Cilmin Droed-ddu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 15 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Cilmin Droed-Ddu''' yn ffigwr hanner-chwedlonol a ymsefydlodd ar lan Afon Llifon ym mhlwyf [[Llandwrog]]. Credir iddo fod yn sylfaenydd llinach teulu’r Glynniaid yn [[Glynllifon]] ac mae ei droed ddu yn symbol a ymddangosai ar arfbais y teulu. Fo hefyd oedd pennaeth y pedwerydd o Bymtheg Llwyth Gwynedd yn y Canol Oesoedd, yn ôl y beirdd y 15g. a ymddiddorai mewn achyddiaeth. Er bod ganddynt ffordd o weld llawer o hen lawysgrifau sydd bellach wedi diflannu, mae'n debyg, credir i'r beirdd greu'r cysyniad o'r pymtheg llwyth mewn oes pan nad oedd hanes o reidrwydd yn seiliedig ar ffeithiau na ffynonellau cadarn, ond yn hytrach ar ddiddordeb mewn uchelwriaeth o dras.
Roedd '''Cilmin Droed-ddu''' yn ffigwr hanner-chwedlonol a ymsefydlodd ar lan Afon Llifon ym mhlwyf [[Llandwrog]]. Credir mai ef oedd sylfaenydd llinach [[Teulu Glyn (Glynllifon)|teulu’r Glynniaid]] yng [[Glynllifon|Nglynllifon]] ac mae ei droed ddu yn symbol a welir ar arfbais y teulu. Ef hefyd oedd pennaeth y pedwerydd o Bymtheg Llwyth Gwynedd yn y Canol Oesoedd, yn ôl beirdd y 15g. a ymddiddorai mewn achyddiaeth. Er bod llawer o hen lawysgrifau sydd bellach wedi diflannu ar gael iddynt bryd hynny, mae'n debyg, credir i'r beirdd greu'r cysyniad o'r pymtheg llwyth mewn oes pan nad oedd hanes o reidrwydd yn seiliedig ar ffeithiau na ffynonellau cadarn, ond yn hytrach ar ddiddordeb mewn uchelwriaeth o dras.


===Chwedloniaeth===
===Chwedloniaeth===


Mae amryw straeon ynglŷn â sut y daeth y gŵr hwn i fod â throed ddu. Un fersiwn yw ei fod wedi ei hudo gan un o ddewiniaid yr ardal tua [[Thre’r Ceiri]], i ddwyn llyfr cyfrin a oedd â gwybodaeth unigryw ynddo ac a oedd yn nwylo cythraul. Ond rhybuddiodd y dewin ef i gymryd gofal mawr wrth groesi'r ffrwd ar y ffordd i'r mynydd rhag i rywbeth ddigwydd iddo gan fod awdurdod y cythraul yn dod i ben yn y fan honno.  Ar ôl ymdrech ffyrnig, llwyddodd Cilmin i gipio’r llyfr hwn – dim ond i gael ei hela gan weision y cythraul, ac wrth gyrraedd afon Llifon gwlychodd ei droed yn y dŵr ac fe drodd yn ddu ac yn boenus.
Mae amryw straeon ynglŷn â sut y daeth y gŵr hwn i fod â throed ddu. Un fersiwn yw ei fod wedi ei hudo gan un o ddewiniaid yr ardal tua [[Tre'r Ceiri|Thre’r Ceiri]], i ddwyn llyfr cyfrin a oedd â gwybodaeth unigryw ynddo ac a oedd yn nwylo cythraul. Ond rhybuddiodd y dewin ef i gymryd gofal mawr wrth groesi'r ffrwd ar y ffordd i'r mynydd rhag i rywbeth ddigwydd iddo gan fod awdurdod y cythraul yn dod i ben yn y fan honno.  Ar ôl ymdrech ffyrnig, llwyddodd Cilmin i gipio’r llyfr hwn – dim ond i gael ei hela gan weision y cythraul, ac wrth gyrraedd [[Afon Llifon]] gwlychodd ei droed yn y dŵr ac fe drodd yn ddu ac yn boenus.


