Owen Wynne Jones (Glasynys): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 12 golygiad yn y canol gan 6 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Revd_Owen_Wynne_Jones_(Glasynys,_1828-70)_NLW3365408_Cropped.jpg|bawd|300px|de|llun John Thomas, LLGC]]
[[Delwedd:Revd_Owen_Wynne_Jones_(Glasynys,_1828-70)_NLW3365408_Cropped.jpg|bawd|300px|de|llun John Thomas, LLGC]]


Yr oedd '''Owen Wynne Jones''', sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol '''Glasynys''' (4 Mawrth 1828 – 4 Ebrill 1870), yn fardd, yn awdur ac yn athro ysgol, cyn iddo gael ei ordeinio i'r Eglwys. Cafodd ei eni'n Nhŷ'n y Ffrwd, [[Rhostryfan]] yn un o bum plentyn ac yn 10 oed aeth i weithio yn y chwarel. Yn y man fe adawodd y chwarel, ac yn 17 oed fynd i [[Ysgol gynradd Bron-y-foel]] fel ddisgybl-athro, cyn symud wedyn i Goleg Hyfforddi caernarfon (coleg hyfforddi eglwysig) a throi at ddysgu. Bu'n athro yn ysgolion [[Ysgol gynradd Clynnog Fawr|ysgol Clynnog Fawr]] hyd 1855, ac wedyn yn Llanfachreth a Beddgelert. O fod yn athro, trôdd at wasanaethu ynyr Eglwys, gan gael ei ordeinio ym 1860. Bu'n gurad yn Llangristiolus a Llanfaethlu, ac wedyn ym Mhontlotyn, Sir Forgannwg. Symudodd wedyn i Gasnewydd i gyd-olygu, gydag Islwyn, y papur newydd ''Y Glorian''.  Yn fuan wedyn symudodd i Borthmadoig ac wedyn i Dywyn (Meirionnydd) lle bu farw, ond fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Llandwrog.
Yr oedd '''Owen Wynne Jones''', sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol '''Glasynys''' (4 Mawrth 1828 – 4 Ebrill 1870), yn fardd, yn awdur ac yn athro ysgol, cyn iddo gael ei ordeinio i'r Eglwys. Cafodd ei eni'n Nhŷ'n y Ffrwd, [[Rhostryfan]] yn un o bum plentyn John ac Anne Roberts<ref>Cyfrifiad plwyf Llanwnda 1841</ref> ac yn 10 oed aeth i weithio yn y chwarel. Bu'r teeulu'n byw yr adeg honno yn [[Rhosgadfan]], mewn tŷ o'r enw Borthdwr. Yn y man fe adawodd y chwarel, ac yn 17 oed aeth i [[Ysgol Bron-y-foel]] fel disgybl-athro, cyn symud wedyn i Goleg Hyfforddi Caernarfon (coleg hyfforddi eglwysig) a throi at ddysgu. Bu'n athro yn ysgolion [[Ysgol Gynradd Clynnog Fawr|Clynnog Fawr]] hyd 1855 (ac Eben Fardd yn gymydog iddo), ac wedyn yn Llanfachreth a Beddgelert. O fod yn athro, trodd at wasanaethu yn yr Eglwys, gan gael ei ordeinio ym 1860. Bu'n gurad yn Llangristiolus a Llanfaethlu, ac wedyn ym Mhontlotyn, Sir Forgannwg. Symudodd wedyn i Gasnewydd i gyd-olygu, gydag Islwyn, y papur newydd ''Y Glorian''.  Yn fuan wedyn symudodd i Borthmadog ac wedyn i Dywyn (Meirionnydd) lle bu farw, ond fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Llandwrog.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'', t.472</ref>


Fe'i gofir heddiw fel awdur rhyddiaith, er iddo ysgrifennu a chyhoeddi cryn dipyn o farddoniaeth hefyd. Ysgrifennai at y wasg leol dan ffugenw "Salmon Llwyd o ben Moel Tryfan"., yn benodol pan oedd yn ysgrifennau am fywyd gwerin y wlad a stareon llên gwerin. Yn hyn o beth, roedd yn rywfaint o arloeswr. Dichon mai y llyfr a olygwyd gan Saunders Lewis, ''Straeon Glasynys''<ref>(Clwb Llyfrau Cymraeg, 1943)</ref> ac efallai tudalenni ''Cymru Fu'' yw'r unig ffynonellau o'i waith sydd bellach yn weddol hawdd gael gafael arnynt.
Fe'i cofir heddiw fel awdur rhyddiaith, er iddo ysgrifennu a chyhoeddi cryn dipyn o farddoniaeth hefyd. Ysgrifennai at y wasg leol dan y ffugenw "Salmon Llwyd o ben Moel Tryfan", yn benodol pan oedd yn ysgrifennu am fywyd gwerin y wlad a straeon llên gwerin. Yn hyn o beth, roedd yn dipyn o arloeswr. Dichon mai'r llyfr a olygwyd gan Saunders Lewis, ''Straeon Glasynys''<ref>(Clwb Llyfrau Cymraeg, 1943)</ref> ac efallai tudalennau ''Cymru Fu'' yw'r unig ffynonellau o'i waith sydd bellach yn weddol hawdd cael gafael arnynt.
 
