Mary Owen (Mair Alaw): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 6 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Yr oedd '''Mary Owen''' (1851-1881), soprano a ddefnyddiai'r enw "Mair Alaw" wrth berfformio, yn un o gantorion mwyaf disglair [[Dyffryn Nantlle]] yn ail hanner y 19g. Ei chartref oedd Brynteg, [[Tal-y-sarn]].
Yr oedd '''Mary Owen''' (1851-1881), soprano a ddefnyddiai'r enw "Mair Alaw" wrth berfformio, yn un o gantorion mwyaf disglair [[Dyffryn Nantlle]] yn ail hanner y 19g. Ei chartref oedd 4 Pen-y-bont, [[Nantlle]] cyn i'r teulu symud i Frynteg, [[Tal-y-sarn]] rywbryd cyn 1871. Yr oedd ei thad, Owen Owens, yn grydd a aned i Owen a Mary Owens ym 1813 ac a hanai o Lanengan; yr oedd ei mam, Margaret, o Walchmai, Ynys Môn. Bu i'r ddau briodi yn [[Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni]] 16 Mawrth 1841.<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr Priodasau plwyf Llanllyfni, 1841</ref> Mary oedd y pedwerydd o saith o blant ac erbyn iddi gyrraedd ei 10 oed roedd hi'n gweithio fel morwyn.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni 1851-71</ref>


Roedd ei thalent mor amlwg fel y bu peth ohebu yn ‘’Y Goleuad’’ ar ddechrau 1872 yn annog rhywrai i ariannu addysg gerddorol iddi gan na allai ei theulu fforddio talu am hynny. Ymysg y llythyrau yn y papur cafwyd un gan rywun a alwodd ei hun yn “Edmygwr Talent”, lle mae’r llythyrwr yn rhoi peth o’i hanes:
Roedd ei doniau mor amlwg fel y bu peth gohebu yn ‘’Y Goleuad’’ ar ddechrau 1872 yn annog rhywrai i ariannu addysg gerddorol iddi gan na allai ei theulu fforddio talu am hynny. Ymysg y llythyrau yn y papur cafwyd un gan rywun a alwodd ei hun yn “Edmygwr Talent”, lle mae’r llythyrwr yn rhoi peth o’i hanes:


  Y mae Mair Alaw, Talysarn, yn deilwng iawn o sylw'r wlad. Mor lleied peth a fyddai i holl chwarelwyr Talysarn roddi ysgol iddi. Y mae rhywun yn y GOLEUAD yn gofyn am hynyma. Y mae yn Talysarn Private School yn bresennol, yn cael ei chadw gan Miss Owen, merch Owain Alaw,<ref>Prin mai John Owen (Owain Alaw), y cerddor enwog o Gaer oedd hwn, gan nad oedd gan hwnnw ferch</ref> yr hon sydd yn athrawes nodedig o dda mewn music; gellid yn naturiol ddisgwyl hynny, canys y mae ei thad, Owain Alaw, yn un nodedig o dda ei hun yn hyn. Clywsom fod un bonheddwr o Talysarn wedi anfon Mair Alaw i'r ysgol honno i ddysgu music.<ref>’’Y Goleuad’’, 2.3.1872, t.4</ref>
  Y mae Mair Alaw, Talysarn, yn deilwng iawn o sylw'r wlad. Mor lleied peth a fyddai i holl chwarelwyr Talysarn roddi ysgol iddi. Y mae rhywun yn y GOLEUAD yn gofyn am hynyma. Y mae yn Talysarn Private School yn bresennol, yn cael ei chadw gan Miss Owen, merch Owain Alaw,<ref>Prin mai John Owen (Owain Alaw), y cerddor enwog o Gaer oedd hwn, gan nad oedd gan hwnnw ferch</ref> yr hon sydd yn athrawes nodedig o dda mewn music; gellid yn naturiol ddisgwyl hynny, canys y mae ei thad, Owain Alaw, yn un nodedig o dda ei hun yn hyn. Clywsom fod un bonheddwr o Talysarn wedi anfon Mair Alaw i'r ysgol honno i ddysgu music.<ref>’’Y Goleuad’’, 2.3.1872, t.4</ref>


