Capel Gosen (MC), Trefor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae Capel Gosen (MC) yn gapel yngh nghanol pentref Trefor. Agorwyd ym 1862, ac ailadeiladwyd ym 1875.Ychwanegwyd festri. Bu Emyr Roberts yn weinidog yma,...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 17 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae Capel Gosen (MC) yn gapel | Mae '''Capel Gosen (MC)''' yn gapel ynghanol pentref [[Trefor]]. Agorwyd y capel cyntaf ar y safle ym 1862, gyda chapel llawer helaethach yn cael ei adeiladu yno ym 1875. Caewyd y capel yn 2006 ac mae'n cael ei droi'n dŷ neu fflatiau ar hyn o bryd. | ||
Agorwyd ym 1862, ac | |||
== Dechrau'r achos == | |||
Yn yr erthygl yn Cof y Cwmwd ar [[Achos Methodistaidd Hen Derfyn]], soniwyd fel y deilliodd eglwys Gosen, Trefor i raddau helaeth o'r achos cynnar hwnnw ac o'r oedfaon achlysurol a gynhelid ar aelwyd ffermdy Llwynraethnen, cartref Evan Pierce, a oedd yn un o flaenoriaid achos Hen Derfyn. (Mae ffermdy Llwynraethnen yn adeilad o ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg neu ddechrau'r ddeunawfed ganrif a bu tafarn yno ar un adeg.) Roedd [[Capel Cwm Coryn (MC)|capel Cwmcoryn]] uwchlaw [[Llanaelhaearn]] hefyd wedi ei agor ym 1811 ac agorwyd [[Capel Seion (MC), Gurn Goch|capel Seion Gurn Goch]] ym 1826. Yn y dyddiau cyn bodolaeth pentref [[Trefor]] i'r mannau hynny yr ai Methodistiaid rhannau isaf plwyf Llanaelhaearn i addoli. | |||
Fodd bynnag, ym 1856 codwyd y tai cyntaf ym mhentref newydd Trefor ac erbyn y 1860au roedd y boblogaeth yn cynyddu'n gyflym wrth i chwarel y [[Cwmni Ithfaen Cymreig]] ddatblygu yn [[Y Gorllwyn|y Gorllwyn]]. Ym 1861 ysgogwyd Evan Evans, Llwynraethnen (ŵyr yr Evan Pierce uchod) a Griffith Jones, Cae Cribyn, Llithfaen i annog codi capel i'r Methodistiaid yn y pentref newydd. Cafwyd ymateb brwdfrydig iawn a phrynwyd darn bach o dir Llwynraethnen gan y perchennog, Humphrey Owen, Rhuddgaer, Sir Fôn am bum punt - ond dychwelwyd yr arian gan y gwerthwr. Adeiladwyd y capel cyntaf ym 1862 ar gost o rhwng £300 a £350 a llwyddwyd i gadw'r costau i lawr drwy i'r chwarelwyr drin a naddu'r cerrig a gwneud llawer o'r gwaith adeiladu yn eu horiau hamdden prin. Roedd llawer o'r aelodau cyntaf wedi dod dan ddylanwad diwygiad mawr 1859 ac yn ewyllysgar iawn i weithio dros yr achos. Etholwyd Evan Evans a Griffith Jones yn flaenoriaid cyntaf yr achos. Dim ond dwy flynedd yn ddiweddarach, ym 1864, bu farw Griffith Jones yn ddyn ifanc 40 oed, a chyfeirir at eglwys Gosen yn yr englyn o waith Dewi Arfon sydd ar ei garreg fedd ym mynwent eglwys Carnguwch. | |||
Hawddgar hoff ydoedd Gruffydd - swyddog Iôr | |||
Rhoes wedd gu ar grefydd, | |||
A thra bo Gosen ysblennydd | |||
Ar ei sail, ei gofadail fydd. | |||
Cafodd Evan Evans ar y llaw arall oes lawer hwy; symudodd i fyw i Ryd-y-clafdy ym 1907 a bu farw ym 1924 yn 92 oed. | |||
== Cynnydd yr achos a'i weinidogion == | |||
Gyda'r cynnydd cyflym ym mhoblogaeth Trefor cwta bymtheg mlynedd fu oes y capel cyntaf. Ym 1875 aed ati i godi capel deulawr llawer mwy ar yr un safle, ynghyd â thŷ capel cysylltieig - ychwanegwyd festri sylweddol ym 1897. Unwaith eto bu'r chwarelwyr a oedd yn aelodau yn cynorthwyo gyda'r gwaith trin cerrig ac adeiladu. Costiodd y capel newydd £1,400 ac ni chliriwyd y ddyled tan 1910. Cynhaliwyd cyfarfodydd agoriadol y capel newydd ar 22 a 23 Mawrth 1876, gyda 24 yn ymaelodi o'r newydd yn y cyfarfodydd hyn. | |||