Fersiwn arall o’r stori yw ei hanes yn Llundain, pan ddaru gŵr ofyn iddo a oedd yn frodor o sir Gaernarfon. Pan atebodd yntau mai oddi yno yr oedd yn dod, gofynnodd y gŵr iddo ble yr oedd y ‘Seler Ddu’ yn Arfon. Y stori yw fod Cilmin wedi dweud nad oedd yn gwybod, ac yna, wedi mynd adref, aeth i’r ‘Seler Ddu’ honno, ar gwr y Bwlch Mawr, a darganfod trysorau gwerthfawr. Yn ôl y sôn, roedd baich y celwydd yn pwyso’n drwm ar Cilmin, a pan ddaru ei droed suddo i bwll o ddŵr tywyll ni allai olchi’r droed yn lân. Credai llawer mai'r trysorau hynny oedd sylfaen cyfoeth teulu Glynllifon.<ref>Ambrose, W. R. ''Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle'' (Penygroes, 1872).</ref>
Fersiwn arall o’r stori yw ei hanes yn Llundain, pan ddaru gŵr ofyn iddo a oedd yn frodor o sir Gaernarfon. Pan atebodd yntau mai oddi yno yr oedd yn dod, gofynnodd y gŵr iddo ble yr oedd y ‘[[Seler Ddu]]’ yn Arfon. Y stori yw fod Cilmin wedi dweud wrtho nad oedd yn gwybod, ac yna, wedi mynd adref, aeth i’r ‘Seler Ddu’ honno, ar gwr y [[Bwlch Mawr]], a darganfod trysorau gwerthfawr. Yn ôl y sôn, roedd baich y celwydd yn pwyso’n drwm ar Cilmin, a pan ddaru ei droed suddo i bwll o ddŵr tywyll ni allai olchi’r droed yn lân. Credai llawer mai'r trysorau hynny oedd sylfaen cyfoeth teulu Glynllifon.<ref>Ambrose, W. R. ''Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle'' (Penygroes, 1872). Mae un fersiwn o hanes [[Cilmin Droed-ddu]] yn honni mai yn y Seler Ddu y daeth o hyd i'r ffortiwn a oedd yn gychwyniad llewyrch [[Teulu Glynllifon]], er i'r hanes fel rheol gael ei briodoli i lethrau'r [[Yr Eifl|Eifl]]; Evan Lloyd Jones (Dinorwig), ''Llên y Werin yn Sir Gaernarfon'', ailargraffwyd yn ''Y Drych'' (21 Gorffennaf 1881), [https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/3536296/3536299] </ref>


===Yr enw===
===Yr enw===


Mae'r enw Cilmin Droed-ddu wedi galw am esboniad - fel mae'r chwedl uchod yn tystio. cafwyd esboniad mwy 'gwyddonol' fod bynnag gan y meddyg, y Dr Christie o Fangor, a awgrymodd y gallai'r madredd (''gangrene'') wedi bod yn gyfrifol am droi troed neu goes Cilmin yn ddu. Mewn oes ofergoelus a ofnai afiechydon heintus, byddai esboniad fel un y chwedl wedi bod yn fwy derbyniol os nad yn wir yn fwy parchus i gyfrif am goes ddu bonheddwr. Dichon felly mai ffug-esboniad gan y dyn ei hun oedd y chwedl!<ref>Atgof personol o sgwrs y Dr Christie</ref>
Mae'r enw Cilmin Droed-ddu yn galw am esboniad - fel mae'r chwedl uchod yn tystio. Cafwyd esboniad mwy 'gwyddonol' fodd bynnag gan y meddyg, y Dr Christie o Fangor, a awgrymodd y gallai'r madredd (''gangrene'') fod wedi bod yn gyfrifol am droi troed neu goes Cilmin yn ddu. Mewn oes ofergoelus a ofnai afiechydon heintus, byddai esboniad fel un y chwedl wedi bod yn fwy derbyniol, os nad yn wir yn fwy parchus, i gyfrif am goes ddu bonheddwr. Dichon felly mai ffug-esboniad gan y dyn ei hun oedd y chwedl!<ref>Atgof personol o sgwrs y Dr Christie</ref>


