nodir ei fod yn un o ddau feili Bwrdeistref Caernarfon ym 1777.<ref>Archifdy Gwynedd, XD1/193</ref> Roedd wedi prynu eiddo yn Stryd y Farchnad a thir arall gerllaw'r dref - yn bosibl iawn, tir lle codwyd y tŷ o'r enw Cwellyn. Fodd bynnag, roedd yn dal ei afael ar diroedd a ddaeth iddo trwy ei briodas, a hefyd Planwydd (y fferm agosaf at Gwellyn) a elwid weithiau'n Gwellyn Isaf, ynghyd â Chwm Gelli y Gorddod a Dolellog a elwid weithiau'n Llwyn Ynghared. Profwyd ei ewyllys ym 1782, gyda'i wraig Mary'n derbyn yr hawl i weinyddu'r ystad - ond nid yw dyddiad ei marwolaeth hithau'n hysbys.<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ewyllysiau Bangor, B/1782/118.</ref>
 
Erbyn i Mary, chwaer Philip, farw ym 1789, mae'n debygol fod y teulu wedi marw allan. Roedd gan y teulu gladdfa ym mynwent Llanbeblig ond ym 1822 adeiladwyd festri newydd dros y safle, sy'n dangos nad oedd neb o'r teulu ar ôl. Anodd, fodd bynnag, yw deall pwy oedd wedi cael ei gladdu yno (os rhywun) gan fod cofeb i Philip yn Eglwys Llanwnda yn dweud ei fod wedi ei gladdu yno.
 
'''Diflaniad y cyfenw'''
 
Erbyn 1792, roedd teulu o iwmyn, Jonesiaid, wedi cymryd Cwellyn drosodd ac yn ffermio'n llewyrchus iawn, gyda 100 o ddefaid a 40 o wartheg; gweler manylion pellach dan erthygl [[Cwellyn]].<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ewyllysiau Bangor, B/1792/86</ref>
 
Mae'n bosibl iawn fod cyfenw'r teulu hwn bellach wedi diflannu, yn ôl tystiolaeth gwefan achyddiaeth ''Find My Past'', lle nad oes ond un farwolaeth wedi ei chofnodi ers canrif a mwy, sef Susanna Quellyn o Fanceinion ym 1995. Mae amryw o enghreifftiau  o'r cyfenw Quellin, yn arbennig yng Nghanada a'r Unol Daleithiau, ond nid oes unrhyw gysylltiad wedi ei ganfod rhwng y rhain â Chymru. Yn wir, mae lle i gredu mai cyfenw o Fflandrys yw Quellin  <ref>Gwefan ''Find My Past'', cyrchwyd 3.6.2019, [https://www.findmypast.co.uk/search/results?lastname=quellyn&sourcecountry]; Gwefan Oxford Reference, ''Artur Quellin'', cyrchwyd 4.6.2019 [https://www.oxfordreference.com/view/10.1093/oi/authority.20110803100358593]</ref> Mae cwmni o werthwyr gwin o Gaer gyda'r enw Quellyn Roberts sy'n dal i fod. Ceir cofnod yn Archifdy Swydd Gaer am forgais a wnaed gan Thomas Quellyn Roberts ym 1877.<ref>Archifdy Swydd Gaer, ZC21C/28.</ref>


Mae'n bosibl iawn fod y cyfenw bellach wedi diflannu, yn ôl tystiolaeth gwefan achyddiaeth ''Find My Past'', lle nad oes ond un farwolaeth wedi ei chofnodi ers canrif a mwy, sef Susanna Quellyn o Fanceinion ym 1995.<ref>Gwefan ''Find My Past'', cyrchwyd 3.6.2019, [https://www.findmypast.co.uk/search/results?lastname=quellyn&sourcecountry]</ref> Mae cwmni o werthwyr gwin o Gaer gyda'r enw Quellyn  Roberts sy'n dal i fod. Ceir cofnod yn Archifdy Swydd Gaer am forgais a wnaed gan Thomas Quellyn Roberts ym 1877<ref>Archifdy Swydd Gaer, ZC21C/28.</ref>


{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Unigolion a theuluoedd nodedig]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 14:12, 3 Ebrill 2022

Mae Teulu Cwellyn wedi mabwysiadu eu cyfenw oddi wrth eu cartref, sef plasty bach Cwellyn - un o'r ychydig deuluoedd yn Uwchgwyrfai i wneud hyn (ar wahân i deulu'r Glynniaid, Glynllifon). Arferid sillafu'r cyfenw yn Quellyn. Roeddent yn berchen ar ystad fechan yng nghyffiniau Llyn Cwellyn.

Achres gynnar

Roedd y teulu'n ddisgynyddion honedig Cilmin Droed-ddu, fel Teulu Glynllifon, trwy Gruffydd ap Tudur Goch ap Grono ab Einion ab Ifan ab Iorwerth Goch ab Ystrwyth ab Ednowain. Roedd Gruffydd yn frawd hŷn Hwlcyn Llwyd, sylfaenydd tras Glynllifon. Bu i or-or-ŵyr Gruffydd, William Williams o Gwellyn briodi â Jane, cyd-aeres William Peak o Gaernarfon, tua 1610-20.