Yn Rhagfyr 1874, fe briododd William Francis, dyn a hanai’n wreiddiol o’r [[Rhyd-ddu]], swyddog yn Chwarel Moelfre, Cwm Pennant, yn y Tabernacl, Porthmadog, ac fe ymsefydlodd y pâr priod ym Mryn-y-wern, Cwm Pennant. Roedd hi’n canu o 1868 ymlaen os nad yn gynt na hynny gyda’r [[Tal-y-sarn Glee Society]], côr hynod lwyddiannus dan arweiniad Hugh Owen y sylfaenydd, gan weithredu’n aml fel unawdydd i’r côr.<ref>’’Y Cerddor Cymreig’’, 1.1.1869, t.7</ref> Bu iddi ddod i adnabod ei gŵr William Francis yn y Glee Society a arweiniwyd ganddo yntau am gyfnod. Yr oedd William fel ei wraig yn gerddor da, a chafodd eu meibion, Griffith (g.1876) ac Owen (g.1879), sef [[Y Brodyr Francis]], yr un ddawn ganddynt. Fel y nodir yn ‘’Y Goleuad’’, byddai’r uniad yn golled i Ddyffryn Nantlle:
Yn Rhagfyr 1874, yn Y Tabernacl, Porthmadog fe briododd â William Francis, dyn a hanai’n wreiddiol o’r [[Rhyd-ddu]], swyddog yn Chwarel Moelfre, Cwm Pennant, ac fe ymsefydlodd y pâr priod ym Mryn-y-wern, Cwm Pennant. Roedd hi’n canu o 1868 ymlaen, os nad yn gynt na hynny, gyda’r [[Tal-y-sarn Glee Society]], côr hynod lwyddiannus dan arweiniad Hugh Owen, ei sylfaenydd, gan weithredu’n aml fel unawdydd i’r côr.<ref>’’Y Cerddor Cymreig’’, 1.1.1869, t.7</ref> Bu iddi ddod i adnabod ei gŵr William Francis yn y Glee Society, a arweiniwyd ganddo yntau am gyfnod. Yr oedd William fel ei wraig yn gerddor da, a chafodd eu meibion, Griffith (g.1876) ac Owen (g.1879), sef [[Y Brodyr Francis]], yr un ddawn ganddynt. Fel y nodir yn ‘’Y Goleuad’’, byddai’r uniad yn golled i Ddyffryn Nantlle:


  Bydd eu hymadawiad o Dalysarn yn golled bwysig i achos y canu. Mr Francis oedd arweinydd y Talysarn Glee Society ac yr oedd trwy ei dalent a'i ddiwydrwydd wedi llwyddo i ddyrchafu'r côr hwnnw i safle uwch o bosibl nag y bu erioed o'r blaen. Am Mair Alaw y mae ei chlod hi ar led trwy Gymru fel cantores yn meddu ar lais swynol, ac o chwaeth bur. Dymunem bob hapusrwydd iddynt yn eu sefyllfa newydd, ac yn eu hardal newydd.<ref>’’Y Goleuad’’, 2.1.1875</ref>
  Bydd eu hymadawiad o Dalysarn yn golled bwysig i achos y canu. Mr Francis oedd arweinydd y Talysarn Glee Society ac yr oedd trwy ei dalent a'i ddiwydrwydd wedi llwyddo i ddyrchafu'r côr hwnnw i safle uwch o bosibl nag y bu erioed o'r blaen. Am Mair Alaw y mae ei chlod hi ar led trwy Gymru fel cantores yn meddu ar lais swynol, ac o chwaeth bur. Dymunem bob hapusrwydd iddynt yn eu sefyllfa newydd, ac yn eu hardal newydd.<ref>’’Y Goleuad’’, 2.1.1875</ref>
Roedd Mair Alaw yn un o brif gantorion y Glee Society ac yn unawdydd cyson yn eu cyngherddau. Cafodd Mair Alaw ei hun alwadau cyson o bob man yng Ngogledd Cymru ac ymhellach i ganu mewn cyngherddau, gan gynnwys canu sawl gwaith yn Neuadd y Ffilharmonig yn Lerpwl. Yr oedd hi ar ei ffordd i gadw cyngerdd yn Lerpwl ym 1880, gan deithio mewn cert a dynnid gan geffyl am ran o’r siwrne, pan fu’r gert mewn damwain ac fe’i taflwyd hi o’r cerbyd. Difethodd y ddamwain honno ei hiechyd a bu farw un mis ar hugain wedyn, ar ôl yr hyn a ddisgrifiwyd fel “cystudd blin”, ar 13 Medi 1881, . <ref> Gwefan Cymru Fyw 13.12.2021 [https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/59588029], cyrchwyd 4.3.2022; ‘’Y Cyfaill o’r Hen Wlad yn America’’, 1881, t.447</ref>
Roedd Mair Alaw yn un o brif gantorion y Glee Society ac yn unawdydd cyson yn eu cyngherddau. Cafodd Mair Alaw ei hun alwadau cyson o bob man yng Ngogledd Cymru, ac ymhellach, i ganu mewn cyngherddau, gan gynnwys canu sawl gwaith yn Neuadd y Ffilharmonig yn Lerpwl. Yr oedd hi ar ei ffordd i gadw cyngerdd yn Lerpwl ym 1880, gan deithio mewn cert a dynnid gan geffyl am ran o’r siwrne, pan fu’r gert mewn damwain ac fe’i taflwyd hi o’r cerbyd. Difethodd y ddamwain honno ei hiechyd a bu farw un mis ar hugain yn ddiweddarach, sef ar 13 Medi 1881, ar ôl yr hyn a ddisgrifiwyd fel “cystudd blin”. <ref> Gwefan Cymru Fyw 13.12.2021 [https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/59588029], cyrchwyd 4.3.2022; ‘’Y Cyfaill o’r Hen Wlad yn America’’, 1881, t.447</ref>


