Melin Faesog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 10 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Y mae hanes hir i'r felin ŷd a adwaenir fel '''Melin Faesog''' (neu "Felin-faesog") sydd yn sefyll ar lan [[Afon Desach]] ger treflan [[Tai Lôn]] ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]]. Heb fod ymhell llifa afonig [[Afon Rheon]] i Afon Desach. Dŵr o lyn a gronnid ar yr afonig honno fyddai'n troi olwyn y felin. | Y mae hanes hir i'r felin ŷd a adwaenir fel '''Melin Faesog''' (neu "Felin-faesog") sydd yn sefyll ar lan [[Afon Desach]] ger treflan [[Tai Lôn]] ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]]. Heb fod ymhell llifa afonig [[Afon Rheon]] i Afon Desach. Dŵr o lyn a gronnid ar yr afonig honno fyddai'n troi olwyn y felin. Mae lle i gredu mai'r Afon Rheon hon oedd dan sylw yn rhai o Englynion y Beddau. Dyfynnir dau ohonynt gan Eben Fardd yn ''Cyff Beuno''. Tybir eu bod yn perthyn i'r nawfed a'r ddegfed ganrif: | ||
<br />Yn y ddêl Kadwaladr i Gynnadl Rhyd Rheon, | <br />Yn y ddêl Kadwaladr i Gynnadl Rhyd Rheon, | ||
Llinell 11: | Llinell 11: | ||
<br />Bedd Cynon yn Rheon Ryd. | <br />Bedd Cynon yn Rheon Ryd. | ||
Aeth y felin, wedi iddi beidio â malu, o dipyn i beth yn ddim gwell na murddun, ond | Aeth y felin, wedi iddi beidio â malu, o dipyn i beth yn ddim gwell na murddun, ond ym 1983, fe'i hadferwyd yn amgueddfa a chyrchfan i dwristiaid. Mae'r sawl oedd yn gyfrifol am y gwaith, Sophia Pari-Jones, wedi gwneud llawer o ymchwil i'r felin ac wedi adrodd y stori mewn dau lyfr.<ref>Sophia Pari-Jones, ''Melin Faesog'' cyfieithiwyd a chrynhowyd gan Mair Eluned Pritchard a chyhoeddwyd gan Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai, 2007, a llyfr Saesneg ''Echoes from a Water Wheel'' (hunan-gyhoeddedig, 2011)</ref>. | ||
Ceir y cofnod cyntaf o'r felin mor gynnar â | Ceir y cofnod cyntaf o'r felin mor gynnar â 1640, ac yr oedd hi'n hen iawn y pryd hynny, gan fod cofnod yn ewyllys y perchennog ar y pryd, Thomas Humphreys, [[Bachwen]], lle sonnir am 'Felin Faesog a elwid o'r blaen yn "Melin y buarth hen".'<ref>LlGC, Ewyllys Thomas Humphreys, B/1640/3</ref> Ceir cofnod am y sawl oedd yn gweithio'r felin am y tro cyntaf ym 1677 pan oedd ar y melinydd ar y pryd, John Griffith, £4 am y brydles a gafwyd ganddo gan Abraham Williams.<ref>Prif Gofrestrfa Brofiannaeth, PCC Reeve 80, Ewyllys Abraham Williams</ref>. Mae'n debyg ei bod yn rhan o'r un pecyn o eiddo â fferm [[Bachwen]], gan fod y ddwy ym mherchnogaeth John Rowlands, Nant, Betws Garmon. Ym 1724, £6 y flwyddyn oedd rhent y felin. Erbyn 1841, William Williams oedd y melinydd, ac ym 1865, [[Emanuel Evans]] oedd tenant y felin, ynghyd â 5 acer o dir. Owen Jones oedd y perchennog.<ref>Llyfr rhenti plwyf Clynnog Fawr, 1865</ref> | ||
'''Melinwyr Melin Faesog 1682-1920'''<ref>PCC Reeve 80, gweler uchod; ''Echoes from a water wheel'' gan Sophia Pari-Jones, eto 2011</ref>. | |||
'' 1677 John Griffith.'' Prydlesai'r felin. | |||
'' 1682 Robert Griffith'' Hanai o Ddrws-y-coed. Roedd yn briod â Lowry, chwaer John Rowlands, Plas-y-Nant, Betws Garmon. | |||
'' 1719 Meyrick Barnaby'' Priod â Mary, merch hynaf Robert Griffith a Lowri Rowlands. | |||
'' 1746'' [[Robert Price, Melin Faesog|''Robert Price'']] Melinydd a Saer. Priod â Catherine Meyrick, unig ferch Meyrick Barnaby Un o sylfaenwyr ac adeiladwyr capel cyntaf [[Capel Uchaf (MC), Clynnog Fawr]]. | |||
