Alice Henderson Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Alice Mary Jones''' (g.1867 ym Meddgelert) yn ferch hynaf John Henderson, tafarnwr a chasglwr tollau a aned yn yr Alban tua 1833 ond a oedd erbyn...'
 
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Alice Mary Jones''' (g.1867 ym Meddgelert) yn ferch hynaf John Henderson, tafarnwr a chasglwr tollau a aned yn yr Alban tua 1833 ond a oedd erbyn 1871 yn byw yng Nghaeathro, ac Anne ei wraig, a hanai o Feddgelert. Yn y man, trodd ei thad at waith fel chwarelwr. Yr ail o saith o blant ydoedd, a’i brawd hynaf oedd [[Alexander Henderson]], unawdydd bas ac arweinydd corau.
Roedd '''Alice Mary Jones''' (g.1867 ym Meddgelert) yn ferch hynaf John Henderson, tafarnwr a chasglwr tollau a aned yn yr Alban tua 1833 ond a oedd, erbyn 1871, yn byw yng Nghaeathro, ac Anne ei wraig, a hanai o Feddgelert. Yn y man, trodd ei thad at waith fel chwarelwr. Roedd Alice yr ail o saith o blant, a’i brawd hynaf oedd [[Alexander Henderson]], unawdydd bas ac arweinydd corau.

Daeth i amlygrwydd fel cantores y tu allan i fro ei mebyd am y tro cyntaf yn Eisteddfod Gadeiriol Meirion a gynhaliwyd ddechrau Ionawr 1889, pan enillodd yr unawd soprano.<ref>''Baner ac Amseroedd Cymru'', 5.1.1889, t.3</ref> Cyn diwedd y flwyddyn bu’n perfformio mewn cyngherddau ar draws Gogledd Cymru yn ogystal â chystadlu mewn eisteddfodau bach a mawr. Roedd hi hefyd yn gyfarwydd fel rhan o ddeuawd gyda’i brawd, Alexander Henderson.
Daeth i amlygrwydd fel cantores y tu allan i fro ei mebyd am y tro cyntaf yn Eisteddfod Gadeiriol Meirion, a gynhaliwyd ddechrau Ionawr 1889, pan enillodd yr unawd soprano.<ref>''Baner ac Amseroedd Cymru'', 5.1.1889, t.3</ref> Cyn diwedd y flwyddyn bu’n perfformio mewn cyngherddau ar draws Gogledd Cymru yn ogystal â chystadlu mewn eisteddfodau bach a mawr. Roedd hefyd yn gyfarwydd fel rhan o ddeuawd gyda’i brawd, Alexander Henderson.

Priododd â John Williams Jones, chwarelwr o blwyf [[Llanllyfni]] a mab i [[William W. Jones (Cyrus)]], ym 1890. Cartref y teulu oedd 7 Sgwâr y Farchnad, [[Pen-y-groes]] ar ôl i’r ddau briodi ond erbyn 1901 roeddynt wedi symud i Brodawel, 9 Ffordd Rhiwlas, [[Tal-y-sarn]]. Yn fuan, roedd Alice wedi magu cryn enw fel cantores o fri, gan fabwysiadu’r enw canol Henderson. Fel “Mrs Henderson Jones” y’i hadwaenid fel arfer ar bosteri ac mewn adroddiadau papur newydd, ond hyd yn oed yng Nghyfrifiad 1901 fe’i restrwyd fel “Alice H. Jones”.
Priododd ym 1890 â John Williams Jones, chwarelwr o blwyf [[Llanllyfni]] a mab i [[William W. Jones (Cyrus)]]. Cartref y teulu ar ôl i’r ddau briodi oedd 7 Sgwâr y Farchnad, [[Pen-y-groes]], ond erbyn 1901 roeddynt wedi symud i Brodawel, 9 Ffordd Rhiwlas, [[Tal-y-sarn]]. Yn fuan, roedd Alice wedi magu cryn enw fel cantores o fri, gan fabwysiadu’r enw canol Henderson. Fel “Mrs Henderson Jones” yr adwaenid hi fel rheol ar bosteri ac mewn adroddiadau papur newydd, ond hyd yn oed yng Nghyfrifiad 1901 fe’i rhestrwyd fel “Alice H. Jones”.