Gan ei bod mor flodeuog, mae’n werth dyfynnu erthygl o’r ‘’Dydd’’ am ei hangladd sydd yn nodweddiadol o or-sentimentaleiddiwch oes Fictoria. Ond hefyd, mae’n dangos mor niferus oedd y galarwyr a’r rhan bwysig y chwaraeodd gerddoriaeth yn y seremoni. Mae’n amlwg y bu Mair Alaw yn cael ei chyfrif ymysg mawrion y dyffryn yn ystod ei hoes.
Gan ei bod mor flodeuog, mae’n werth dyfynnu erthygl o’r ‘’Dydd’’ am ei hangladd sydd yn nodweddiadol o or-sentimentaleiddiwch oes Fictoria. Ond hefyd, mae’n dangos mor niferus oedd y galarwyr a’r rhan bwysig y chwaraeodd cerddoriaeth yn y seremoni. Mae’n amlwg y bu Mair Alaw yn cael ei chyfrif ymysg mawrion y dyffryn yn ystod ei hoes.
  DYFFRYN NANTLLE. Angladd Mair Alaw, sef priod Mr William Francis, goruchwyliwr Chwarel Moelfre. Dydd Iau, yr 22ain cyfisol, yr hebryngwyd corff yr ymadawedig i'w chladdu yn mynwent Salem, Llanllyfni, a mawr oedd' y cyrchu o bob cyfeiriad i gyfarfod yr angladd, ac ymffurfiwyd yn orymdaith fawreddog ychydig uwchben Pont y Crychddwr, cannoedd ar draed, a nifer ar feirch, a llawer iawn mewn cerbydau. Yr oedd cantorion Talysarn a'r cymdogaethau cylchynol wedi ymffurfio i ganu, yn ôl dymuniad yr ymadawedig ychydig cyn ei marwolaeth. Rhoddwyd yr emynau allan gan y Parch Evan Owen, a chymerwyd y flaenoriaeth gan Mr. Hugh Owen, Talysarn, pa un sydd yn hysbys iawn yn y gorchwyl. Er teimlo yn ddyledus arno y tro hwn gyflawni y gwaith rhagor un tro, teimlai ei hun yn ffaeledig iawn, am fod atgofion o'r dyddiau gynt yn ymwthio i'w fynwes, nes gwneud ei deimladau yn chwilfriw, oblegid yr oedd y gantores ymadawedig wedi bod megis yn ddisgybles iddo pan yn ieuanc, ac yn brif aelod mewn glee party a arweinid ganddo. Ar y ffordd yr oedd y canu yn rymus, ond yn rhy gyflym i fod yn afaelgar a soniarus, gan fod y genethod ieuainc yn mynnu ei dynnu ymlaen er gwaethaf pawb a phopeth. Wedi cyrraedd y gladdfa, cafwyd anerchiad ar lan y bedd gan y Parch. Evan Owen, ac yn wir, braidd na thybiem ein bod yn gwneud yr hyn na ddylasem, trwy ofyn iddo siarad gair o gwbl mewn angladdau yn y cyfryw Ie, oblegid gallem gredu yn rhwydd fod ei deimladau yn or-lwythog o hiraeth, wrth feddwl am ei deulu anwylaidd sydd yn huno yn mhriddellau'r fan. Ond cael nerth y mae dro ar ôl tro i weinyddu yn deilwng a boddhaol. Cyn ymadael, canwyd y don ‘’Tanycastell’’, ond nid yn dda o lawer, yn herwydd fod pawb erbyn hyn a galar lond ei galon wrth gefnu a gadael yn y bedd un a anwylid mor fawr, a gweled ei phriod hoff yn gwasgu ei blant bychain i'w fynwes, gan eneinio pridd ei gorweddle a'u dagrau wrth roddi y ffarwel olaf i'r briod a'r fam dirionaf a welsant erioed. Mae’n ddiamau y gosodir maen cof ar y fan y gorffwys ei llwch, ond pe ni wneid ond yn unig adael i wanwyn natur daenu ei gwrlid gwyrddlas drosti, a galw ar y briall a'r meill, a llygad y dydd, i ddangos prydferthwch cymeriad yr un o roddwyd i orwedd dan ei gwraidd, mae ei chofgolofn wedi ei chodi yn ei genedigol fro ganddi hi ei hun, yn gyfryw na welid byth y cen a'r mwsogl yn tyfu hyd-ddi i'w hanurddo, nac ychwaith ôl ystormydd yn tynnu ymaith ei thegwch; a dyna yw ei chymeriad dilychwin; a dymunem ddweud hyn wrthych chwi ferched ieuainc Talysarn. Astudiwch y darlun, ac fe etyb yn dda i chwi. Buasai yn hoff iawn gennym draethu llawer yn ychwaneg o hanes yr un dan sylw, ond cawn gyfle eto. <ref>’’Y Dydd’’ 30.9.1881. Diweddarwyd y sillafu er hwylustod y darllenydd.</ref>
