John Robinson, perchennog chwareli: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ganed '''John Robinson''' yn Lerpwl tua 1831. Erbyn 1871 roedd yn byw ym Mhlas Tal-y-sarn gyda'i deulu ac fe nodir yn y cyfrifiad fod...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 29 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Ganed '''John Robinson''' yn Lerpwl tua 1831. Erbyn 1871 roedd yn byw ym [[Plas Tal-y-sarn|Mhlas Tal-y-sarn]] gyda'i deulu ac fe nodir yn y cyfrifiad fod ganddo wraig Eliza a phump o blant, dwy ferch a thri mab, a phawb ond y ferch ieuengaf wedi eu geni yn Lerpwl; yn Llundain tua 1861 gafodd y ferch ieuengaf, Eliza, ei geni. Yn ôl cyfrifiad 1871, roedd ganddo ddwy forwyn yn y plas. Fe'i ddisgrifir fel perchennog chwarel lechi.<ref>Archifdy Gwladol, RG10/5714.</ref>.
Roedd '''John Robinson''' (1830-1900) yn un o'r ddau neu dri prif berchennog chwareli yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]]. Fe'i ganed yn Lerpwl ym 1830. Mae'n bosibl ei fod wedi ei gofnodi yng nghyfrifiad 1851 yn byw yn 126, Brownlow Hill, Lerpwl, gyda'i fam weddw a gweddill y teulu, ac yn gweithio fel saer marmor.<ref>Cyfrifiad 1851, HO 107/2183.</ref> Fe briododd yn Lerpwl gan ddechrau ei deulu yno, er ei fod wedi symud i Lundain tua 1861.


Bu farw 1900.<ref>Rhestr o Farwolaethau Cymru a Lloegr, 1837-2007, Llyfr 11B, t.371</ref>
Erbyn 1871 roedd yn byw ym [[Plas Tal-y-sarn|Mhlas Tal-y-sarn]] gyda'i deulu. Fe nodir yng nghyfrifiad 1871 fod ganddo wraig Eliza a phump o blant, dwy ferch a thri mab, a phawb ond y ferch ieuengaf wedi eu geni yn Lerpwl; yn Llundain tua 1861 y cafodd y ferch ieuengaf, Eliza, ei geni. Roedd ei wraig Eliza'n ferch i ryw Cadben Sullivan o Gorc; bu farw'n ifanc ac ail-briododd Robinson â Josephine Cooper o Lundain.<ref>''North Wales Chronicle'', 13 Ionawr 1900</ref> Yn ôl cyfrifiad 1871, roedd ganddo ddwy forwyn yn y plas. Fe'i disgrifir fel perchennog chwarel lechi.<ref>Archifdy Gwladol, RG10/5714.</ref>.
 
Dywedir iddo fod yn un o gyfarwyddwyr Banc Challis yn Llundain, er nad oedd o fawr hŷn na 30 oed. Banc Challis oedd bancwyr cwmni ''British Slate Co. Ltd.'', cwmni a ffurfiwyd o fuddsoddwyr o Lundain i geisio adfywio Chwarel Fron. Ymddengys iddo gael ei ddanfon o Lundain i Ddyffryn Nantlle ym 1864 (er y cyfeirir mewn adroddiadau yn y papurau lleol ato ef a'i deulu fel ymwelwyr o Lundain neu Lerpwl hyd 1867, ac na symudodd i Ddyffryn Nantlle i fyw tan 1866-7). Ei swyddogaeth oedd cymryd rheolaeth dros [[Chwarel y Fron]] a diddordebau eraill y cwmni mewn mannau mor bell â Chorris; ond cefnwyd ar chwarel Corris a sawl chwarel arall, gan ail-strwythuro'r cwmni ac ychwanegu Chwarel Cwm Eigiau yn Nyffryn Conwy. Yn y man symudodd i fod yn un o dri phartner yn [[Chwarel Tal-y-sarn]], a phan aeth cwmni'r chwarel honno i'r wal ym 1874, cymerodd y chwarel drosodd.<ref>Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, ''Cwm Gwyrfai'', (Llanrwst, 2004), t.243-53.</ref>
 
