Gwredog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae Gwredog yn cael ei enwi’n gynnar iawn oherwydd yr hanes (neu’r chwedl) am Cadwallon ap Cadfan, mab Cadfan Sant, yn rhoi tir Gwredog i [[Beuno Sant]]. Cododd dadl ynglŷn â hawl Cadwallon i’r tir, a symudodd Beuno ei eglwys i [[Clynnog Fawr|Glynnog]]. Ar dir Gwredog y mae [[Ffynnon Beuno (Llanwnda)|Ffynnon Beuno]]. Saif tir Gwredog ar lan ddeheuol [[Afon Gwyrfai]] tua milltir a hanner o bentref [[Y Bontnewydd]].

Mae tir Gwredog wedi ei rannu rhwng Gwredog Uchaf, Gwredog Isaf, Tan’rallt (neu Gwredog Tan’rallt), Gwredog Bach erbyn hyn, ac mae’n debyg y digwyddodd hynny fesul tipyn ar ôl i [[Ystad y Faenol]] ddod yn berchnogion yr eiddo yn y 18g. Cyn hynny, roedd wedi bod yn rhan o [[Ystad Plas-yn-Bont]] a chyn hynny’n eiddo i [[Ystad Lleuar]].<Gweler yr erthyglau yng Nghof y Cwmwd ar yr ystadau hynny</ref>
Mae tir Gwredog wedi ei rannu rhwng Gwredog Uchaf, Gwredog Isaf, Tan’rallt (neu Gwredog Tan’rallt) a Gwredog Bach erbyn hyn, ac mae’n debyg y digwyddodd hynny fesul tipyn ar ôl i [[Ystad Lleuar]] ddod yn berchnogion yr eiddo yn y 16g. Wedi hynny, bu'r ffermydd hyn yn rhan o [[Ystad Plas-yn-Bont]] ac wedyn yn eiddo i [[Ystad y Faenol]].<Gweler yr erthyglau yng Nghof y Cwmwd ar yr ystadau hynny</ref>

Cafodd [[John Evans (fforiwr)|John Evans]], a elwir fel rheol yn “John Evans, Waunfawr”, ei eni yng Ngwredog Uchaf ym 1770. Daeth yn enwog oherwydd ei waith ymysg pobl frodorol America, sef llwyth y Mandaniaid, ac fel mapiwr eu tiriogaeth.<ref>Bob Owen, Yr ymfudo o Sir Gaernarfon i’r Unol Daleithiau (I), (Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Cyf. 13 (1952)), t. 46</ref> Mab i deulu arall o’r Gwredog oedd [[Owen Jones, Gwredog|Owen Jones]] a ddarganfu lechi yn Slatington, Pensylfania tua 1845. .<ref>Bob Owen, Yr ymfudo o Sir Gaernarfon i’r Unol Daleithiau, (Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon (II), Cyf. 14 (1953)), t. 58</ref>

Llinell 10: Llinell 10:

Roedd Gwredog Isaf yn gartref i Gwilym Prichard a Claudia Williams, yr arlunwyr enwog, o 1980 hyd 1984 pan symudodd y cwpl i wlad Groeg, ac wedyn i Lydaw. Mae nifer o luniau o Gwredog Bach wedi'u paentio gan Gwilym Prichard yn y Llyfrgell Genedlaethol.<ref>Gwefan Robert Meyrick [https://robertmeyrick.co.uk/2018/05/21/gwilym-prichard/] cyrchwyd 4.12.2023</ref>

Mae tarddiad yr enw ''Gwredog'' yn ansicr. Mewn dogfen o 1646-7 (Casgliad Baron Hill, Prifysgol Bangor), ''Gweredog ucha / Gweredog issa'' a geir. Gwelir mai'r ffurf ''Gweredog'' a geir yno yn hytrach na'r ''Gwredog'' a geir yn yr enwau modern. Mewn llawer o'r ffynonellau gwelir yr -''e''- ymwthiol yn datblygu rhwng yr -''w''- a'r -''r''- yn Gwredog, ac ambell dro ceir -''a''- yn hytrach nag -''e''-. ''Gwaredog bach / Gwaredog isaf / Gwaredog uchaf'' sydd yn Rhestr Pennu Degwm 1839. Mae'n anodd iawn penderfynu ai ''gwaredog'' ynteu ''gweredog'' oedd y ffurf gysefin, ac nid yw ystyr yr enw'n glir o gwbl. Mae'n bosib ei fod yn cyfeirio at rywle a oedd ar lethr - yn yr ystyr 'rhedeg i lawr / ar i waered'.<ref>Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011),tt.180-1.</ref>

==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

[[Categori:Ffermydd]]
[[Categori:Ffermydd]]
[[Categori:Enwau lleoedd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:07, 18 Mawrth 2024

Mae Gwredog yn cael ei enwi’n gynnar iawn oherwydd yr hanes (neu’r chwedl) am Cadwallon ap Cadfan, mab Cadfan Sant, yn rhoi tir Gwredog i Beuno Sant. Cododd dadl ynglŷn â hawl Cadwallon i’r tir, a symudodd Beuno ei eglwys i Glynnog. Ar dir Gwredog y mae Ffynnon Beuno. Saif tir Gwredog ar lan ddeheuol Afon Gwyrfai tua milltir a hanner o bentref Y Bontnewydd.

