Gorsaf reilffordd Nantlle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ' Categori:Gorsafoedd Rheilffordd' |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 11 golygiad yn y canol gan 4 defnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Categori:Gorsafoedd | '''Gorsaf Nantlle''' oedd yr unig orsaf ar y gangen fer o [[Gorsaf reilffordd Pen-y-groes|orsaf Pen-y-groes]] i [[Tal-y-sarn|Dal-y-sarn]]. Fe'i hagorwyd ym 1872. Mewn gwirionedd, yn Nhal-y-sarn yr oedd yr orsaf ac mae'r adeilad yn sefyll hyd heddiw fel rhan o'r ganolfan gymunedol. Fe gaewyd y lein i deithwyr mor gynnar â 1932, ond parhaodd trenau nwyddau i ddefnyddio'r lein er mwyn cludo llechi oddi yno (a mân nwyddau yno hefyd) hyd 1963. | ||
Roedd yno seidins helaeth, yn bennaf ar gyfer trosglwyddo llechi a gludid o'r chwareli gan [[Rheilffordd Nantlle|Reilffordd Nantlle]]. Fe ffurfiwyd y rhain ar batrwm glanfeydd, gyda chledrau'r lein fawr ar lefel is na chledrau'r dramffordd a ddefnyddid i lusgo llechi o'r chwareli yn uwch i fyny'r dyffryn, a hynny trwy ddefnyddio ceffylau. Y lein fach honno (gweddillion [[Rheilffordd Nantlle]]) oedd y darn olaf o'r rheilffordd wladoledig, sef Rheilffyrdd Prydeinig, i ddefnyddio ceffylau yn lle locomotifau. O'r iard nwyddau hefyd rhedai seidin lled safonol ar draws y ffordd ac i mewn i [[Chwarel Coedmadog]]. Dyna'r unig chwarel oedd â chysylltiad uniongyrchol â'r rheilffordd fawr, a hynny o 1881 ymlaen.<ref>Alun John RIchards, ''The Slate Railways of Wales'', (Llanrwst, 2001), t.91</ref> | |||
Ym mhen draw'r platfform roedd trofwrdd lle gellid newid y cyfeiriad yr oedd injans yn ei wynebu. | |||
Tua 550 llath cyn cyrraedd gorsaf Nantlle, roedd [[seidin Tan'rallt]] lle llwythid llechi o [[chwarel Tan'rallt]] yr ochr arall i'r dyffryn. Rhedai lein fach o'r chwarel ar draws y dyffryn at y seidin honno. | |||
==Cyfeiriadau== | |||
{{cyfeiriadau}} | |||
[[Categori:Rheilffordd Sir Gaernarfon]] | |||
[[Categori:Gorsafoedd rheilffordd]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 15:52, 18 Ionawr 2022
Gorsaf Nantlle oedd yr unig orsaf ar y gangen fer o orsaf Pen-y-groes i Dal-y-sarn. Fe'i hagorwyd ym 1872. Mewn gwirionedd, yn Nhal-y-sarn yr oedd yr orsaf ac mae'r adeilad yn sefyll hyd heddiw fel rhan o'r ganolfan gymunedol. Fe gaewyd y lein i deithwyr mor gynnar â 1932, ond parhaodd trenau nwyddau i ddefnyddio'r lein er mwyn cludo llechi oddi yno (a mân nwyddau yno hefyd) hyd 1963.
Roedd yno seidins helaeth, yn bennaf ar gyfer trosglwyddo llechi a gludid o'r chwareli gan Reilffordd Nantlle. Fe ffurfiwyd y rhain ar batrwm glanfeydd, gyda chledrau'r lein fawr ar lefel is na chledrau'r dramffordd a ddefnyddid i lusgo llechi o'r chwareli yn uwch i fyny'r dyffryn, a hynny trwy ddefnyddio ceffylau. Y lein fach honno (gweddillion Rheilffordd Nantlle) oedd y darn olaf o'r rheilffordd wladoledig, sef Rheilffyrdd Prydeinig, i ddefnyddio ceffylau yn lle locomotifau. O'r iard nwyddau hefyd rhedai seidin lled safonol ar draws y ffordd ac i mewn i Chwarel Coedmadog. Dyna'r unig chwarel oedd â chysylltiad uniongyrchol â'r rheilffordd fawr, a hynny o 1881 ymlaen.[1]
Ym mhen draw'r platfform roedd trofwrdd lle gellid newid y cyfeiriad yr oedd injans yn ei wynebu.
Tua 550 llath cyn cyrraedd gorsaf Nantlle, roedd seidin Tan'rallt lle llwythid llechi o chwarel Tan'rallt yr ochr arall i'r dyffryn. Rhedai lein fach o'r chwarel ar draws y dyffryn at y seidin honno.
Cyfeiriadau
- ↑ Alun John RIchards, The Slate Railways of Wales, (Llanrwst, 2001), t.91