Tra'n gyfrifol am Chwarel Fron, sylweddolodd fod y chwarel dan anfantais oherwydd nad oedd cysylltiad ar hyd rheilffordd neu dramffordd ac achosodd i dramffordd gael ei chodi ym 1867 trwy [[Chwarel Tal-y-sarn]], a oedd bellach dan ei reolaeth, i gysylltu â [[Rheilffordd Nantlle]]. Gelwid y dramffordd hon yn [[Tramffordd John Robinson|Dramffordd John Robinson]].<ref>Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, ''Cwm Gwyrfai'', (Llanrwst, 2004), t.248</ref>
 
Ym 1871, talodd am godi [[Eglwys Sant Ioan, Tal-y-sarn]].<ref>Gwefan Treasure Maps gan Iain Robinson [http://robinsonmaps.blogspot.com/2014/02/the-dorothea-files-6-chapel-at-plas.html] cyrchwyd 29.10.201</ref>
 
Dichon iddo ennill iddo'i hun yr enw o fod yn deg ac yn elusengar tuag at y rhai nad oeddynt mor ffodus ag o: er enghraifft, ef oedd prif gyfrannwr plwyfi [[Llandwrog] a [[Llanllyfni]] i gronfa i gynnal te parti i blant ysgol y fro a hynafgwyr tlawd, i ddathlu Jiwbili'r Frenhines.<ref>''North Wales Chronicle'', 26 Mehefin 1897</ref> Beth bynnag am rinweddau'r Jiwbili ei hun, roedd achlysuron o'r fath yn fodd o roi ychydig fwyd a gorffwys i anffodusion y gymdeithas, a disgwylid i dirfeddianwyr chwarae eu rhan - y peth diddorol yma yw nad teulu Glynllifon oedd ar ben rhestr y rhoddwyr. Mae'r coffád iddo yn y papur lleol yn nodi ei fod yn weithgar iawn yn ddyngarol. Roedd yn arfer mynd i bob rhan o'r chwarel a gallai wneud gwaith y chwarelwyr yn ogystal â rheoli'r cwmni a honnir iddo ennill iddo'i hun barch a theyrngawrch ei weithlu.<ref>''North Wales Chronicle'', 13 Ionawr 1900</ref> Mae Idwal Jones yn nodi<ref>Idwal Jones, ''Chwareli Dyffryn Nantlle'', (Pen-y-groes, 1980), t.13</ref>:
 
"Perchennog Chwarel Talysarn oedd Sais o'r enw Mr Robinson ('rhen Robis fel y câi ei alw). 'Roedd yn gymeriad arbennig iawn a digonedd o fenter ynddo. Ar gyfnodau drwg yn y farchnad lechi anaml iawn y byddai Mr Robinson yn atal ei weithwyr: byddai'n stocio'r llechi yn deisi anferth ar y ponciau."
 
Parhaodd i fyw ym Mhlas Tal-y-sarn hyd ei farwolaeth o glefyd y galon. Daeth yn gynyddol ddylanwadol yn y sir, gan wasanaethu ar sawl pwyllgor o'r Blaid Geidwadol (er y dywedwyd ei fod yn cadw ei fusnes a'i wleidyddiaeth yn hollol ar wahân) ac yn y man roedd wedi ei godi'n aelod o fwrdd [[Undeb Gwarcheidwaid Caernarfon]] (y Bwrdd oedd yn gofalu am dlodion yr ardal), yn un o ymddiriedolwyr harbwr Caernarfon ac yn ynad heddwch.<ref>''North Wales Chronicle'', 13 Ionawr 1900</ref><ref>''Cyfarwyddiadur Slaters, Gogledd a Chanolbarth Cymru'', 1895, t.537.</ref> Fe wasanaethodd fel uchel siryf y sir, 1899 a hyd ei farwolaeth yn nechrau 1900.<ref>''Baner ac Amserau Cymru'', 26 Gorffennaf 1905; Gwefan Festipedia [https://www.festipedia.org.uk/wiki/Talk:Richard_Methuen_Greaves], cyrchwyd 29.10.2018</ref> Bu farw Ionawr 1900.<ref>Rhestr o Farwolaethau Cymru a Lloegr, 1837-2007, Blwyddyn 1900, Llyfr 11B, t.371</ref><ref>''North Wales Express'', 19 Ionawr 1900</ref> Gadawodd ystad gwerth bron i £51000 yn ei ewyllys.<ref>''Caernarvon & Denbigh Herald'', 23 Mawrth 1900.</ref>
 