I gyrraedd Ty'n-y-ffrwd, Rhostryfan, rhaid troi ar y dde am [[Rhos-isaf|Ros-isaf]] yng nghanol y pentref ac ymlaen am hanner milltir nes gweld y tŷ ar y dde. Mae yno lechen ar fur y tŷ yn coffáu'r bardd, llenor, hynafiaethydd ac offeiriad. Fe'i darparwyd trwy law Cymdeithas Lenyddol [[Capel Horeb (MC), Rhostryfan]] ym 1928. <ref> ''Cyfres Teithiau Llenyddol Cymdeithas Gelfyddydau Gogledd Cymru: 11. Dyffryn Nantlle, Dewi R. Jones''.</ref>
 
Brawd iddo oedd yr asiant chwarel a'r bardd gwlad William J. Roberts (Llwydlas).<ref>W.R. Ambrose, ‘’Nant Nantlle’’ (Pen-y-groes, 1872), t.87</ref> Diddorol yw sylwi fod un brawd wedi mabwysiadu cyfenw'r tad tra bod y llaw wedi glynu at hen arfer p[atronymig o dderbyn enw bedydd y tad fel sail i gyfenw'r mab.


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 14:30, 16 Mai 2024

llun John Thomas, LLGC

Yr oedd Owen Wynne Jones, sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol Glasynys (4 Mawrth 1828 – 4 Ebrill 1870), yn fardd, yn awdur ac yn athro ysgol, cyn iddo gael ei ordeinio i'r Eglwys. Cafodd ei eni'n Nhŷ'n y Ffrwd, Rhostryfan yn un o bum plentyn John ac Anne Roberts[1] ac yn 10 oed aeth i weithio yn y chwarel. Bu'r teeulu'n byw yr adeg honno yn Rhosgadfan, mewn tŷ o'r enw Borthdwr. Yn y man fe adawodd y chwarel, ac yn 17 oed aeth i Ysgol Bron-y-foel fel disgybl-athro, cyn symud wedyn i Goleg Hyfforddi Caernarfon (coleg hyfforddi eglwysig) a throi at ddysgu. Bu'n athro yn ysgolion Clynnog Fawr hyd 1855 (ac Eben Fardd yn gymydog iddo), ac wedyn yn Llanfachreth a Beddgelert. O fod yn athro, trodd at wasanaethu yn yr Eglwys, gan gael ei ordeinio ym 1860. Bu'n gurad yn Llangristiolus a Llanfaethlu, ac wedyn ym Mhontlotyn, Sir Forgannwg. Symudodd wedyn i Gasnewydd i gyd-olygu, gydag Islwyn, y papur newydd Y Glorian. Yn fuan wedyn symudodd i Borthmadog ac wedyn i Dywyn (Meirionnydd) lle bu farw, ond fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Llandwrog.[2]

Fe'i cofir heddiw fel awdur rhyddiaith, er iddo ysgrifennu a chyhoeddi cryn dipyn o farddoniaeth hefyd. Ysgrifennai at y wasg leol dan y ffugenw "Salmon Llwyd o ben Moel Tryfan", yn benodol pan oedd yn ysgrifennu am fywyd gwerin y wlad a straeon llên gwerin. Yn hyn o beth, roedd yn dipyn o arloeswr. Dichon mai'r llyfr a olygwyd gan Saunders Lewis, Straeon Glasynys[3] ac efallai tudalennau Cymru Fu yw'r unig ffynonellau o'i waith sydd bellach yn weddol hawdd cael gafael arnynt.

I gyrraedd Ty'n-y-ffrwd, Rhostryfan, rhaid troi ar y dde am Ros-isaf yng nghanol y pentref ac ymlaen am hanner milltir nes gweld y tŷ ar y dde. Mae yno lechen ar fur y tŷ yn coffáu'r bardd, llenor, hynafiaethydd ac offeiriad. Fe'i darparwyd trwy law Cymdeithas Lenyddol Capel Horeb (MC), Rhostryfan ym 1928. [4]

Brawd iddo oedd yr asiant chwarel a'r bardd gwlad William J. Roberts (Llwydlas).[5] Diddorol yw sylwi fod un brawd wedi mabwysiadu cyfenw'r tad tra bod y llaw wedi glynu at hen arfer p[atronymig o dderbyn enw bedydd y tad fel sail i gyfenw'r mab.

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Llanwnda 1841
  2. Y Bywgraffiadur Cymreig, t.472
  3. (Clwb Llyfrau Cymraeg, 1943)
  4. Cyfres Teithiau Llenyddol Cymdeithas Gelfyddydau Gogledd Cymru: 11. Dyffryn Nantlle, Dewi R. Jones.
  5. W.R. Ambrose, ‘’Nant Nantlle’’ (Pen-y-groes, 1872), t.87