Tyddyn Gwydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Saif annedd '''Tyddyn Gwŷdd''' heb fod ymhell o [[Gorsaf reilffordd Cyffordd Tryfan|Orsaf Cyffordd Tryfan]] ar [[Rheilffordd Eryri|Reilffordd Eryri]] ac fe'i lleolir yn [[Rhostryfan]] yng Nghyfeiriadur y Cod Post. Fodd bynnag, ''Tyddyn Gwydd'' heb acen grom o gwbl i ddangos sut y dylid ynganu'r enw a geir yn y Cyfeiriadur ac mewn sawl cyfeiriad arall. Ond mewn cofnod o 1858-9 yn llyfr siop Rhostryfan nodir ''Tyddun gwudd'', sy'n dangos y sain yn glir, gyda'r acen grom ar yr 'y' yn hytrach na'r 'w'. Anodd yw penderfynu ar ystyr ''gwŷdd'' yma; gall fod yn ''gwŷdd'' = coed, ''gwŷdd'' = gwehydd (''weaver''), neu hyd yn oed ''gwŷdd'' = y ffrâm y mae gwehydd yn gweithio arni. Fodd bynnag, mae rhai cofnodion yn cynnwys y fannod. ''Tyddyn y gwydd'' a geir mewn ewyllys o 1857 ac mae hynny efallai'n awgrymu mai cartref gwehydd oedd y tyddyn, yn hytrach na thyddyn mewn coed. Mae'n gyffredin iawn cael enw crefftwr ar ôl yr elfen ''tyddyn''. <ref>Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.246-7</ref> | Saif annedd '''Tyddyn Gwŷdd''' heb fod ymhell o [[Gorsaf reilffordd Cyffordd Tryfan|Orsaf Cyffordd Tryfan]] ar [[Rheilffordd Eryri|Reilffordd Eryri]] ac fe'i lleolir yn [[Rhostryfan]] yng Nghyfeiriadur y Cod Post - er bod y pentref hwnnw tua 4 milltir i ffwrdd ar hyd ffyrdd y gellir gyrru ar hyd-ddynt. Fodd bynnag, ''Tyddyn Gwydd'' heb acen grom o gwbl i ddangos sut y dylid ynganu'r enw a geir yn y Cyfeiriadur ac mewn sawl cyfeiriad arall. Ond mewn cofnod o 1858-9 yn llyfr siop Rhostryfan nodir ''Tyddun gwudd'', sy'n dangos y sain yn glir, gyda'r acen grom ar yr 'y' yn hytrach na'r 'w'. Anodd yw penderfynu ar ystyr ''gwŷdd'' yma; gall fod yn ''gwŷdd'' = coed, ''gwŷdd'' = gwehydd (''weaver''), neu hyd yn oed ''gwŷdd'' = y ffrâm y mae gwehydd yn gweithio arni. Fodd bynnag, mae rhai cofnodion yn cynnwys y fannod. ''Tyddyn y gwydd'' a geir mewn ewyllys o 1857 ac mae hynny efallai'n awgrymu mai cartref gwehydd oedd y tyddyn, yn hytrach na thyddyn mewn coed. Mae'n gyffredin iawn cael enw crefftwr ar ôl yr elfen ''tyddyn''. <ref>Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.246-7</ref> | ||
Arferai pobl leol gyfeirio at "Stesiwn Tŷ'n Gwŷdd" wrth sôn am Gyffordd Tryfan (yr enw swyddogol) ac mae'r arfer yn parhau hyd heddiw wedi i'r hen orsaf gael ei hailadeiladu fel arosfan ar Reilffordd ailanedig Eryri.<ref>Gwybodaeth leol</ref> | Arferai pobl leol gyfeirio at "Stesiwn Tŷ'n Gwŷdd" wrth sôn am Gyffordd Tryfan (yr enw swyddogol) ac mae'r arfer yn parhau hyd heddiw wedi i'r hen orsaf gael ei hailadeiladu fel arosfan ar Reilffordd ailanedig Eryri.<ref>Gwybodaeth leol</ref> |
Golygiad diweddaraf yn ôl 09:17, 5 Ebrill 2024
Saif annedd Tyddyn Gwŷdd heb fod ymhell o Orsaf Cyffordd Tryfan ar Reilffordd Eryri ac fe'i lleolir yn Rhostryfan yng Nghyfeiriadur y Cod Post - er bod y pentref hwnnw tua 4 milltir i ffwrdd ar hyd ffyrdd y gellir gyrru ar hyd-ddynt. Fodd bynnag, Tyddyn Gwydd heb acen grom o gwbl i ddangos sut y dylid ynganu'r enw a geir yn y Cyfeiriadur ac mewn sawl cyfeiriad arall. Ond mewn cofnod o 1858-9 yn llyfr siop Rhostryfan nodir Tyddun gwudd, sy'n dangos y sain yn glir, gyda'r acen grom ar yr 'y' yn hytrach na'r 'w'. Anodd yw penderfynu ar ystyr gwŷdd yma; gall fod yn gwŷdd = coed, gwŷdd = gwehydd (weaver), neu hyd yn oed gwŷdd = y ffrâm y mae gwehydd yn gweithio arni. Fodd bynnag, mae rhai cofnodion yn cynnwys y fannod. Tyddyn y gwydd a geir mewn ewyllys o 1857 ac mae hynny efallai'n awgrymu mai cartref gwehydd oedd y tyddyn, yn hytrach na thyddyn mewn coed. Mae'n gyffredin iawn cael enw crefftwr ar ôl yr elfen tyddyn. [1]
Arferai pobl leol gyfeirio at "Stesiwn Tŷ'n Gwŷdd" wrth sôn am Gyffordd Tryfan (yr enw swyddogol) ac mae'r arfer yn parhau hyd heddiw wedi i'r hen orsaf gael ei hailadeiladu fel arosfan ar Reilffordd ailanedig Eryri.[2]