Owen Wynne Jones (Glasynys): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Yr oedd '''Owen Wynne Jones''', sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol '''Glasynys''' (4 Mawrth 18284 Ebrill 1870), yn fardd, yn...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 17 golygiad yn y canol gan 6 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Yr oedd '''Owen Wynne Jones''', sy'n fwy adnabyddus dan ei [[enw barddol]] '''Glasynys''' ([[4 Mawrth]] [[1828]] – [[4 Ebrill]] [[1870]]), yn fardd, yn awdur ac yn athro ysgol, cyn iddo gael ei ordeinio i'r Eglwys. Cafodd ei eni'n Nhŷ'n y Ffrwd, [[Rhostryfan]] yn un o bum plentyn ac yn 10 oed aeth i weithio yn y chwarel. Fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Llandwrog.
[[Delwedd:Revd_Owen_Wynne_Jones_(Glasynys,_1828-70)_NLW3365408_Cropped.jpg|bawd|300px|de|llun John Thomas, LLGC]]


'''I'w barhau'''
Yr oedd '''Owen Wynne Jones''', sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol '''Glasynys''' (4 Mawrth 1828 – 4 Ebrill 1870), yn fardd, yn awdur ac yn athro ysgol, cyn iddo gael ei ordeinio i'r Eglwys. Cafodd ei eni'n Nhŷ'n y Ffrwd, [[Rhostryfan]] yn un o bum plentyn John ac Anne Roberts<ref>Cyfrifiad plwyf Llanwnda 1841</ref> ac yn 10 oed aeth i weithio yn y chwarel. Bu'r teeulu'n byw yr adeg honno yn [[Rhosgadfan]], mewn tŷ o'r enw Borthdwr. Yn y man fe adawodd y chwarel, ac yn 17 oed aeth i [[Ysgol Bron-y-foel]] fel disgybl-athro, cyn symud wedyn i Goleg Hyfforddi Caernarfon (coleg hyfforddi eglwysig) a throi at ddysgu. Bu'n athro yn ysgolion [[Ysgol Gynradd Clynnog Fawr|Clynnog Fawr]] hyd 1855 (ac Eben Fardd yn gymydog iddo), ac wedyn yn Llanfachreth a Beddgelert. O fod yn athro, trodd at wasanaethu yn yr Eglwys, gan gael ei ordeinio ym 1860. Bu'n gurad yn Llangristiolus a Llanfaethlu, ac wedyn ym Mhontlotyn, Sir Forgannwg. Symudodd wedyn i Gasnewydd i gyd-olygu, gydag Islwyn, y papur newydd ''Y Glorian''.  Yn fuan wedyn symudodd i Borthmadog ac wedyn i Dywyn (Meirionnydd) lle bu farw, ond fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Llandwrog.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'', t.472</ref>
 
Fe'i cofir heddiw fel awdur rhyddiaith, er iddo ysgrifennu a chyhoeddi cryn dipyn o farddoniaeth hefyd. Ysgrifennai at y wasg leol dan y ffugenw "Salmon Llwyd o ben Moel Tryfan", yn benodol pan oedd yn ysgrifennu am fywyd gwerin y wlad a straeon llên gwerin. Yn hyn o beth, roedd yn dipyn o arloeswr. Dichon mai'r llyfr a olygwyd gan Saunders Lewis, ''Straeon Glasynys''<ref>(Clwb Llyfrau Cymraeg, 1943)</ref> ac efallai tudalennau ''Cymru Fu'' yw'r unig ffynonellau o'i waith sydd bellach yn weddol hawdd cael gafael arnynt.
 
I gyrraedd Ty'n-y-ffrwd, Rhostryfan, rhaid troi ar y dde am [[Rhos-isaf|Ros-isaf]] yng nghanol y pentref ac ymlaen am hanner milltir nes gweld y tŷ ar y dde. Mae yno lechen ar fur y tŷ yn coffáu'r bardd, llenor, hynafiaethydd ac offeiriad. Fe'i darparwyd trwy law Cymdeithas Lenyddol [[Capel Horeb (MC), Rhostryfan]] ym 1928. <ref> ''Cyfres Teithiau Llenyddol Cymdeithas Gelfyddydau Gogledd Cymru: 11. Dyffryn Nantlle, Dewi R. Jones''.</ref>
 
Brawd iddo oedd yr asiant chwarel a'r bardd gwlad William J. Roberts (Llwydlas).<ref>W.R. Ambrose, ‘’Nant Nantlle’’ (Pen-y-groes, 1872), t.87</ref> Diddorol yw sylwi fod un brawd wedi mabwysiadu cyfenw'r tad tra bod y llaw wedi glynu at hen arfer p[atronymig o dderbyn enw bedydd y tad fel sail i gyfenw'r mab.
 
