Moduron Seren Arian: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '.... .... .... Categori:Bysiau'
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 14 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
....
Roedd '''Seren Arian''' yn un o'r cwmnïau bysiau lleol cynharaf, ac yn ystod ail hanner y 20g, fe elwid bysiau'r cwmni'n "fysys Nedw" ar ôl y perchennog. Y brif daith wasanaeth oedd o Gaernarfon trwy [[Rhostryfan|Rostryfan]] i [[Rhosgadfan|Rosgadfan]] a'r [[Y Fron|Fron]].
 
Lifrai olaf y cerbydau oedd glas gweddol dywyll ar hyd yr ochr, gyda glas goleuach ar y to a'r paneli isaf, a lliw hufen o amgylch y ffenestri. Cyn hynny, roedd cynllun tebyg, ond mewn lliw bisged, lliw caramel a hufen. Wrth i'r cwmni ddatblygu busnes coetsys llewyrchus, a oedd yn mynd â phobl ar wyliau o fewn gwledydd Prydain a thramor, roedd y bysys mwyaf cyfforddus yn cael eu paentio mewn dau fath o wyrdd.<ref>Gwybodaeth bersonol</ref>
 
Er i 'gartref' y cwmni fod yn Rhosgadfan, agorwyd depo ehangach tua diwedd y 20g ar Ystad Cibyn, yng Nghaernarfon. Mae'r cwmni'n dal mewn bodolaeth ond gyda pherchnogion newydd, ac nid ydynt bellach yn rhedeg bysiau gwasanaeth.
 
Cwmni Alpine http://www.alpine-travel.co.uk sydd bellach yn gwerthu'r gwyliau ac yn darparu'r cerbydau ar gyfer teithiau Seren Arian
 
{{eginyn}}
 
==Cyfeiriadau==
 
{{cyfeiriadau}}
 
 
 
 


....


....


[[Categori:Bysiau]]
[[Categori:Bysiau]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 14:40, 6 Ionawr 2022

Roedd Seren Arian yn un o'r cwmnïau bysiau lleol cynharaf, ac yn ystod ail hanner y 20g, fe elwid bysiau'r cwmni'n "fysys Nedw" ar ôl y perchennog. Y brif daith wasanaeth oedd o Gaernarfon trwy Rostryfan i Rosgadfan a'r Fron.

Lifrai olaf y cerbydau oedd glas gweddol dywyll ar hyd yr ochr, gyda glas goleuach ar y to a'r paneli isaf, a lliw hufen o amgylch y ffenestri. Cyn hynny, roedd cynllun tebyg, ond mewn lliw bisged, lliw caramel a hufen. Wrth i'r cwmni ddatblygu busnes coetsys llewyrchus, a oedd yn mynd â phobl ar wyliau o fewn gwledydd Prydain a thramor, roedd y bysys mwyaf cyfforddus yn cael eu paentio mewn dau fath o wyrdd.[1]

Er i 'gartref' y cwmni fod yn Rhosgadfan, agorwyd depo ehangach tua diwedd y 20g ar Ystad Cibyn, yng Nghaernarfon. Mae'r cwmni'n dal mewn bodolaeth ond gyda pherchnogion newydd, ac nid ydynt bellach yn rhedeg bysiau gwasanaeth.

Cwmni Alpine http://www.alpine-travel.co.uk sydd bellach yn gwerthu'r gwyliau ac yn darparu'r cerbydau ar gyfer teithiau Seren Arian

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth bersonol