Ym 1912 penderfynwyd adeiladu tŷ gweinidog ar yr allt allan o Drefor i gyfeiriad Llanaelhaearn ac erbyn y flwyddyn ddilynol roedd Goleufryn wedi'i gwblhau. Fodd bynnag, er i'r achos yng Ngosen barhau am tua chanrif a hanner, dim ond yn fylchog iawn y cafwyd gweinidog arno. Byr eithriadol fu arhosiad y gweinidog cyntaf, Caleb Williams o Gydweli; daeth i Drefor ym 1911 gan adael am [[Capel Bwlan (MC), Llandwrog|gapel Bwlan]] ddwy flynedd yn ddiweddarach. Ni ddaeth unrhyw un yn ei le tan 1934, pan sefydlwyd T.J. Edwards, brodor o Gapel Hendre, Sir Gaerfyrddin, yn weinidog. Gadawodd yntau am Fetws-y-Coed ymhen pum mlynedd. | |||
Wedi'r rhyfel cafwyd cyfnod mwy sefydlog gydag Emyr Roberts yn treulio degawd ffrwythlon wrth y llyw o 1947 tan 1957, pryd y gadawodd am Y Rhyl. Fe'i holynwyd yntau ym 1960 gan Hartwell Lloyd Morgan a arhosodd tan 1965, pryd y symudodd i Lanfair Caereinion lle bu farw'n ddyn cymharol ifanc. Gweinidog olaf Gosen oedd [[Goronwy Prys Owen]], a symudodd i ofalaeth Gosen, [[Capel Babell (MC), Llanaelhaearn|Y Babell]] a Chwmcoryn ym 1969. Colled fawr fu ei ymadawiad i ofalu am eglwys Heol y Dŵr, Caerfyrddin ymhen tua saith mlynedd. | |||
== Dirywiad a chau == | |||
Erbyn blynyddoedd olaf yr ugeinfed ganrif roedd yr achos, fel llawer arall, yn edwino gyda'r gynulleidfa'n heneiddio a phrinhau. Hefyd roedd cyflwr y capel yn dirywio gyda chostau sylweddol i'w adfer. Yn dilyn arolwg, barnwyd nad oedd yn ddiogel i'w ddefnyddio mwyach a chaewyd y capel yn 2006. Fodd bynnag, parhaodd yr achos i gyfarfod am rai blynyddoedd wedyn yn [[Capel Maesyneuadd (A), Trefor|eglwys Annibynnol Maesyneuadd]] yn y pentref. Pan ddaethpwyd â'r trefniant hwnnw i ben ymaelododd y rhelyw o gyn-aelodau Gosen ym Maesyneuadd. | |||
== Cyfeiriadau == | |||
Seiliwyd yr uchod i raddau helaeth ar y llyfryn ''Canmlwyddiant y Methodistiaid Calfinaidd yn Gosen, Trefor, 1862-1962'' ac ar wybodaeth bersonol. | |||
[[Categori: Crefydd ]] | |||
[[Categori:Capeli]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 17:53, 6 Mai 2021
Mae Capel Gosen (MC) yn gapel ynghanol pentref Trefor. Agorwyd y capel cyntaf ar y safle ym 1862, gyda chapel llawer helaethach yn cael ei adeiladu yno ym 1875. Caewyd y capel yn 2006 ac mae'n cael ei droi'n dŷ neu fflatiau ar hyn o bryd.
Dechrau'r achos
Yn yr erthygl yn Cof y Cwmwd ar Achos Methodistaidd Hen Derfyn, soniwyd fel y deilliodd eglwys Gosen, Trefor i raddau helaeth o'r achos cynnar hwnnw ac o'r oedfaon achlysurol a gynhelid ar aelwyd ffermdy Llwynraethnen, cartref Evan Pierce, a oedd yn un o flaenoriaid achos Hen Derfyn. (Mae ffermdy Llwynraethnen yn adeilad o ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg neu ddechrau'r ddeunawfed ganrif a bu tafarn yno ar un adeg.) Roedd capel Cwmcoryn uwchlaw Llanaelhaearn hefyd wedi ei agor ym 1811 ac agorwyd capel Seion Gurn Goch ym 1826. Yn y dyddiau cyn bodolaeth pentref Trefor i'r mannau hynny yr ai Methodistiaid rhannau isaf plwyf Llanaelhaearn i addoli.