Beth bynnag yw'r gwir am darddiad yr enw, mae'r droed (neu'n hytrach llun o goes) ddu ar arfbais teulu Wynniaid Glynllifon hyd heddiw.
Beth bynnag yw'r gwir am darddiad yr enw, mae'r droed (neu'n hytrach llun o goes) ddu ar arfbais teulu Wynniaid Glynllifon hyd heddiw.
Llinell 17: Llinell 17:
Rhaid amau bodolaeth y Cilmin Droed-ddu chwedlonol fel person o gig a gwaed, ond dichon bod unigolyn o'r enw hwnnw wedi bodoli rywbryd tua'r flwyddyn 850 O.C.  
Rhaid amau bodolaeth y Cilmin Droed-ddu chwedlonol fel person o gig a gwaed, ond dichon bod unigolyn o'r enw hwnnw wedi bodoli rywbryd tua'r flwyddyn 850 O.C.  


Mae rhai achresi'n dweud mai nai i frenin Gwynedd, Merfyn Frych, oedd o.<ref>''Debrett's Peerage'', (Llundain, 1825), Cyf 2, t.1095</ref> Daeth Merfyn Frych yn frenin Gwynedd yn 825 ar farwolaeth Hywel Farf-fehinog ap Caradog, er ei fod efallai wedi ennill grym ym Môn ers 818. Yn ôl y traddodiad barddol, daeth Merfyn o "Fanaw", ond mae'n ansicr a yw hyn yn cyfeirio at Ynys Manaw neu at hen deyrnas Manaw Gododdin (yn Yr Alban heddiw). Bu farw yn 844, ac fe'i ddilynwyd gan Rodri Fawr.<ref>Wicipedia, erthygl ar Merfyn Frych, [https://cy.wikipedia.org/wiki/Merfyn_Frych], adalwyd, 23/07/2018.</ref> Os felly, Cilmin oedd cefnder y Brenin Rhodri Fawr. Honnir gan rai eto i Gilmin ymsefydlu yng Nglynllifon ar ôl symud (os nad ffoi) o ardal Cymbria, ond ymddengys hyn yn annhebygol os Merfyn oedd ei ewyrth: hwnnw felly a ddaeth, o bosibl, o Gymbria, neu Fanaw Gododdin i Wynedd.
Mae rhai achresi'n dweud mai nai i frenin Gwynedd, Merfyn Frych, oedd o.<ref>''Debrett's Peerage'', (Llundain, 1825), Cyf 2, t.1095</ref> Daeth Merfyn Frych yn frenin Gwynedd yn 825 ar farwolaeth Hywel Farf-fehinog ap Caradog, er ei fod efallai wedi ennill grym ym Môn er 818. Yn ôl y traddodiad barddol, daeth Merfyn o "Fanaw", ond mae'n ansicr a yw hyn yn cyfeirio at Ynys Manaw neu at hen deyrnas Manaw Gododdin (yn Yr Alban heddiw). Bu farw yn 844, ac fe'i dilynwyd gan Rhodri Mawr.<ref>Wicipedia, erthygl ar Merfyn Frych, [https://cy.wikipedia.org/wiki/Merfyn_Frych], adalwyd, 23/07/2018.</ref> Os felly, Cilmin oedd cefnder y Brenin Rhodri Mawr. Honnir gan rai eto i Gilmin ymsefydlu yng Nglynllifon ar ôl symud (os nad ffoi) o ardal Cymbria, ond ymddengys hyn yn annhebygol os mai Merfyn oedd ei ewyrth: hwnnw felly a ddaeth, o bosibl, o Gymbria, neu Fanaw Gododdin, i Wynedd.