Cafodd y pâr o leiaf bedwar o blant, Arthur Henderson (g.1892); Emyr R., a fu farw'n fabi ym 1900; Eluned (g.1901); ac Ednyfed (g.1909). Erbyn 1911, roedd gŵr Alice wedi sicrhau dyrchafiad i fod yn oruchwyliwr yn y chwarel, ac Arthur wedi cael gwaith fel peiriannydd yn y chwarel. Roedd y teulu’n dal i fyw ym Mrodawel.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanrug, 1871; a phlwyf Llanllyfni, 1881-1911</ref>

Yn gynnar ym 1914, ymfudodd y teulu i’r Unol Daleithiau, gan ymsefydlu yn Plymouth. Casglwyd tysteb i’w gŵr am ei wasanaeth fel blaenor ac athro'r ysgol Sul yng [[Capel Tal-y-sarn (MC)|Nghapel Mawr Tal-y-sarn]], a gwnaed yr un fath trwy’r dyffryn er mwyn cydnabod Alice am ei gwaith fel cantores.<ref>''Y Genedl'', 13.1.1914, t.3</ref> Gwerthwyd Brodawel, gan gynnwys yr holl ddodrefn a phiano ardderchog Alice ar ddechrau Ebrill.<ref>''Yr Herald Cymraeg'', 31.3.1914, t.4</ref>
Yn gynnar ym 1914, ymfudodd y teulu i’r Unol Daleithiau, gan ymsefydlu yn nhref Plymouth yn nhalaith Massachusetts. Casglwyd tysteb i’w gŵr am ei wasanaeth fel blaenor ac athro ysgol Sul yng [[Capel Tal-y-sarn (MC)|Nghapel Mawr Tal-y-sarn]], a gwnaed yr un fath trwy’r dyffryn er mwyn cydnabod Alice am ei gwaith fel cantores.<ref>''Y Genedl'', 13.1.1914, t.3</ref> Gwerthwyd Brodawel ddechrau Ebrill, gan gynnwys yr holl ddodrefn a phiano ardderchog Alice.<ref>''Yr Herald Cymraeg'', 31.3.1914, t.4</ref>

Mae adroddiad am gyfarfod anrhegu a ffarwelio Alice a ymddangosodd yn ''Y Genedl'' fis Mai 1914 yn werth ei atgynhyrchu’n llawn, gan ei bod yn dangos naws a chyfoeth cerddoriaeth yn [[Dyffryn Nantlle|y dyffryn]] yr adeg honno:
Mae adroddiad am gyfarfod anrhegu a ffarwelio Alice a ymddangosodd yn ''Y Genedl'' fis Mai 1914 yn werth ei atgynhyrchu’n llawn, gan ei fod yn dangos naws a chyfoeth cerddoriaeth yn [[Dyffryn Nantlle|y dyffryn]] yr adeg honno:

  FFARWELIO.-Fel mae'n hysbys i lawer fod ym mwriad Mrs. Henderson Jones, a'r teulu, gefnu ar Ddyffryn Nantlle a chartrefu yn yr Amerig. Bu yn hynod o wasanaethgar yn ein mysg a gwnaeth lawer i helpu a chynorthwyo amryw trwy wasanaethu mewn cyngherddau elusennol. Teimlodd amryw fod yr amser wedi dod i gydnabod peth am y gwasanaeth. Ffurfiwyd pwyllgor yn y dyffryn a gweithredodd Mr. Meiwyn Jones a Mr. M. Llywelyn Jones fel dau ysgrifennydd ymroddgar. Penderfynwyd cyflwyno y dysteb ym Mhen-y-groes nos lau diweddaf, a dyna, wnaed yn Festri Bethel. Cymerwyd y gadair gan Mr. Rowland Williams, Tal-y-sarn, a sylwodd yng nghwrs ei anerchiad mae adeg brudd ydoedd yr adeg pan oedd yr adar yn gadael ein gwlad am wledydd tramor. Diolchai am wasanaeth Mrs. Jones, a da oedd ganddo fod swm sylweddol wedi ei gasglu, ac yn dangos mwy o ewyllys i roi nag o foddion. Hyderai na fyddai iddi golli ysbryd y gan yn y Gorllewin. Yr oedd awenau'r cyfarfod yn nwylo Mr. W. W. Thomas, Llys Arfon, ac yn cwbl ddiogel. Trefnodd y pwyllgor gyngerdd gwych iawn, ac fel y canlyn y gwasanaethwyd “Unwaith eto yng Nghymru annwyl” Mr. G. J. Roberts, Tal-y-sarn; “Gwlad y Bryniau” Miss Gwladys Griffiths, Amlwch; deuawd "Gwyliwr, beth am y nos?" [[Y Brodyr Francis|Brodyr Francis]], [[Nantlle]]; “Craig yr Oesoedd” Mr. Richard Williams, Pen-y-groes; "Marchog." E. Walter Williams; canu penillion, Mr. O.W. Francis, ac ail-alwyd ef; "Pwy fel fy mam” Miss Gwladys Griffiths, ac mewn atebiad i encôr canodd “Cartref”. Yna cyflwynwyd 'cheque' am swm sylweddol i Mrs. Henderson Jones gan Mr. [[H.E. Jones (Hywel Cefni)]] llywydd y pwyllgor. Y cyflwyniad a’r gydnabyddiaeth yn ddoeth a phwrpasol. Yna yn dilyn, cân "Cofio’r gymwynas” gan Mr. G. W. Francis; “Cymru” Mr. G. J. Roberts. Diolchwyd gan y Mri. R.O. Williams, Tal-y-sarn, a D.W. Davies, Llanllyfni. Wedi hynny cân “Friend” gan Miss Griffiths; canu penillion “Pawb a phob peth yn mynd yn hen” Brodyr Francis, a bu raid iddynt ail-ymddangos, a chanasant yn ddoniol “We are two ballad singers”. Cyfeiliwyd yn fedrus yn ôl ei arfer gan Mr. J. W. Roberts, [[Llandwrog]]. Cafwyd gwasanaeth parod [[Seindorf Arian Dyffryn Nantlle|Seindorf Arian y Dyffryn]], o dan arweiniad Mr. B. H. Jones. Terfynwyd trwy ganu “Hen Wlad fy Nhadau”, o dan arweiniad Mr. E. Walter Williams. Cafwyd cyngerdd rhagorol, y doniau lleol, fel arfer, yn gymeradwy a Miss Gwladys Griffiths ai ei hymddangosiad cyntaf yn y dyffryn yn gadael argraff ffafriol fel cantores hynod o addawol.<ref>''Y Genedl'', 5.5.1914, t.3</ref>

Bu Alice yn parhau i ganu mewn cyngherddau yn yr Amerig, gan gynnwys mannau fel Efrog Newydd, Wilkes Barr a Utica. Mae’n amlwg oddi wrth adroddiadau yn ''Y Drych'' ei bod wedi llwyddo i ailafael yn (os nad gwella ar) ei gyrfa fel cantores. Aeth eu mab Arthur ymlaen i fod yn ganwr proffesiynol hyfforddedig yn America.<ref>''Y Drych'', 1915-1919, ''passim''</ref>
Bu Alice yn parhau i ganu mewn cyngherddau yn yr Amerig, gan gynnwys mannau fel Efrog Newydd, Wilkes-Barre ac Utica. Mae’n amlwg oddi wrth adroddiadau yn ''Y Drych'' ei bod wedi llwyddo i ailafael yn ei gyrfa fel cantores a hyd yn oed ei datblygu ymhellach. Aeth eu mab Arthur ymlaen i fod yn ganwr proffesiynol hyfforddedig yn America.<ref>''Y Drych'', 1915-1919, ''passim''</ref>