  DYFFRYN NANTLLE. Angladd Mair Alaw, sef priod Mr William Francis, goruchwyliwr Chwarel Moelfre. Dydd Iau, yr 22ain cyfisol, yr hebryngwyd corff yr ymadawedig i'w chladdu yn mynwent Salem, Llanllyfni, a mawr oedd y cyrchu o bob cyfeiriad i gyfarfod yr angladd, ac ymffurfiwyd yn orymdaith fawreddog ychydig uwchben Pont y Crychddwr, cannoedd ar draed, a nifer ar feirch, a llawer iawn mewn cerbydau. Yr oedd cantorion Talysarn a'r cymdogaethau cylchynol wedi ymffurfio i ganu, yn ôl dymuniad yr ymadawedig ychydig cyn ei marwolaeth. Rhoddwyd yr emynau allan gan y Parch Evan Owen, a chymerwyd y flaenoriaeth gan Mr. Hugh Owen, Talysarn, pa un sydd yn hysbys iawn yn y gorchwyl. Er teimlo yn ddyledus arno y tro hwn gyflawni y gwaith rhagor un tro, teimlai ei hun yn ffaeledig iawn, am fod atgofion o'r dyddiau gynt yn ymwthio i'w fynwes, nes gwneud ei deimladau yn chwilfriw, oblegid yr oedd y gantores ymadawedig wedi bod megis yn ddisgybles iddo pan yn ieuanc, ac yn brif aelod mewn glee party a arweinid ganddo. Ar y ffordd yr oedd y canu yn rymus, ond yn rhy gyflym i fod yn afaelgar a soniarus, gan fod y genethod ieuainc yn mynnu ei dynnu ymlaen er gwaethaf pawb a phopeth. Wedi cyrraedd y gladdfa, cafwyd anerchiad ar lan y bedd gan y Parch. Evan Owen, ac yn wir, braidd na thybiem ein bod yn gwneud yr hyn na ddylasem, trwy ofyn iddo siarad gair o gwbl mewn angladdau yn y cyfryw Ie, oblegid gallem gredu yn rhwydd fod ei deimladau yn or-lwythog o hiraeth, wrth feddwl am ei deulu anwylaidd sydd yn huno yn mhriddellau'r fan. Ond cael nerth y mae dro ar ôl tro i weinyddu yn deilwng a boddhaol. Cyn ymadael, canwyd y don ‘’Tanycastell’’, ond nid yn dda o lawer, yn herwydd fod pawb erbyn hyn a galar lond ei galon wrth gefnu a gadael yn y bedd un a anwylid mor fawr, a gweled ei phriod hoff yn gwasgu ei blant bychain i'w fynwes, gan eneinio pridd ei gorweddle a'u dagrau wrth roddi y ffarwel olaf i'r briod a'r fam dirionaf a welsant erioed. Mae’n ddiamau y gosodir maen cof ar y fan y gorffwys ei llwch, ond pe ni wneid ond yn unig adael i wanwyn natur daenu ei gwrlid gwyrddlas drosti, a galw ar y briall a'r meill, a llygad y dydd, i ddangos prydferthwch cymeriad yr un a roddwyd i orwedd dan ei gwraidd, mae ei chofgolofn wedi ei chodi yn ei genedigol fro ganddi hi ei hun, yn gyfryw na welid byth y cen a'r mwsogl yn tyfu hyd-ddi i'w hanurddo, nac ychwaith ôl ystormydd yn tynnu ymaith ei thegwch; a dyna yw ei chymeriad dilychwin; a dymunem ddweud hyn wrthych chwi ferched ieuainc Talysarn. Astudiwch y darlun, ac fe etyb yn dda i chwi. Buasai yn hoff iawn gennym draethu llawer yn ychwaneg o hanes yr un dan sylw, ond cawn gyfle eto. <ref>’’Y Dydd’’ 30.9.1881. Diweddarwyd y sillafu er hwylustod y darllenydd.</ref>


