Henry Howell Parry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dechrau tudalen newydd gyda "Gwasanaethai'r '''Dr Henry Howell Parry''' (1835-1907) fel meddyg a llawfeddyg ardal Dyffryn Gwyrfai am lawer o flynyddoedd wedi iddo gael ei hyfforddi yn Digbeth, Birmingham. Yn wir, enwodd dai a godwyd ganddo ym mhentref Y Bontnewydd yn "Digbeth Terrace", a'i dŷ ei hun yn "Digbeth House" - a godwyd rywbryd cyn 1871.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanwnda 1871</ref> Fe'i ganed yn Llwyn Angharad, Llanwnda ym 1835, yn ail o bedwar mab i wehydd, William Parr..."
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Gwasanaethai'r '''Dr Henry Howell Parry''' (1835-1907) fel meddyg a llawfeddyg ardal [[Dyffryn Gwyrfai]] am lawer o flynyddoedd wedi iddo gael ei hyfforddi yn Digbeth, Birmingham. Yn wir, enwodd dai a godwyd ganddo ym mhentref [[Y Bontnewydd]] yn "Digbeth Terrace", a'i dŷ ei hun yn "Digbeth House" -  a godwyd rywbryd cyn 1871.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanwnda 1871</ref>
Bu '''Dr Henry Howell Parry''' (1835-1907) yn gwasanaethu fel meddyg a llawfeddyg ardal [[Dyffryn Gwyrfai]] am lawer o flynyddoedd ar ôl iddo gael ei hyfforddi yn Digbeth, Birmingham. Yn wir, enwodd dai a godwyd ganddo ym mhentref [[Y Bontnewydd]] yn "Digbeth Terrace", a'i dŷ ei hun yn "Digbeth House" -  a godwyd rywbryd cyn 1871.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanwnda 1871</ref>


Fe'i ganed yn Llwyn Angharad, [[Llanwnda]] ym 1835, yn ail o bedwar mab i wehydd, William Parry. Brawd iddo oedd y bardd [[Gwilym Droed-ddu]]. Mae'n debyg iddo fynychu ysgol fach a gynhelid yng Nglanrhyd Bach, cyn i honno symud i [[Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda]]. Ym 1843, roedd yn un o ddisgyblion cyntaf [[Ysgol Y Bontnewydd]]. Ar ôl cael ei hyfforddi'n feddyg ym Mirmingham, dychwelodd i'w fro enedigol, gan ymsefydlu yn y Bontnewydd, lle bu'n gweithio fel meddyg, a hynny am weddill ei oes hyd ei farwolaeth ym 1907.
Fe'i ganed yn Llwyn Angharad, [[Llanwnda]] ym 1835, yn ail o bedwar mab i wehydd, William Parry. Brawd iddo oedd y bardd [[Gwilym Droed-ddu]]. Mae'n debyg iddo fynychu ysgol fach a gynhelid yng Nglanrhyd Bach, cyn i honno symud i [[Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda]]. Ym 1843, roedd yn un o ddisgyblion cyntaf [[Ysgol Gynradd Bontnewydd|Ysgol Y Bontnewydd]]. Ar ôl cael ei hyfforddi'n feddyg ym Mirmingham, dychwelodd i'w fro enedigol, gan ymsefydlu yn Y Bontnewydd, lle bu'n gweithio fel meddyg am weddill ei oes hyd ei farwolaeth ym 1907.


Priododd Elizabeth Hughes, Wernlas Ddu, [[Rhostryfan]] ym 1873..<ref>Cofrestr briodasau plwyf Llanwnda, 1873</ref>  Roedd hi'n 15 mlynedd yn iau nag ef, ond bu farw ar ôl geni eu mab John Henry Howell Parry. Ymhen amser, etifeddodd John Wernlas Ddu, lle bu'n dilyn y proffesiwn o hyfforddwr ceffylau.<ref>Cofrestr priodasau plwyf Llanwnda, 1912</ref>  
Priododd ag Elizabeth Hughes, Wernlas Ddu, [[Rhostryfan]] ym 1873.<ref>Cofrestr briodasau plwyf Llanwnda, 1873</ref>  Roedd hi 15 mlynedd yn iau nag ef, ond bu farw ar ôl geni eu mab John Henry Howell Parry. Ymhen amser, etifeddodd John y Wernlas Ddu, lle bu'n dilyn gyrfa fel hyfforddwr ceffylau.<ref>Cofrestr priodasau plwyf Llanwnda, 1912</ref>  