Dangosir ei ddisgynyddion yn yr achresi fel hyn:
Dangosir ei ddisgynyddion yn yr achresi fel hyn:
Llinell 37: Llinell 37:
     Morgeneu Ynad    Philip o Fodfan (Llandwrog) Madog  Ednywain (sylfaenydd y Glynniaid) Cynddelw  Caswallon     
     Morgeneu Ynad    Philip o Fodfan (Llandwrog) Madog  Ednywain (sylfaenydd y Glynniaid) Cynddelw  Caswallon     
   
   
</nowiki><ref>J E Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'', (Horncastle, 1914), t.391</ref>  
</nowiki><ref>J E Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'', (Horncastle, 1914), t.391</ref>


{{eginyn}}
==Mannau cysylltiedig==
 
Er y credid gan y teulu fod stori Cilmin yn perthyn i gylch [[Yr Eifl]], honnir gan rai mai yng nghylch [[Y Seler Ddu]] ger [[Bwlch Derwin]] y cafodd Cilmin hyd i'w drysor. Fodd bynnag, ceir nant o'r enw [[Nant Cilmin]] ar lethrau'r [[Yr Eifl|Eifl]]. Noda J.E. Griffith fod ffynnon o'r enw [[Ffynnon Cilmin]] ar dir [[Plas Newydd, Llandwrog]] a gerllaw, meddai, gellid gweld olion hen dŷ lle trigai Cilmin.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.266</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
Llinell 48: Llinell 50:


   
   
 
[[Categori:Pobl]]
[[Categori: Unigolion a theuluoedd nodedig]]
[[Categori: Unigolion a theuluoedd nodedig]]
[[Categori: Chwedloniaeth]]
[[Categori: Chwedloniaeth]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 13:44, 16 Awst 2022

Roedd Cilmin Droed-ddu yn ffigwr hanner-chwedlonol a ymsefydlodd ar lan Afon Llifon ym mhlwyf Llandwrog. Credir mai ef oedd sylfaenydd llinach teulu’r Glynniaid yng Nglynllifon ac mae ei droed ddu yn symbol a welir ar arfbais y teulu. Ef hefyd oedd pennaeth y pedwerydd o Bymtheg Llwyth Gwynedd yn y Canol Oesoedd, yn ôl beirdd y 15g. a ymddiddorai mewn achyddiaeth. Er bod llawer o hen lawysgrifau sydd bellach wedi diflannu ar gael iddynt bryd hynny, mae'n debyg, credir i'r beirdd greu'r cysyniad o'r pymtheg llwyth mewn oes pan nad oedd hanes o reidrwydd yn seiliedig ar ffeithiau na ffynonellau cadarn, ond yn hytrach ar ddiddordeb mewn uchelwriaeth o dras.

Chwedloniaeth

Mae amryw straeon ynglŷn â sut y daeth y gŵr hwn i fod â throed ddu. Un fersiwn yw ei fod wedi ei hudo gan un o ddewiniaid yr ardal tua Thre’r Ceiri, i ddwyn llyfr cyfrin a oedd â gwybodaeth unigryw ynddo ac a oedd yn nwylo cythraul. Ond rhybuddiodd y dewin ef i gymryd gofal mawr wrth groesi'r ffrwd ar y ffordd i'r mynydd rhag i rywbeth ddigwydd iddo gan fod awdurdod y cythraul yn dod i ben yn y fan honno. Ar ôl ymdrech ffyrnig, llwyddodd Cilmin i gipio’r llyfr hwn – dim ond i gael ei hela gan weision y cythraul, ac wrth gyrraedd Afon Llifon gwlychodd ei droed yn y dŵr ac fe drodd yn ddu ac yn boenus.

Fersiwn arall o’r stori yw ei hanes yn Llundain, pan ddaru gŵr ofyn iddo a oedd yn frodor o sir Gaernarfon. Pan atebodd yntau mai oddi yno yr oedd yn dod, gofynnodd y gŵr iddo ble yr oedd y ‘Seler Ddu’ yn Arfon. Y stori yw fod Cilmin wedi dweud wrtho nad oedd yn gwybod, ac yna, wedi mynd adref, aeth i’r ‘Seler Ddu’ honno, ar gwr y Bwlch Mawr, a darganfod trysorau gwerthfawr. Yn ôl y sôn, roedd baich y celwydd yn pwyso’n drwm ar Cilmin, a pan ddaru ei droed suddo i bwll o ddŵr tywyll ni allai olchi’r droed yn lân. Credai llawer mai'r trysorau hynny oedd sylfaen cyfoeth teulu Glynllifon.[1]