==Cyfeiriadau==
 
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Beirdd]]
[[Categori:Awduron]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 14:30, 16 Mai 2024

llun John Thomas, LLGC

Yr oedd Owen Wynne Jones, sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol Glasynys (4 Mawrth 1828 – 4 Ebrill 1870), yn fardd, yn awdur ac yn athro ysgol, cyn iddo gael ei ordeinio i'r Eglwys. Cafodd ei eni'n Nhŷ'n y Ffrwd, Rhostryfan yn un o bum plentyn John ac Anne Roberts[1] ac yn 10 oed aeth i weithio yn y chwarel. Bu'r teeulu'n byw yr adeg honno yn Rhosgadfan, mewn tŷ o'r enw Borthdwr. Yn y man fe adawodd y chwarel, ac yn 17 oed aeth i Ysgol Bron-y-foel fel disgybl-athro, cyn symud wedyn i Goleg Hyfforddi Caernarfon (coleg hyfforddi eglwysig) a throi at ddysgu. Bu'n athro yn ysgolion Clynnog Fawr hyd 1855 (ac Eben Fardd yn gymydog iddo), ac wedyn yn Llanfachreth a Beddgelert. O fod yn athro, trodd at wasanaethu yn yr Eglwys, gan gael ei ordeinio ym 1860. Bu'n gurad yn Llangristiolus a Llanfaethlu, ac wedyn ym Mhontlotyn, Sir Forgannwg. Symudodd wedyn i Gasnewydd i gyd-olygu, gydag Islwyn, y papur newydd Y Glorian. Yn fuan wedyn symudodd i Borthmadog ac wedyn i Dywyn (Meirionnydd) lle bu farw, ond fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Llandwrog.[2]

Fe'i cofir heddiw fel awdur rhyddiaith, er iddo ysgrifennu a chyhoeddi cryn dipyn o farddoniaeth hefyd. Ysgrifennai at y wasg leol dan y ffugenw "Salmon Llwyd o ben Moel Tryfan", yn benodol pan oedd yn ysgrifennu am fywyd gwerin y wlad a straeon llên gwerin. Yn hyn o beth, roedd yn dipyn o arloeswr. Dichon mai'r llyfr a olygwyd gan Saunders Lewis, Straeon Glasynys[3] ac efallai tudalennau Cymru Fu yw'r unig ffynonellau o'i waith sydd bellach yn weddol hawdd cael gafael arnynt.

I gyrraedd Ty'n-y-ffrwd, Rhostryfan, rhaid troi ar y dde am Ros-isaf yng nghanol y pentref ac ymlaen am hanner milltir nes gweld y tŷ ar y dde. Mae yno lechen ar fur y tŷ yn coffáu'r bardd, llenor, hynafiaethydd ac offeiriad. Fe'i darparwyd trwy law Cymdeithas Lenyddol Capel Horeb (MC), Rhostryfan ym 1928. [4]

Brawd iddo oedd yr asiant chwarel a'r bardd gwlad William J. Roberts (Llwydlas).[5] Diddorol yw sylwi fod un brawd wedi mabwysiadu cyfenw'r tad tra bod y llaw wedi glynu at hen arfer p[atronymig o dderbyn enw bedydd y tad fel sail i gyfenw'r mab.

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Llanwnda 1841
  2. Y Bywgraffiadur Cymreig, t.472
  3. (Clwb Llyfrau Cymraeg, 1943)
  4. Cyfres Teithiau Llenyddol Cymdeithas Gelfyddydau Gogledd Cymru: 11. Dyffryn Nantlle, Dewi R. Jones.
  5. W.R. Ambrose, ‘’Nant Nantlle’’ (Pen-y-groes, 1872), t.87