'' 1806 Samuel Roberts'' | |||
'' 1829 Richard Roberts'' | |||
'' 1840 William Williams'' | |||
'' 1846 Richard Williams'' | |||
'' 1857 Emanuel Evans'' | |||
'' 1859 David Evans'' | |||
'' 1890 John Jones'' | |||
'' 1908 Daniel Roberts'' | |||
'' 1920 John Jones'' | |||
Llinell 23: | Llinell 51: | ||
[[Categori:Melinau]] | [[Categori:Melinau]] | ||
[[Categori:Melinwyr]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 17:47, 4 Mawrth 2023
Y mae hanes hir i'r felin ŷd a adwaenir fel Melin Faesog (neu "Felin-faesog") sydd yn sefyll ar lan Afon Desach ger treflan Tai Lôn ym mhlwyf Clynnog Fawr. Heb fod ymhell llifa afonig Afon Rheon i Afon Desach. Dŵr o lyn a gronnid ar yr afonig honno fyddai'n troi olwyn y felin. Mae lle i gredu mai'r Afon Rheon hon oedd dan sylw yn rhai o Englynion y Beddau. Dyfynnir dau ohonynt gan Eben Fardd yn Cyff Beuno. Tybir eu bod yn perthyn i'r nawfed a'r ddegfed ganrif:
Yn y ddêl Kadwaladr i Gynnadl Rhyd Rheon,
Kynon yn erbyn cychwyn ar Saeson,
Kymry a orfydd, kain fydd e dragon
Kaffant pawb ei deithi llawen fi Brython,
Kaintor cyrn elwch kathl heddwch a hinon.
Bedd Rhun mab Pŷd yn Ergyd
Afon, yn oerfel yng ngweryd,
Bedd Cynon yn Rheon Ryd.
Aeth y felin, wedi iddi beidio â malu, o dipyn i beth yn ddim gwell na murddun, ond ym 1983, fe'i hadferwyd yn amgueddfa a chyrchfan i dwristiaid. Mae'r sawl oedd yn gyfrifol am y gwaith, Sophia Pari-Jones, wedi gwneud llawer o ymchwil i'r felin ac wedi adrodd y stori mewn dau lyfr.[1].
Ceir y cofnod cyntaf o'r felin mor gynnar â 1640, ac yr oedd hi'n hen iawn y pryd hynny, gan fod cofnod yn ewyllys y perchennog ar y pryd, Thomas Humphreys, Bachwen, lle sonnir am 'Felin Faesog a elwid o'r blaen yn "Melin y buarth hen".'[2] Ceir cofnod am y sawl oedd yn gweithio'r felin am y tro cyntaf ym 1677 pan oedd ar y melinydd ar y pryd, John Griffith, £4 am y brydles a gafwyd ganddo gan Abraham Williams.[3]. Mae'n debyg ei bod yn rhan o'r un pecyn o eiddo â fferm Bachwen, gan fod y ddwy ym mherchnogaeth John Rowlands, Nant, Betws Garmon. Ym 1724, £6 y flwyddyn oedd rhent y felin. Erbyn 1841, William Williams oedd y melinydd, ac ym 1865, Emanuel Evans oedd tenant y felin, ynghyd â 5 acer o dir. Owen Jones oedd y perchennog.[4]
Melinwyr Melin Faesog 1682-1920[5].
1677 John Griffith. Prydlesai'r felin.
1682 Robert Griffith Hanai o Ddrws-y-coed. Roedd yn briod â Lowry, chwaer John Rowlands, Plas-y-Nant, Betws Garmon.
1719 Meyrick Barnaby Priod â Mary, merch hynaf Robert Griffith a Lowri Rowlands.
1746 Robert Price Melinydd a Saer. Priod â Catherine Meyrick, unig ferch Meyrick Barnaby Un o sylfaenwyr ac adeiladwyr capel cyntaf Capel Uchaf (MC), Clynnog Fawr.
1806 Samuel Roberts
1829 Richard Roberts
1840 William Williams
1846 Richard Williams
1857 Emanuel Evans
1859 David Evans
1890 John Jones
1908 Daniel Roberts
1920 John Jones
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Sophia Pari-Jones, Melin Faesog cyfieithiwyd a chrynhowyd gan Mair Eluned Pritchard a chyhoeddwyd gan Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai, 2007, a llyfr Saesneg Echoes from a Water Wheel (hunan-gyhoeddedig, 2011)
- ↑ LlGC, Ewyllys Thomas Humphreys, B/1640/3
- ↑ Prif Gofrestrfa Brofiannaeth, PCC Reeve 80, Ewyllys Abraham Williams
- ↑ Llyfr rhenti plwyf Clynnog Fawr, 1865
- ↑ PCC Reeve 80, gweler uchod; Echoes from a water wheel gan Sophia Pari-Jones, eto 2011