Erbyn 1891 roedd wedi ail briodi gyda Margaret Ellen, merch o blwyf  Llanbeblig 25 mlynedd yn iau nag ef. Bu farw 5 Ebrill 1907 ar ôl cael strôc yn ei gartref.<ref>''Caernarvon and Denbigh Herald'' 5.4.1907, t.8</ref> Gadawodd eiddo gwerth £1952.<ref>''North Wales Express'' 17.5.1907, t.3</ref>Roedd Mrs Parry'n dal i fyw yn Digbeth House tan o leiaf 1921.
Erbyn 1891 roedd Dr Parry wedi ail-briodi gyda Margaret Ellen, merch o blwyf  Llanbeblig 25 mlynedd yn iau nag ef. Bu farw 5 Ebrill 1907 ar ôl cael strôc yn ei gartref.<ref>''Caernarvon and Denbigh Herald'' 5.4.1907, t.8</ref> Gadawodd eiddo gwerth £1952.<ref>''North Wales Express'' 17.5.1907, t.3</ref>Roedd Mrs Parry'n dal i fyw yn Digbeth House tan o leiaf 1921.


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 12:24, 23 Medi 2024

Bu Dr Henry Howell Parry (1835-1907) yn gwasanaethu fel meddyg a llawfeddyg ardal Dyffryn Gwyrfai am lawer o flynyddoedd ar ôl iddo gael ei hyfforddi yn Digbeth, Birmingham. Yn wir, enwodd dai a godwyd ganddo ym mhentref Y Bontnewydd yn "Digbeth Terrace", a'i dŷ ei hun yn "Digbeth House" - a godwyd rywbryd cyn 1871.[1]

Fe'i ganed yn Llwyn Angharad, Llanwnda ym 1835, yn ail o bedwar mab i wehydd, William Parry. Brawd iddo oedd y bardd Gwilym Droed-ddu. Mae'n debyg iddo fynychu ysgol fach a gynhelid yng Nglanrhyd Bach, cyn i honno symud i Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda. Ym 1843, roedd yn un o ddisgyblion cyntaf Ysgol Y Bontnewydd. Ar ôl cael ei hyfforddi'n feddyg ym Mirmingham, dychwelodd i'w fro enedigol, gan ymsefydlu yn Y Bontnewydd, lle bu'n gweithio fel meddyg am weddill ei oes hyd ei farwolaeth ym 1907.

Priododd ag Elizabeth Hughes, Wernlas Ddu, Rhostryfan ym 1873.[2] Roedd hi 15 mlynedd yn iau nag ef, ond bu farw ar ôl geni eu mab John Henry Howell Parry. Ymhen amser, etifeddodd John y Wernlas Ddu, lle bu'n dilyn gyrfa fel hyfforddwr ceffylau.[3]

Erbyn 1891 roedd Dr Parry wedi ail-briodi gyda Margaret Ellen, merch o blwyf Llanbeblig 25 mlynedd yn iau nag ef. Bu farw 5 Ebrill 1907 ar ôl cael strôc yn ei gartref.[4] Gadawodd eiddo gwerth £1952.[5]Roedd Mrs Parry'n dal i fyw yn Digbeth House tan o leiaf 1921.

Cyfeiriadau

  1. ↑ Cyfrifiad plwyf Llanwnda 1871
  2. ↑ Cofrestr briodasau plwyf Llanwnda, 1873
  3. ↑ Cofrestr priodasau plwyf Llanwnda, 1912
  4. ↑ Caernarvon and Denbigh Herald 5.4.1907, t.8
  5. ↑ North Wales Express 17.5.1907, t.3