==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Cantorion]]
[[Categori:Cantorion]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 12:03, 9 Ionawr 2023

Roedd Alice Mary Jones (g.1867 ym Meddgelert) yn ferch hynaf John Henderson, tafarnwr a chasglwr tollau a aned yn yr Alban tua 1833 ond a oedd, erbyn 1871, yn byw yng Nghaeathro, ac Anne ei wraig, a hanai o Feddgelert. Yn y man, trodd ei thad at waith fel chwarelwr. Roedd Alice yr ail o saith o blant, a’i brawd hynaf oedd Alexander Henderson, unawdydd bas ac arweinydd corau.

Daeth i amlygrwydd fel cantores y tu allan i fro ei mebyd am y tro cyntaf yn Eisteddfod Gadeiriol Meirion, a gynhaliwyd ddechrau Ionawr 1889, pan enillodd yr unawd soprano.[1] Cyn diwedd y flwyddyn bu’n perfformio mewn cyngherddau ar draws Gogledd Cymru yn ogystal â chystadlu mewn eisteddfodau bach a mawr. Roedd hefyd yn gyfarwydd fel rhan o ddeuawd gyda’i brawd, Alexander Henderson.

Priododd ym 1890 â John Williams Jones, chwarelwr o blwyf Llanllyfni a mab i William W. Jones (Cyrus). Cartref y teulu ar ôl i’r ddau briodi oedd 7 Sgwâr y Farchnad, Pen-y-groes, ond erbyn 1901 roeddynt wedi symud i Brodawel, 9 Ffordd Rhiwlas, Tal-y-sarn. Yn fuan, roedd Alice wedi magu cryn enw fel cantores o fri, gan fabwysiadu’r enw canol Henderson. Fel “Mrs Henderson Jones” yr adwaenid hi fel rheol ar bosteri ac mewn adroddiadau papur newydd, ond hyd yn oed yng Nghyfrifiad 1901 fe’i rhestrwyd fel “Alice H. Jones”.

Cafodd y pâr o leiaf bedwar o blant, Arthur Henderson (g.1892); Emyr R., a fu farw'n fabi ym 1900; Eluned (g.1901); ac Ednyfed (g.1909). Erbyn 1911, roedd gŵr Alice wedi sicrhau dyrchafiad i fod yn oruchwyliwr yn y chwarel, ac Arthur wedi cael gwaith fel peiriannydd yn y chwarel. Roedd y teulu’n dal i fyw ym Mrodawel.[2]

Yn gynnar ym 1914, ymfudodd y teulu i’r Unol Daleithiau, gan ymsefydlu yn nhref Plymouth yn nhalaith Massachusetts. Casglwyd tysteb i’w gŵr am ei wasanaeth fel blaenor ac athro ysgol Sul yng Nghapel Mawr Tal-y-sarn, a gwnaed yr un fath trwy’r dyffryn er mwyn cydnabod Alice am ei gwaith fel cantores.[3] Gwerthwyd Brodawel ddechrau Ebrill, gan gynnwys yr holl ddodrefn a phiano ardderchog Alice.[4]

Mae adroddiad am gyfarfod anrhegu a ffarwelio Alice a ymddangosodd yn Y Genedl fis Mai 1914 yn werth ei atgynhyrchu’n llawn, gan ei fod yn dangos naws a chyfoeth cerddoriaeth yn y dyffryn yr adeg honno:

FFARWELIO.-Fel mae'n hysbys i lawer fod ym mwriad Mrs. Henderson Jones, a'r teulu, gefnu ar Ddyffryn Nantlle a chartrefu yn yr Amerig. Bu yn hynod o wasanaethgar yn ein mysg a gwnaeth lawer i helpu a chynorthwyo amryw trwy wasanaethu mewn cyngherddau elusennol. Teimlodd amryw fod yr amser wedi dod i gydnabod peth am y gwasanaeth. Ffurfiwyd pwyllgor yn y dyffryn a gweithredodd Mr. Meiwyn Jones a Mr. M. Llywelyn Jones fel dau ysgrifennydd ymroddgar. Penderfynwyd cyflwyno y dysteb ym Mhen-y-groes nos lau diweddaf, a dyna, wnaed yn Festri Bethel. Cymerwyd y gadair gan Mr. Rowland Williams, Tal-y-sarn, a sylwodd yng nghwrs ei anerchiad mae adeg brudd ydoedd yr adeg pan oedd yr adar yn gadael ein gwlad am wledydd tramor. Diolchai am wasanaeth Mrs. Jones, a da oedd ganddo fod swm sylweddol wedi ei gasglu, ac yn dangos mwy o ewyllys i roi nag o foddion. Hyderai na fyddai iddi golli ysbryd y gan yn y Gorllewin. Yr oedd awenau'r cyfarfod yn nwylo Mr. W. W. Thomas, Llys Arfon, ac yn cwbl ddiogel. Trefnodd y pwyllgor gyngerdd gwych iawn, ac fel y canlyn y gwasanaethwyd “Unwaith eto yng Nghymru annwyl” Mr. G. J. Roberts, Tal-y-sarn; “Gwlad y Bryniau” Miss Gwladys Griffiths, Amlwch; deuawd "Gwyliwr, beth am y nos?" Brodyr Francis, Nantlle; “Craig yr Oesoedd” Mr. Richard Williams, Pen-y-groes; "Marchog." E. Walter Williams; canu penillion, Mr. O.W. Francis, ac ail-alwyd ef; "Pwy fel fy mam” Miss Gwladys Griffiths, ac mewn atebiad i encôr canodd “Cartref”. Yna cyflwynwyd 'cheque' am swm sylweddol i Mrs. Henderson Jones gan Mr. H.E. Jones (Hywel Cefni) llywydd y pwyllgor. Y cyflwyniad a’r gydnabyddiaeth yn ddoeth a phwrpasol. Yna yn dilyn, cân "Cofio’r gymwynas” gan Mr. G. W. Francis; “Cymru” Mr. G. J. Roberts. Diolchwyd gan y Mri. R.O. Williams, Tal-y-sarn, a D.W. Davies, Llanllyfni. Wedi hynny cân “Friend” gan Miss Griffiths; canu penillion “Pawb a phob peth yn mynd yn hen” Brodyr Francis, a bu raid iddynt ail-ymddangos, a chanasant yn ddoniol “We are two ballad singers”. Cyfeiliwyd yn fedrus yn ôl ei arfer gan Mr. J. W. Roberts, Llandwrog. Cafwyd gwasanaeth parod Seindorf Arian y Dyffryn, o dan arweiniad Mr. B. H. Jones. Terfynwyd trwy ganu “Hen Wlad fy Nhadau”, o dan arweiniad Mr. E. Walter Williams. Cafwyd cyngerdd rhagorol, y doniau lleol, fel arfer, yn gymeradwy a Miss Gwladys Griffiths ai ei hymddangosiad cyntaf yn y dyffryn yn gadael argraff ffafriol fel cantores hynod o addawol.[5]

Bu Alice yn parhau i ganu mewn cyngherddau yn yr Amerig, gan gynnwys mannau fel Efrog Newydd, Wilkes-Barre ac Utica. Mae’n amlwg oddi wrth adroddiadau yn Y Drych ei bod wedi llwyddo i ailafael yn ei gyrfa fel cantores a hyd yn oed ei datblygu ymhellach. Aeth eu mab Arthur ymlaen i fod yn ganwr proffesiynol hyfforddedig yn America.[6]

Cyfeiriadau

  1. Baner ac Amseroedd Cymru, 5.1.1889, t.3
  2. Cyfrifiad plwyf Llanrug, 1871; a phlwyf Llanllyfni, 1881-1911
  3. Y Genedl, 13.1.1914, t.3
  4. Yr Herald Cymraeg, 31.3.1914, t.4
  5. Y Genedl, 5.5.1914, t.3
  6. Y Drych, 1915-1919, passim