Cyfansoddodd Eos Eifion ddau englyn er cof amdani:
Cyfansoddodd Eos Eifion ddau englyn er cof amdani:
Llinell 25: Llinell 25:
:::::::''Mair Alaw mewn marwolaeth.'' ''''<ref>Geraint Jones, ''Cyrn y Diafol'', (2004) tt.81, 183</ref>
:::::::''Mair Alaw mewn marwolaeth.'' ''''<ref>Geraint Jones, ''Cyrn y Diafol'', (2004) tt.81, 183</ref>


Roedd gan Mair Alaw frodyr talentog ym maes y celfyddydau hefyd; roedd Edward Owen yn gerddor o fri a gafodd addysg yn y Coleg Cerddoriaeth Brenhinol  yn Llundain, a brawd arall, Ioan Wythwr, yn fardd medrus.<ref>Gwefan Nantlle.com [http://www.nantlle.com/hanes-nantlle-brodyr-francis.htm], cyrchwyd 83.2022</ref>
Roedd gan Mair Alaw frodyr talentog ym maes y celfyddydau hefyd; roedd Edward Owen yn gerddor o fri a gafodd addysg yn y Coleg Cerdd Brenhinol  yn Llundain, a brawd arall, [[John O. Owens (Ioan Wythwr)|Ioan Wythwr]], yn fardd medrus.<ref>Gwefan Nantlle.com [http://www.nantlle.com/hanes-nantlle-brodyr-francis.htm], cyrchwyd 8.3.2022</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:15, 20 Mai 2024

Yr oedd Mary Owen (1851-1881), soprano a ddefnyddiai'r enw "Mair Alaw" wrth berfformio, yn un o gantorion mwyaf disglair Dyffryn Nantlle yn ail hanner y 19g. Ei chartref oedd 4 Pen-y-bont, Nantlle cyn i'r teulu symud i Frynteg, Tal-y-sarn rywbryd cyn 1871. Yr oedd ei thad, Owen Owens, yn grydd a aned i Owen a Mary Owens ym 1813 ac a hanai o Lanengan; yr oedd ei mam, Margaret, o Walchmai, Ynys Môn. Bu i'r ddau briodi yn Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni 16 Mawrth 1841.[1] Mary oedd y pedwerydd o saith o blant ac erbyn iddi gyrraedd ei 10 oed roedd hi'n gweithio fel morwyn.[2]

Roedd ei doniau mor amlwg fel y bu peth gohebu yn ‘’Y Goleuad’’ ar ddechrau 1872 yn annog rhywrai i ariannu addysg gerddorol iddi gan na allai ei theulu fforddio talu am hynny. Ymysg y llythyrau yn y papur cafwyd un gan rywun a alwodd ei hun yn “Edmygwr Talent”, lle mae’r llythyrwr yn rhoi peth o’i hanes:

Y mae Mair Alaw, Talysarn, yn deilwng iawn o sylw'r wlad. Mor lleied peth a fyddai i holl chwarelwyr Talysarn roddi ysgol iddi. Y mae rhywun yn y GOLEUAD yn gofyn am hynyma. Y mae yn Talysarn Private School yn bresennol, yn cael ei chadw gan Miss Owen, merch Owain Alaw,[3] yr hon sydd yn athrawes nodedig o dda mewn music; gellid yn naturiol ddisgwyl hynny, canys y mae ei thad, Owain Alaw, yn un nodedig o dda ei hun yn hyn. Clywsom fod un bonheddwr o Talysarn wedi anfon Mair Alaw i'r ysgol honno i ddysgu music.[4]

Yn Rhagfyr 1874, yn Y Tabernacl, Porthmadog fe briododd â William Francis, dyn a hanai’n wreiddiol o’r Rhyd-ddu, swyddog yn Chwarel Moelfre, Cwm Pennant, ac fe ymsefydlodd y pâr priod ym Mryn-y-wern, Cwm Pennant. Roedd hi’n canu o 1868 ymlaen, os nad yn gynt na hynny, gyda’r Tal-y-sarn Glee Society, côr hynod lwyddiannus dan arweiniad Hugh Owen, ei sylfaenydd, gan weithredu’n aml fel unawdydd i’r côr.[5] Bu iddi ddod i adnabod ei gŵr William Francis yn y Glee Society, a arweiniwyd ganddo yntau am gyfnod. Yr oedd William fel ei wraig yn gerddor da, a chafodd eu meibion, Griffith (g.1876) ac Owen (g.1879), sef Y Brodyr Francis, yr un ddawn ganddynt. Fel y nodir yn ‘’Y Goleuad’’, byddai’r uniad yn golled i Ddyffryn Nantlle:

Bydd eu hymadawiad o Dalysarn yn golled bwysig i achos y canu. Mr Francis oedd arweinydd y Talysarn Glee Society ac yr oedd trwy ei dalent a'i ddiwydrwydd wedi llwyddo i ddyrchafu'r côr hwnnw i safle uwch o bosibl nag y bu erioed o'r blaen. Am Mair Alaw y mae ei chlod hi ar led trwy Gymru fel cantores yn meddu ar lais swynol, ac o chwaeth bur. Dymunem bob hapusrwydd iddynt yn eu sefyllfa newydd, ac yn eu hardal newydd.[6]

Roedd Mair Alaw yn un o brif gantorion y Glee Society ac yn unawdydd cyson yn eu cyngherddau. Cafodd Mair Alaw ei hun alwadau cyson o bob man yng Ngogledd Cymru, ac ymhellach, i ganu mewn cyngherddau, gan gynnwys canu sawl gwaith yn Neuadd y Ffilharmonig yn Lerpwl. Yr oedd hi ar ei ffordd i gadw cyngerdd yn Lerpwl ym 1880, gan deithio mewn cert a dynnid gan geffyl am ran o’r siwrne, pan fu’r gert mewn damwain ac fe’i taflwyd hi o’r cerbyd. Difethodd y ddamwain honno ei hiechyd a bu farw un mis ar hugain yn ddiweddarach, sef ar 13 Medi 1881, ar ôl yr hyn a ddisgrifiwyd fel “cystudd blin”. [7]

Gan ei bod mor flodeuog, mae’n werth dyfynnu erthygl o’r ‘’Dydd’’ am ei hangladd sydd yn nodweddiadol o or-sentimentaleiddiwch oes Fictoria. Ond hefyd, mae’n dangos mor niferus oedd y galarwyr a’r rhan bwysig y chwaraeodd cerddoriaeth yn y seremoni. Mae’n amlwg y bu Mair Alaw yn cael ei chyfrif ymysg mawrion y dyffryn yn ystod ei hoes.