Fodd bynnag, ym 1856 codwyd y tai cyntaf ym mhentref newydd Trefor ac erbyn y 1860au roedd y boblogaeth yn cynyddu'n gyflym wrth i chwarel y Cwmni Ithfaen Cymreig ddatblygu yn y Gorllwyn. Ym 1861 ysgogwyd Evan Evans, Llwynraethnen (ŵyr yr Evan Pierce uchod) a Griffith Jones, Cae Cribyn, Llithfaen i annog codi capel i'r Methodistiaid yn y pentref newydd. Cafwyd ymateb brwdfrydig iawn a phrynwyd darn bach o dir Llwynraethnen gan y perchennog, Humphrey Owen, Rhuddgaer, Sir Fôn am bum punt - ond dychwelwyd yr arian gan y gwerthwr. Adeiladwyd y capel cyntaf ym 1862 ar gost o rhwng £300 a £350 a llwyddwyd i gadw'r costau i lawr drwy i'r chwarelwyr drin a naddu'r cerrig a gwneud llawer o'r gwaith adeiladu yn eu horiau hamdden prin. Roedd llawer o'r aelodau cyntaf wedi dod dan ddylanwad diwygiad mawr 1859 ac yn ewyllysgar iawn i weithio dros yr achos. Etholwyd Evan Evans a Griffith Jones yn flaenoriaid cyntaf yr achos. Dim ond dwy flynedd yn ddiweddarach, ym 1864, bu farw Griffith Jones yn ddyn ifanc 40 oed, a chyfeirir at eglwys Gosen yn yr englyn o waith Dewi Arfon sydd ar ei garreg fedd ym mynwent eglwys Carnguwch.
Hawddgar hoff ydoedd Gruffydd - swyddog Iôr Rhoes wedd gu ar grefydd, A thra bo Gosen ysblennydd Ar ei sail, ei gofadail fydd.
Cafodd Evan Evans ar y llaw arall oes lawer hwy; symudodd i fyw i Ryd-y-clafdy ym 1907 a bu farw ym 1924 yn 92 oed.
Cynnydd yr achos a'i weinidogion
Gyda'r cynnydd cyflym ym mhoblogaeth Trefor cwta bymtheg mlynedd fu oes y capel cyntaf. Ym 1875 aed ati i godi capel deulawr llawer mwy ar yr un safle, ynghyd â thŷ capel cysylltieig - ychwanegwyd festri sylweddol ym 1897. Unwaith eto bu'r chwarelwyr a oedd yn aelodau yn cynorthwyo gyda'r gwaith trin cerrig ac adeiladu. Costiodd y capel newydd £1,400 ac ni chliriwyd y ddyled tan 1910. Cynhaliwyd cyfarfodydd agoriadol y capel newydd ar 22 a 23 Mawrth 1876, gyda 24 yn ymaelodi o'r newydd yn y cyfarfodydd hyn.
Ym 1912 penderfynwyd adeiladu tŷ gweinidog ar yr allt allan o Drefor i gyfeiriad Llanaelhaearn ac erbyn y flwyddyn ddilynol roedd Goleufryn wedi'i gwblhau. Fodd bynnag, er i'r achos yng Ngosen barhau am tua chanrif a hanner, dim ond yn fylchog iawn y cafwyd gweinidog arno. Byr eithriadol fu arhosiad y gweinidog cyntaf, Caleb Williams o Gydweli; daeth i Drefor ym 1911 gan adael am gapel Bwlan ddwy flynedd yn ddiweddarach. Ni ddaeth unrhyw un yn ei le tan 1934, pan sefydlwyd T.J. Edwards, brodor o Gapel Hendre, Sir Gaerfyrddin, yn weinidog. Gadawodd yntau am Fetws-y-Coed ymhen pum mlynedd.
Wedi'r rhyfel cafwyd cyfnod mwy sefydlog gydag Emyr Roberts yn treulio degawd ffrwythlon wrth y llyw o 1947 tan 1957, pryd y gadawodd am Y Rhyl. Fe'i holynwyd yntau ym 1960 gan Hartwell Lloyd Morgan a arhosodd tan 1965, pryd y symudodd i Lanfair Caereinion lle bu farw'n ddyn cymharol ifanc. Gweinidog olaf Gosen oedd Goronwy Prys Owen, a symudodd i ofalaeth Gosen, Y Babell a Chwmcoryn ym 1969. Colled fawr fu ei ymadawiad i ofalu am eglwys Heol y Dŵr, Caerfyrddin ymhen tua saith mlynedd.
Dirywiad a chau
Erbyn blynyddoedd olaf yr ugeinfed ganrif roedd yr achos, fel llawer arall, yn edwino gyda'r gynulleidfa'n heneiddio a phrinhau. Hefyd roedd cyflwr y capel yn dirywio gyda chostau sylweddol i'w adfer. Yn dilyn arolwg, barnwyd nad oedd yn ddiogel i'w ddefnyddio mwyach a chaewyd y capel yn 2006. Fodd bynnag, parhaodd yr achos i gyfarfod am rai blynyddoedd wedyn yn eglwys Annibynnol Maesyneuadd yn y pentref. Pan ddaethpwyd â'r trefniant hwnnw i ben ymaelododd y rhelyw o gyn-aelodau Gosen ym Maesyneuadd.
Cyfeiriadau
Seiliwyd yr uchod i raddau helaeth ar y llyfryn Canmlwyddiant y Methodistiaid Calfinaidd yn Gosen, Trefor, 1862-1962 ac ar wybodaeth bersonol.