Morgan Quellyn

Eu mab hwy, Morgan Williams, a fabwysiadodd y cyfenw Quellyn; fe briododd ag Elen Griffith Wynn, Glan'rafon Bach, rywbryd cyn 1647. Mewn llythyr a anfonodd Elen at ei gefnder, Maurice Williams, Hafodgaregog, ym 1647 dywedir fod William Quellyn wedi benthyg arian trwy forgeisio ei dir yn Nanmor, sef Hafod Gau a Choed Mab Ednyfed, gan Maurice Williams; erbyn 1665 nid oedd yr arian wedi ei dalu'n ôl - tybed ai dyma arwydd fod y teulu eisoes â phroblemau ariannol.[1]

Cofeb y teulu yn Eglwys Llanwnda
Cofeb yn Eglwys Llanwnda

Ellis Quellyn

Mab Morgan oedd Ellis Quellyn (bu farw 1719) a briododd â Grace, merch Hugh Wynn, Pengwern, Llanwnda a'i wraig, Margaret, merch William Parry, Pont y Gof, Nantclwyd. Cafodd y rhain nifer o blant, sef Hugh (tua 1666-1749), William (William I), a Margaret. Sonnir am y ddau frawd isod; o ran Margaret, gwyddom ei bod wedi priodi ddwywaith, yn gyntaf â Richard Parry, Pyllaubudron, ac yn ail, â Humphrey Humphreys, gŵr o Fangor. Cafodd ferch, Margaret Parry, efo Richard Parry.[2]

Er bod Ellis Quellyn yn ei alw ei hun yn fonheddwr ("Gent."),[3] dim ond rhyw £15 oedd ei werth o yn ôl rhestr o'i holl eiddo wedi iddo farw ym 1719. Mae'n ddiddorol nodi hefyd ei fod wedi symud o Gwellyn, gan fyw yn fferm Cwm Bychan ar lethrau Mynyddfor ym mhlwyf Llanwnda y pen arall i Lyn Cwellyn. Nid oedd ganddo ond dwy fuwch, dau lo a chaseg yno - er rhaid cofio ei fod yn bur hen yn marw. Mae'n bur debyg fod Hugh ei fab wedi symud i mewn i fferm fwy llewyrchus Cwellyn.

Hugh Quellyn

Cafodd Hugh ei eni tua 1666, yn fab hynaf Ellis Quellyn. Priododd ag Ann Williams (1662-1730)[4], merch Rice Williams, ficer Llandwrog.

Dichon bod Hugh Quellyn yn arfer barddoni, ac mae darn o'i waith wedi goroesi sydd yn canmol safiad Syr Robert Owen o blaid y Frenhiniaeth yn ystod y 1690au.[5]

Erbyn y 1700au o leiaf, ystyriwyd ef yn gymwys i ddal mân swyddi ac ym 1706 bu'n un o ddau uwch-gwnstabl cwmwd Uwchgwyfai - er hyd at 1715, pan dderbyniodd ŵys i ymddangos o flaen yr ynadon, nid oedd ef na'i gyd-uwch-gwnstabl wedi talu £5 o arian yr oeddynt wedi ei gasglu fel arian cyhoeddus. Diddorol yw sylwi fod clerc y llys ond wedi dewis ei alw'n "Mr." yn hytrach na "Gent." oedd gam yn uwch yn yr hierarchiaeth o statws lleol.[6]

Plant Hugh, a'i wraig Ann, oedd William (1699-1725), Jane (marw 1703), Philip (1704-1782) a briododd â Mary Stodart o Ddeganwy, a Mary (1714-1789) a briododd â Rice Williams, rheithor Llandwrog.

Mae Hugh ac Ann ei wraig, ynghyd â'u mab Philip a'i ferch yntau, Catherine, yn cael eu coffáu ar gofebion ar waliau Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda; ac mae carreg fedd Ellis Quellyn ar lawr yr eglwys.[7] Er bod Cwellyn mor bell o'r eglwys - tua chwech neu saith milltir - gan fod y tŷ ym mhlwyf Llanwnda, yn y fan honno y cleddid y teulu, er bod eglwysi Betws Garmon a Beddgelert yn nes o dipyn.

