Owen Griffith Owen (Alafon): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Owen Griffith Owen''' (1847-1916), a fabwysiadodd y ffugenw ''Alafon'', yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Neiniolen. Cafodd ei eni yn y [[Pant-glas]],. lle roedd ei dad yn cadw tafarn, ond symudodd wedyn i fyw gyda modryb pan oedd yn 12 oed i bentref [[Carmel]]. Cychwynnodd weithio yn [[Chwarel Dorothea|Chwarel lechi Dorothea]], ac wedyn aeth yn glerc i [[Chwarel y Braich]] gerllaw. Bu'n flaenor yng [[Capel Carmel (MC)|Nghapel Carmel]] o 1874 ymlaen ac ym 1876 cychwynnodd bregethu.<ref>W. Hobley, ''Hanes Methodistiaieth Arfon'', Cyf.1, (Caernarfon, 1910), t.249.</ref>
Roedd '''Owen Griffith Owen''' (1847-1916), a fabwysiadodd y ffugenw ''Alafon'', yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Neiniolen. Cafodd ei eni yn y [[Pant-glas]], lle roedd ei dad yn cadw tafarn ond, pan oedd yn 12 oed, symudodd i fyw gyda modryb iddo ym mhentref [[Carmel]]. Dechreuodd weithio yn [[Chwarel Dorothea|Chwarel lechi Dorothea]], ac wedyn aeth yn glerc i [[Chwarel y Braich]] gerllaw. Bu'n flaenor yng [[Capel Carmel (MC)|Nghapel Carmel]] o 1874 ymlaen a dechreuodd bregethu ym 1876.<ref>W. Hobley, ''Hanes Methodistiaieth Arfon'', Cyf.1, (Caernarfon, 1910), t.249.</ref>


Yn fuan wedyn ddechreuodd astudio ar gyfer y weinidogaeth yn [[Ysgol Ragbaratoawl Clynnog Fawr]], cyn symud i Goleg ya Bala. Astudiodd ym Mhrifysgol Caeredin am gyfnod hefyd er na chymerodd radd. Derbyniodd alwad i gapel Ysgoldy, Llanddeiniolen, lle bu gydol ei yrfa. Roedd ganddo enw o fod yn gymeriad addfwyn a bonheddig iawn ac yn gadarn ei athrawiaeth er nad oedd yn bregethwr mawr. Roedd yn gyfaill mawr i [[Robert Williams-Parry]].<ref>Ceir teyrngedau sylweddol iddo yn ''Y Cymro'' (Lerpwl) ar gyfer 16 Chwefror 1916, [http://cymru1914.org/en/view/newspaper/3446590/8]</ref>
Yn fuan wedyn ddechreuodd astudio ar gyfer y weinidogaeth yn [[Ysgol Ragbaratoawl Clynnog]], cyn symud i Goleg Y Bala. Astudiodd ym Mhrifysgol Caeredin am gyfnod hefyd er na chafodd radd oddi yno. Derbyniodd alwad i gapel Ysgoldy, Llanddeiniolen, lle bu gydol ei yrfa. Roedd ganddo enw o fod yn gymeriad addfwyn a bonheddig iawn ac yn gadarn ei athrawiaeth er nad oedd yn bregethwr mawr. Roedd yn gyfaill mawr i [[Robert Williams Parry]].<ref>Ceir teyrngedau sylweddol iddo yn ''Y Cymro'' (Lerpwl) ar gyfer 16 Chwefror 1916, [http://cymru1914.org/en/view/newspaper/3446590/8]</ref>


Ymroddodd i farddoni, gan ddod yn ail i T.Gwynn Jones am awdl yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1902, ar y testun ''Ymadawiad Arthur'', ac fe'i cyhoeddwyd yr un flwyddyn ar y cyd â phryddest anffuddugol W.J. Gruffydd. Ymysg ei lwyddiannau barddonol eraill oedd y cywydd ''Mynachlog Ystrad Fflur'' a enillodd y gystadleuaeth am gywydd yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain,1909.<ref>Catalog Casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, [https://archives.library.wales/index.php/cywydd-mynachlog-ystrad-fflur-gan-ap-cynfyn-o-g-owen-alafon-ynghyd-beirniadaeth-j-morris-jones-rhif-3-yn-y]</ref>
Ymroddodd i farddoni, gan ddod yn ail i T.Gwynn Jones am awdl yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1902, ar y testun ''Ymadawiad Arthur'', ac fe'i cyhoeddwyd yr un flwyddyn, ar y cyd â phryddest anfuddugol W.J. Gruffudd. Ymysg ei lwyddiannau barddonol eraill oedd y cywydd ''Mynachlog Ystrad Fflur'', a enillodd y gystadleuaeth am gywydd yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain, 1909.<ref>Catalog Casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, [https://archives.library.wales/index.php/cywydd-mynachlog-ystrad-fflur-gan-ap-cynfyn-o-g-owen-alafon-ynghyd-beirniadaeth-j-morris-jones-rhif-3-yn-y]</ref>