Fe'i holynwyd gan ei fab '''Thomas'''. Cariwyd ymlaen â gwaith y tad, gan ehangu [[Chwarel Braich]] yn ystod prinder llechi adeg Streic y Penrhyn, 1900-03. Cyfunodd chwareli'r teulu (sef Tal-y-sarn, Braich, [[Cloddfa'r Coed]] a [[Chwarel Tan'rallt]]) o dan un cwmni ym 1904 dan yr enw ''The Talysarn Slate Quarries Co Ltd.'' Bu yntau farw'n fuan wedyn, ym 1905, o'r diciau, gan adael yr eiddo i'w dair merch dan reolaeth ymddiriedolwyr.<ref>Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, ''Cwm Gwyrfai'', (Llanrwst, 2004), tt.231-3</ref> Mae'r dyfyniad isod o'r wasg yn tystio i rinweddau'r tad a'r mab: <ref>''Baner ac Amserau Cymru'', 26 Gorffennaf 1905</ref>:
 
"MARWOLAETH MR. THOMAS ROBINSON, TALYSARN. GOFIDUS genym groniclo marwolaeth Mr. Thomas Robinson, perchenog chwarel Talysarn, yn gystal a chwareli llechi eraill yn Nyffryn Nantlle, yr hyn a gymmerodd le yn Talysarn Hall, prydnawn dydd Mawrth. Yr oedd Mr. Robinson yn 49ain mlwydd oed. Yr oedd yn dioddef o dan afiechyd er's pum mis a bu am dymmor mewn claf-adferdy yn sir Stafford. Yr oedd ei gyflwr yn cael ei ystyried yn foddhaol hyd prydnawn dydd Llun, pan y daeth yn anymwybodol. Yr oedd yn fab i'r diweddar Mr. John Robinson, yr hwn a fu ar un adeg yn uchel sirydd sir Gaernarfon; ac ar farwolaeth ei dad daeth ef i mewn i berchenogaeth a llywodraethiad yr amrywiol chwareli. Yr oedd yn ddiarebol am ei haelfrydigrwydd a'i hynawsedd. Yr oedd yn gynllun o feistr, hefyd, a dangosai bryder mawr bob amser am sicrhau ymddiriedaeth ei weithwyr, a gochel pob camddealltwriaeth. Ceidwadwr ydoedd o ran el olygiadau gwleidyddol; ond ychydig o ddyddordeb a arddangosai mewn gwleidyddlaeth. Y flwyddyn ddiweddaf cadwodd ei sedd ar y Cynghor Sirol, ac yr oedd yn un o'r ymgeiswyr Ceidwadol a roddodd ei gefnogaeth i'r polisi o ddim cynnorthwy o'r trethi i ysgolion oedd heb fod o dan reolaeth boblogaidd briodol. Yr oedd Mr. Robinson wedi bod yn briod ddwy waith; a gadawodd weddw, a thair o ferched. Yr oedd ei ferch hynaf i briodi Mr. Addie, goruchwyliwr ystad Glynlllfon, dydd Mercher, y 19eg o'r mis hwn; ond bu raid newid y trefniadau ddydd Llun. Cymmerodd y gladdedigaeth le prydnawn dydd Gwener."
 