William Quellyn I, Ficer Caernarfon

Bu i William, mab hynaf Hugh ac Ann, fynychu Coleg Sant Ioan, Caergrawnt (ac mae hyn yn dangos cyfoeth cymharol y teulu). Ym Mai 1723, fe gafodd ei sefydlu fel ficer plwyf Llanbeblig (sef y plwyf lle saif tref Caernarfon), ond byr fu ei gyfnod yno gan iddo farw ymhen dwy flynedd.[8]

William Quellyn II

Priododd William, ail fab Ellis Quellyn, â Jonet Williams, o Laniestyn yn Llŷn ym 1695.[9] Cawsant ddwy ferch, sef Grace a aeth, mae'n debyg, i Lundain: cofnodir priodas James Williams, gŵr di-briod a Grace Quellyn, gwraig ddi-briod, y ddau o blwyf St Clement Danes, San Steffan, Llundain yn eglwys y plwyf yno, 2 Chwefror 1745.[10] Nodir fod gan William ddwy ferch, ond yn ei ewyllys (1719), enwir dim ond Grace gan Ellis Quellyn gan ei fod (meddai) wedi anghofio enw'r llall![11]

Philip Quellyn

O blant y genhedlaeth hon, sef plant Ellis a Grace, hyd y gwyddys dim ond Philip oedd â phlentyn, sef merch, Catherine, a fu farw yn 7 mis oed ym 1746.[12]

Yn ystod ei oes, ac yntau'n teimlo fod ganddo safle yn y gymdeithas, bu iddo fabwysiadu'r teitl yswain ("Esq."), sef rheng yn uwch na'i dad o ran statws cymdeithasol. Bu i Philip farw ym 1782, ond 20 mlynedd cyn hynny yr oedd wedi gwneud ei ewyllys ac mae'n amlwg ei fod wedi symud i dref Caernarfon erbyn 1761; nodir ei fod yn un o ddau feili Bwrdeistref Caernarfon ym 1777.[13] Roedd wedi prynu eiddo yn Stryd y Farchnad a thir arall gerllaw'r dref - yn bosibl iawn, tir lle codwyd y tŷ o'r enw Cwellyn. Fodd bynnag, roedd yn dal ei afael ar diroedd a ddaeth iddo trwy ei briodas, a hefyd Planwydd (y fferm agosaf at Gwellyn) a elwid weithiau'n Gwellyn Isaf, ynghyd â Chwm Gelli y Gorddod a Dolellog a elwid weithiau'n Llwyn Ynghared. Profwyd ei ewyllys ym 1782, gyda'i wraig Mary'n derbyn yr hawl i weinyddu'r ystad - ond nid yw dyddiad ei marwolaeth hithau'n hysbys.[14]

Erbyn i Mary, chwaer Philip, farw ym 1789, mae'n debygol fod y teulu wedi marw allan. Roedd gan y teulu gladdfa ym mynwent Llanbeblig ond ym 1822 adeiladwyd festri newydd dros y safle, sy'n dangos nad oedd neb o'r teulu ar ôl. Anodd, fodd bynnag, yw deall pwy oedd wedi cael ei gladdu yno (os rhywun) gan fod cofeb i Philip yn Eglwys Llanwnda yn dweud ei fod wedi ei gladdu yno.

Diflaniad y cyfenw

Erbyn 1792, roedd teulu o iwmyn, Jonesiaid, wedi cymryd Cwellyn drosodd ac yn ffermio'n llewyrchus iawn, gyda 100 o ddefaid a 40 o wartheg; gweler manylion pellach dan erthygl Cwellyn.[15]

Mae'n bosibl iawn fod cyfenw'r teulu hwn bellach wedi diflannu, yn ôl tystiolaeth gwefan achyddiaeth Find My Past, lle nad oes ond un farwolaeth wedi ei chofnodi ers canrif a mwy, sef Susanna Quellyn o Fanceinion ym 1995. Mae amryw o enghreifftiau o'r cyfenw Quellin, yn arbennig yng Nghanada a'r Unol Daleithiau, ond nid oes unrhyw gysylltiad wedi ei ganfod rhwng y rhain â Chymru. Yn wir, mae lle i gredu mai cyfenw o Fflandrys yw Quellin [16] Mae cwmni o werthwyr gwin o Gaer gyda'r enw Quellyn Roberts sy'n dal i fod. Ceir cofnod yn Archifdy Swydd Gaer am forgais a wnaed gan Thomas Quellyn Roberts ym 1877.[17]


Cyfeiriadau

  1. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llsgau Hafod a Garegog 225,330.
  2. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ewyllysiau Bangor, B/1719/63
  3. e.e. mewn gweithred o 1675, (Archifdy Gwynedd, XM/34/24)
  4. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.209; Cofeb yn Eglwys Llanwnda
  5. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cofnodion Ystâd a Theulu Brogyntyn PQH1/2.
  6. Archifdy Gwynedd, XQS/1715-16/70.
  7. Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’ Cyf II (Llundain, 1960), t.220
  8. Aubrey Davies, "Llanbeblig Parish Church", (Cylchgrawn Hanes Sir Gaernarfon, Cyf.20, 1959), t.26.
  9. Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llaniestyn
  10. Cofrestr Plwyf St Clement Danes, 1745.
  11. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ewyllysiau Bangor, B/1719/63.
  12. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), tt.229, 361.
  13. Archifdy Gwynedd, XD1/193
  14. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ewyllysiau Bangor, B/1782/118.
  15. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ewyllysiau Bangor, B/1792/86
  16. Gwefan Find My Past, cyrchwyd 3.6.2019, [1]; Gwefan Oxford Reference, Artur Quellin, cyrchwyd 4.6.2019 [2]
  17. Archifdy Swydd Gaer, ZC21C/28.