Yr enw

Mae'r enw Cilmin Droed-ddu yn galw am esboniad - fel mae'r chwedl uchod yn tystio. Cafwyd esboniad mwy 'gwyddonol' fodd bynnag gan y meddyg, y Dr Christie o Fangor, a awgrymodd y gallai'r madredd (gangrene) fod wedi bod yn gyfrifol am droi troed neu goes Cilmin yn ddu. Mewn oes ofergoelus a ofnai afiechydon heintus, byddai esboniad fel un y chwedl wedi bod yn fwy derbyniol, os nad yn wir yn fwy parchus, i gyfrif am goes ddu bonheddwr. Dichon felly mai ffug-esboniad gan y dyn ei hun oedd y chwedl![2]

Beth bynnag yw'r gwir am darddiad yr enw, mae'r droed (neu'n hytrach llun o goes) ddu ar arfbais teulu Wynniaid Glynllifon hyd heddiw.

Achau honedig

Rhaid amau bodolaeth y Cilmin Droed-ddu chwedlonol fel person o gig a gwaed, ond dichon bod unigolyn o'r enw hwnnw wedi bodoli rywbryd tua'r flwyddyn 850 O.C.

Mae rhai achresi'n dweud mai nai i frenin Gwynedd, Merfyn Frych, oedd o.[3] Daeth Merfyn Frych yn frenin Gwynedd yn 825 ar farwolaeth Hywel Farf-fehinog ap Caradog, er ei fod efallai wedi ennill grym ym Môn er 818. Yn ôl y traddodiad barddol, daeth Merfyn o "Fanaw", ond mae'n ansicr a yw hyn yn cyfeirio at Ynys Manaw neu at hen deyrnas Manaw Gododdin (yn Yr Alban heddiw). Bu farw yn 844, ac fe'i dilynwyd gan Rhodri Mawr.[4] Os felly, Cilmin oedd cefnder y Brenin Rhodri Mawr. Honnir gan rai eto i Gilmin ymsefydlu yng Nglynllifon ar ôl symud (os nad ffoi) o ardal Cymbria, ond ymddengys hyn yn annhebygol os mai Merfyn oedd ei ewyrth: hwnnw felly a ddaeth, o bosibl, o Gymbria, neu Fanaw Gododdin, i Wynedd.

Dangosir ei ddisgynyddion yn yr achresi fel hyn:

 Lleon ap Cilmin
       |
    Llowarch
        |
      Iddig
        |
      Iddon
        |
     Dyfnaint
        |
      Gwrdyr
     ____|_______________________________________________________________________________________________
     |                   |                        |       |                                  |          |
    Morgeneu Ynad    Philip o Fodfan (Llandwrog) Madog  Ednywain (sylfaenydd y Glynniaid) Cynddelw   Caswallon    
 
[5]

Mannau cysylltiedig

Er y credid gan y teulu fod stori Cilmin yn perthyn i gylch Yr Eifl, honnir gan rai mai yng nghylch Y Seler Ddu ger Bwlch Derwin y cafodd Cilmin hyd i'w drysor. Fodd bynnag, ceir nant o'r enw Nant Cilmin ar lethrau'r Eifl. Noda J.E. Griffith fod ffynnon o'r enw Ffynnon Cilmin ar dir Plas Newydd, Llandwrog a gerllaw, meddai, gellid gweld olion hen dŷ lle trigai Cilmin.[6]

Cyfeiriadau

  1. Ambrose, W. R. Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle (Penygroes, 1872). Mae un fersiwn o hanes Cilmin Droed-ddu yn honni mai yn y Seler Ddu y daeth o hyd i'r ffortiwn a oedd yn gychwyniad llewyrch Teulu Glynllifon, er i'r hanes fel rheol gael ei briodoli i lethrau'r Eifl; Evan Lloyd Jones (Dinorwig), Llên y Werin yn Sir Gaernarfon, ailargraffwyd yn Y Drych (21 Gorffennaf 1881), [1]
  2. Atgof personol o sgwrs y Dr Christie
  3. Debrett's Peerage, (Llundain, 1825), Cyf 2, t.1095
  4. Wicipedia, erthygl ar Merfyn Frych, [2], adalwyd, 23/07/2018.
  5. J E Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.391
  6. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.266