Ni ddylid cymysgu John Robinson, Plas Tal-y-sarn â sawl John Robinson arall: John Robinson, mab Herbert Robinson o Dal-y-sarn, a fedyddiwyd ym 1777 ac a oedd yn chwarelwr; a'i fab a aned ym 1805 yn Llanllyfni, ac sy'n cael ei restru fel Asiant Chwarel Lechi yng Nghyfrifiad 1861, yn byw yn Dorothea House, [[Tal-y-sarn]]. Dyn lleol oedd hwn, a drafododd y cyfrifiad yn Gymraeg yn ôl y llyfr cyfrif.<ref>Archifdy Gwladol, RG9/4338.</ref> Roedd Robinson yn gyfenw ymysg Cymry'r ardal y pryd hynny fel heddiw, ond dichon nad oedd gan John Robinson, Plas Tal-y-sarn, unrhyw gysylltiad â'r rhain.


Ni ddylid ei gymysgu â sawl John Robinson arall: John Robinson, mab Herbert Robinson o Dal-y-sarn, a feddyddiwyd ym 1777; ac un a aned ym 1805 yn Llanllyfni, ac sy'n cael ei restru fel Asiant Chwarel Lechi yng Nghyfrifiad 1861, yn byw yn Dorothea House, [[Tal-y-sarn]]. Dyn lleol oedd hwn, a drafododd y cyfrifiad yn Gymraeg yn ol y llyfr cyfrif.<ref>Archifdy Gwladol, RG9/4338.</ref>


{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Chwarelydda]]
[[Categori:Chwarelydda]]
[[Categori:Diwydianwyr a Chyfalafwyr]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 13:57, 3 Tachwedd 2022

Roedd John Robinson (1830-1900) yn un o'r ddau neu dri prif berchennog chwareli yn Nyffryn Nantlle. Fe'i ganed yn Lerpwl ym 1830. Mae'n bosibl ei fod wedi ei gofnodi yng nghyfrifiad 1851 yn byw yn 126, Brownlow Hill, Lerpwl, gyda'i fam weddw a gweddill y teulu, ac yn gweithio fel saer marmor.[1] Fe briododd yn Lerpwl gan ddechrau ei deulu yno, er ei fod wedi symud i Lundain tua 1861.

Erbyn 1871 roedd yn byw ym Mhlas Tal-y-sarn gyda'i deulu. Fe nodir yng nghyfrifiad 1871 fod ganddo wraig Eliza a phump o blant, dwy ferch a thri mab, a phawb ond y ferch ieuengaf wedi eu geni yn Lerpwl; yn Llundain tua 1861 y cafodd y ferch ieuengaf, Eliza, ei geni. Roedd ei wraig Eliza'n ferch i ryw Cadben Sullivan o Gorc; bu farw'n ifanc ac ail-briododd Robinson â Josephine Cooper o Lundain.[2] Yn ôl cyfrifiad 1871, roedd ganddo ddwy forwyn yn y plas. Fe'i disgrifir fel perchennog chwarel lechi.[3].

Dywedir iddo fod yn un o gyfarwyddwyr Banc Challis yn Llundain, er nad oedd o fawr hŷn na 30 oed. Banc Challis oedd bancwyr cwmni British Slate Co. Ltd., cwmni a ffurfiwyd o fuddsoddwyr o Lundain i geisio adfywio Chwarel Fron. Ymddengys iddo gael ei ddanfon o Lundain i Ddyffryn Nantlle ym 1864 (er y cyfeirir mewn adroddiadau yn y papurau lleol ato ef a'i deulu fel ymwelwyr o Lundain neu Lerpwl hyd 1867, ac na symudodd i Ddyffryn Nantlle i fyw tan 1866-7). Ei swyddogaeth oedd cymryd rheolaeth dros Chwarel y Fron a diddordebau eraill y cwmni mewn mannau mor bell â Chorris; ond cefnwyd ar chwarel Corris a sawl chwarel arall, gan ail-strwythuro'r cwmni ac ychwanegu Chwarel Cwm Eigiau yn Nyffryn Conwy. Yn y man symudodd i fod yn un o dri phartner yn Chwarel Tal-y-sarn, a phan aeth cwmni'r chwarel honno i'r wal ym 1874, cymerodd y chwarel drosodd.[4]