Mae tir Gwredog wedi ei rannu rhwng Gwredog Uchaf, Gwredog Isaf, Tan’rallt (neu Gwredog Tan’rallt) a Gwredog Bach erbyn hyn, ac mae’n debyg y digwyddodd hynny fesul tipyn ar ôl i Ystad Lleuar ddod yn berchnogion yr eiddo yn y 16g. Wedi hynny, bu'r ffermydd hyn yn rhan o Ystad Plas-yn-Bont ac wedyn yn eiddo i Ystad y Faenol.<Gweler yr erthyglau yng Nghof y Cwmwd ar yr ystadau hynny</ref>

Cafodd John Evans, a elwir fel rheol yn “John Evans, Waunfawr”, ei eni yng Ngwredog Uchaf ym 1770. Daeth yn enwog oherwydd ei waith ymysg pobl frodorol America, sef llwyth y Mandaniaid, ac fel mapiwr eu tiriogaeth.[1] Mab i deulu arall o’r Gwredog oedd Owen Jones a ddarganfu lechi yn Slatington, Pensylfania tua 1845. .[2]

Ym 1841, ceid pedwar teulu’n byw yn nhai Gwredog: John Thomas, ffermwr 65 oed a’i deulu yng Ngwredog Tan’rallt; Thomas Owens, ffermwr 60 oed a’i blant yng Ngwredog Uchaf; John Davies, gwas fferm 40 oed a’i deulu hefyd yng Ngwredog Uchaf; Hugh Owens, ffermwr 69 oed a’i deulu yng Ngwredog Isaf; a William Lewis,75 oed, a’i ddau blentyn yng Ngwredog Bach. Ymhen 10 mlynedd, roedd gweddw John Thomas, Gwen, 64 oed, ei phlant a dau was yn byw yng Ngwredog Tan’rallt; Griffith Jones, 50 oed a’i deulu a Richard Owen (oedd yn chwarelwr) a’i deulu yntau yn byw mewn dau dŷ yng Ngwredog Uchaf; Thomas Williams, 44 oed, ei deulu a phedwar o weision yn byw yng Ngwredog Isaf; a Lewis Williams (mab William Lewis), 49 oed a’i wraig yng Ngwredog Bach. Mae’r cyfrifiad yn nodi maint y ffermydd hyn: Gwredog Tan’rallt yn 50 erw; Gwredog Uchaf yn 32 erw; Gwredog Isaf yn 100 erw; a Gwredog Bach yn 47 erw. Thomas Assheton Smith o’r Faenol oedd perchennog y ffermydd hyn, heblaw Gwaredog Bach, a oedd yn eiddo i Henry Rumsey Williams.[3]

Mae'n hysbys bod Gwredog Bach wedi ei gwerthu gan ystad Rumsey Williams ym 1871, a gwerthwyd Gwredog Uchaf gan Ystad y Faenol ym 1919.

Roedd Gwredog Isaf yn gartref i Gwilym Prichard a Claudia Williams, yr arlunwyr enwog, o 1980 hyd 1984 pan symudodd y cwpl i wlad Groeg, ac wedyn i Lydaw. Mae nifer o luniau o Gwredog Bach wedi'u paentio gan Gwilym Prichard yn y Llyfrgell Genedlaethol.[4]

Mae tarddiad yr enw Gwredog yn ansicr. Mewn dogfen o 1646-7 (Casgliad Baron Hill, Prifysgol Bangor), Gweredog ucha / Gweredog issa a geir. Gwelir mai'r ffurf Gweredog a geir yno yn hytrach na'r Gwredog a geir yn yr enwau modern. Mewn llawer o'r ffynonellau gwelir yr -e- ymwthiol yn datblygu rhwng yr -w- a'r -r- yn Gwredog, ac ambell dro ceir -a- yn hytrach nag -e-. Gwaredog bach / Gwaredog isaf / Gwaredog uchaf sydd yn Rhestr Pennu Degwm 1839. Mae'n anodd iawn penderfynu ai gwaredog ynteu gweredog oedd y ffurf gysefin, ac nid yw ystyr yr enw'n glir o gwbl. Mae'n bosib ei fod yn cyfeirio at rywle a oedd ar lethr - yn yr ystyr 'rhedeg i lawr / ar i waered'.[5]

Cyfeiriadau

  1. Bob Owen, Yr ymfudo o Sir Gaernarfon i’r Unol Daleithiau (I), (Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Cyf. 13 (1952)), t. 46
  2. Bob Owen, Yr ymfudo o Sir Gaernarfon i’r Unol Daleithiau, (Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon (II), Cyf. 14 (1953)), t. 58
  3. Map Degwm plwyf Llanwnda, 1841
  4. Gwefan Robert Meyrick [1] cyrchwyd 4.12.2023
  5. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011),tt.180-1.