DYFFRYN NANTLLE. Angladd Mair Alaw, sef priod Mr William Francis, goruchwyliwr Chwarel Moelfre. Dydd Iau, yr 22ain cyfisol, yr hebryngwyd corff yr ymadawedig i'w chladdu yn mynwent Salem, Llanllyfni, a mawr oedd y cyrchu o bob cyfeiriad i gyfarfod yr angladd, ac ymffurfiwyd yn orymdaith fawreddog ychydig uwchben Pont y Crychddwr, cannoedd ar draed, a nifer ar feirch, a llawer iawn mewn cerbydau. Yr oedd cantorion Talysarn a'r cymdogaethau cylchynol wedi ymffurfio i ganu, yn ôl dymuniad yr ymadawedig ychydig cyn ei marwolaeth. Rhoddwyd yr emynau allan gan y Parch Evan Owen, a chymerwyd y flaenoriaeth gan Mr. Hugh Owen, Talysarn, pa un sydd yn hysbys iawn yn y gorchwyl. Er teimlo yn ddyledus arno y tro hwn gyflawni y gwaith rhagor un tro, teimlai ei hun yn ffaeledig iawn, am fod atgofion o'r dyddiau gynt yn ymwthio i'w fynwes, nes gwneud ei deimladau yn chwilfriw, oblegid yr oedd y gantores ymadawedig wedi bod megis yn ddisgybles iddo pan yn ieuanc, ac yn brif aelod mewn glee party a arweinid ganddo. Ar y ffordd yr oedd y canu yn rymus, ond yn rhy gyflym i fod yn afaelgar a soniarus, gan fod y genethod ieuainc yn mynnu ei dynnu ymlaen er gwaethaf pawb a phopeth. Wedi cyrraedd y gladdfa, cafwyd anerchiad ar lan y bedd gan y Parch. Evan Owen, ac yn wir, braidd na thybiem ein bod yn gwneud yr hyn na ddylasem, trwy ofyn iddo siarad gair o gwbl mewn angladdau yn y cyfryw Ie, oblegid gallem gredu yn rhwydd fod ei deimladau yn or-lwythog o hiraeth, wrth feddwl am ei deulu anwylaidd sydd yn huno yn mhriddellau'r fan. Ond cael nerth y mae dro ar ôl tro i weinyddu yn deilwng a boddhaol. Cyn ymadael, canwyd y don ‘’Tanycastell’’, ond nid yn dda o lawer, yn herwydd fod pawb erbyn hyn a galar lond ei galon wrth gefnu a gadael yn y bedd un a anwylid mor fawr, a gweled ei phriod hoff yn gwasgu ei blant bychain i'w fynwes, gan eneinio pridd ei gorweddle a'u dagrau wrth roddi y ffarwel olaf i'r briod a'r fam dirionaf a welsant erioed. Mae’n ddiamau y gosodir maen cof ar y fan y gorffwys ei llwch, ond pe ni wneid ond yn unig adael i wanwyn natur daenu ei gwrlid gwyrddlas drosti, a galw ar y briall a'r meill, a llygad y dydd, i ddangos prydferthwch cymeriad yr un a roddwyd i orwedd dan ei gwraidd, mae ei chofgolofn wedi ei chodi yn ei genedigol fro ganddi hi ei hun, yn gyfryw na welid byth y cen a'r mwsogl yn tyfu hyd-ddi i'w hanurddo, nac ychwaith ôl ystormydd yn tynnu ymaith ei thegwch; a dyna yw ei chymeriad dilychwin; a dymunem ddweud hyn wrthych chwi ferched ieuainc Talysarn. Astudiwch y darlun, ac fe etyb yn dda i chwi. Buasai yn hoff iawn gennym draethu llawer yn ychwaneg o hanes yr un dan sylw, ond cawn gyfle eto. [8]

Cyfansoddodd Eos Eifion ddau englyn er cof amdani:

Lle gwelir drylliog wylaw - yw Arfon;
Ni dderfydd y cwynaw;
Adwyth i'n bron, daeth ein braw
Ym marwolaeth Mair Alaw.
Cur a ddyry, cerddoriaeth - bob un fu'n
Bennaf oll drwy'r dalaeth!
Cadd ergyd drom, siom a saeth,
Mair Alaw mewn marwolaeth. '[9]

Roedd gan Mair Alaw frodyr talentog ym maes y celfyddydau hefyd; roedd Edward Owen yn gerddor o fri a gafodd addysg yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain, a brawd arall, Ioan Wythwr, yn fardd medrus.[10]

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, Cofrestr Priodasau plwyf Llanllyfni, 1841
  2. Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni 1851-71
  3. Prin mai John Owen (Owain Alaw), y cerddor enwog o Gaer oedd hwn, gan nad oedd gan hwnnw ferch
  4. ’’Y Goleuad’’, 2.3.1872, t.4
  5. ’’Y Cerddor Cymreig’’, 1.1.1869, t.7
  6. ’’Y Goleuad’’, 2.1.1875
  7. Gwefan Cymru Fyw 13.12.2021 [1], cyrchwyd 4.3.2022; ‘’Y Cyfaill o’r Hen Wlad yn America’’, 1881, t.447
  8. ’’Y Dydd’’ 30.9.1881. Diweddarwyd y sillafu er hwylustod y darllenydd.
  9. Geraint Jones, Cyrn y Diafol, (2004) tt.81, 183
  10. Gwefan Nantlle.com [2], cyrchwyd 8.3.2022