Tra'n gyfrifol am Chwarel Fron, sylweddolodd fod y chwarel dan anfantais oherwydd nad oedd cysylltiad ar hyd rheilffordd neu dramffordd ac achosodd i dramffordd gael ei chodi ym 1867 trwy Chwarel Tal-y-sarn, a oedd bellach dan ei reolaeth, i gysylltu â Rheilffordd Nantlle. Gelwid y dramffordd hon yn Dramffordd John Robinson.[5]

Ym 1871, talodd am godi Eglwys Sant Ioan, Tal-y-sarn.[6]

Dichon iddo ennill iddo'i hun yr enw o fod yn deg ac yn elusengar tuag at y rhai nad oeddynt mor ffodus ag o: er enghraifft, ef oedd prif gyfrannwr plwyfi [[Llandwrog] a Llanllyfni i gronfa i gynnal te parti i blant ysgol y fro a hynafgwyr tlawd, i ddathlu Jiwbili'r Frenhines.[7] Beth bynnag am rinweddau'r Jiwbili ei hun, roedd achlysuron o'r fath yn fodd o roi ychydig fwyd a gorffwys i anffodusion y gymdeithas, a disgwylid i dirfeddianwyr chwarae eu rhan - y peth diddorol yma yw nad teulu Glynllifon oedd ar ben rhestr y rhoddwyr. Mae'r coffád iddo yn y papur lleol yn nodi ei fod yn weithgar iawn yn ddyngarol. Roedd yn arfer mynd i bob rhan o'r chwarel a gallai wneud gwaith y chwarelwyr yn ogystal â rheoli'r cwmni a honnir iddo ennill iddo'i hun barch a theyrngawrch ei weithlu.[8] Mae Idwal Jones yn nodi[9]:

"Perchennog Chwarel Talysarn oedd Sais o'r enw Mr Robinson ('rhen Robis fel y câi ei alw). 'Roedd yn gymeriad arbennig iawn a digonedd o fenter ynddo. Ar gyfnodau drwg yn y farchnad lechi anaml iawn y byddai Mr Robinson yn atal ei weithwyr: byddai'n stocio'r llechi yn deisi anferth ar y ponciau."

Parhaodd i fyw ym Mhlas Tal-y-sarn hyd ei farwolaeth o glefyd y galon. Daeth yn gynyddol ddylanwadol yn y sir, gan wasanaethu ar sawl pwyllgor o'r Blaid Geidwadol (er y dywedwyd ei fod yn cadw ei fusnes a'i wleidyddiaeth yn hollol ar wahân) ac yn y man roedd wedi ei godi'n aelod o fwrdd Undeb Gwarcheidwaid Caernarfon (y Bwrdd oedd yn gofalu am dlodion yr ardal), yn un o ymddiriedolwyr harbwr Caernarfon ac yn ynad heddwch.[10][11] Fe wasanaethodd fel uchel siryf y sir, 1899 a hyd ei farwolaeth yn nechrau 1900.[12] Bu farw Ionawr 1900.[13][14] Gadawodd ystad gwerth bron i £51000 yn ei ewyllys.[15]

Fe'i holynwyd gan ei fab Thomas. Cariwyd ymlaen â gwaith y tad, gan ehangu Chwarel Braich yn ystod prinder llechi adeg Streic y Penrhyn, 1900-03. Cyfunodd chwareli'r teulu (sef Tal-y-sarn, Braich, Cloddfa'r Coed a Chwarel Tan'rallt) o dan un cwmni ym 1904 dan yr enw The Talysarn Slate Quarries Co Ltd. Bu yntau farw'n fuan wedyn, ym 1905, o'r diciau, gan adael yr eiddo i'w dair merch dan reolaeth ymddiriedolwyr.[16] Mae'r dyfyniad isod o'r wasg yn tystio i rinweddau'r tad a'r mab: [17]:

"MARWOLAETH MR. THOMAS ROBINSON, TALYSARN. GOFIDUS genym groniclo marwolaeth Mr. Thomas Robinson, perchenog chwarel Talysarn, yn gystal a chwareli llechi eraill yn Nyffryn Nantlle, yr hyn a gymmerodd le yn Talysarn Hall, prydnawn dydd Mawrth. Yr oedd Mr. Robinson yn 49ain mlwydd oed. Yr oedd yn dioddef o dan afiechyd er's pum mis a bu am dymmor mewn claf-adferdy yn sir Stafford. Yr oedd ei gyflwr yn cael ei ystyried yn foddhaol hyd prydnawn dydd Llun, pan y daeth yn anymwybodol. Yr oedd yn fab i'r diweddar Mr. John Robinson, yr hwn a fu ar un adeg yn uchel sirydd sir Gaernarfon; ac ar farwolaeth ei dad daeth ef i mewn i berchenogaeth a llywodraethiad yr amrywiol chwareli. Yr oedd yn ddiarebol am ei haelfrydigrwydd a'i hynawsedd. Yr oedd yn gynllun o feistr, hefyd, a dangosai bryder mawr bob amser am sicrhau ymddiriedaeth ei weithwyr, a gochel pob camddealltwriaeth. Ceidwadwr ydoedd o ran el olygiadau gwleidyddol; ond ychydig o ddyddordeb a arddangosai mewn gwleidyddlaeth. Y flwyddyn ddiweddaf cadwodd ei sedd ar y Cynghor Sirol, ac yr oedd yn un o'r ymgeiswyr Ceidwadol a roddodd ei gefnogaeth i'r polisi o ddim cynnorthwy o'r trethi i ysgolion oedd heb fod o dan reolaeth boblogaidd briodol. Yr oedd Mr. Robinson wedi bod yn briod ddwy waith; a gadawodd weddw, a thair o ferched. Yr oedd ei ferch hynaf i briodi Mr. Addie, goruchwyliwr ystad Glynlllfon, dydd Mercher, y 19eg o'r mis hwn; ond bu raid newid y trefniadau ddydd Llun. Cymmerodd y gladdedigaeth le prydnawn dydd Gwener." 

Ni ddylid cymysgu John Robinson, Plas Tal-y-sarn â sawl John Robinson arall: John Robinson, mab Herbert Robinson o Dal-y-sarn, a fedyddiwyd ym 1777 ac a oedd yn chwarelwr; a'i fab a aned ym 1805 yn Llanllyfni, ac sy'n cael ei restru fel Asiant Chwarel Lechi yng Nghyfrifiad 1861, yn byw yn Dorothea House, Tal-y-sarn. Dyn lleol oedd hwn, a drafododd y cyfrifiad yn Gymraeg yn ôl y llyfr cyfrif.[18] Roedd Robinson yn gyfenw ymysg Cymry'r ardal y pryd hynny fel heddiw, ond dichon nad oedd gan John Robinson, Plas Tal-y-sarn, unrhyw gysylltiad â'r rhain.


Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad 1851, HO 107/2183.
  2. North Wales Chronicle, 13 Ionawr 1900
  3. Archifdy Gwladol, RG10/5714.
  4. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), t.243-53.
  5. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), t.248
  6. Gwefan Treasure Maps gan Iain Robinson [1] cyrchwyd 29.10.201
  7. North Wales Chronicle, 26 Mehefin 1897
  8. North Wales Chronicle, 13 Ionawr 1900
  9. Idwal Jones, Chwareli Dyffryn Nantlle, (Pen-y-groes, 1980), t.13
  10. North Wales Chronicle, 13 Ionawr 1900
  11. Cyfarwyddiadur Slaters, Gogledd a Chanolbarth Cymru, 1895, t.537.
  12. Baner ac Amserau Cymru, 26 Gorffennaf 1905; Gwefan Festipedia [2], cyrchwyd 29.10.2018
  13. Rhestr o Farwolaethau Cymru a Lloegr, 1837-2007, Blwyddyn 1900, Llyfr 11B, t.371
  14. North Wales Express, 19 Ionawr 1900
  15. Caernarvon & Denbigh Herald, 23 Mawrth 1900.
  16. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), tt.231-3
  17. Baner ac Amserau Cymru, 26 Gorffennaf 1905
  18. Archifdy Gwladol, RG9/4338.