Bu'n olygydd ''Y Drysorfa'', 1913-16. Cyhoeddodd dwy gyfrol, ''Cathlau Bore a Nawn'', barddoniaeth (1912); a ''Ceinion y Gynghanedd'', ysgrifau, (1915).
Bu'n olygydd ''Y Drysorfa'', 1913-16. Cyhoeddodd ddwy gyfrol, ''Cathlau Bore a Nawn'', barddoniaeth (1912); a ''Ceinion y Gynghanedd'', ysgrifau, (1915).


Bu farw 8 Chwefror 1916, wedi taro'n ddrwg gan y crydcymalau. Fe'i gladdwyd ym [[Mynwent Bryn'rodyn]], ac mae cofeb sylweddo iddo i'w weld yno ger y giât.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'', (Llundain, 1953), t.676.</ref>
Bu farw 8 Chwefror 1916, wedi'i daro'n ddrwg gan y crydcymalau. Fe'i claddwyd ym [[Mynwent Bryn'rodyn]], ac mae cofeb sylweddol iddo i'w gweld yno ger y giât.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'', (Llundain, 1953), t.676.</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:12, 23 Mehefin 2021

Roedd Owen Griffith Owen (1847-1916), a fabwysiadodd y ffugenw Alafon, yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Neiniolen. Cafodd ei eni yn y Pant-glas, lle roedd ei dad yn cadw tafarn ond, pan oedd yn 12 oed, symudodd i fyw gyda modryb iddo ym mhentref Carmel. Dechreuodd weithio yn Chwarel lechi Dorothea, ac wedyn aeth yn glerc i Chwarel y Braich gerllaw. Bu'n flaenor yng Nghapel Carmel o 1874 ymlaen a dechreuodd bregethu ym 1876.[1]

Yn fuan wedyn ddechreuodd astudio ar gyfer y weinidogaeth yn Ysgol Ragbaratoawl Clynnog, cyn symud i Goleg Y Bala. Astudiodd ym Mhrifysgol Caeredin am gyfnod hefyd er na chafodd radd oddi yno. Derbyniodd alwad i gapel Ysgoldy, Llanddeiniolen, lle bu gydol ei yrfa. Roedd ganddo enw o fod yn gymeriad addfwyn a bonheddig iawn ac yn gadarn ei athrawiaeth er nad oedd yn bregethwr mawr. Roedd yn gyfaill mawr i Robert Williams Parry.[2]

Ymroddodd i farddoni, gan ddod yn ail i T.Gwynn Jones am awdl yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1902, ar y testun Ymadawiad Arthur, ac fe'i cyhoeddwyd yr un flwyddyn, ar y cyd â phryddest anfuddugol W.J. Gruffudd. Ymysg ei lwyddiannau barddonol eraill oedd y cywydd Mynachlog Ystrad Fflur, a enillodd y gystadleuaeth am gywydd yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain, 1909.[3]

Bu'n olygydd Y Drysorfa, 1913-16. Cyhoeddodd ddwy gyfrol, Cathlau Bore a Nawn, barddoniaeth (1912); a Ceinion y Gynghanedd, ysgrifau, (1915).

Bu farw 8 Chwefror 1916, wedi'i daro'n ddrwg gan y crydcymalau. Fe'i claddwyd ym Mynwent Bryn'rodyn, ac mae cofeb sylweddol iddo i'w gweld yno ger y giât.[4]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. W. Hobley, Hanes Methodistiaieth Arfon, Cyf.1, (Caernarfon, 1910), t.249.
  2. Ceir teyrngedau sylweddol iddo yn Y Cymro (Lerpwl) ar gyfer 16 Chwefror 1916, [1]
  3. Catalog Casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, [2]
  4. Y Bywgraffiadur Cymreig, (Llundain, 1953), t.676.