Gorsaf reilffordd Rhostryfan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
'''Gorsaf Rhostryfan''' oedd yr unig orsaf rhwng [[Gorsaf reilffordd Cyffordd Tryfan|Cyffordd Tryfan]] a phen y gangen cyn i'r cledrau redeg i fyny incléin at chwareli Moel Tryfan a'r Fron yng [[Gorsaf reilffordd Bryngwyn|Ngorsaf Bryngwyn]] ar gangen [[Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru]] ("y North Wales Narrow Gauge Railways"). Fe'i hagorwyd 21 Mai 1877 ond daeth cludo teithwyr i ben ar y gangen 31 Rhagfyr 1913. Yr oedd un seidin a sied nwyddau yn iard yr orsaf. Caewyd y lein at ddibenion nwyddau yng nghanol y 1930au.


Mae cae chwarae plant ar y safle heddiw, ger Ysgol Rhostryfan, ac mae llwybr yn rhedeg trwy'r safle ar wely'r cledrau gynt. Nid nepell o safle'r orsaf, roedd y lein yn pasio o dan y ffordd i Rosgadfan, ac mae tanbont a godwyd yn null traddodiadol RhCGC ym 1877 i'w gweld o hyd.
[[Categori:Gorsafoedd rheilffordd]]
[[Categori:Gorsafoedd rheilffordd]]
[[Categori:Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 19:56, 23 Tachwedd 2017

Gorsaf Rhostryfan oedd yr unig orsaf rhwng Cyffordd Tryfan a phen y gangen cyn i'r cledrau redeg i fyny incléin at chwareli Moel Tryfan a'r Fron yng Ngorsaf Bryngwyn ar gangen Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru ("y North Wales Narrow Gauge Railways"). Fe'i hagorwyd 21 Mai 1877 ond daeth cludo teithwyr i ben ar y gangen 31 Rhagfyr 1913. Yr oedd un seidin a sied nwyddau yn iard yr orsaf. Caewyd y lein at ddibenion nwyddau yng nghanol y 1930au.

Mae cae chwarae plant ar y safle heddiw, ger Ysgol Rhostryfan, ac mae llwybr yn rhedeg trwy'r safle ar wely'r cledrau gynt. Nid nepell o safle'r orsaf, roedd y lein yn pasio o dan y ffordd i Rosgadfan, ac mae tanbont a godwyd yn null traddodiadol RhCGC ym 1877 i'w gweld o hyd.