Ysgol Gynradd Bontnewydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ysgol gynradd ym mhentref Bontnewydd yw '''Ysgol Bontnewydd'''. Sefydlwyd yr ysgol o gwmpas 1865, a'i gelwir hi bryd hynny yn ''Bontnewydd National S...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Ysgol gynradd ym mhentref [[Bontnewydd]] yw '''Ysgol Bontnewydd'''.
Ysgol gynradd ym mhentref [[Y Bontnewydd]] yw '''Ysgol Bontnewydd'''. Mae'n sefyll ar lan [[Isgwyrfai]] [[Afon Gwyrfai]].


Sefydlwyd yr ysgol o gwmpas 1865, a'i gelwir hi bryd hynny yn ''Bontnewydd National School''. Aeth ymlaen wedyn i'w galw yn ''Bontnewydd Board School'', a ''Bontnewydd Council School'' cyn cael ei galw yn ''Ysgol Gynradd Bontnewydd''.  
Sefydlwyd yr ysgol ym 1843, a gelwid hi bryd hynny yn ''Bontnewydd National School''. Y prifathro cyntaf oedd John Prichard, mab William Prichard, Glan'rafon Bach, [[Llanwnda]], a aeth wedyn yn gurad i Gapel Garmon. Ymysg y disgyblion cyntaf oedd [[Henry Howell Parry]] a'i frawd [[William Parry (Gwilym Droed-ddu)]]. Aeth William ymlaen i fod yn ddisgybl-athro yn yr ysgol nes iddo gael ei dderbyn i Goleg Hyfforddi Athrawon Caernarfon.<ref>''Cymru'', Cyf.24 (1903), t.197</ref>


Mae'r ysgol bresennol mewn adeilad diweddarach a godwyd yn 1976. Mae adeilad yr hen ysgol yn sefyll hyd heddiw, ac yn cael ei defnyddio fel neuadd bentref, ac fel cartref i Ysgol Feithrin Bontnewydd.  
Yn ddiweddarach fe'i galwyd yn ''Bontnewydd Board School'', a ''Bontnewydd Council School'' cyn cael ei galw yn briodol iawn yn ''Ysgol Gynradd Bontnewydd''.<ref>''Llyfrau Log Ysgol Bontnewydd, 1865-1922'' XES1/32 (Gwasanaeth Archifau Gwynedd)</ref>


Mae'r ysgol bresennol mewn adeilad diweddarach a godwyd ym 1976. Mae adeilad yr hen ysgol yn sefyll hyd heddiw, ac yn cael ei ddefnyddio fel neuadd bentref, ac fel cartref i Ysgol Feithrin Bontnewydd. Fe'i hagorwyd ar ei newydd wedd ym mis Tachwedd 1993.<ref>Plac ar wal y neuadd</ref> Fe'i haddaswyd yn lle hen neuadd bren a losgwyd yn llwyr ychydig cyn hynny. Safai honno ar ochr [[Uwchgwyrfai]] i'r afon, gyferbyn â thai Pentref Uchaf. Mae tŷ annedd wedi ei godi ar safle'r hen neuadd erbyn hyn.


{{eginyn}}
{{eginyn}}


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
''Llyfrau Log Ysgol Bontnewydd, 1865-1922'' XES1/32 (Gwasanaeth Archifau Gwynedd)


[[Categori:Addysg]]
[[Categori:Addysg]]
[[Categori:Ysgolion]]
[[Categori:Ysgolion]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 09:23, 23 Medi 2024

Ysgol gynradd ym mhentref Y Bontnewydd yw Ysgol Bontnewydd. Mae'n sefyll ar lan Isgwyrfai Afon Gwyrfai.

Sefydlwyd yr ysgol ym 1843, a gelwid hi bryd hynny yn Bontnewydd National School. Y prifathro cyntaf oedd John Prichard, mab William Prichard, Glan'rafon Bach, Llanwnda, a aeth wedyn yn gurad i Gapel Garmon. Ymysg y disgyblion cyntaf oedd Henry Howell Parry a'i frawd William Parry (Gwilym Droed-ddu). Aeth William ymlaen i fod yn ddisgybl-athro yn yr ysgol nes iddo gael ei dderbyn i Goleg Hyfforddi Athrawon Caernarfon.[1]

Yn ddiweddarach fe'i galwyd yn Bontnewydd Board School, a Bontnewydd Council School cyn cael ei galw yn briodol iawn yn Ysgol Gynradd Bontnewydd.[2]

Mae'r ysgol bresennol mewn adeilad diweddarach a godwyd ym 1976. Mae adeilad yr hen ysgol yn sefyll hyd heddiw, ac yn cael ei ddefnyddio fel neuadd bentref, ac fel cartref i Ysgol Feithrin Bontnewydd. Fe'i hagorwyd ar ei newydd wedd ym mis Tachwedd 1993.[3] Fe'i haddaswyd yn lle hen neuadd bren a losgwyd yn llwyr ychydig cyn hynny. Safai honno ar ochr Uwchgwyrfai i'r afon, gyferbyn â thai Pentref Uchaf. Mae tŷ annedd wedi ei godi ar safle'r hen neuadd erbyn hyn.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Cymru, Cyf.24 (1903), t.197
  2. Llyfrau Log Ysgol Bontnewydd, 1865-1922 XES1/32 (Gwasanaeth Archifau Gwynedd)
  3. Plac ar wal y neuadd